Keeping children and young people safe within the setting is a priority. They need a safe and challenging environment. An environment without any risks will not motivate or challenge children. They need the opportunity to explore the environment and to make their own decisions. They need opportunities to solve problems and consider what could happen if they are not careful. Eliminating all risks within the environment, be it indoors or outdoors, can lead to boredom for the children who may then show signs of unacceptable behaviour. As a result, children will show more adventurous behaviour which can be dangerous to themselves and to other children around them.
When taking risks, children develop confidence to be able to cope with challenging situations that contribute to their well-being. Play allows children to take risks and by organising their play, they will extend their skills and cope with their ability to control their emotions. This will contribute to the development of self-image and feelings of self-respect. They will develop to consider others by thinking of the consequences of their play and what could happen if the play gets out of control.
Children have the rights to make decisions and to take risks when playing. By having these opportunities, children and young people will be able to enjoy the environment as much as possible and obvious risks will be eradicated.
The 'United Nations Convention on the Rights of the Child' states in article 31: 'All children have a right to relax and play, and to join in a wide range of activities.'
The Government's Seven Core Aims based on the United Nations Convention on the Rights of the Child also note that children should:
Giving these rights to children and young people will mean that they have opportunities to manage risks effectively, allowing them to safely learn through play. They can learn a range of skills that will help them in future:
Mae cadw plant a phobl ifanc yn ddiogel o fewn y lleoliad yn flaenoriaeth. Maent angen amgylchedd diogel sydd hefyd yn heriol. Ni fydd amgylchedd heb risgiau o gwbl yn symbylu nac yn herio plant. Mae angen iddynt gael cyfle i archwilio’r amgylchedd a gwneud penderfyniadau dros eu hunain. Maent angen cyfleoedd i ddatrys problemau ac ystyried beth all ddigwydd wrth beidio â bod yn ofalus. Gall dileu pob risg o fewn yr amgylchedd, boed tu mewn neu du allan yn yr awyr agored arwain at blant yn diflasu gan arddangos arwyddion o ymddygiad annerbyniol. Yn sgil hyn gwelir plant yn arddangos ymddygiad mwy mentrus allai brofi yn beryglus iddynt hwy a phlant eraill o’u hamgylch.
Wrth gymryd risgiau bydd plant yn datblygu hyder i fedru ymdopi â sefyllfaoedd heriol, sy’n cyfrannu tuag at eu llesiant. Mae chwarae yn caniatáu i blant gymryd risgiau a thrwy drefnu eu chwarae byddant yn ehangu eu sgiliau ac ymdopi gyda’u gallu i reoli eu hemosiynau. Bydd hyn yn cyfrannu at ddatblygiad hunanddelwedd a theimladau o hunan-barch. Byddant yn datblygu i ystyried eraill drwy feddwl am ganlyniadau eu chwarae a’r hyn y gall ddigwydd os yw’r chwarae yn mynd allan o reolaeth.
Mae gan blant hawliau i wneud penderfyniadau a chymryd risgiau trwy eu chwarae. Wrth gael y cyfleoedd hyn bydd plant a phobl ifanc yn medru mwynhau’r amgylchedd i’r eithaf gan ddileu risgiau amlwg.
Dywed ‘Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau’r Plentyn’ yn erthygl 31: ‘Mae gan blant yr hawl i ymlacio a chwarae ac ymuno mewn ystod eang o weithgareddau’
Mae saith nod craidd y Llywodraeth sy’n seiliedig ar Gonfensiwn y Cenhedloedd Unedig ar hawliau’r Plentyn hefyd yn nodi y dylai plant:
Trwy roi’r hawliau yma i blant a phobl ifanc byddant yn cael cyfleoedd i reoli risgiau yn effeithiol gan ganiatáu iddynt ddysgu trwy chwarae yn ddiogel. Gallant ddysgu amryw o sgiliau a fydd o gymorth iddynt yn y dyfodol:
It's important that children and young people have activities and experiences that are suitable for their age and development stage and give them pleasure. Activities and experiences should be customised to meet the needs of each individual child. Children will learn through play if the activity interests them. As a result, they will concentrate for longer. Using the child-centred learning method, the children will learn by doing rather than being taught.
Children and young people learn when they:
The practitioner needs to support the children during the play process yet it's essential that they don't interfere excessively. By using the child-centred approach, children can benefit from activities and experiences that will fulfil their potential.
Holistic development is where learning and development in all areas is interlinked through activities and experiences and development is viewed as a whole.
Children learn through a variety of ways, but the most effective is through first-hand experiences or experiential play that builds on the child’s previous learning experiences and knowledge and builds up these skills, knowledge and understanding to support their future learning.
Mae’n bwysig bod plant a phobl ifanc yn cael gweithgareddau a phrofiadau sy’n addas ar gyfer eu hoed a’u cam datblygiad ac sydd yn rhoi pleser iddynt. Mae angen addasu’r gweithgareddau a’r profiadau er mwyn diwallu anghenion pob plentyn unigol. Bydd plant yn dysgu trwy chwarae os yw’r gweithgaredd o ddiddordeb iddynt . Yn sgil hyn byddant yn canolbwyntio am fwy o amser. Trwy ddefnyddio’r dull plentyn-ganolog o ddysgu bydd y plant yn dysgu trwy wneud yn hytrach na chael eu dysgu.
Mae plant a phobl ifanc yn dysgu pan:
Mae angen i’r ymarferwr gefnogi’r plant yn ystod y broses chwarae ond eto mae’n hanfodol nad ydynt yn ymyrryd yn ormodol. Trwy ddefnyddio’r dulliau gweithredu plentyn- ganolog gall blant fanteisio ar weithgareddau a phrofiadau a fydd yn cwrdd â’u potensial yn llawn.
Datblygiad cyfannol yw pan mae dysgu a datblygu ym mhob adran yn gydgysylltiol trwy weithgareddau a phrofiadau ac mae datblygiad yn cael ei weld fel un peth cyfan.
Mae plant yn dysgu trwy amryw o ffyrdd, ond yr un mwyaf effeithiol yw profiadau personol neu chwarae drwy brofiad. Mae’r rhain yn datblygu profiadau dysgu a gwybodaeth flaenorol y plentyn ac yn adeiladu ar y sgiliau, gwybodaeth a’r ddealltwriaeth hyn er mwyn cefnogi eu dysgu yn y dyfodol.
Behaviour is learned by children and it's essential that practitioners know this so they can use suitable methods to manage their behaviour. To support positive behaviour, consistent approaches and responses are vital as the child is going through the process of learning and starting to come to understand themselves and the world around them. A child's self-concept and self-image must be considered, along with the fact that consistency in behaviour management can impact these elements. If policies are in place in childcare settings they are held to maintain consistency.
The following approaches should be considered:
Mae ymddygiad yn rhywbeth mae plant yn ei ddysgu ac mae’n hanfodol bod ymarferwyr yn gwybod hyn er mwyn medru defnyddio dulliau addas o reoli eu hymddygiad. Er mwyn cefnogi ymddygiad cadarnhaol mae dulliau gweithredu ac ymatebion cyson yn hanfodol gan fod y plentyn yn mynd drwy’r broses o ddysgu a dechrau dod i ddeall ei hunan a’r byd o’i amgylch. Bydd rhaid ystyried hunangysyniad a hunanddelwedd plentyn a bod cysondeb o ran rheoli ymddygiad yn medru cael effaith ar yr elfennau hyn. Os fydd polisïau yn eu lle o fewn lleoliadau gofal plant maent yn cael eu defnyddio i gynnal cysondeb.
Dylid ystyried y dulliau gweithredu canlynol:
This means operating in a way that considers the child-centred approach by:
By practising the steps above, you will consider each child as an individual and are therefore minimising the likelihood that the child will display negative behaviour. It's important that the practitioner communicates using positive rather than negative statements. The aim is to try to encourage the children with positive statements rather than constantly remind them with negative statements.
Supporting positive behaviour means that you draw attention to the positive behaviour and ignore the negative behaviour. By using this method and giving the child attention for positive behaviour, the child will be more likely to repeat it. It's crucial that you praise the child for the positive behaviour, possibly offering a reward.
In whatever way the child is supported praise needs to be consistent. It must be ensured that the provision minimises the barriers to learning in order to avoid the likelihood of negative behaviour amongst children.
Golyga hyn eich bod yn gweithredu mewn ffordd sydd yn ystyried y dull plentyn-ganolog trwy:
Wrth arfer y camau uchod byddwch yn ystyried pob plentyn fel unigolion gan leihau’r tebygrwydd y bydd y plant yn arddangos ymddygiad negyddol. Mae’n bwysig bod yr ymarferwr yn cyfathrebu gan ddefnyddio datganiadau cadarnhaol yn hytrach na rhai negyddol. Y nod yw ceisio annog y plant gyda datganiadau cadarnhaol yn hytrach na’u hatgoffa’n feunyddiol gyda datganiadau negyddol.
Mae cefnogi ymddygiad cadarnhaol yn golygu eich bod yn gwneud sylw o’r ymddygiad cadarnhaol ac yn anwybyddu’r ymddygiad negyddol. Trwy arfer y dull hwn a rhoi sylw i’r plentyn am ymddwyn yn gadarnhaol bydd yn fwy tebyg o’i wneud eto. Mae’n holl bwysig eich bod yn canmol y plentyn am yr ymddygiad cadarnhaol gan efallai gynnig gwobr.
Beth bynnag yw eich dull o gefnogi’r plant, mae angen bod yn gyson gyda’ch canmoliaeth. Mae angen sicrhau bod y ddarpariaeth yn lleihau’r rhwystrau i ddysgu er mwyn osgoi'r tebygrwydd o ymddygiad negyddol ymysg plant.
Equality means appreciating every individual, with equal opportunities for all. In your role as practitioner you will need to treat people in a manner appropriate to their needs. Equality does not mean treating everyone exactly the same, as that does not take into account people's differing needs, wishes and choices. Child-centred approaches promote equality by looking at each child or young person as an individual and planning suitable activities for them.
Diversity means the differences between individuals in a group e.g. different backgrounds, experiences, styles, perceptions, values and beliefs. In your role as practitioner you will work with many children and people from different backgrounds. You will work with children and people of different genders, different abilities and people who speak different languages. Child-centred approaches promote diversity by showing children and young people that the services appreciate everyone. Children and young people's support services should develop a sense of identity and promote a positive feeling in them regarding their backgrounds and cultures.
Inclusion means that no-one is excluded because of differences such as where they live, what their beliefs are or due to their abilities. In your role as practitioner you will need to ensure that all parts of society can use the service so that they can fulfil their potential in life, whatever their circumstances. Child-centred approaches promote inclusion as all children and young people have the right to have their needs met in the best way for them.
Discrimination means treating some people less favourably than others because they or their family are considered to belong to a different group in society. Discrimination can be based on sex, age, religion or ethnicity and is often caused by other people's attitudes towards these.
Mae cydraddoldeb yn golygu gwerthfawrogi pob unigolyn a rhoi cyfle cyfartal i bawb. Yn eich rôl fel ymarferydd bydd angen trin pobl mewn modd sy’n briodol ar gyfer eu hanghenion. Nid yw cydraddoldeb yn golygu trin pawb yn union yr un fath, gan nad yw hynny'n ystyried anghenion, dymuniadau a dewisiadau gwahanol sydd gan bobl. Mae dulliau gweithredu plentyn-ganolog yn hyrwyddo cydraddoldeb drwy edrych ar bob plentyn neu berson ifanc fel unigolyn a chynllunio gweithgareddau addas iddynt.
Mae amrywiaeth yn golygu’r gwahaniaethau rhwng unigolion mewn grŵp e.e. gwahanol gefndiroedd, profiadau, arddulliau, canfyddiadau, gwerthoedd a chredoau. Yn eich rôl fel ymarferydd byddwch yn gweithio gyda llawer o blant a phobl o wahanol gefndiroedd. Byddwch yn gweithio gyda phlant a phobl o wahanol ryw, gwahanol alluoedd a phobl sy'n siarad ieithoedd gwahanol. Mae dulliau gweithredu plentyn-ganolog yn hyrwyddo amrywiaeth drwy ddangos i blant a phobl ifanc bod y gwasanaethau yn gwerthfawrogi pawb. Dylai gwasanaethau cefnogi plant a phobl ifanc ddatblygu ymdeimlad o hunaniaeth a hyrwyddo ymdeimlad positif ynddynt am eu cefndiroedd a’u diwylliannau.
Mae cynhwysiant yn golygu na chaiff neb ei heithrio oherwydd gwahaniaethau megis ble maen nhw’n byw, beth yw eu credoau neu oherwydd eu galluoedd. Yn eich rôl fel ymarferydd bydd angen i chi sicrhau bod pob rhan o gymdeithas yn gallu defnyddio’r gwasanaeth fel y gallant gyflawni eu potensial mewn bywyd, beth bynnag yw eu hamgylchiadau. Mae dulliau gweithredu plentyn-ganolog yn hyrwyddo cynhwysiant gan fod pob plentyn neu berson ifanc â'r hawl i gael eu hanghenion wedi eu diwallu yn y ffordd orau iddynt.
Mae gwahaniaethu yn golygu trin rhai pobl yn llai ffafriol nag eraill oherwydd eu bod hwy neu eu teulu yn cael eu hystyried i fod yn perthyn i grŵp gwahanol mewn cymdeithas. Gall gwahaniaethu fod ar sail rhyw, oed, crefydd neu ethnigrwydd gydag agweddau pobl eraill at hynny yn achosi’r gwahaniaethu yn aml.