The importance of recognising and supporting Welsh language and culture in homebased childcare

Pwysigrwydd cydnabod a chefnogi’r Gymraeg a diwylliant Cymru ym maes gofal plant yn y cartref

Welcome to Wales road sign

It is important to consider opportunities and activities that develop children’s knowledge and understanding of Welsh language, culture and traditions in homebased childcare and this can be done through a holistic approach.

When speaking about Welsh language development in early years there are many things to consider. First of all, the level of Welsh skills from the practitioner or carer's point of view, secondly the access to Welsh language resources available to the setting. Is Welsh introduced to children? If yes, how often? Is the language heard and spoken throughout the day? Is it offered at an early age? Finally, how is the language used by the children as a result?

Many practitioners who’ve grown up in Wales will have had some Welsh language taught to them during their schooling, however it's commonly reported that many have not used their skills in their adult life and that they have little confidence in using Welsh as a result.

We often hear how giving children the opportunity to learn Welsh at an early age provides them with an appetite for learning as adults, and as we know this in turn provides them with an additional tool for their working life. Welsh Government also has a vision of increasing the number of Welsh speakers to a million by 2050, and as part of this work are supporting a number of work programmes to ensure both adults and children have opportunities to learn Welsh and to be offered a truly bilingual community and country.

Opportunities and activities around Welsh language, culture and traditions in homebased childcare could include:

  • using Welsh words and phrases in activities (for example circle time)
  • Welsh language rhymes and songs
  • using Welsh in displays in the settings
  • Welsh language books
  • Welsh language games
  • learn Welsh as an adult
  • going to a Ti a fi group at a local Cylch
  • Welsh language story time in local library
  • celebrating St David’s Day
  • celebrating Santes Dwynwen
  • visiting a local Eisteddfod
  • baking Welsh cakes or Bara Brith.

Mae'n bwysig ystyried cyfleoedd a gweithgareddau sy'n datblygu gwybodaeth a dealltwriaeth plant o'r iaith Gymraeg, diwylliant Cymru a'i thraddodiadau ym maes gofal plant yn y cartref, a gellir gwneud hyn drwy ddull cyfannol.

Wrth siarad am ddatblygu'r Gymraeg yn y blynyddoedd cynnar, mae llawer o bethau i'w hystyried. Yn gyntaf oll, lefel y sgiliau Cymraeg o safbwynt yr ymarferydd neu'r gofalwr. Yn ail, yr adnoddau iaith Gymraeg sydd ar gael i'r lleoliad. A gaiff y Gymraeg ei chyflwyno i'r plant? Os caiff, pa mor aml? A yw'r iaith yn cael ei chlywed a'i siarad drwy gydol y dydd? A gaiff ei chynnig yn ifanc? Yn olaf, sut y caiff y Gymraeg ei defnyddio wedyn gan y plant?

Bydd llawer o ymarferwyr sydd wedi tyfu fyny yng Nghymru wedi dysgu rhywfaint o Gymraeg yn yr ysgol. Fodd bynnag, nodir yn aml nad yw llawer ohonynt wedi defnyddio eu sgiliau yn ystod eu bywydau fel oedolion ac o ganlyniad, nid oes ganddynt lawer o hyder i ddefnyddio'r Gymraeg.

Clywn yn aml fod rhoi'r cyfle i blant ddysgu Cymraeg yn ifanc yn rhoi'r awydd iddynt ddysgu fel oedolion ac, fel y gwyddom, mae hyn yn ei dro yn rhoi adnodd ychwanegol iddynt ar gyfer eu bywyd gwaith. Mae gan Lywodraeth Cymru hefyd weledigaeth i gynyddu nifer y bobl sy'n siarad Cymraeg i filiwn erbyn 2050 ac fel rhan o'r gwaith hwn, mae'n cefnogi nifer o raglenni gwaith er mwyn sicrhau bod plant ac oedolion fel ei gilydd yn cael cyfleoedd i ddysgu Cymraeg ac yn cael cynnig cymuned a gwlad wirioneddol ddwyieithog.

Gallai cyfleoedd a gweithgareddau yn ymwneud â'r Gymraeg, diwylliant Cymru a'i thraddodiadau ym maes gofal plant yn y cartref gynnwys y canlynol:

  • defnyddio geiriau ac ymadroddion Cymraeg mewn gweithgareddau (er enghraifft yn ystod amser cylch)
  • rhigymau a chaneuon Cymraeg
  • defnyddio'r Gymraeg mewn arddangosfeydd yn y lleoliad
  • llyfrau Cymraeg
  • gemau Cymraeg
  • dysgu Cymraeg fel oedolyn
  • mynd i grŵp Ti a Fi mewn cylch lleol
  • amser stori Cymraeg mewn llyfrgell leol
  • dathlu Dydd Gŵyl Dewi
  • dathlu Santes Dwynwen
  • ymweld ag Eisteddfod leol
  • pobi picau ar y maen neu Fara Brith.