What is reablement?

Beth yw ail-alluogi?

Care worker

Reablement is the rehabilitation and care that a person receives after an illness or a stay in hospital. Reablement helps a person to regain their independence and resume normal life after a deterioration in health and/or a loss of the skills essential for daily living. It is a short and intensive service which is free for up to six weeks following discharge from hospital and is offered to people with disabilities or those recovering from illness or injury. The focus of reablement is on the relearning of skills and restoration of independent physical functions, re-establishing a good quality of life.

People’s response to reablement is generally a positive one and it is accepted that the outcomes following a reablement programme are better than those following standard home care. Reablement can help with regaining the ability to perform daily living tasks such as cooking, washing and moving around, allowing a person to remain independently in their own home. It is important that reablement:

  • is timely and has a time limit
  • happens in people’s homes or communities
  • focuses on supporting people to regain skills around daily activities
  • involves a multidisciplinary team
  • is person centred and goal orientated.

Reablement is all about restoring people’s independence rather than resolving specific health issues. A reablement approach focuses less on carers doing tasks for a person and more on helping people relearn skills so that they can carry out tasks for themselves. The aim of a reablement plan is to help people look after themselves properly at home and to avoid unnecessary hospital stays. This type of care could take the form of visits from health professionals such as occupational therapists and carers. It could mean that specialised equipment or adaptations are fitted in the house such as raised toilet seats and grab rails. Reablement improves outcomes for people and restores their ability to perform daily household tasks. This in turn, improves their quality of life and is a cost-effective way of reducing the need for long term carers.

To learn more about reablement, watch the following video provided by the Social Care Institute for Excellence:

http://bit.ly/33aGZAS

Principles of reablement

The principles that underpin reablement lie in a person-centred approach to goal setting with a focus on developing individual targets, supported by a specialist reablement team. Independence is a central concept and, as reablement is person-centred, the focus is on an individual’s strengths and what they wish to achieve. As with all goals, achievement of specified tasks is the final point. The steps needed to achieve the tasks must be documented and the structures and people to support this should be established.

The SMART principles of goal setting are applied to reablement plans as set out below:

  • S – specific goals should be set as they are easier to achieve than general ones. An example of a specific goal is “re-join my old gym and attend two exercise classes per week.”
  • M – measurable goals make it easier to document progress towards a final achievement. Criteria that can measure progress can be a motivating factor for an individual undergoing a reablement programme.
  • A – setting goals that are person-centred and important to an individual are more likely to be achieved due to positive attitudes and the development of skills and abilities relevant to the task.
  • R – goals should be challenging to work towards but should be realistic and relevant in terms of achievement in order to represent real progress.
  • T – timely goals are important so that individuals have a time frame within which to work. An example of a timely target may be “by next week, I will be able to cook myself a meal”.

Mae ail-alluogi yn cyfeirio at y gwasanaethau adsefydlu a gofal y mae person yn eu cael ar ôl salwch neu arhosiad yn yr ysbyty. Mae ail-alluogi yn helpu person i adennill ei annibyniaeth a pharhau â bywyd cyffredin ar ôl i'w iechyd waethygu a/neu ar ôl iddo golli'r sgiliau sy'n hanfodol ar gyfer bywyd bob dydd. Mae'n wasanaeth byr a dwys a ddarperir am ddim am hyd at chwe wythnos ar ôl i berson gael ei ryddhau o'r ysbyty, a chaiff ei gynnig i bobl ag anableddau neu'r rheini sy'n gwella o salwch neu anaf. Ffocws gwasanaethau ail-alluogi yw helpu pobl i ailddysgu sgiliau ac adfer swyddogaethau corfforol annibynnol gan ailsefydlu ansawdd bywyd da.

Mae ymateb pobl i ail-alluogi yn gadarnhaol ar y cyfan a derbynnir bod y canlyniadau yn dilyn rhaglen ail-alluogi yn well na chanlyniadau'r rheini sy'n cael gofal cartref safonol. Gall ail-alluogi helpu pobl i adennill y gallu i gyflawni tasgau bywyd bob dydd, megis coginio, ymolchi a symud o gwmpas, gan alluogi person i barhau i fyw yn annibynnol yn ei gartref ei hun. Mae'n bwysig bod gwasanaethau ail-alluogi yn:

  • amserol gyda therfyn amser
  • digwydd yng nghartrefi neu yng nghymunedau pobl
  • canolbwyntio ar gefnogi pobl i adennill sgiliau i ymgymryd â gweithgareddau dyddiol
  • cynnwys tîm amlddisgyblaethol
  • canolbwyntio ar y person ac ar gyflawni nodau.

Prif nod ail-alluogi yw adfer annibyniaeth pobl yn hytrach na datrys problemau iechyd penodol. Mae dull ail-alluogi yn canolbwyntio llai ar ofalwyr yn gwneud tasgau ar ran person ac yn rhoi mwy o sylw i helpu pobl i ailddysgu sgiliau fel y gallant gyflawni tasgau drostynt eu hunain. Nod cynllun ail-alluogi yw helpu pobl i ofalu amdanynt eu hunain yn iawn yn eu cartrefi ac osgoi gorfod aros yn yr ysbyty'n ddiangen. Gallai'r math hwn o ofal fod ar ffurf ymweliadau gan weithwyr iechyd proffesiynol, megis therapyddion galwedigaethol a gofalwyr. Gallai olygu bod cyfarpar neu addasiadau arbenigol yn cael eu gosod yn y tŷ, megis seddi toiled uwch a chanllawiau. Mae ail-alluogi yn gwella canlyniadau i bobl ac yn adfer eu gallu i gyflawni tasgau dyddiol yn y cartref. Bydd hyn, yn ei dro, yn gwella ansawdd eu bywydau ac mae'n ffordd gost-effeithiol o leihau'r angen am ofalwyr hirdymor.

Am ragor o wybodaeth ynglŷn â ail-alluogi, gwyliwch y fideo canlynol sydd wedi ei cael ei ddarparu gan y Social Care Institute for Excellence:

http://bit.ly/33aGZAS

Egwyddorion ail-alluogi

Mae'r egwyddorion sy'n sail i ail-alluogi yn cynnwys cael dull sy'n canolbwyntio ar y person wrth osod nodau gyda ffocws ar ddatblygu targedau unigol, gyda chymorth gan dîm ail-alluogi arbenigol. Mae annibyniaeth yn gysyniad canolog a, gan fod ail-alluogi yn canolbwyntio ar y person, mae'r ffocws ar gryfderau'r unigolyn a'r hyn y mae am ei gyflawni. Fel gyda phob nod, y pwynt terfynol yw cyflawni tasgau penodol. Mae'n rhaid dogfennu'r camau sydd eu hangen i gyflawni'r tasgau a dylid nodi'r strwythurau a'r bobl sydd eu hangen i gefnogi hyn.

Defnyddir egwyddorion CAMPUS wrth lunio cynlluniau ail-alluogi, fel y nodir isod:

  • C – mae nodau sy'n cyraeddadwy sy’n canolbwyntio ar y person ac yn bwysig i'r unigolyn yn fwy tebygol o gael eu cyflawni oherwydd yr agweddau cadarnhaol a'r broses o ddatblygu sgiliau a galluoedd sy'n berthnasol i'r dasg.
  • A – mae gosod nodau amserol yn bwysig fel bod gan unigolion amserlen i anelu ati. Dyma enghraifft o darged amserol: "erbyn wythnos nesaf, byddaf yn gallu coginio pryd i fi fy hun".
  • M – mae cael nodau mesuradwy yn ei gwneud hi'n haws i ddogfennu cynnydd tuag at gyflawniad terfynol. Gall meini prawf sy'n gallu mesur cynnydd fod yn ffactor cymhellol i unigolyn sy'n ymgymryd â rhaglen ail-alluogi.
  • P – dylid gosod nodau penodol gan ei fod yn haws cyflawni'r rhain na rhai cyffredinol. Dyma enghraifft o nod benodol: "ailymuno â fy hen gampfa a mynd i ddau ddosbarth ymarfer corff yr wythnos."
  • U – mae nodau uchelgeisiol yn bwysig gan iddynt alluogi’r unigolyn i geisio cyflawni eu targedau gan weithio’n galed a bod yn benderfynol i lwyddo.
  • S – dylai nodau fod yn heriol i weithio tuag atynt, ond dylent fod yn realistig a synhwyrol o ran gallu'r unigolyn i'w cyflawni er mwyn dangos cynnydd gwirioneddol.

How reablement benefits individuals, families and carers

Sut mae ail-alluogi o fudd i unigolion, teuluoedd a gofalwyr

Because the focus of reablement is on restoring independence rather than resolving health issues, it is deemed to be more beneficial than standard care as people experience greater improvements in their quality of life and physical functions.

The benefits of reablement to the individual

  1. Reablement improves independence which, in turn, boosts self-esteem and self-worth. Regaining autonomy and reducing reliance on other people is essential for individuals recovering from illness and injury or living with a disability.
  2. Reablement gives individuals the confidence to manage at home alone. Following illness or injury, many individuals become dependent on others to perform daily living tasks for them and have feelings of anxiety when faced with completing tasks by themselves.
  3. Reablement reduces the need for support from families and/or carers by allowing an individual to relearn the essential skills for living independently. This can be a financial benefit for someone who has to pay for care.
  4. A reablement package encourages people to relearn skills which is useful in reactivating parts of the brain that may have been damaged or developing new links through neural pathways. A successful reablement programme improves overall quality of life for an individual through greater independence, less reliance and greater self-confidence.

The benefits of reablement to family and carers

  1. Reablement of a family member reduces the need for support and care as an individual learns to manage independently. Support could be voluntary by informal carers or paid support from professional care workers. Paid support may be a financial burden on the family. Supporting a family member can cause emotional strain on informal carers and take time. This can impact on their own employment or work patterns.
  2. Family and carers can play an important part in the reablement process, this is satisfying as a person improves and regains skills and confidence.
  3. Reablement can help families learn new approaches to providing care. Developing skills such as empathy, good listening skills, patience and the ability to motivate others is beneficial as these qualities are transferable to other areas of life.

Watch the video clip below to look at the role of carers and family in reablement.

http://bit.ly/2Mq8O24

Gan fod ail-alluogi yn canolbwyntio ar adfer annibyniaeth pobl yn hytrach na datrys problemau iechyd, ystyrir ei fod yn fwy buddiol na gofal safonol gan fod pobl yn gweld mwy o welliannau yn ansawdd eu bywyd a'u swyddogaethau corfforol.

Manteision ail-alluogi i'r unigolyn

  1. Mae ail-alluogi yn gwella annibyniaeth sydd, yn ei dro, yn hybu hunan-barch a hunan-werth. Mae adennill ymreolaeth a lleihau'r angen i ddibynnu ar bobl eraill yn hanfodol i unigolion sy'n gwella o salwch ac anaf neu sy'n byw ag anabledd.
  2. Mae ail-alluogi yn rhoi'r hyder i unigolion ymdopi gartref ar eu pennau eu hunain. Yn dilyn salwch neu anaf, mae llawer o unigolion yn dod i ddibynnu ar bobl eraill i gyflawni tasgau bywyd bob dydd ar eu cyfer ac maent yn teimlo'n bryderus os oes rhaid iddynt gwblhau tasgau ar eu pennau eu hunain.
  3. Mae ail-alluogi yn lleihau'r angen am gymorth gan deuluoedd a/neu ofalwyr drwy alluogi unigolyn i ailddysgu'r sgiliau hanfodol sydd eu hangen i fyw'n annibynnol. Gall hyn fod yn fudd ariannol i rywun sy'n gorfod talu am ofal.
  4. Mae pecyn ail-alluogi yn annog pobl i ailddysgu sgiliau sy'n ddefnyddiol er mwyn ailddeffro rhannau o'r ymennydd a allai fod wedi cael eu niweidio neu ddatblygu cysylltiadau newydd drwy lwybrau niwrol. Mae rhaglen ail-alluogi lwyddiannus yn gwella ansawdd bywyd cyffredinol unigolyn drwy gynyddu ei annibyniaeth a'i hunanhyder a'i helpu i ddibynnu llai ar bobl eraill.

Manteision ail-alluogi i deuluoedd a gofalwyr

  1. Mae ail-alluogi aelod o'r teulu yn lleihau'r angen am gymorth a gofal gan fod unigolyn yn dysgu sut i ymdopi'n annibynnol. Gallai cymorth fod yn wirfoddol gan ofalwyr anffurfiol neu'n gymorth gan weithwyr gofal proffesiynol y mae'n rhaid talu amdano. Gallai cymorth y mae'n rhaid talu amdano fod yn faich ariannol ar y teulu. Gall cefnogi aelod o'r teulu achosi straen emosiynol ar ofalwyr anffurfiol, ac mae'n cymryd amser hefyd. Mae'n gallu effeithio ar eu cyflogaeth neu eu patrymau gwaith eu hunain.
  2. Gall teuluoedd a gofalwyr chwarae rhan bwysig yn y broses ail-alluogi ac mae hyn yn rhoi boddhad wrth i'r unigolyn wella ac adennill sgiliau a hyder.
  3. Gall ail-alluogi helpu teulu i ddysgu dulliau newydd o ddarparu gofal. Mae datblygu sgiliau megis empathi, sgiliau gwrando da, amynedd a'r gallu i ysgogi eraill yn fuddiol gan y gellir defnyddio'r rhinweddau hyn mewn agweddau eraill ar fywyd.

Gwyliwch y clip fideo isod i edrych ar rôl gofalwyr a theuluoedd mewn rhaglenni ail-alluogi.

http://bit.ly/2Mq8O24

Types of reablement activities

Mathau o weithgareddau ail-alluogi

Carer

The purpose of reablement is to help people maintain their independence in either their own home or in a community setting such as a residential care home. A team of reablement occupational therapists and reablement support workers work with individuals to enable the management of daily activities that would allow them to cope as independently as possible at home or within a care home setting.

The reablement occupational therapist works collaboratively with other health professionals to ensure that all services are readily available to an individual and a plan with clear objectives is in place. The plan will be personalised depending on the realistic goals that an individual would like to achieve. The occupational therapist’s role is two-fold as, following an assessment, he/she will introduce occupational therapy skills and strategies to develop cognitive function and ensure that equipment necessary for adaptations within the home is available and installed promptly. A reablement occupational therapist will advise and co-ordinate the reablement care workers who then carry out practical reablement help to achieve activities in the plan. By removing any potential barriers within the home and/or environment, the reablement occupational therapist allows an individual to make progress in regaining practical skills and confidence.

The other health professionals in the reablement team include:

  • physiotherapist – works on mobility issues and movement
  • speech and language therapist – assists with impairment of speech and swallowing
  • district nurse – visits individuals to check on medication and meet ongoing nursing needs, such as wound dressing
  • social worker – provides a link to other agencies and health professionals and is responsible for the assessment and coordination of any necessary long-term care arrangements.

Further reading:

http://bit.ly/332OFEY

Diben ail-alluogi yw helpu pobl i gynnal eu hannibyniaeth naill ai yn eu cartrefi eu hunain neu mewn lleoliad cymunedol, megis cartref gofal preswyl. Mae tîm o therapyddion galwedigaethol ail-alluogi a gweithwyr cymorth ail-alluogi yn gweithio gydag unigolion er mwyn eu helpu i reoli gweithgareddau dyddiol a fyddai'n eu galluogi i ymdopi mor annibynnol a phosibl yn eu cartrefi eu hunain neu mewn cartref gofal.

Mae therapyddion galwedigaethol ail-alluogi yn cydweithio â gweithwyr iechyd proffesiynol eraill i sicrhau bod yr holl wasanaethau ar gael yn hawdd i unigolyn a bod cynllun ag amcanion clir ar waith. Bydd y cynllun yn cael ei bersonoli gan ddibynnu ar y nodau realistig yr hoffai unigolyn eu cyflawni. Mae dwy elfen i rôl therapydd galwedigaethol oherwydd, yn dilyn asesiad, bydd yn cyflwyno sgiliau a strategaethau therapi galwedigaethol i ddatblygu gweithrediad gwybyddol ac yn sicrhau bod cyfarpar sy'n angenrheidiol ar gyfer addasiadau yn y cartref ar gael ac yn cael ei osod yn brydlon. Bydd therapyddion galwedigaethol ail-alluogi yn cynghori ac yn cydlynu’r gweithwyr gofal ail-alluogi a fydd yna'n darparu cymorth ail-alluogi ymarferol i gyflawni'r gweithgareddau yn y cynllun. Drwy gael gwared ar unrhyw rwystrau posibl yn y cartref a/neu'r amgylchedd, mae'r therapydd galwedigaethol ail-alluogi yn galluogi unigolyn i wneud cynnydd wrth adennill sgiliau ymarferol a hyder.

Mae'r gweithwyr iechyd proffesiynol eraill yn y tîm ail-alluogi yn cynnwys:

  • ffisiotherapydd sy'n gweithio ar faterion symudedd a symud
  • therapydd iaith a lleferydd sy'n cynorthwyo gyda phroblemau lleferydd a llyncu
  • nyrs ardal sy’n ymweld ag unigolion i gadw llygad ar feddyginiaeth a chwrdd ag anghenion nyrsio cyfredol, megis gorchuddion clwyfau
  • gweithiwr cymdeithasol sy'n darparu cyswllt ag asiantaethau a gweithwyr iechyd proffesiynol eraill ac sy’n gyfrifol am asesiadau a chyd-drefniant unrhyw drefniadau gofal angenrheidiol tymor hir.

Darllen pellach:

http://bit.ly/332OFEY

Types of reablement activities

Mathau o weithgareddau ail-alluogi

The Disability Living Foundation is a national charity that works with occupational therapists to provide practical solutions for independent living.

https://www.dlf.org.uk

Investigate the equipment available by looking at the Disability Living Foundation website and assess which solutions would be helpful to an elderly person with impaired mobility returning home from hospital following a stroke.

Elusen genedlaethol sy'n gweithio gyda therapyddion galwedigaethol i gynnig atebion ymarferol ar gyfer byw yn annibynnol yw'r Sefydliad Byw'n Anabl.

https://www.dlf.org.uk/

Archwiliwch y cyfarpar sydd ar gael drwy edrych ar wefan y Sefydliad Byw'n Anabl ac aseswch pa atebion fyddai'n fuddiol i berson oedrannus â nam ar ei symudedd sy'n dychwelyd adref o'r ysbyty ar ôl dioddef strôc.

Types of reablement activities

Mathau o weithgareddau ail-alluogi

Caregiver helping elderly woman

The type of daily living reablement activities a reablement occupational therapist and reablement support workers would facilitate are listed below.

Personal care (washing, showering/bathing)

In order to maintain independence, dignity and personal hygiene, it is essential that an individual can carry out basic washing and bathing tasks. With limited mobility, this can be difficult, and adaptations may be required within the household such as:

  • Shower-loos are widened shower cubicles with a toilet installed to save space in small bathrooms where manoeuvring is difficult.
  • Grab rails are fitted to the wall inside a shower cubicle to help steady a person with balance or mobility issues.
  • Easy access shower trays with ramps enable individuals to access the shower in a wheelchair.
  • Small, lightweight wheelchairs with waterproof plastic seats are available if standard wheelchairs are too cumbersome to take into the shower.
  • Wall mounted shower chairs assist individuals who have difficulty balancing and standing.
  • Push button temperature controls help individuals for whom dexterity, fine motor skills and manipulation is difficult.
  • Long handled bathing aids and leg lifters assist with reach when washing in the shower or bath.
  • Non-slip mats reduce the risk of falls.

http://bit.ly/2ZllLh5

Getting dressed and undressed

An important part of daily routine is getting dressed and undressed. Manipulation of buttons, zips and fasteners can be challenging for individuals with poor fine motor skills. Reaching down to put shoes and socks on may be difficult for those with balance and mobility issues.

  • Leg raisers and shoehorns help individuals with poor reach and mobility put shoes and socks on.
  • Button hooks with zippers help fasten clothing for individuals with poor dexterity or vision impairment.

Getting into and out of bed or a chair

  • Riser cushions allow individuals to stand more easily from chairs and help with posture.
  • Stands assist with getting in and out of chairs enabling an individual to move around the house more easily.
  • Bed rails and back rests make getting out of bed easier.

Toileting and promoting continence

Managing visits to the toilet is a personal issue, dignity and privacy should be protected where possible. Commodes and raised toilet seats assist individuals with balance and mobility issues to access the toilet more easily without the requirement for help.

Taking medication

Using a pill box is the most straightforward way of managing and remembering to take medication. A family member or the district nurse may place the correct amounts of medication into boxes labelled with the correct days and times of day if cognitive function is impaired. Pharmacists will often deliver medication in dosette boxes or blister packs. Care workers cannot set up pill boxes and are unable to use ones set up by family members; they can only administer drugs in their original boxes. An occupational therapist will consider how the person can access medication during the initial assessment.

Meal preparation

Although help is available both formally and informally to ensure that an individual is eating correctly, it is important for independent function that meals can be prepared without support. There is a range of aids to help preparation and eating for individuals with physical impairment of hands and fingers:

  • utensils with cushioned grips to hold food steadily
  • finger loops to assist with holding and controlling of cutlery for individuals with weak muscles and tendons in their fingers or impaired neurological pathways
  • cutting and chopping devices with easy to hold handles to allow food preparation to take place safely
  • non-slip plates and chopping boards
  • kettle tipper allows individuals to safely make hot drinks, reducing the risk of scalds.

Moving around the home

A reablement occupational therapist assesses the space in a household when evaluating mobility. Widened doorways and moveable ramps are considered for wheelchair users. Household trollies can assist with moving items around the house more easily.

Social activities, such as luncheon clubs

A reablement occupational therapist considers social and emotional needs as well as cognitive and physical functions in the initial assessment. Encouragement to join new activities forms part of a reablement plan. This includes access to information about local clubs and societies.

Mae'r mathau o weithgareddau ail-alluogi bywyd bob dydd y byddai therapydd galwedigaethol ail-alluogi a gweithwyr cymorth ail-alluogi yn eu hwyluso yn cynnwys y canlynol.

Gofal personol (ymolchi, cael cawod/bath)

Er mwyn cynnal annibyniaeth, urddas a hylendid personol, mae'n hanfodol bod unigolyn yn gallu ymgymryd â thasgau ymolchi sylfaenol. Gall hyn fod yn anodd i bobl â symudedd cyfyngedig ac mae'n bosibl y bydd angen gwneud addasiadau yn y cartref megis:

  • Gellir cael ciwbiclau cawod mwy gyda thoiled ynddynt er mwyn arbed lle mewn ystafelloedd ymolchi bach lle mae'n anodd symud o gwmpas.
  • Gellir gosod canllawiau ar y wal y tu mewn i giwbicl cawod er mwyn helpu i sadio person sydd â phroblemau cydbwysedd neu symudedd.
  • Mae lloriau cawod â ramp y mae'n hawdd cael mynediad iddynt yn galluogi unigolion i fynd i mewn i'r gawod mewn cadair olwyn.
  • Mae cadeiriau olwyn bach, ysgafn â seddi plastig gwrth-ddŵr ar gael os yw cadeiriau olwyn safonol yn rhy drafferthus i fynd i mewn i'r gawod.
  • Mae cadeiriau cawod sydd wedi'u gosod ar y wal yn gallu helpu unigolion sy'n cael trafferth cydbwyso a sefyll
  • Mae cael botymau i'w gwasgu er mwyn rheoli'r tymheredd yn helpu unigolion sydd ag anawsterau medrusrwydd, sgiliau echddygol manwl a thrin a thrafod.
  • Mae cymhorthion ymolchi â dolenni hir a theclynnau codi coesau yn helpu pobl i gyrraedd rhannau o'r corff wrth ymolchi yn y gawod neu'r bath.
  • Mae matiau gwrthlithro yn lleihau'r risg o gwympo.

http://bit.ly/2ZllLh5

Gwisgo a dadwisgo

Mae gwisgo a dadwisgo yn rhan bwysig o drefn ddyddiol pobl. Gall defnyddio botymau, sipiau a phethau cau fod yn heriol i unigolion â sgiliau echddygol manwl gwael. I'r rheini â phroblemau cydbwysedd a symudedd, gall ymestyn i lawr i roi sanau ac esgidiau am eu traed fod yn anodd.

  • Mae teclynnau codi coesau a siasbis yn helpu unigolion â phroblemau symudedd sy'n methu cyrraedd yn bell i wisgo eu sanau a'u hesgidiau.
  • Mae bachau botymau â sipiau yn helpu unigolion â medrusrwydd gwael neu nam ar y golwg i gau eu dillad.

Mynd i mewn ac allan o wely neu gadair.

  • Mae clustogau codi yn galluogi unigolion i godi yn haws o gadeiriau ac yn helpu gydag ystum y corff.
  • Mae standiau yn helpu pobl i godi o gadeiriau ac eistedd ynddynt gan alluogi unigolion i symud o gwmpas y tŷ yn haws.
  • Mae rheiliau gwely a gorffwysion cefn yn ei gwneud hi'n haws i godi o'r gwely.

Mynd i'r toiled a hyrwyddo ymataliaeth

Mae rheoli ymweliadau â'r toiled yn fater personol a dylid sicrhau urddas a phreifatrwydd lle y bo'n bosibl. Mae comodau a seddi toiled uwch yn helpu unigolion â phroblemau cydbwysedd a symudedd i ddefnyddio'r toiled yn haws heb fod angen cymorth.

Cymryd meddyginiaeth

Defnyddio blwch tabledi yw'r ffordd symlaf o reoli meddyginiaeth a chofio ei chymryd. Gall aelod o’r teulu neu’r nyrs ardal roi’r symiau cywir o feddyginiaeth mewn blychau wedi’u labelu â’r dyddiadau a’r amserau cywir os oes nam ar weithrediad gwybyddol yr unigolyn. Yn aml, mae fferyllwyr yn darparu meddyginiaeth mewn blychau dosette neu bac pothellog. Nid yw gweithwyr gofal yn medru creu blychau pils na defnyddio rhai wedi’u creu gan aelodau o’r teulu. Dim ond o’u blychau gwreiddiol gallant eu darparu. Bydd therapydd galwedigaethol yn ystyried sut bydd y person yn gallu cael gafael ar feddyginiaeth yn ystod yr asesiad cychwynnol.

Paratoi prydau

Er bod cymorth ar gael yn ffurfiol ac yn anffurfiol i sicrhau bod unigolyn yn bwyta'n gywir, mae'n bwysig ar gyfer gweithredu'n annibynnol y gellir paratoi prydau heb gymorth. Mae amrywiaeth o gymhorthion ar gael i helpu unigolion i baratoi prydau a bwyta os oes ganddynt nam corfforol ar eu dwylo a'u bysedd:

  • offer â charnau trwchus er mwyn dal bwyd yn gadarn
  • dolenni bysedd er mwyn helpu unigolion i ddal a rheoli cytleri os oes ganddynt gyhyrau a thendonau gwan yn eu bysedd neu nam ar eu llwybrau niwrolegol
  • teclynnau torri bwyd â dolenni sy'n hawdd gafael ynddynt er mwyn i unigolion allu paratoi bwyd yn ddiogel
  • platiau a byrddau torri gwrthlithro
  • mae teclyn arllwys tegell yn galluogi unigolion i wneud diodydd poeth yn ddiogel gan leihau'r risg o sgaldiadau.

Symud o gwmpas y cartref

Mae therapydd galwedigaethol ail-alluogi yn asesu'r lle mewn cartref wrth werthuso symudedd. Ystyrir lledu drysau a darparu rampiau symudol ar gyfer defnyddwyr cadeiriau olwyn. Gall trolïau yn y cartref helpu pobl i symud eitemau o gwmpas y tŷ yn haws.

Gweithgareddau cymdeithasol, megis clybiau cinio

Mae therapydd galwedigaethol ail-alluogi yn ystyried anghenion cymdeithasol ac emosiynol yn ogystal â gweithrediadau gwybyddol a chorfforol yn yr asesiad cychwynnol. Mae anogaeth i ymuno â gweithgareddau newydd yn rhan o gynllun ail-alluogi. Mae hyn yn cynnwys cael gwybodaeth am glybiau a chymdeithasau lleol.

Types of reablement activities

Mathau o weithgareddau ail-alluogi

Sally has recently spent time in hospital following a stroke. She lives alone and is struggling to perform basic tasks such as washing herself and cooking a meal. Using the information in the previous screen, write SMART reablement targets that could help Sally regain her independence.

Yn ddiweddar, mae Sally wedi treulio amser yn yr ysbyty ar ôl cael strôc. Mae hi'n byw ar ei phen ei hun ac yn cael trafferth cyflawni tasgau sylfaenol fel ymolchi a choginio pryd o fwyd. Gan ddefnyddio'r wybodaeth o’r sgrin flaenorol, ysgrifennwch dargedau ail-alluogi CAMPUS a allai helpu Sally i adennill ei hannibyniaeth.

The importance of timely access to reablement services and support

Pwysigrwydd mynediad amserol at wasanaethau a chymorth ail-alluogi

The reablement process needs to start at the optimum time to ensure that a person is able to regain and relearn lost skills. Rapid access to both occupational therapy skills and equipment is essential to avoid delays in a person’s progress. For reablement to be successful, a person’s needs and strengths should be assessed, and person-centred goals set. The SMART principle of goal setting should be applied to ensure that targets are specific, measurable, attainable, realistic and timely. Most people receive reablement help for at least one or two weeks after leaving hospital although this service is free for up to six weeks. Timely reablement maximises the potential for improvement, allowing an individual to develop independent living skills as soon as possible and reduces unnecessary stays in hospital. Lack of timely reablement leads to delaying progress for the individual and delayed discharges from hospital.

Reablement is a motivational tool in recovery, building confidence and self-esteem which impacts on all areas of an individual’s well-being.

What does recovery mean for an individual?

As reablement takes a person-centred approach, recovery from illness or injury should be defined by the person themselves depending on whether symptoms and effects of their illness are on-going, recurring or likely to improve. For each individual, recovery means a return to a meaningful and satisfying life, representing a move away from illness, disease and symptoms of poor health towards health, strength and wellness.

Support from the reablement support worker/carer is maximising an individual’s independent living skills. They take a person-centred approach and work with each person as directed by the Reablement Assessment Officer/Occupational Therapist.

A social worker who has worked with an individual may make a professional referral to the reablement team to allow them to access the correct support or suggest alternative services when the reablement programme is underway.

Mae angen i’r broses ail-alluogi ddechrau ar yr amser optimwm er mwyn sicrhau bod person yn medru adennill ac ailddysgu sgiliau a gollwyd. Mae cael mynediad at sgiliau a chyfarpar therapi galwedigaethol yn gyflym yn hanfodol i osgoi oedi cynnydd claf. I ail-alluogi fod yn llwyddiannus, dylid asesu anghenion a chryfderau person yn gyflym a dylid gosod nodau sy’n canolbwyntio ar y person. Dylid defnyddio egwyddor gosod nodau CAMPUS i sicrhau bod y targedau a osodir yn rhai cyraeddadwy, amserol, mesuradwy, penodol, uchelgeisiol a synhwyrol. Mae’r rhan fwyaf o bobl yn cael cymorth ail-alluogi am o leiaf wythnos neu bythefnos ar ôl gadael yr ysbyty, er bod y gwasanaeth hwn ar gael am hyd at chwe wythnos. Mae darparu gwasanaethau ail-alluogi yn amserol yn cynyddu’r posibilrwydd y bydd yr unigolyn yn gwella, gan alluogi unigolyn i ddatblygu sgiliau byw annibynnol cyn gynted ag sy’n bosibl ac yn lleihau arosiadau diangen yn yr ysbyty. Mae diffyg ail-alluogi amserol yn arwain at oedi cynnydd unigolion ac oedi’r broses o’u rhyddhau o’r ysbyty.

Mae ail-alluogi yn adnodd ysgogol yn y broses wella, gan helpu unigolion i ddatblygu eu hyder a’u hunan-barch sy’n effeithio ar bob agwedd ar eu llesiant.

Beth mae adferiad yn ei olygu i unigolyn?

Gan fod ail-alluogi yn defnyddio dull sy’n canolbwyntio ar yr unigolyn, dylai adferiad o salwch neu anaf gael ei ddiffinio gan yr unigolyn ei hun gan ddibynnu ar p’un ai yw symptomau ac effeithio ei salwch yn barhaus, yn rheolaidd neu’n debygol o wella. Ar gyfer pob unigolyn, mae adferiad yn golygu dychwelyd i fywyd ystyrlon sy’n rhoi boddhad, sy’n dangos ei fod yn symud oddi wrth salwch, clefyd a symptomau iechyd gwael tuag at iechyd, cryfder a llesiant.

Mae cymorth gan y gweithiwr cymorth ail-alluogi/gofalwr yn cynyddu sgiliau byw’n annibynnol unigolyn i’r eithaf. Maent yn defnyddio dull sy’n canolbwyntio ar y person yn ôl cyfarwyddyd y Swyddog Asesu Ail-alluogi/Therapydd Galwedigaethol Ail-alluogi.

Gall gweithiwr cymdeithasol sydd wedi gweithio gydag unigolyn wneud atgyfeiriad proffesiynol i’r tîm ail-alluogi er mwyn caniatáu iddynt gael mynediad at y cymorth cywir neu awgrymu gwasanaethau amgen pan fydd y rhaglen ail-alluogi ar waith.

The impact of loss of skills

Effaith colli sgiliau

Elderly woman in a

The potential impact of loss of cognitive skills on an individual

Following an illness or injury, an individual may experience cognitive impairment which can result in difficulty processing and understanding knowledge. Cognitive skills are the core skills used by the brain to think, learn, read, apply reasoning, concentrate and remember. Cognitive impairment has a far-reaching effect on the recovery of an individual and their ability to live independently.

http://bit.ly/2OosRAn

  • Memory impairment
    A person may have difficulty in remembering names and faces or have difficulty retaining information. It can lead to confusion and forgetfulness, impacting on an individual’s ability to carry out everyday tasks, such as preparing a meal or taking medication correctly. This can have a negative impact on the person due to a loss of self-confidence. Coping strategies, such as writing information down or keeping a diary, and encouraging the person to leave important items in a designated place in the house can help.
  • Language issues (dysphasia)
    Following illness, such as stroke or brain injury, an individual may experience difficulties in understanding verbal language or may be unable to express themselves clearly. This can cause embarrassment and frustration, particularly in social situations. It impacts on an individual’s ability to understand professional terminology which could lead to confusion during reablement.
  • Poor concentration
    The inability to concentrate and complete tasks fully impacts on an individual’s capability to manage a job, take on a role in which they are a valued member of a team or complete meaningful activities. This may result in low self-worth and self-esteem and can lead to social withdrawal.
  • Visual impairment
    Difficulty seeing or recognising objects may cause issues with reading information or recognising signage. Changes in ability to judge distances due to poor visual perception is potentially dangerous for individuals wishing to take part in activities outside in the community which could lead to withdrawal from social events outside the home, if the person does not receive the right support.
  • Lack of insight and empathy
    A person may lose the ability to appreciate something from another person’s point of view. An inability to put themselves in others’ shoes can cause an individual to be viewed as self-centred, having unrealistic views of other people which may result in challenges to established relationships.

The potential impact of physical skills on an individual

Physical skills are necessary to perform actions effectively and relate largely to mobility and dexterity. Categorised as gross and fine motor skills, these abilities are performed by the large muscle groups in the arms and legs and the smaller muscles in the fingers.

  • Movement and mobility
    If a person is experiencing problems with mobility, a physiotherapist will assess the individual and provide suitable advice to improve movement and mobility and may assess for suitable mobility aids, such as a walking stick, zimmer frame or wheelchair. The person will need to adapt to change and may experience some difficulties in the adjustment period. For example, it may impact upon the time required to arrive at destinations and needs consideration of parking distances from destinations. An individual would need to check accessibility of buildings, such as ramps and widened doorways. Impaired mobility may lead to a lack of confidence when attending venues outside the home and can impact on an individual’s ability to work or carry out meaningful activities.
  • Poor balance and co-ordination
    Poor balance can result from weakness or stiffness of muscles or from hemiplegia (paralysis) following a stroke or brain injury. A physiotherapist will be able to provide management advice, including the provision of walking aids if required, and an occupational therapist may be involved to consider aids and equipment in the home to compensate for the difficulties. Difficulties may include getting in and out of bed, on and off chairs and toilets, attending to personal care and domestic activities. These, in turn, can affect confidence and self-esteem.
  • Ataxia (tremors or uncontrolled movements)
    Ataxia can make everyday tasks more difficult, affecting independence and the potential to carry out some types of employment. It is hazardous for some individuals to use kettles, pans and cups with hot drinks in them without suitable adjustments, such as non-spill cups and kettle tippers. Individuals may require help with writing, such as form filling and would require a keyboard to complete written tasks more easily. An occupational therapist would assess and advise accordingly.
  • Slow or slurred speech
    Some individuals find it difficult to be understood following an illness or injury which can cause embarrassment and frustration. Some people may become more withdrawn as a consequence. A speech and language therapist will assess the individual and will develop a treatment plan, teaching both the person and those around them useful approaches and coping strategies to minimise the impact.

Effaith bosibl colli sgiliau gwybyddol ar unigolyn

Yn dilyn salwch neu anaf, mae’n bosibl y bydd unigolyn yn profi nam gwybyddol sy’n gallu achosi trafferth yn prosesu a deall gwybodaeth. Sgiliau gwybyddol yw’r sgiliau craidd y mae’r ymennydd yn eu defnyddio i feddwl, dysgu, darllen, rhesymu, canolbwyntio a chofio. Mae nam gwybyddol yn cael effaith bellgyrhaeddol ar adferiad unigolyn a’i allu i fyw’n annibynnol.

http://bit.ly/2OosRAn

  • Nam ar y cof
    Gall person ei chael hi’n anodd cofio enwau ac wynebau neu’n cael trafferth cofio gwybodaeth. Gall arwain at ddryswch ac anghofusrwydd, gan effeithio ar allu unigolyn i gyflawni tasgau bywyd bob dydd, megis paratoi pryd o fwyd neu gymryd meddyginiaeth yn gywir. Gall hyn gael effaith negyddol ar berson o ganlyniad i hunanhyder isel. Mae strategaethau ymdopi, megis ysgrifennu gwybodaeth neu gadw dyddiadur, ac annog y person i adael eitemau pwysig mewn lle dynodedig yn y tŷ yn gallu helpu.
  • Problemau iaith (dysffasia)
    Yn dilyn salwch, megis strôc neu anaf i’r ymennydd, mae’n bosibl y bydd unigolyn yn ei chael hi’n anodd gwneud synnwyr o iaith eiriol na mynegi ei hun yn glir. Mae hyn yn achosi cywilydd a rhwystredigaeth, yn enwedig mewn sefyllfaoedd cymdeithasol. Mae’n effeithio ar allu unigolyn i ddeall terminoleg broffesiynol a allai arwain at ddryswch yn ystod y broses ail-alluogi.
  • Sgiliau canolbwyntio gwael
    Mae methu canolbwyntio a chwblhau tasgau’n llawn yn effeithio ar allu unigolyn i ymdopi â swydd, ymgymryd â rôl lle mae’n aelod gwerthfawr o dîm neu gwblhau gweithgareddau ystyrlon. Gall hyn achosi lefelau isel o hunan-werth a hunan-barch a gall arwain at giliad cymdeithasol.
  • Nam ar y golwg
    Gall trafferth wrth weld ac adnabod gwrthrychau achosi problemau o ran darllen gwybodaeth neu adnabod arwyddion. Gall newidiadau i’r gallu i farnu pellterau oherwydd canfyddiad gweledol gwael fod yn beryglus i unigolion sydd am gymryd rhan mewn gweithgareddau allan yn y gymuned, gall arwain at gilio o ddigwyddiadau y tu allan i’r cartref, os nad yw’r person yn derbyn y cymorth cywir.
  • Diffyg dealltwriaeth ac empathi
    Gall person golli’r gallu i werthfawrogi rhywbeth o safbwynt person arall. Gall anallu i ystyried safbwynt eraill wneud i unigolyn edrych yn hunanol gyda barn afrealistig o bobl eraill a fydd yn gallu herio perthnasoedd sefydledig.

Effaith bosibl colli sgiliau corfforol ar unigolyn

Mae sgiliau corfforol yn angenrheidiol i gyflawni gweithredoedd yn effeithiol ac maent yn ymwneud â symudedd a medrusrwydd yn bennaf. Caiff y galluoedd hyn eu categoreiddio fel sgiliau echddygol bras a sgiliau echddygol manwl a chânt eu perfformio gan y grwpiau cyhyrau mawr yn y breichiau a’r coesau a’r cyhyrau llai yn y bysedd.

  • Symud a symudedd
    Os yw person yn profi problemau gyda symudedd, bydd ffisiotherapydd yn asesu’r unigolyn ac yn darparu cyngor addas er mwyn gwella’i symud a’i symudedd a gall ei asesu er mwyn darganfod cymhorthion symudedd addas, megis ffon gerdded, ffrâm Zimmer neu gadair olwyn. Bydd angen i’r person addasu i newid a gallant brofi anawsterau yn ystod y cyfnod hwn. Er enghraifft, gall effeithio ar yr amser sydd angen i gyrraedd cyrchfannau ac mi fydd angen ystyried y pellter o’r maes parcio i’r cyrchfan. Bydd rhaid i unigolyn sicrhau hygyrchedd adeilad, er enghraifft oes yna rampiau a drysau llydan. Mae nam ar symudedd yn arwain at ddiffyg hyder wrth fynd i leoliadau y tu allan i’r cartref a gall effeithio ar allu unigolyn i weithio neu gyflawni gweithgareddau ystyrlon.
  • Cydbwysedd a chydsymud gwael
    Gall gwendid neu gyffni yn y cyhyrau neu hemiplegia (parlys unochr) yn dilyn strôc neu anaf i’r ymennydd arwain at gydbwysedd gwael. Mi fydd ffisiotherapydd yn gallu darparu cyngor ar sut i reoli’r gwendidau, gan gynnwys darparu cymhorthion cerdded os oes angen, a gall therapydd galwedigaethol fod yn rhan o’r broses er mwyn ystyried cymhorthion ac offer yn y tŷ sy’n gallu gwneud bywyd yr unigolyn ychydig yn haws. Gall anawsterau gynnwys mynd i mewn ac allan o’r gwely, eistedd a chodi o gadeiriau a’r tŷ bach, gweithgareddau sy’n gysylltiedig â gofal personol a gweithgareddau domestig. Gall y rhain, yn eu tro, effeithio ar hyder a hunan-barch.
  • Atacsio (cryndod neu symudiadau direolaeth)
    Gall atacsia wneud tasgau bywyd bob dydd yn anoddach, gan effeithio ar annibyniaeth a’r posibilrwydd o gyflawni rhai mathau o gyflogaeth. Mae’n beryglus i rai unigolion ddefnyddio tegellau, sosbenni a chwpanau â diodydd poeth ynddynt heb gymorth gan gwpanau sydd ddim yn gollwng a theclynnau arllwys tegell. Efallai y bydd angen cymorth ar unigolion i ysgrifennu, megis llenwi ffurflenni, a byddai angen bysellfwrdd arnynt i gwblhau tasgau ysgrifenedig yn haws. Mae therapydd galwedigaethol yn asesu ac yn rhoi cyngor yn unol â hynny.
  • Siarad yn araf neu’n aneglur
    Mae rhai unigolion yn cael trafferth i gael eu deall yn dilyn salwch neu anaf sy’n gallu achosi cywilydd a rhwystredigaeth. Gall rhai pobl gilio o ganlyniad i hyn. Mae therapydd iaith a lleferydd yn asesu’r unigolyn ac yna’n datblygu cynllun triniaeth sy’n addysgu’r person a’r bobl o’i gwmpas am ddulliau defnyddiol a strategaethau ymdopi er mwyn lleihau effaith ei anawsterau.

Encouraging participation in meaningful activities and learning new skills

Annog unigolion i gymryd rhan mewn gweithgareddau ystyrlon a dysgu sgiliau newydd

An individual should be encouraged to take an active role in activities to ensure that they have a purpose and a goal. A meaningful activity can be physical, social or leisure but must be tailored to an individual’s needs.

Examples of meaningful daily living activities are:

  • washing
  • dressing
  • preparing and eating food.

Examples of leisure activities are:

  • reading
  • gardening
  • walking/stretching
  • arts and crafts
  • music and singing.

Examples of social activities are:

  • sharing a cup of tea with friends
  • attending a club
  • a meal out with family
  • exercising as part of a group.

Activities should be specific to meet individual needs and should support diversity and cultural differences by making sure language barriers and communication difficulties are overcome. Volunteering can be a means of building up confidence in individuals in a non-threatening environment in which they feel valued. The positive effects of volunteering combat depression and lead to the feeling of living a valued life through helping others. Volunteering gives individuals the sense of purpose and direction necessary for reablement and recovery.

Learning and regaining skills

A reablement programme to learn or regain new skills must be fun and should be centred around the individual in order to interest and engage them. It is important to give reablement patients basic choices but encourage them to complete tasks themselves rather than doing the task for them. Learning and regaining skills can take place at home or in a local organisation such as a leisure centre. The reablement occupational therapist helps with planning a schedule of activities and will write a realistic plan to follow.

The types of skills that can be re-learnt and developed to encourage independence:

  • planning menus
  • following basic instructions (either verbal or written)
  • discussing articles in the newspaper
  • crosswords, word search or anagrams
  • using a computer, mobile phone or tablet to research information on the internet
  • tidying and sorting
  • working out a bus route
  • planning a DIY project
  • reading a story or watching a programme then answering questions about it
  • using concentration apps on a smartphone
  • following instructions (flatpack, recipes)
  • adding up purchases whilst in a shop
  • counting out money and working out change
  • measuring ingredients
  • calculating timings
  • using or creating a timetable.

Further skills that patients may need to re-learn or improve after an illness or injury are judging distance. When walking, for example, a person may bump into objects, when reaching for a glass they may misjudge the distance and their hand may wander.

Activities to encourage skills in perceiving distance are:

  • picking toothpicks up, with a carer giving directions if necessary
  • drawing or painting still life objects
  • playing games such as Jenga.

Memory skills:

  • labelling drawers and cupboards then practising putting items back in the right place
  • putting shopping lists in order of commodities
  • using a wall chart, calendar or white board
  • using a planner, diary or Filofax
  • writing checklists
  • using a daily pill box to remind about medication.

Dylid annog unigolion i gymryd rôl weithredol mewn gweithgareddau i sicrhau bod ganddynt ddiben a nod. Gall gweithgaredd ystyrlon fod yn gorfforol, yn gymdeithasol neu'n hamddenol ond mae'n rhaid iddo fod wedi'i deilwra i anghenion yr unigolyn.

Mae enghreifftiau o weithgareddau ystyrlon sy'n rhan o fywyd pob dydd yn cynnwys:

  • ymolchi
  • gwisgo
  • paratoi a bwyta bwyd.

Dyma enghreifftiau o weithgareddau hamdden:

  • darllen
  • garddio
  • cerdded/ymestyn
  • celf a chrefft
  • cerddoriaeth a chanu.

Dyma enghreifftiau o weithgareddau cymdeithasol:

  • yfed paned o de gyda ffrindiau
  • mynychu clwb
  • pryd o fwyd mewn bwyty gyda’r teulu
  • ymarfer corf fel rhan o grŵp.

Dylai gweithgareddau fod yn benodol er mwyn diwallu anghenion unigol a dylent gefnogi amrywiaeth a gwahaniaethau diwylliannol drwy sicrhau bod rhwystrau iaith ac anawsterau cyfathrebu yn cael eu goresgyn. Gall gwirfoddoli fod yn ffordd o ddatblygu hyder unigolion mewn amgylchedd nad yw'n fygythiol lle maent yn teimlo eu bod yn cael eu gwerthfawrogi. Mae effeithiau cadarnhaol gwirfoddoli yn cynnwys helpu gydag iselder a'r ymdeimlad o fyw bywyd gwerthfawr drwy helpu pobl eraill. Mae gwirfoddoli yn rhoi ymdeimlad o ddiben a chyfeiriad i unigolion sy'n angenrheidiol ar gyfer ail-alluogi ac adfer.

Dysgu ac adennill sgiliau

Mae'n rhaid i raglen ail-alluogi i ddysgu sgiliau newydd neu adennill hen rai fod yn hwyl, a dylai ganolbwyntio ar yr unigolyn er mwyn ennyn ei ddiddordeb. Mae'n bwysig rhoi dewisiadau sylfaenol i gleifion ail-alluogi, ond dylid eu hannog i gwblhau tasgau eu hunain yn hytrach na chwblhau'r dasg ar eu rhan. Gellir dysgu ac adennill sgiliau gartref neu mewn sefydliad lleol megis canolfan hamdden. Mae'r therapydd galwedigaethol ail-alluogi yn helpu i gynllunio amserlen o weithgareddau a bydd yn ysgrifennu cynllun realistig i'w ddilyn.

Mae'r mathau o sgiliau y gellir eu hailddysgu a'u datblygu i annog annibyniaeth yn cynnwys:

  • cynllunio bwydlenni
  • dilyn cyfarwyddiadau sylfaenol (naill ai ar lafar neu'n ysgrifenedig
  • trafod erthyglau yn y papur newydd
  • croeseiriau, chwileiriau neu anagrama
  • defnyddio cyfrifiadur, ffôn symudol neu dabled i ymchwilio i wybodaeth ar y rhyngrwyd
  • tacluso a threfn
  • dod o hyd i lwybr bws
  • cynllunio prosiect DIY
  • darllen stori neu wylio rhaglen ac yna ateb cwestiynau amdani
  • defnyddio apiau canolbwyntio ar ffôn clyfa
  • dilyn cyfarwyddiadau (rhoi dodrefn at ei gilydd, ryseitiau)
  • adio prisiau eitemau mewn siop
  • cyfrif arian a chyfrifo newid
  • mesur cynhwysio
  • cyfrifo amseriadau
  • defnyddio neu greu amserlen

Sgiliau pellach y mae'n bosibl y bydd angen i gleifion eu hail-ddysgu neu eu gwella ar ôl salwch neu anaf yw barnu pellter. Wrth gerdded efallai y bydd person yn cerdded i mewn i bethau, wrth ymestyn am wydr efallai y bydd yn camfarnu'r pellter ac y bydd ei law yn crwydro.

Mae gweithgareddau i annog sgiliau canfod pellter yn cynnwys:

  • codi deintbigau, gyda gofalwr yn rhoi cyfarwyddiadau os oes angen
  • darlunio neu baentio gwrthrychau bywyd llonydd
  • chwarae gemau megis Jenga.

Sgiliau cofio:

  • labelu droriau a chypyrddau ac yna ymarfer rhoi eitemau yn ôl yn y lle cywir
  • trefnu rhestrau siopau yn ôl nwyddau
  • defnyddio siart wal, calendr neu fwrdd gwyn
  • defnyddio cynllunydd, dyddiadur neu Filofax
  • ysgrifennu rhestrau gwirio
  • defnyddio blwch tabledi dyddiol er mwyn cofio cymryd meddyginiaeth.

Support to overcome barriers

Cymorth i oresgyn rhwystrau

Fear of failing

Many people following a reablement plan have a fear of failing due to loss of confidence. This could be related to their mobility and a fear of falling or could be connected with a cognitive impairment. Individuals often have the support of friends and family throughout their reablement period who are able to help them overcome fear of failure by analysing any unknown factors that could cause anxiety. Individuals in reablement may withdraw and show a lack of motivation to practise new skills due to fear of failure, but should be encouraged to think positively about their reablement outcomes and have a contingency plan if things go wrong. Small, manageable tasks that can be repeated and improved help to overcome feelings of anxiety about failing.

Embarrassment and frustration

Embarrassment and frustration are common feelings during recovery and reablement as individuals come to terms with their cognitive and physical impairments. Support and encouragement from family, friends, care workers and health professionals involved in the reablement plan can help to overcome these feelings by working with the individual in a calm, non-threatening environment. It can be beneficial for an individual to join a support group to share feelings and thoughts with other people who have similar conditions. As a family member or care worker, positive praise is essential to reward small steps towards achieving goals within a reablement plan.

Conflict of opinions

When family members disagree about care decisions, an individual may feel a loss of control over their own reablement plan. In some cases, a guardian may be appointed to represent the voice of the individual, this is normally a health professional with knowledge of their condition and is a legal obligation. Family members may have a different perception of an individual’s cognitive function such as memory and understanding. This is often rated significantly lower than the individual’s own perception and causes conflict. Strategies can be implemented in these cases to support and inform the family and/or caregiver in developing an accurate understanding of how to assist an individual in successful reablement.

Fear of intrusion and losing control

A key principle of reablement is assisting individuals to regain independence and have control over their lives. Having care workers and/or family intrusion on decisions can lead to barriers between the individual and those trying to support them. A reablement plan should provide the right kind of support to enable a person to see beyond their symptoms and limitations to achieve their goal and live independently. A reablement occupational therapist has this principle as a central point when assessing a person prior to discharge from hospital and throughout the reablement plan. In cases where an individual feels a loss of control, an advocate or guardian can be appointed who will represent the views of the individual hence reducing the fear of intrusion by unwanted supporters.

Misunderstanding professional jargon

Language barriers may exist as a result of linguistic differences as in the case of information not being written or spoken in a person’s first language. Barriers may also exist due to cognitive impairment following a stroke, brain injury or as a result of dementia. Understanding language in the context of medical terminology is critical to develop a comprehensive view of the problems that need to be overcome through reablement. Several strategies are in place to overcome this barrier, such as bilingual information, interpreters, braille and hearing amplifiers. Health professionals and family will receive training in simplifying information to make it more easily understood by an individual.

Lack of insight (not recognising the need for support)

Individuals can develop a lack of insight about the level of care and/or reablement they require following a trauma or serious illness. This becomes difficult to reconcile with carers and family members who may have a clearer perspective on what is required in recovery. Lack of insight makes managing risk particularly difficult and hard to manage without putting the person in danger. A balance should be struck between encouraging independence and assessing the risk to avoid harm.

Skills to support engagement in reablement

The barriers above are overcome through good communication between the individual and the person supporting reablement. This may be a health professional or informal carer. Good communication skills will enable information to be given clearly, develop good working relationships and provide emotional support to overcome obstacles. Having good listening skills, good verbal and non-verbal communication and understanding cultural language differences will allow barriers to be discussed and problems resolved.

The following methods of communication should be considered when supporting individuals to address potential barriers to reablement:

  • avoid jargon or complicated medical language
  • modify/slow down tone and pace
  • clarify information
  • active listening
  • show empathy towards the individual
  • make eye contact
  • use positive body language
  • respect the correct body space/proximity
  • ensure the environment is conducive, for example, noise levels, privacy and lighting.

http://bit.ly/2YBeiNO

Positive reablement language

Family, carers and health professionals should use positive language such as:

  • “encourage”
  • “requires help with”
  • “by themselves”

And avoid phrases such as:

  • “unable to”
  • “dependent”

Encouraging individuals by using positive body language and phrases such as:

  • “well done”
  • “that’s great”
  • “you’re doing really well”
  • “I can see an improvement in you since yesterday”
  • “can you manage to give it a try?”

Ofn methu

Mae llawer o bobl sy'n dilyn cynllun ail-alluogi ofn methu am eu bod wedi colli hyder. Gallai hyn fod yn gysylltiedig â'u symudedd ac ofn cwympo, neu gallai fod yn gysylltiedig â nam gwybyddol. Yn aml mae gan unigolion gymorth ffrindiau a theulu drwy gydol eu cyfnod ail-alluogi sy'n gallu eu helpu i oresgyn y teimlad o fod ofn methu drwy ddadansoddi unrhyw ffactorau anhysbys a allai achosi gorbryder. Mae'n bosibl y bydd unigolion sy'n dilyn rhaglen ail-alluogi yn mynd i'w cragen ac na fydd ganddynt gymhelliant i ymarfer sgiliau newydd am eu bod ofn methu, ond dylid eu hannog i feddwl yn gadarnhaol am eu canlyniadau ail-alluogi a chael cynllun wrth gefn os bydd pethau yn mynd ar gyfeiliorn. Mae tasgau bach, hylaw y gellir eu hailadrodd a'u gwella yn helpu i oresgyn teimladau o orbryder am fethu.

Cywilydd a rhwystredigaeth

Mae cywilydd a rhwystredigaeth yn deimladau cyffredin yn ystod y broses adfer ac ail-alluogi wrth i unigolion ddod i delerau â'u hanawsterau gwybyddol a chorfforol. Gall cymorth ac anogaeth gan deulu, ffrindiau, gweithwyr gofal a gweithwyr iechyd proffesiynol sy'n rhan o'r cynllun ail-alluogi helpu i oresgyn y teimladau hyn drwy weithio gyda'r unigolyn mewn amgylchedd digynnwrf nad yw'n fygythiol. Gall fod yn fuddiol i unigolyn ymuno â grŵp cymorth er mwyn rhannu teimladau a myfyrdodau â phobl eraill sydd â chyflyrau tebyg. Fel aelod o'r teulu neu weithiwr gofal, mae canmoliaeth gadarnhaol yn hanfodol i wobrwyo camau bach tuag at gyflawni nodau mewn cynllun ail-alluogi.

Gwrthdaro ac anghytuno

Pan fydd aelodau o'r teulu yn anghytuno am benderfyniadau gofal, mae'n bosibl y bydd unigolyn yn teimlo ei fod yn colli rheolaeth dros ei gynllun ail-alluogi ei hun. Mewn rhai achosion, gellir penodi gwarcheidwad i gynrychioli llais yr unigolyn; gweithiwr iechyd proffesiynol â gwybodaeth am ei gyflwr fydd hwn fel arfer ac mae'n rhwymedigaeth gyfreithiol. Mae'n bosibl y bydd gan aelodau o'r teulu ganfyddiad gwahanol o allu gwybyddol unigolyn, megis cof a dealltwriaeth. Yn aml mae'r canfyddiad hwn yn llawer is na chanfyddiad yr unigolyn ei hun ac mae hyn yn achosi gwrthdaro. Gellir rhoi strategaethau ar waith yn yr achosion hyn i gefnogi a hysbysu'r teulu a/neu'r gofalwr i ddatblygu dealltwriaeth gywir o sut i gynorthwyo'r unigolyn i sicrhau rhaglen ail-alluogi lwyddiannus.

Ofn ymyrryd a cholli rheolaeth

Un o egwyddorion allweddol ail-alluogi yw cynorthwyo unigolion i adennill annibyniaeth a chael rheolaeth dros eu bywydau. Os yw gweithwyr gofal a/neu aelodau o'r teulu yn ymyrryd mewn penderfyniadau, gall hyn arwain at rwystrau rhwng yr unigolyn a'r rhai sy'n ceisio ei gefnogi. Dylai cynllun ail-alluogi ddarparu'r math cywir o gymorth i alluogi person i weld y tu hwnt i'w symptomau a'i gyfyngiadau i gyflawni ei nod a byw'n annibynnol. Mae'r egwyddor hon wrth wraidd gwaith y therapydd galwedigaethol ail-alluogi pan fydd yn asesu person cyn iddo gael ei ryddhau o'r ysbyty a thrwy gydol y cynllun ail-alluogi. Mewn achosion lle mae unigolyn yn teimlo ei fod yn colli rheolaeth, gellir penodi eiriolwr neu warcheidwad a fydd yn cynrychioli barn yr unigolyn gan felly leihau'r ofn y bydd cefnogwyr dieisiau yn ymyrryd mewn penderfyniadau.

Camddeall jargon proffesiynol

Mae'n bosibl y bydd rhwystrau iaith o ganlyniad i wahaniaethau ieithyddol, er enghraifft os na fydd gwybodaeth wedi'i hysgrifennu na'i chyfleu yn iaith gyntaf person. Yn ogystal, mae'n bosibl y bydd rhwystrau oherwydd nam gwybyddol yn dilyn strôc, anaf i'r ymennydd neu o ganlyniad i ddementia. Mae deall iaith yng nghyd-destun terminoleg feddygol yn hollbwysig i ddatblygu dealltwriaeth gynhwysfawr o'r problemau y mae angen eu datrys drwy ail-alluogi. Mae sawl strategaeth ar waith i oresgyn y rhwystr hwn, megis gwybodaeth ddwyieithog, cyfieithwyr ar y pryd, braille a chwyddwyr clyw. Bydd gweithwyr iechyd proffesiynol ac aelodau o'r teulu yn cael hyfforddiant ar symleiddio gwybodaeth er mwyn i unigolyn allu ei deall yn haws.

Diffyg dealltwriaeth (peidio â chydnabod yr angen am gymorth)

Gall unigolion ddatblygu diffyg dealltwriaeth ynghylch lefel y gofal a/neu gymorth ail-alluogi y mae ei hangen arnynt yn dilyn trawma neu salwch difrifol. Bydd hyn yn anodd ei gymodi â gofalwyr ac aelodau o'r teulu y mae'n bosibl y bydd ganddynt safbwynt cliriach o'r hyn sy'n ofynnol yn y broses adfer. Mae diffyg dealltwriaeth yn ei gwneud hi'n arbennig o anodd i reoli her heb roi'r person mewn perygl. Mae angen cael cydbwysedd rhwng annog annibyniaeth ac asesu'r risg er mwyn osgoi niwed.

Sgiliau i gefnogi cyfranogiad mewn gweithgareddau ail-alluogi

Caiff y rhwystrau a nodwyd uchod eu goresgyn drwy gyfathrebu da rhwng yr unigolyn a'r person sy'n cefnogi'r broses ail-alluogi. Gall y person hwn fod yn weithiwr iechyd proffesiynol neu'n ofalwr anffurfiol. Bydd sgiliau cyfathrebu da yn golygu y gellir cyflwyno gwybodaeth yn glir, datblygu cydberthnasau gwaith da a darparu cymorth emosiynol i oresgyn rhwystrau. Bydd cael sgiliau gwrando da, sgiliau cyfathrebu geiriol a dieiriau da a dealltwriaeth o wahaniaethau iaith diwylliannol yn caniatáu i rwystrau gael eu trafod a phroblemau gael eu datrys.

Dylid ystyried y dulliau cyfathrebu canlynol wrth gefnogi unigolion i fynd i'r afael â rhwystrau posibl i ail-alluogi:

  • osgoi jargon neu iaith feddygol gymhleth
  • addasu/arafu tôn a chyflymder
  • egluro gwybodaeth
  • gwrando gweithredol
  • dangos empathi tuag at yr unigolyn
  • cynnal cyswllt llygad
  • defnyddio iaith corff gadarnhaol
  • parchu'r agosrwydd corff cywir
  • sicrhau bod yr amgylchedd yn ffafriol, er enghraifft lefelau sain, preifatrwydd a goleuo.

http://bit.ly/2YBeiNO

Iaith ail-alluogi gadarnhaol

Dylai aelodau o'r teulu, gofalwyr a gweithwyr iechyd proffesiynol ddefnyddio iaith gadarnhaol megis:

  • “annog”
  • “angen help gyda”
  • “ar ei ben ei hun”

dylid osgoi ymadroddion megis:

  • “methu gwneud”
  • “dibynnol”

Dylid annog unigolion drwy ddefnyddio iaith corff gadarnhaol ac ymadroddion megis:

  • “da iawn”
  • “mae hynny'n wych”
  • “rydych chi'n gwneud yn dda iawn”
  • “rwy'n gallu gweld eich bod chi wedi gwella ers ddoe”
  • “allwch chi roi cynnig arni?”

Promoting person-centred care approaches to support individuals to engage in reablement activities

Hybu dulliau o ddarparu gofal person-ganolog ac sy'n ei helpu i gymryd rhan mewn gweithgareddau ail-alluogi

Prior to discharge from hospital, a meeting will be set up between the individual and their family/carers. This is a multidisciplinary meeting and will include professionals such a reablement occupational therapist, reablement workers, the discharge nurse and sometimes social workers and/or the GP. The meeting may be referred to as a co-productive approach which is a concept in which the individual is central to discussions about services and support throughout the reablement process. Initial engagement is essential for reablement to work successfully and should take place prior to discharge or shortly afterwards. The meeting ensures continuity of care from hospital to home, making sure that planning is implemented and co-ordinated and providing good quality links between hospital services and community-based and voluntary services when an individual returns home.

Assessment questions

As all reablement plans are person-centred, it is important to ask each individual what matters to them in terms of end goals.

  • What skills do they need to achieve what is important to them?
  • What existing skills are they able to utilise? What can they already do for themselves?
  • How can existing skills be built upon to further develop independence?
  • What level of help and support do they need, and which services can provide this?
  • Who will pay for the support?
  • What equipment is needed and how can a home be adapted to accommodate this?
  • How will achievement of goals be measured and evaluated?

Levels of help, support and assistance

When carrying out a reablement plan, levels of support are often assessed using a graduated scale ranging from:

  • Independent (requiring no support)
  • Supervision (requires another person present for encouragement and to increase confidence)
  • Prompting (reminding the individual which task needs completing next, providing simple verbal reminders)
  • Assistance (from minimal to moderate, could be hands-on actual physical guidance)
  • Declined (the individual refuses any support or assistance even if required)

Cyn iddo gael ei ryddhau o'r ysbyty, caiff cyfarfod ei drefnu rhwng yr unigolyn a'i deulu/gofalwyr. Cyfarfod amlddisgyblaethol yw hwn a bydd yn cynnwys gweithwyr proffesiynol megis therapydd galwedigaethol ail-alluogi, gweithwyr ail-alluogi, y nyrs rhyddhau a gweithwyr cymdeithasol a/neu'r meddyg teulu o bryd i'w gilydd. Efallai y cyfeirir at y cyfarfod fel dull gweithredu cydgynhyrchiol sef cysyniad lle mae'r unigolyn yn ganolog i drafodaethau am wasanaethau a chymorth drwy gydol y broses ail-alluogi. Mae ymgysylltiad cychwynnol yn hanfodol er mwyn i ail-alluogi weithio'n llwyddiannus a dylid ei gynnal cyn i'r unigolyn gael ei ryddhau o'r ysbyty neu'n fuan wedi hynny. Mae'r cyfarfod yn sicrhau bod parhad gofal o'r ysbyty i'r cartref gan wneud yn siŵr bod cynlluniau yn cael eu cydlynu a'u rhoi ar waith, ac yn darparu cysylltiadau o ansawdd da rhwng gwasanaethau'r ysbyty a gwasanaethau gwirfoddol a rhai yn y gymuned pan fydd unigolyn yn dychwelyd adref.

Cwestiynau Asesu

Gan fod pob cynllun ail-alluogi yn canolbwyntio ar y person, mae'n bwysig gofyn i bob unigolyn yr hyn sydd o bwys iddo o ran nodau terfynol.

  • Pa sgiliau sydd eu hangen arno i gyflawni'r hyn sy'n bwysig iddo?
  • Pa sgiliau presennol y mae'n gallu eu defnyddio? Beth mae eisoes yn gallu ei wneud ei hun?
  • Sut gellid adeiladu ar sgiliau presennol er mwyn datblygu annibyniaeth ymhellach?
  • Pa lefel o help a chymorth sydd ei hangen arno a pha wasanaethau sy'n gallu darparu hyn?
  • Pwy fydd yn talu am y cymorth?
  • Pa gyfarpar sydd ei angen a sut gellir addasu cartref er mwyn hwyluso hyn?
  • Sut caiff y broses o gyflawni nodau ei mesur a'i gwerthuso?

Lefelau o gymorth a chefnogaeth

Wrth roi cynllun ail-alluogi ar waith, caiff lefelau o gymorth eu hasesu gan ddefnyddio graddfa raddedig yn aml, gan amrywio o:

  • Annibynnol (heb fod angen cymorth)
  • Goruchwyliaeth (angen i berson arall fod yn bresennol er mwyn annog a chynyddu hyder)
  • Cymell (atgoffa'r unigolyn pa dasgau sydd angen eu cwblhau nesaf drwy roi cyfarwyddiadau llafar syml)
  • Cymorth (o'r cymorth lleiaf i lefel gymedrol, gallai fod yn arweiniad corfforol ymarferol)
  • Gwrthod (mae'r unigolyn yn gwrthod unrhyw gymorth neu gefnogaeth hyd yn oed os oes eu hangen arno)

The Reablement Plan

Use this format to write a reablement plan for an elderly patient returning home after a stay in hospital. Make adaptations week by week as the patient improves

Y Cynllun Ail-alluogi

Defnyddiwch y fformat hwn i ysgrifennu cynllun ail-alluogi ar gyfer claf oedrannus sy'n dychwelyd adref ar ôl cyfnod yn yr ysbyty. Gwnewch addasiadau fesul wythnos wrth i'r claf wella.

Below is a model of a reablement plan used by occupational therapists following an initial assessment at the point of discharge from hospital.

Support Plan for Rebecca Jones. Assessment date: June 2019

Current level of support: Rebecca requires support with all aspects of daily living following her stay in hospital.

Aim: for Rebecca to regain confidence in her ability to care for herself and return to optimum independence and capacity.

Tasks:

  1. To support Rebecca in learning to wash her face, neck, upper body and arms using a perching stool for stability.
  2. To help Rebecca understand and manage her medication to become independent.

Initial Assessment: Rebecca, aged 77, has been discharged from hospital following a hip replacement. She is anxious about her ability to manage at home although states that she would like to remain at home and be independent of carers. She will rely on her family network for shopping and paying bills. I can see no reason why Rebecca should not accomplish her goals of washing and managing medication.

Week 1 – 10/06/2019 – Progress report (to be completed by reablement assistant)

During the first week with Rebecca we have been building up a rapport and she is learning to trust me that I will not let her fall when moving around her home. She has been supported every day to wash and has required a high level of support. I have held one arm to stabilise her as she washes the other side of her body.

Medication - Rebecca has needed minimal assistance with her medication and more reassurance rather than practical support that she was doing it right.

Week 2 – 17/06/2019

Rebecca made good progress this week. On Monday and Tuesday, she needed a high level of support. On Wednesday I sat on the side of the bath and withdrew from holding her arm and waist, she completed her washing without support and did so for the rest of the week. She is now at moderate support level.

Medication – prompted Rebecca to take medication morning and evening, she completed this task independently.

Isod ceir model o gynllun ail-alluogi a ddefnyddir gan therapyddion galwedigaethol yn dilyn asesiad cychwynnol pan gaiff yr unigolyn ei ryddhau o'r ysbyty.

Cynllun Cymorth Rebecca Jones. Dyddiad asesu: Mehefin 2019

Lefel bresennol o gymorth: Mae angen cymorth ar Rebecca ar gyfer pob agwedd ar fywyd pob dydd yn dilyn ei harhosiad yn yr ysbyty.

Nod: i Rebecca adennill hyder yn ei gallu i ofalu amdani hi ei hun a dychwelyd i'w lefel orau o annibyniaeth a gallu.

Tasgau:

  1. Cefnogi Rebecca i ddysgu sut i olchi ei hwyneb, ei gwddf, rhan uchaf ei chorff a'i breichiau gan ddefnyddio stôl i sefydlogi ei hun.
  2. Helpu Rebecca i ddeall a rheoli ei meddyginiaeth a dod yn annibynnol.

Asesiad Cychwynnol: Mae Rebecca, 77 oed, wedi cael ei rhyddhau o'r ysbyty ar ôl cael clun newydd. Mae'n bryderus am ei gallu i ymdopi gartref er ei bod yn dweud yr hoffai aros gartref a bod yn annibynnol heb fod angen gofalwyr. Bydd yn dibynnu ar ei theulu ar gyfer siopa a thalu biliau. Ni allaf weld unrhyw reswm pam na ddylai Rebecca allu cyflawni ei nodau o ymolchi a rheoli meddyginiaeth.

Wythnos 1 – 10/06/2019 – Adroddiad cynnydd (i'w gwblhau gan gynorthwy-ydd ail-alluogi)

Yn ystod yr wythnos gyntaf gyda Rebecca rydym wedi bod yn meithrin cydberthynas ac mae'n dysgu i ymddiried ynof na fyddaf yn gadael iddi gwympo wrth symud o amgylch ei chartref. Mae wedi cael ei chefnogi i ymolchi bob dydd ac mae hyn wedi gofyn am lefel uchel o gymorth. Rwyf wedi gafael mewn un fraich i'w sefydlogi wrth iddi ymolchi ochr arall ei chorff.

Meddyginiaeth - mae Rebecca wedi gallu rheoli ei meddyginiaeth heb lawer o gymorth. Roedd angen sicrwydd arni ei bod yn ei wneud yn gywir yn hytrach na chymorth ymarferol.

Wythnos 2 – 17/06/2019

Gwnaeth Rebecca gynnydd da yr wythnos hon. Roedd angen lefel uchel o gymorth arni ddydd Llun a dydd Mawrth. Ddydd Mercher eisteddais ar ymyl y bath a pheidio â gafael yn ei braich a'i gwasg, gorffennodd ymolchi heb gymorth a pharhaodd i wneud hynny am weddill yr wythnos. Mae hi bellach ar lefel gymedrol o gymorth.

Meddyginiaeth – Atgoffais Rebecca i gymryd meddyginiaeth yn y bore a'r nos a chwblhaodd y dasg hon yn annibynnol.