Introduction

Cyflwyniad

Supporting individuals and their families/carers to understand the diagnosis of dementia and what the impact might be for all can help them to plan for the present and future needs. Planning early on can have a positive impact on enabling the individual and families/carers to know what support is available and ensure that the needs of all that can be affected are considered and supported.

Gall helpu unigolion a'u teuluoedd/gofalwyr i ddeall y diagnosis o ddementia a'r effaith bosibl ar bawb eu helpu i gynllunio ar gyfer yr anghenion nawr ac yn y dyfodol. Gall cynllunio'n gynnar gael effaith gadarnhaol ar y broses o alluogi unigolion a'u teuluoedd/gofalwyr i wybod pa gymorth sydd ar gael a sicrhau bod anghenion pawb y gall hyn effeithio arnynt yn cael eu hystyried a'u cefnogi.

The importance of early diagnosis

Pwysigrwydd diagnosis cynnar

Doctor on a home visit

Early diagnosis is important with dementia as it is a life changing condition, not only for the individual, but also for their loved ones.

Early diagnosis can provide support for the care and treatment required and enable the individual to still be involved in decisions whilst they are able to and plan for a time when they lack the capacity to make specific decisions.

It can provide practical advice for the person with the diagnosis and others around them as they all face new challenges, for example if the person has to give up work, they may benefit from support with finances.

Mae diagnosis cynnar yn bwysig yn achos dementia am ei fod yn gyflwr sy'n newid bywyd – nid yn unig i'r unigolyn, ond i'w anwyliaid hefyd.

Gall diagnosis cynnar helpu gyda'r gofal a'r driniaeth sydd eu hangen a galluogi'r unigolyn i gael ei gynnwys yn y penderfyniadau o hyd, tra bo hynny'n bosibl cynllunio ar gyfer cyfnod pan nad oes ganddynt y galluedd i wneud penderfyniadau penodol.

Gall ddarparu cyngor ymarferol i'r unigolyn sydd â'r diagnosis ac eraill o'i gwmpas gan eu bod i gyd yn wynebu heriau newydd, er enghraifft os bydd rhaid i'r unigolyn roi'r gorau i weithio, gallant elwa o gymorth ag arian.

Potential impacts of diagnosis and how these will differ across individuals and families/carers

Effeithiau posibl diagnosis a'r ffordd y byddant yn amrywio rhwng unigolion a theuluoedd/gofalwyr

People will react differently to a diagnosis of dementia. For some, it may be a relief to know why things have changed. Some people will disbelieve the diagnosis and insist there is nothing wrong, whilst others may become fearful; all of which may lead to a change in behaviour.

Risks to mental health can arise when an individual becomes depressed about their dementia diagnosis and withdraws from social activities. Family/carers could be affected because of the physical and emotional impact on them as carers, which can lead to a negative impact on their mental health.

Some signs of a decline in an individual’s mental health are:

  • social isolation
  • relationship issues
  • personal losses experienced
  • maladjustment to diagnosis
  • fear

These will differ across individuals and families/carers. Some cultures will look at an individual with dementia with shame as they have brought a curse or something dreadful into the family. Cultures struggle to cope with the decline in the individual’s ability to look after themselves and things like personal care can be a problem.

Bydd pobl yn ymateb yn wahanol i ddiagnosis o ddementia. I rai, gallai fod yn rhyddhad gwybod pam mae pethau wedi newid. Bydd rhai pobl yn gwadu'r diagnosis ac yn mynnu nad oes unrhyw beth o'i le, tra gallai eraill fynd yn ofnus; gallai pob un ohonynt arwain at newid yn ei hymddygiad.

Gall diagnosis o ddementia beri risg i iechyd meddwl am fod yr unigolyn yn mynd yn isel ynglŷn â'r diagnosis a chilio rhag gweithgareddau cymdeithasol. Gallai hyn effeithio ar aelodau o'r teulu/gofalwyr oherwydd yr effaith gorfforol ac emosiynol arnynt fel gofalwyr, a all arwain at effaith negatif ar eu hiechyd meddwl.

Ymhlith yr arwyddion bod iechyd meddwl unigolyn yn dirywio mae:

  • ynysu cymdeithasol
  • problemau perthynas
  • profi colled bersonol
  • diffyg ymaddasu i ddiagnosis
  • ofn.

Bydd y rhain yn amrywio rhwng unigolion a theuluoedd/gofalwyr. Bydd rhai diwylliannau'n edrych ar unigolyn â dementia â chywilydd fel petaent wedi dod â melltith neu rywbeth ofnadwy i mewn i'r teulu. Mae rhai diwylliannau'n ei chael hi'n anodd ymdopi â'r dirywiad yng ngallu'r unigolyn i ofalu amdano ei hun a gall pethau fel gofal personol fod yn broblem.

The support that can be provided by other agencies, professionals and from communities and networks

Y cymorth y gall asiantaethau eraill, gweithwyr proffesiynol a chymunedau a rhwydweithiau ei roi

Elderly man and carer

There are many types of support for individuals with dementia and their families/carers.

Health services can offer support from a range of specialist professionals, trained to support the changing needs of a person with dementia.

People may benefit from reablement services.

Domiciliary care agencies can provide home visits to the individual to carry out specific tasks in order for them to continue to live at home. Things like personal care, preparing a meal or reminders to take medication. There would be a care and support plan documenting all of the requirements of the individual.

Care homes provide around the clock, 24-hour care for an individual who can no longer live alone and meets the assessment criteria for living in a care home. The individual’s local council can carry out the assessment of their needs as well as the affordability of the care service.

An advocacy service can ensure that any questions that the individual is unable to raise are raised on their behalf. The advocate would have to get to know the individual over a period of time and/or work with the family/cares of the individual to get to know them as well. They would always act in the best interests of the individual.

Charities like the Alzheimer’s Society (Cymru), Dementia UK, Age Cymru and more aim to improve the lives of individuals living with dementia through offering practical support and advice on things like choosing a care home or advanced care planning.

The Dementia Helpline Wales can offer emotional support.

There are many forums available to join, and books and leaflets are available for more information.

An individual's GP can refer them to relevant services and provide information about many of these services to get the wheels in motion.

Mae llawer o fathau o gymorth ar gael i unigolion â dementia a'u teuluoedd/gofalwyr.

Gall gwasanaethau iechyd gynnig cymorth gan ystod o weithwyr proffesiynol arbenigol, wedi'u hyfforddi i gefnogi anghenion newidiol unigolyn â dementia.

Efallai y bydd cwsmeriaid yn elwa o wasanaethau ailalluogi.

Gall asiantaethau gofal cartref gynnal ymweliadau â chartref yr unigolyn i gyflawni tasgau penodol er mwyn iddo barhau i fyw gartref. Pethau fel gofal personol, paratoi pryd o fwyd neu atgoffa i gymryd meddyginiaeth. Byddai cynllun gofal a chymorth ar waith sy'n dogfennu holl ofynion yr unigolyn.

Mae cartrefi gofal yn rhoi gofal bob awr o'r dydd i unigolyn nad yw'n gallu byw ar ei ben ei hun mwyach ac sy'n bodloni'r meini prawf asesu ar gyfer byw mewn cartref gofal. Gall cyngor lleol yr unigolyn gynnal asesiad o'u anghenion yn ogystal â fforddiadwyedd y gwasanaeth gofal.

Gall gwasanaeth eirioli sicrhau bod unrhyw gwestiynau nad yw'r unigolyn yn gallu eu codi yn cael eu codi ar ei ran. Byddai'n rhaid i'r eiriolwr ddod i adnabod yr unigolyn dros gyfnod o amser a/neu weithio gyda theulu/gofalwyr yr unigolyn er mwyn dod i'w hadnabod nhw hefyd. Byddent bob amser yn gweithredu er budd gorau'r unigolyn.

Nod elusennau fel Cymdeithas Alzheimer's (Cymru), Dementia UK, Age Cymru a mwy yw gwella bywydau unigolion sy’n byw â dementia trwy gynnig cymorth a chyngor ymarferol ar bethau fel dewis cartref gofal neu gynllunio gofal uwch.

Gall Llinell Gymorth Dementia Cymru gynnig cefnogaeth emosiynol.

Mae llawer o fforymau ar gael y gellir ymuno â nhw, ac mae llyfrau a thaflenni ar gael sy'n cynnig rhagor o wybodaeth.

Gall meddyg teulu eu hatgyfeirio'r at wasanaethau perthnasol a chynnig gwybodaeth am lawer o'r gwasanaethau hyn er mwyn dechrau'r broses.

The importance of providing individuals and their families/carers with timely information and advice at the time of diagnosis and throughout their dementia journey

Pwysigrwydd rhoi gwybodaeth a chyngor amserol i unigolion a'u teuluoedd/gofalwyr ar adeg diagnosis a thrwy gydol eu taith dementia

Time

When providing timely advice for individuals and their families/carers, it is important to provide them with enough information for them to know what is happening, what the impact of the dementia can be and what support is available for the individual and families/carers.

Receiving information and support, in a way that they can understand, can enable the individual to live independently for as long as possible.

For some people, getting information and advice and time to explore their options can reduce anxiety and stress; however, it is important to recognise that some people may become overwhelmed with too much information and prefer to “cross that bridge when they come to it”.

Pan yn rhoi cyngor amserol i unigolion a'u teuluoedd/gofalwyr, mae’n bwysig rhoi digon o wybodaeth iddynt allu gwybod beth sy'n digwydd, beth yw effaith bosibl dementia a sut i gael gwybod pa gymorth sydd ar gael i’r unigolion a’u teuluoedd/gofalwyr.

Mae cael gwybodaeth a chymorth mewn ffordd sy’n ddealladwy i’r unigolyn, yn eu galluogi i fyw'n annibynnol am gymaint o amser â phosibl.

I rai pobl, gall cael gwybodaeth a chyngor ac amser i gysidro eu hopsiynau leihau pryder a straen; fodd bynnag, mae'n bwysig cydnabod y gallai rhai pobl gael eu gorlethu â gormod o wybodaeth ac mae'n well ganddynt “groesi'r bont honno wrth ddod ati”.

How understanding dementia can be empowering for individuals and families/carers

Sut y gall deall dementia rymuso unigolion a theuluoedd/gofalwyr

Reading to relative

For some people, knowledge is power, and understanding the dementia and knowing what help and support is available can help equip the individual with relevant information and peace of mind to help reduce the amount of worry and stress caused.

Knowing what the impact is going to be both in the short and long term can help individuals and their families/carers plan together. The emotional impact would be positive for all knowing that the choices and rights of the individual have been taken on board and the individual would feel in control.

Mae meddiannu gwybodaeth yn hynod o bwysig i rai a gall deall dementia a gwybod pa gymorth a chefnogaeth sydd ar gael helpu i sicrhau bod unigolion yn meddu ar wybodaeth berthnasol ac yn cael tawelwch meddwl er mwyn helpu i leihau'r pryder a'r straen a achosir.

Gall gwybod beth fydd yr effaith yn y byrdymor a'r hirdymor helpu unigolion a'u teuluoedd/gofalwyr i gynllunio gyda'i gilydd. Byddai'r effaith emosiynol yn gadarnhaol i bawb o wybod bod dewisiadau a hawliau'r unigolyn wedi cael eu hystyried a byddai'r unigolyn yn teimlo bod ganddo reolaeth.

Timely use of interventions and adaptations that support ongoing independence following diagnosis

Defnydd amserol o ymyriadau ac addasiadau sy'n cefnogi annibyniaeth barhaus ar ôl diagnosis

Staying independent can be valuable to the individual who is experiencing changes as a result of their diagnosis of dementia. Individuals will feel happier being able to manage their daily life as best they can, and families/carers may feel reassured that their relative’s safety and security needs are being met.

A variety of aids, equipment and adaptations are available, including assistive technology, which can enable a person to be as independent as possible for as long as possible.

Items may support safety, such as door sensors or fire alarms, or independence, such as a raised toilet seat. Memory prompts to remind people to take medication at a certain time, or signs to help orientation may also help.

Advice should be sought from an Occupational Therapist, who can assess individual needs.

In addition, establishing habits and routines and learning new coping strategies can enable people to be independent for longer.

Gall aros yn annibynnol fod yn werthfawr i'r unigolyn sy'n profi newidiadau wrth ddod i ddeall y diagnosis o ddementia. Bydd unigolion yn teimlo'n hapusach os ydynt yn gallu rheoli eu bywyd beunyddiol fel yr oeddent cyn y diagnosis a bydd teuluoedd/gofalwyr yn cael tawelwch meddwl o wybod bod diogelwch eu perthynas yn cael ei gynnal.

Mae amrywiaeth o gymhorthion, cyfarpar ac addasiadau ar gael, gan gynnwys technoleg gynorthwyol, a all alluogi person i fod mor annibynnol â phosibl am gymaint o amser ag y bo modd.

Gall eitemau gefnogi diogelwch, fel synwyryddion drysau neu larymau tân, neu annibyniaeth fel sedd toiled uchel. Mae prociau cof ar gael i atgoffa pobl i gymryd meddyginiaeth ar amser penodol, neu gallai arwyddion i helpu cyfeiriadedd fod o gymorth hefyd.

Dylid ceisio cyngor gan Therapydd Galwedigaethol, a all asesu anghenion unigol.

Yn ogystal, gall sefydlu arferion a threfniadau arferol a dysgu strategaethau ymdopi newydd alluogi pobl i fod yn annibynnol am fwy o amser.

The importance of continually reviewing and adapting approach and support as dementia progresses

Pwysigrwydd adolygu ac addasu'r dull gweithredu a'r cymorth yn barhaus wrth i ddementia ddatblygu

As an individual’s dementia progresses, there would be an on-going requirement to continuously review the approaches as their requirements could change on an hourly or daily basis.

Communication, physical interventions and support for other daily tasks might need adjusting at certain times of the day when the symptoms of dementia are more apparent, for example when the person is tired or may be experiencing symptoms of Sundown Syndrome.

Sundown Syndrome is a worsening of symptoms, commonly associated with the early evening, when the sun is going down.

A review of the individual's needs would be carried out to ensure that the care and support is sufficient and is meeting the individual’s needs. Plans can be adapted and put in place for later stages with the individual’s best interests at heart.

Reviewing the support can reassure the individuals as their condition worsens, make sure they are happy, and ensure their choices are taken into consideration and discussed. Having regular health checks can ensure that any underlying conditions are not missed, and the correct treatment is given.

Wrth i ddementia unigolyn ddatblygu, byddai angen adolygu'r dulliau gweithredu'n barhaus gan y gallai ei ofynion newid bob awr neu'n ddyddiol.

Efallai y bydd angen addasu cyfathrebu, ymyriadau corfforol a chefnogaeth ar gyfer tasgau dyddiol eraill ar rai adegau o'r dydd pan fydd symptomau dementia yn amlycach, er enghraifft pan fydd yr unigolyn wedi blino neu pan fydd yn profi symptomau Syndrom Machlud Haul (Sundown Syndrome).

Mae Syndrom Machlud Haul yn gwaethygu'r symptomau, sy'n gysylltiedig yn aml â'r noswaith gynnar, pan fydd yr haul yn machlud.

Byddai adolygiad o anghenion yr unigolyn yn cael ei gynnal er mwyn sicrhau bod y gofal a'r cymorth yn ddigonol ac yn diwallu ei anghenion. Gellir addasu cynlluniau a'u rhoi ar waith ar gyfer y camau diweddarach gyda budd gorau'r unigolyn mewn golwg.

Drwy adolygu'r cymorth, gellir rhoi tawelwch meddwl i'r unigolion wrth i'w cyflwr waethygu a gwneud yn siŵr eu bod yn hapus a sicrhau bod eu dewisiadau'n cael eu hystyried a'u trafod. Gall cynnal archwiliadau iechyd rheolaidd sicrhau nad yw unrhyw gyflyrau sylfaenol yn cael eu colli a bod y driniaeth gywir yn cael ei rhoi.

The importance of planning for the future

Pwysigrwydd cynllunio ar gyfer y dyfodol

Social care at home

Planning for the future is vital for individuals with dementia and their families/carers. Knowing what their decisions are before the dementia progresses will help alleviate any worries that they might have and any disagreements. Having these conversations early on can help to iron out any disagreements and enable the individual to make decisions for themselves.

It is important to remember that next of kin cannot make decisions on behalf of their relative when that person lacks capacity. They are able to make specific decisions in the person’s best interests only when appointed to do so, when a valid and applicable Lasting Power of Attorney (LPA) is in place.

Making an LPA early ensures that future decisions are made by someone that the person with dementia has chosen to do so.

http://bit.ly/2Nh11DB

Mae cynllunio ar gyfer y dyfodol yn hollbwysig i unigolion â dementia a'u teuluoedd/gofalwyr. Bydd gwybod beth yw eu penderfyniadau cyn i'r dementia ddatblygu yn helpu i leddfu unrhyw bryderon a allai fod ganddynt ac unrhyw beth y maent yn anghytuno yn ei gylch. Gall cael y sgyrsiau yma yn gynnar helpu i ddelio gydag unrhyw anghytundebau a galluogi’r unigolyn i wneud penderfyniadau drostynt eu hunain.

Mae’n bwysig cofio na all eu perthynas agosaf wneud penderfyniadau ar ran eu perthnasau pan nad oes gan y person hwnnw'r gallu. Dim ond pan gant eu penodi i wneud hynny y gallant wneud penderfyniadau penodol er budd gorau’r unigolyn, Atwrneiaeth Barhaus dilys a chymwysadwy ar gael.

Mae gwneud Atwrneiaeth Barhaus yn gynnar yn sicrhau bod penderfyniadau sy’n cael eu gwneud yn y dyfodol yn cael eu gwneud gan rywun y mae’r person a dementia wedi ei dewis i wneud hynny.

http://bit.ly/2Nh11DB

Actively listening to how individuals and families/carers are feeling as they adjust to living with dementia

Gwrando'n weithredol ar y ffordd mae unigolion a theuluoedd/gofalwyr yn teimlo wrth iddynt addasu i fyw gyda dementia

People holding emoticons

Actively listening involves giving eye contact during communication, showing expressions, showing you’re interested, not interrupting and giving your full attention when listening to them.

Regular meetings with the individuals/families/carers to discuss their concerns and questions will ensure that continuity of care and support is provided, ensuring that communication is a two-way process.

Mae gwrando gweithredol yn golygu rhoi cyswllt llygaid wrth gyfathrebu, dangos mynegiant, dangos bod gennych ddiddordeb, peidio â thorri ar draws a rhoi eich sylw llawn wrth wrando.

Bydd cyfarfodydd rheolaidd â'r unigolion/teuluoedd/gofalwyr i drafod eu pryderon a'u cwestiynau yn sicrhau parhad gofal a chymorth, gan sicrhau mai proses ddwyffordd yw cyfathrebu.

Recognising the impacts of a diagnosis of dementia on individuals and their families/carers

Cydnabod effeithiau diagnosis o ddementia ar unigolion a'u teuluoedd/gofalwyr

Resting hands and chin walking stick

A diagnosis of dementia can have a massive impact on the individuals and their families/carers.

It could be difficult for the individual to accept their diagnosis and they could be in denial or may not tell others due to feeling ashamed or less worthy. If the individual were to become depressed and anxious this could affect their mental health and the choices that they make in life. They may not choose to access the correct care and services which could be detrimental to their well-being.

The family/carers could be worried and might stop visiting the individual whilst they struggle with their feelings of loss or stress and worries about what the future might hold for the individual. They might not be able to ask the right questions or know what direction to turn to for help and support. This could be detrimental to both the person with dementia and the family carer, and could result in social isolation.

The impact could be financial as they may not be able to afford the care or support the individual requires, or the basic needs of the individual may not be met if they have to give up work and there is a reduction in household income. There may be hidden financial costs, such as the use of taxis to get to appointments if the person has stopped driving, or increased fuel bills if spending longer at home. Without their basic needs being met their appearance could become unkempt, and their nutrition and general health and well-being could be affected.

Gall diagnosis o ddementia gael effaith enfawr ar yr unigolion a'u teuluoedd/gofalwyr.

Gallai fod yn anodd i'r unigolyn dderbyn ei ddiagnosis a gallai wadu'r peth neu efallai na fyddant yn dweud wrth eraill oherwydd eu bod yn teimlo cywilydd neu'n llai teilwng. Pe byddai'r unigolyn yn mynd yn isel ei ysbryd ac yn orbryderus gallai hyn effeithio ar ei iechyd meddwl a'r dewisiadau y mae'n eu gwneud mewn bywyd. Efallai na fydd yn dewis cyrchu'r gofal a gwasanaethau cywir a allai fod yn niweidiol i'w les.

Gallai aelodau'r teulu/gofalwyr bryderu a rhoi'r gorau i ymweld â'r unigolyn wrth iddynt geisio ymdopi â'u teimladau o golled neu straen a'u pryderon am ddyfodol yr unigolyn. Efallai na fyddant yn gallu gofyn y cwestiynau cywir nac yn gwybod ble i droi am gymorth a chefnogaeth. Gallai hyn fod yn niweidiol i'r unigolyn â dementia a'r gofalwr teulu, a gallai arwain at unigedd cymdeithasol.

Gallai'r effaith fod yn ariannol am na allant fforddio'r gofal neu'r cymorth sydd eu hangen ar yr unigolyn o bosibl, neu efallai na chaiff yr anghenion sylfaenol eu diwallu os bydd yn rhaid iddynt roi'r gorau i weithio, gan arwain at leihad yn incwm y cartref. Efallai y bydd costau ariannol cudd fel defnyddio tacsis i gyrraedd apwyntiadau os yw'r unigolyn wedi rhoi'r gorau i yrru, neu filiau tanwydd cynyddol os yw'n treulio mwy o amser yn ei gartref. Heb i anghenion sylfaenol yr unigolyn gael eu diwallu, gallai fynd i edrych yn anniben a gallai fod effaith ar ei faeth, ei iechyd a'i les cyffredinol.

Supporting access to timely information and advice for families/carers

Helpu teuluoedd/gofalwyr i gael gwybodaeth a chyngor amserol

As a care worker you can be a valuable source of information for families/carers. Providing timely advice is vital in reducing the anxieties or worries and concerns in relation to the dementia.

Sharing knowledge and understanding of dementia, discussions about the support available and being able to consider the individual’s wishes early on can reduce stress and allow for the changes to be made early on.

Your knowledge of other services and disciplines and knowing when and how to access specialist advice and support is paramount. Arranging for family to be present (with the consent of the individual) at any health care appointments may be appropriate. Also, knowledge of local clubs and social events suitable for the person (e.g. a dementia choir, or dementia friendly cinema experiences) to pass onto the family may reduce the impact on them.

Fel gweithiwr ofal, gallwch fod yn ffynhonnell werthfawr o wybodaeth i deuluoedd/gofalwyr. Mae rhoi cyngor amserol yn hollbwysig er mwyn lleihau'r pryderon neu'r gofidion mewn perthynas â dementia.

Gall rhannu gwybodaeth a dealltwriaeth o ddementia, trafodaethau am y cymorth sydd ar gael ac ystyried dymuniadau'r unigolyn yn gynnar leihau straen a sicrhau bod modd gwneud y newidiadau'n gynnar.

Mae eich gwybodaeth o wasanaethau a disgyblaethau eraill a gwybod pryd a sut i gael gafael ar gyngor a chymorth arbenigol o'r pwys mwyaf. Efallai y bydd yn briodol trefnu i'r teulu fod yn bresennol (â chaniatâd yr unigolyn) mewn unrhyw apwyntiadau gofal iechyd. Hefyd, gallai gwybodaeth am glybiau a digwyddiadau cymdeithasol lleol sy'n addas i'r unigolyn (e.e. côr dementia, neu brofiadau sinema sy'n gyfeillgar i ddementia) i'w trosglwyddo i'r teulu, leihau'r effaith arnynt.

Using the Senses Framework to inform support for individuals and their families/carers to help them manage transitions and adjust to change

Defnyddio'r Fframwaith Synhwyrau i lywio cymorth i unigolion a'u teuluoedd/gofalwyr er mwyn eu helpu i reoli cyfnodau pontio ac addasu i newid

Care giver helping elderly woman

Ways to work to support individuals and their families/carers to help them manage transitions and adjust to the changes would be:

  • SECURITY: Ensuring that the individual is secure and safe. Find out about adaptions to enable the individual to stay living at home, maintain safety and security for as long as is appropriate. If moving into a care setting, make the individuals and their families/carers aware that the service would have a duty of care to protect the individual, giving peace of mind to the family/carers.
  • CONTINUITY: Recognising what the person is doing now has links to the person’s past.
  • BELONGING: Delivering care while continuing to make the individual feel important and that they have a role to play. Enabling them to live as independently as possible, to actively participate in life, with the appropriate level of care and support.
  • PURPOSE: Making the individual still feel they have a valid role in life by helping them to maintain relationships with family/carers/friends. This can give the individual a sense of purpose when they are coming to terms with their diagnosis and take their mind off the symptoms knowing that their family/carers are still around.
  • ACHIEVEMENT: Using praise for individuals when they achieve something, their day has gone well, or they are telling you about something positive from the day can make a whole world of difference to them coping with the changes, as long as it is not done in a patronizing, or child-like way. Providing positive responses to their achievements can boost their confidence and give them a sense of achievement.
  • SIGNIFICANCE: Involving people in decisions about their dementia, choices about where they live and with whom, and decisions about their future wishes gives the person a sense of value, that their opinions matter and their views are important.

Ymhlith y ffyrdd o weithio i gefnogi unigolion a'u teuluoedd/gofalwyr er mwyn eu helpu i reoli cyfnodau pontio ac addasu i'r newidiadau mae:

  • DIOGELWCH: Sicrhau bod yr unigolyn yn ddiogel. Dysgu am addasiadau er mwyn galluogi'r unigolyn i barhau i fyw gartref a chynnal ei ddiogelwch mor hir a sy’n addas. Os yw'r unigolyn yn symud i leoliad gofal, sicrhau bod yr unigolyn a'i deulu/gofalwyr yn ymwybodol y bydd gan y gwasanaeth ddyletswydd gofal i ddiogelu'r unigolyn a rhoi tawelwch meddwl i'r teulu/gofalwyr.
  • PARHAD: Mae cydnabod yr hyn mae'r unigolyn yn ei wneud nawr yn cyflwyno cysylltiadau â gorffennol yr unigolyn.
  • YMBERTHYN: Darparu gofal wrth barhau i wneud i'r unigolyn deimlo'n bwysig a bod ganddo rôl i'w chwarae. Eu galluogi i fyw mor annibynnol â phosibl, i gymryd rhan weithredol mewn bywyd, â'r lefel briodol o ofal a chefnogaeth.
  • PWRPAS: Gwneud i'r unigolyn deimlo bod ganddo rôl ddilys mewn bywyd o hyd drwy ei helpu i gynnal cydberthnasau â theulu/gofalwyr/ffrindiau. Gall hyn roi ymdeimlad o bwrpas i'r unigolyn pan fydd yn dygymod â'i ddiagnosis, a thynnu ei feddwl oddi ar y symptomau o wybod bod ei deulu/gofalwyr yn dal i fod o fewn cyrraedd.
  • CYFLAWNI: Gall canmol unigolion pan fyddant yn cyflawni rhywbeth, pan fyddant wedi cael diwrnod da neu pan fyddant yn dweud rhywbeth cadarnhaol am y diwrnod wneud byd o wahaniaeth i'w helpu i ymdopi â'r newidiadau, gyn belled nad yw mewn ffordd nawddoglyd na phlentynnaidd. Gall ymateb yn gadarnhaol i'r hyn y byddant yn ei gyflawni roi hwb i'w hyder a rhoi ymdeimlad o gyflawniad iddynt.
  • ARWYDDOCÂD: Mae cynnwys pobl mewn penderfyniadau ynghylch eu dementia, dewisiadau ynghylch ble maent yn byw a gyda phwy, a phenderfyniadau am eu dymuniadau yn y dyfodol yn rhoi ymdeimlad o werth i'r unigolyn, bod eu barn o bwys a bod eu safbwyntiau'n bwysig.

Supporting individuals and their families/carers to plan for the future

Helpu unigolion a'u teuluoedd/gofalwyr i gynllunio ar gyfer y dyfodol

Planner

There are some simple and practical things that you, as a care worker, can do to support individuals to plan for the future. This may include helping an individual to establish routines such as always putting the door key in the same place; using calendars and other memory prompts to help the individual to remember appointments; or suggesting introducing aids and equipment at an appropriate time.

Having a knowledge and understanding of the law and local services and resources can help you to signpost to appropriate advice where appropriate, ensuring that the individual with dementia is supported to make as many decisions for themselves as they are able, and significant others feel supported and informed.

Mae rhai pethau syml ac ymarferol y gallwch chi, fel gweithiwr gofal, eu gwneud er mwyn cynorthwyo unigolion i gynllunio ar gyfer y dyfodol. Gall hyn gynnwys helpu unigolyn i sefydlu arferion megis rhoi allwedd y drws yn yr un lle bob amser; defnyddio calendrau a phrociau cof eraill i helpu'r unigolyn i gofio apwyntiadau; neu awgrymu cyflwyno cymhorthion a chyfarpar ar amser priodol.

Gall bod â gwybodaeth a dealltwriaeth o'r gyfraith a gwasanaethau ac adnoddau lleol eich helpu i gyfeirio at gyngor priodol lle mae'n briodol, gan sicrhau bod yr unigolyn â dementia yn cael ei gefnogi i wneud cymaint o benderfyniadau drosto ei hunain ag y gall, a bod pobl eraill arwyddocaol yn teimlo eu bod yn derbyn cefnogaeth a gwybodaeth.