As a practitioner you want to provide the best care possible for the children in your setting. Reflective practice is an excellent way to maintain and continually improve the quality of your practice.
Reflective practice is the process of thinking about and analysing your practice, with the aim of challenging, changing, modifying, developing and improving it. This should be a continuous cycle of reflection and improvement.
To be a reflective practitioner you need to be able to take a balanced view of your practice, recognise and celebrate your strengths and what works well but acknowledge what could be improved. Evaluating your practice will help you to identify your professional development needs and, over time, will support you to become more confident in your practice.
Through reflection and continual improvement you will achieve better outcomes for children. Think about some of the other benefits this could include for them:
The process will also benefit parents and carers, as they will be able to see changes in your practice and feel confident that the care you are providing is high quality and constantly improving.
Continually reflecting on your practice will:
Continuous Professional Development (CPD) is how professionals maintain, improve and broaden their knowledge and skills to ensure a positive improvement on their practice and keep up to date. Undertaking CPD will help you increase in confidence and skills, offering a better service for the families you work with.
The followimg examples would contribute to continuous professional development (CPD).
Fel ymarferydd, rydych am ddarparu'r gofal gorau posibl i'r plant yn eich lleoliad. Mae ymarfer myfyriol yn ffordd wych o gynnal a gwella ansawdd eich ymarfer yn barhaus.
Proses o feddwl am eich ymarfer a'i ddadansoddi yw ymarfer myfyriol, sydd â'r nod o'i herio, ei newid, ei addasu, ei ddatblygu a'i wella. Dylai hyn fod yn gylch parhaus o fyfyrio a gwella.
Er mwyn bod yn ymarferydd myfyriol, mae angen i chi edrych ar eich ymarfer mewn ffordd gytbwys, nodi a dathlu eich cryfderau a'r hyn sy'n gweithio'n dda, ond cydnabod yr hyn y gellid ei wella. Bydd gwerthuso eich ymarfer yn eich helpu i nodi eich anghenion datblygu proffesiynol a, thros amser, bydd yn eich cefnogi i feithrin hyder yn eich ymarfer.
Drwy fyfyrio a gwella'n barhaus, byddwch yn cyflawni canlyniadau gwell i'r plant. Ystyriwch rai o'r manteision eraill i'r plant y gallai hyn gynnwys:
Bydd y broses hefyd yn fuddiol i rieni a gofalwyr, am y byddant yn gallu gweld y newidiadau yn eich ymarfer a theimlo'n hyderus bod y gofal rydych yn ei ddarparu o ansawdd uchel ac yn gwella'n barhaus.
Bydd myfyrio ar eich ymarfer yn barhaus yn:
Drwy Ddatblygiad Proffesiynol Parhaus (DPP), mae gweithwyr proffesiynol yn cynnal, yn gwella ac yn ehangu eu gwybodaeth a'u sgiliau er mwyn sicrhau bod eu hymarfer yn gwella'n gadarnhaol ac yn aros yn gyfredol. Bydd ymgymryd â DPP yn eich helpu i feithrin hyder a sgiliau, gan gynnig gwasanaeth gwell i'r teuluoedd rydych yn gweithio gyda nhw.
Byddai’r enghreifftiau canlynol yn cyfrannu at ddatblygiad proffesiynol parhaus.
There are a number of ways to build positive relationships. Drag the examples to the correct columns.
Mae nifer o ffyrdd o feithrin perthnasoedd cadarnhaol. Llusgwch yr enghreifftiau i'r colofnau cywir.
It is important for practitioners to build positive relationships with professionals for a number of reasons. Having respect for other adults you come across in your work, and working as a team is a big part of professional practice. Listening to different points of view and taking other ideas on board will help them value, trust and respect your role. Working in this way will improve the quality of the setting/service.
Health visitor: has an important role to play in advising and sharing information with parents at critical stages of their children’s lives.
Speech therapist: specifically trained to help people with speech and language problems to speak more clearly.
Play therapist: works using a wide range of play and creative arts techniques, mostly responding to the child's wishes.
Family Information Service: One stop shop, providing free, quality, impartial information on a wide range of childcare, children's, family support and family related issues and where relevant a signposting service.
Social worker: professionally trained to support people to improve their lives by providing support, advice and information to assist people to take control of their lives and make positive changes.
Mae'n bwysig i ymarferwyr feithrin perthnasoedd cadarnhaol â gweithwyr proffesiynol, a hynny am nifer o resymau. Mae parchu oedolion eraill y byddwch yn dod i gysylltiad â nhw yn eich gwaith, a gweithio fel tîm yn rhan fawr o ymarfer proffesiynol. Bydd gwrando ar wahanol safbwyntiau a derbyn syniadau eraill yn eu helpu i werthfawrogi eich rôl, ymddiried ynddi â'i pharchu. Bydd gweithio yn y modd hwn yn gwella ansawdd y lleoliad/gwasanaeth.
Ymwelydd iechyd: mae ganddo rôl bwysig i'w chwarae wrth gynghori rhieni a rhannu gwybodaeth â nhw am gyfnodau pwysig ym mywydau eu plant.
Therapydd lleferydd: mae wedi'i hyfforddi'n benodol i helpu pobl sydd â phroblemau lleferydd ac iaith i siarad yn fwy clir.
Therapydd chwarae: mae'n defnyddio amrywiaeth eang o dechnegau chwarae a chelfyddyd greadigol yn ei waith, gan ymateb gan amlaf i ddymuniadau'r plentyn.
Gwasanaeth Gwybodaeth i Deuluoedd: Siop un stop, sy'n darparu gwybodaeth ddiduedd am ddim am amrywiaeth eang o faterion yn ymwneud â gofal plant, cymorth i blant a theuluoedd a materion teuluol a, lle y bo'n berthnasol, wasanaeth cyfeirio.
Gweithiwr cymdeithasol: wedi'i hyfforddi'n broffesiynol i gefnogi pobl i wella eu bywydau drwy ddarparu cymorth, cyngor a gwybodaeth i gynorthwyo pobl i gymryd rheolaeth o'u bywydau a gwneud newidiadau cadarnhaol.
When building and developing relationships, it's important that practitioners adhere to professional boundaries. Clear professional boundaries allow safe connections between practitioners and children, families/carers and professionals. This means that practitioners need to consider their relationships with all people with whom they interact, and have a clear understanding of the responsibilities and requirements of their role. Practitioners need to be friendly with parents, but not be their friends. This helps practitioners to concentrate on their responsibilities to the family and supports the provision of a fair and effective service to all.
It is important to maintain confidentiality in homebased childcare. Personal information about the families you work with should not be shared with others. All information about the children you care for should be kept confidential and parental permission gained before sharing any information about a child. The only exception to this would be if it is essential to do so in order to protect the well-being of a child in relation to child protection.
Good practice | Poor practice |
---|---|
Having a dedicated childcare business social media account. | Sharing photos of a night out with parents of children in your care on social media. |
Agreeing, using and reviewing a contract with a family/carer. | Working without a contract. |
Maintaining confidentiality. | Accepting gifts in exchange for a more favourable service. |
Signposting a family to sources of further support. | Discussing with a friend a change to a family’s circumstances. |
Provide privacy to a family/carer to discuss personal issues. | Using racist language. |
Breaking confidentiality to speak to a professional about a child protection concern relating to a child. | Sharing personal information related to a child on a closed group on social media. |
Wrth ddatblygu a meithrin perthnasoedd, mae’n bwysig bod ymarferwyr yn cadw at ffiniau proffesiynol. Mae ffiniau proffesiynol clir yn caniatáu cysylltiadau diogel rhwng ymarferwyr a phlant, teuluoedd/gofalwyr a gweithwyr proffesiynol. Mae hyn yn golygu bod angen i ymarferwyr ystyried eu perthynas â'r holl bobl y maent yn cydweithio â hwy a chael dealltwriaeth glir o gyfrifoldebau a gofynion eu rôl. Mae angen i ymarferwyr fod yn gyfeillgar gyda rhieni, ond nid yn ffrindiau gyda nhw. Mae hyn yn helpu ymarferwyr i ganolbwyntio ar eu cyfrifoldebau i'r teulu ac yn cefnogi gwasanaeth teg ac effeithiol i bawb.
Mae'n bwysig cynnal cyfrinachedd ym maes gofal plant yn y cartref. Ni ddylid rhannu gwybodaeth bersonol am y teuluoedd rydych yn gweithio gyda nhw â phobl eraill. Dylech gadw'r holl wybodaeth am y plant rydych yn gofalu amdanynt yn gyfrinachol a dylid sicrhau cydsyniad rhieni cyn rhannu unrhyw wybodaeth am blentyn. Yr unig eithriad fyddai pe bai'n hanfodol gwneud hynny er mwyn amddiffyn llesiant plentyn mewn perthynas ag amddiffyn plant.
Arfer da | Arfer gwael |
---|---|
Cael cyfrif cyfryngau cymdeithasol penodol ar gyfer y busnes gofal plant. | Rhannu ffotograffau o noson allan gyda rhieni plant yn eich gofal ar y cyfryngau cymdeithasol. |
Cytuno ar gontract gyda theulu/gofalwr, ei ddefnyddio a'i adolygu. | Gweithio heb gontract. |
Cynnal cyfrinachedd. | Derbyn rhoddion yn gyfnewid am wasanaeth mwy ffafriol. |
Cyfeirio teulu at ffynonellau cymorth pellach. | Trafod newid i amgylchiadau teulu gyda ffrind. |
Rhoi preifatrwydd i deulu/gofalwr er mwyn trafod materion personol. | Defnyddio iaith hiliol. |
Torri cyfrinachedd i siarad â gweithiwr proffesiynol am bryder ynghylch amddiffyn plant sy'n ymwneud â phlentyn. | Rhannu gwybodaeth bersonol am blentyn ar grŵp caeedig ar y cyfryngau cymdeithasol. |
From 25th May 2018, practitioners must refer to the General Data Protection Regulation (GDPR). This replaces the Data Protection Act 1998 and strengthens the requirement to be clear and transparent about the use of personal and sensitive data, keep records that are accurate, relevant and up-to-date and ensure all records are kept securely and for no longer than is necessary for the purpose.
Homebased childcare providers need to check whether they need to register with the Information Commissioner’s Office if storing any personal information in a digital format – for example photographs, development plans.
Information can be recorded and stored in homebased childcare by:
O 25 Mai 2018, rhaid i ymarferwyr gyfeirio at y Rheoliad Cyffredinol ar Ddiogelu Data (GDPR). Mae hwn yn disodli Deddf Diogelu Data 1998 ac yn atgyfnerthu'r gofyniad i fod yn glir ac yn dryloyw ynghylch y defnydd o ddata personol a sensitif, cadw cofnodion sy'n gywir, yn berthnasol ac yn gyfredol, a sicrhau bod pob cofnod yn cael ei gadw'n ddiogel a pheidio â chadw cofnodion am ddim mwy nag sydd ei angen at y diben dan sylw.
Mae angen i ddarparwyr gofal plant yn y cartref gadarnhau a oes angen iddynt gofrestru â swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth os byddant yn storio unrhyw wybodaeth ar fformat digidol - er enghraifft ffotograffau, cynlluniau datblygu.
Ym maes gofal plant yn y cartref, gellir cofnodi gwybodaeth a'i storio drwy ddilyn y camau canlynol: