Routines in homebased childcare

Arferion ar gyfer gofal plant yn y cartref

Routines are important in homebased childcare to support holistic growth and development of children. It is important to work with families/carers to ensure individual children’s needs are met through agreed routines through a partnership approach and to look to adapt these routines as needed in a homebased setting to meet the needs of the child.

Routines help children to settle in and promote emotional well-being.

They provide:

  • security and stimulation
  • consistency and continuity (between the setting and home too).

The types of routines that may occur in homebased childcare include:

  • snack time
  • meal time
  • domestic routines (for example, washing dishes, preparing food)
  • hand-washing, toileting and nappy changing
  • sleep time
  • school run
  • attending local toddler groups
  • visiting the library
  • visiting local parks
  • play and activities – indoors and outdoors
  • homework and after school activities
  • trips.

These routines may need to be adapted if:

  • the child has additional needs
  • the child is new to the setting
  • the child is not interested in the activity that has been planned
  • a spontaneous opportunity for learning arises (for example, seeing a ladybird or fire engine on walk to school)
  • the child is feeling unwell
  • the child’s parent/carer collects them early
  • the child’s parent/carer cultural/spiritual beliefs are opposed to a particular activity
  • the child’s parent/carer has different preferences for example, on sleep time
  • groups that the child attends are cancelled on arrival
  • the weather is bad
  • the child is absent from the setting
  • there is a car breakdown
  • the baby is teething and needs more attention or is not sleeping well.

Mae arferion yn bwysig ym maes gofal plant yn y cartref er mwyn cefnogi twf cyfannol a datblygiad plant. Mae'n bwysig gweithio gyda theuluoedd/gofalwyr i sicrhau bod anghenion plant unigol yn cael eu diwallu gan arferion y cytunir arnynt drwy ddull partneriaeth, ac ystyried addasu'r arferion hyn yn ôl yr angen mewn lleoliad gofal plant yn y cartref er mwyn diwallu anghenion y plentyn.

Mae arferion yn helpu plant i ymgynefino ac yn hyrwyddo llesiant emosiynol.

Gallant gynnig:

  • diogelwch ac ysgogiad
  • cysondeb a pharhad (rhwng y lleoliad a'r cartref hefyd).

Mae'r mathau o arferion a allai fod ar waith mewn gofal plant yn y cartref yn cynnwys:

  • amser byrbryd
  • amser prydau
  • arferion domestig (er enghraifft, golchi llestri, paratoi bwyd)
  • golchi dwylo, mynd i'r toiled a newid cewynnau
  • amser cysgu
  • hebrwng plant i'r ysgol ac oddi yno
  • mynychu grwpiau plant bach lleol
  • ymweld â’r llyfrgell
  • ymweld â pharciau lleol
  • chwarae a gweithgareddau - dan do ac yn yr awyr agored
  • gwaith cartref a gweithgareddau ar ôl ysgol
  • tripiau.

Efallai y bydd angen addasu'r arferion hyn os:

  • bydd gan y plentyn anghenion ychwanegol
  • bydd y plentyn yn newydd i'r lleoliad
  • na fydd gan y plentyn ddiddordeb yn y gweithgaredd a gynlluniwyd
  • bydd cyfle dysgu yn codi ar hap (er enghraifft gweld buwch goch gota neu injan dân wrth gerdded i'r ysgol)
  • bydd y plentyn yn teimlo'n sâl
  • bydd rhiant/gofalwr y plentyn yn ei gasglu'n gynnar
  • bydd credoau diwylliannol/ysbrydol y rhiant/gofalwr yn gwrthwynebu gweithgaredd penodol
  • bydd gan riant/gofalwr ddewisiadau gwahanol, er enghraifft o ran amser cysgu
  • bydd grwpiau y mae'r plentyn yn eu mynychu yn cael eu canslo wrth i chi gyrraedd yno
  • bydd y tywydd yn wael
  • bydd y plentyn yn absennol o'r lleoliad
  • bydd car yn torri i lawr
  • bydd y baban yn torri dannedd ac angen mwy o sylw neu ddim yn cysgu'n dda.

Changes and transitions that may occur in the course of a child’s life

Cyfnodau o newid a thrawsnewid a allai ddigwydd yn ystod bywyd plentyn

Sad girl

Children have to cope with many changes during their lives. The changes can be related to starting in a setting or moving from a different setting. The change can affect a child's well-being for example, if there is a death in the family or a new arrival.

Whatever the change, it's essential that the child feels safe.

Changes and transitions may include:

  • starting at a childcare setting
  • moving from the setting to primary school
  • moving from primary school to secondary school
  • moving from secondary school to university or college
  • the birth of a brother or sister
  • moving home
  • the death of a loved one
  • puberty or long term health conditions
  • breakup of parents' relationship
  • experiencing abuse.

The effect of these changes can be:

  • emotional: due to personal experiences, for example, bereavement (people or pets) separation or divorce of parents, experiencing abuse
  • physical: moving school or moving home
  • psychological: problems with puberty or long term health conditions
  • intellectual: due to changes to learning methods within school.

The transition encountered by children can be positive or negative and this often depends on the support offered by the family/carer, friends, practitioners and other professionals.

A move to any new setting/school will cause concern for the child. The practitioner needs to understand the child's concerns and deal with them in order to help the child settle. The child might worry about a number of factors such as:

  • Will adults in childcare settings be pleasant and friendly?
  • Will they like the teachers at school?
  • Will they like the other children?
  • Will they have friends?
  • Will they understand the language?
  • Where are the toilets?
  • What will the food be like?

Children need support, stability and someone to comfort them and help them to cope with these changes. This will determine if the change/transition will be positive or negative. Changes allow children to develop strategies to be able to control their behaviour and emotions.

Children can better cope with changes if adults:

  • respond to the child's needs to develop a relationship that shows trust
  • ensure that children are supported
  • be a positive role model in terms of social behaviour
  • establish a routine and clear expectations
  • encourage children to control and express their feelings
  • encourage children to develop strategies to deal with situations effectively
  • teach children strategies to deal with stress and control their behaviour
  • be sensitive and respond to their communication methods.

Mae'n rhaid i blant ymdopi â llawer o newidiadau yn ystod eu bywydau. Gall y newidiadau hyn ymwneud â dechrau mewn lleoliad neu symud o leoliad gwahanol. Gall y newid effeithio ar lesiant plentyn, er enghraifft, os bydd marwolaeth yn y teulu, neu faban newydd.

Beth bynnag fo'r newid, mae'n hanfodol bod y plentyn yn teimlo'n ddiogel.

Gall cyfnodau o newid a thrawsnewid gynnwys y canlynol:

  • dechrau mewn lleoliad gofal plant
  • symud o'r lleoliad i'r ysgol gynradd
  • symud o'r ysgol gynradd i'r ysgol uwchradd
  • symud o'r ysgol uwchradd i'r brifysgol neu'r coleg
  • genedigaeth brawd neu chwaer
  • symud tŷ
  • marwolaeth rhywun annwyl
  • glasoed neu gyflyrau iechyd hirdymor
  • perthynas y rhieni'n chwalu
  • profi camdriniaeth.

Gall y newidiadau hyn gael effeithiau:

  • emosiynol: o ganlyniad i brofiadau personol, er enghraifft, profedigaeth (pobl neu anifeiliaid anwes), rhieni'n gwahanu neu'n ysgaru, profi camdriniaeth
  • ffisegol: symud ysgol neu symud tŷ
  • seicolegol: problemau o ran y glasoed neu gyflyrau iechyd hirdymor
  • deallusol: o ganlyniad i newidiadau i ddulliau dysgu yn yr ysgol.

Gall y cyfnodau trawsnewid a brofir gan blant fod yn brofiad cadarnhaol neu negyddol ac mae hyn yn aml yn dibynnu ar y gefnogaeth a gynigir gan y teulu/gofalwr, ffrindiau, ymarferwyr a gweithwyr proffesiynol eraill.

Bydd symud i unrhyw leoliad/ysgol newydd yn peri pryder i'r plentyn. Bydd angen i'r ymarferydd ddeall pryderon y plentyn a mynd i'r afael â nhw er mwyn helpu'r plentyn i setlo. Efallai y bydd y plentyn yn poeni am nifer o ffactorau fel:

  • A fydd oedolion mewn lleoliadau gofal plant yn ddymunol ac yn gyfeillgar?
  • A fydd yn hoffi'r athrawon yn yr ysgol?
  • A fydd yn hoffi'r plant eraill?
  • A fydd ganddo ffrindiau?
  • A fydd yn deall yr iaith?
  • Ble mae'r toiledau?
  • Sut bydd y bwyd?

Mae angen cefnogaeth a sefydlogrwydd ar blant, a rhywun i'w cysuro a'u helpu i ymdopi â'r newidiadau hyn. Bydd hyn yn helpu i bennu a fydd y cyfnod o newid/pontio yn un cadarnhaol neu negyddol. Bydd newidiadau yn galluogi plant i ddatblygu strategaethau er mwyn gallu rheoli eu hymddygiad a'u hemosiynau.

Gall plant ymdopi â newidiadau'n well os bydd oedolion yn:

  • ymateb i anghenion y plentyn er mwyn datblygu perthynas sy'n dangos ymddiriedaeth
  • sicrhau bod plant yn cael eu cefnogi
  • fodel rôl cadarnhaol o ran ymddygiad cymdeithasol
  • sefydlu trefn a disgwyliadau clir
  • annog plant i reoli a mynegi eu teimladau
  • annog plant i ddatblygu strategaethau er mwyn mynd i'r afael â sefyllfaoedd yn effeithiol
  • dysgu strategaethau i blant er mwyn mynd i'r afael â straen a rheoli eu hymddygiad
  • bod yn sensitif i'w dulliau cyfathrebu ac ymateb iddynt.

Methods to support children with changes and transitions

Children will need to be supported in order to cope with a change. Drag the options and place them in the order you think is correct in order to help a child settle into a new setting.

Dulliau o gefnogi plant mewn cyfnodau o newid a thrawsnewid

Bydd angen cefnogi plant i ymdopi â newid. Llusgwch yr opsiynau a'u rhoi yn y drefn gywir, yn eich barn chi, er mwyn helpu plentyn i ymgynefino â lleoliad newydd.