To work in a professional way, it's important to build a good relationship with children and their families/carers.
Families/carers know more about the child than anyone else. They have an understanding of what their child can do and are an integral part of their child's learning process.
When a child starts attending homebased childcare perhaps parents might feel left out. It's important that the practitioner involves them in decisions about their children. Confident communication is needed when discussing the child’s progress. This will make them feel respected and valued. Families/carers have a lot to offer as they have skills and experiences that can be shared.
Er mwyn gweithio mewn ffordd broffesiynol, mae'n bwysig meithrin perthynas gadarnhaol â phlant a'u teuluoedd/gofalwyr.
Mae teuluoedd/gofalwyr yn gwybod mwy am y plentyn nag unrhyw un arall. Maent yn deall beth y mae eu plentyn yn gallu'i wneud ac maent yn rhan annatod o broses ddysgu eu plentyn.
Pan fydd plentyn yn dechrau mynychu gofal plant yn y cartref, efallai y bydd y rhieni'n teimlo fel petaent ar y tu allan. Mae'n bwysig bod yr ymarferydd yn eu cynnwys mewn penderfyniadau am eu plant. Mae angen cyfathrebu'n hyderus wrth drafod cynnydd y plentyn. Bydd hyn yn rhoi’r teimlad iddynt eu bod yn cael eu parchu a'u gwerthfawrogi. Mae gan rieni/gofalwyr lawer i'w gynnig am fod ganddynt sgiliau a phrofiadau y gellir eu rhannu.
There are many ways to promote or market a homebased childcare service to families/carers. Marketing or promotion is not just about advertising but is about communicating what you do to your ‘customers’. It is important to:
There are many different ways to promote a homebased childcare service to families/carers, including:
It is important to consider the needs of local families and understand the availability of childcare locally and the costs of this. There is information on local childcare sufficiency on your Local Authority Family Information Service (FIS) website.
This is what it is you're offering that sets you apart from other childcare providers locally. This could be the provision of funded hours, a flexible service, special facilities and resources, or perhaps a bilingual programme.
Do not under estimate the benefits of ‘word of mouth’. Utilise friends, family and others to spread the word about the service. Once you’ve established yourself locally, you will find that many new children are referred by word-of-mouth from other happy families/carers.
Social media is having an increasing role for businesses – and it can help you to promote your service to your customers. Facebook, Twitter, LinkedIn, Pinterest, Instagram and many other channels enable you to promote what you do and build relationships with your followers. It's likely that you already have one or more social media accounts for yourself. If you're planning to use social media for your business, it's good practice to set up dedicated accounts. This will help you maintain a work-life balance and maintain separation between your own personal social media accounts and those of your business.
Leaflets, flyers, posters and cards can be an effective and simple way of reaching families/carers in your area. You can put them up on community noticeboards or simply pop them through doors.
If you're struggling for ideas of places to advertise, start with the places you regularly go to like toddler groups, child- and family-friendly coffee shops, children's centres, sports centres, GP surgeries and libraries.
If you are offering after-school care, you can ask the local schools if they offer advertising in their newsletters or if you can put up a flyer on their noticeboard.
Settings or services can be listed on your Local Authority’s Family Information Service (FIS) website. The FIS is a popular place for parents to look when they’re thinking about childcare options in their area. There are also a number of national childcare search websites, many of which charge a subscription fee which may be worth considering.
Having your own website is a great way to show what your setting offers in more detail. Creating your own doesn't need to be daunting. There are many hosting sites that allow you to create an impressive-looking website with no specialist knowledge. You can simply input text and photos into pre-formatted pages and be ready to go within just a few hours.
Mae llawer o ffyrdd o hyrwyddo neu farchnata gwasanaeth gofal plant yn y cartref i deuluoedd/gofalwyr. Mae marchnata neu hyrwyddo yn ymwneud â mwy na hysbysebu yn unig. Mae'n ymwneud â chyfleu'r hyn rydych yn ei wneud i'ch 'cwsmeriaid'. Mae'n bwysig:
Mae llawer o ddulliau gwahanol o hyrwyddo gwasanaeth gofal plant yn y cartref i deuluoedd/gofalwyr, gan gynnwys:
Mae'n bwysig ystyried anghenion teuluoedd lleol a deall pa wasanaethau gofal plant sydd ar gael yn lleol, a'u cost. Mae gwybodaeth am ddigonolrwydd gofal plant yn yr ardal leol ar wefan Gwasanaeth Gwybodaeth i Deuluoedd eich Awdurdod Lleol.
Yr hyn rydych yn ei gynnig sy'n eich gwneud yn wahanol i ddarparwyr gofal plant eraill yn yr ardal leol. Efallai eich bod yn darparu oriau a ariennir, gwasanaeth hyblyg, cyfleusterau neu adnoddau arbennig, neu raglen ddwyieithog.
Cofiwch pa mor bwysig yw argymhellion personol. Gofynnwch i ffrindiau, teulu ac eraill i roi gwybod i bobl eraill am y gwasanaeth. Ar ôl i chi sefydlu eich hun yn yr ardal leol, byddwch yn gweld bod llawer o blant newydd yn dod atoch yn sgil argymhellion teuluoedd/gofalwyr hapus eraill.
Mae'r cyfryngau cymdeithasol yn chwarae rôl gynyddol bwysig i fusnesau - a gall eich helpu i hyrwyddo eich gwasanaeth i'ch cwsmeriaid. Mae Facebook, Twitter, LinkedIn, Pinterest, Instagram a llawer o gyfryngau eraill yn eich galluogi i hyrwyddo'r hyn rydych yn ei wneud a meithrin perthynas â'ch dilynwyr. Mae'n debygol bod gennych un neu fwy o gyfrifon eich hun ar gyfryngau cymdeithasol. Os ydych yn bwriadu defnyddio'r cyfryngau cymdeithasol ar gyfer eich busnes, mae'n arfer da sefydlu cyfrifon penodol. Bydd hyn yn eich helpu i gynnal cydbwysedd bywyd a gwaith, a pharhau i wahanu eich cyfrifon cyfryngau cymdeithasol eich hun oddi wth gyfrifon eich busnes.
Gall taflenni, posteri a chardiau fod yn ffordd effeithiol a syml o gyrraedd teuluoedd/gofalwyr yn eich ardal. Gallwch eu rhoi ar hysbysfyrddau cymunedol neu eu dosbarthu o ddrws i ddrws.
Os ydych yn pendroni ynghylch ble i hysbysebu, beth am ddechrau gyda'r mannau y byddwch yn mynd iddynt yn aml fel grwpiau plant bach, siopau coffi sy'n gyfeillgar i blant a theuluoedd, canolfannau plant, canolfannau chwaraeon, meddygfeydd a llyfrgelloedd.
Os ydych yn cynnig gofal ar ôl ysgol, gofynnwch i'r ysgolion lleol a ydynt yn hysbysebu yn eu cylchlythyrau, neu a allwch roi taflenni ar eu hysbysfyrddau.
Gall lleoliadau neu wasanaethau gael eu rhestru ar wefan Gwasanaeth Gwybodaeth i Deuluoedd (GGD) eich Awdurdod Lleol. Bydd llawer o rieni yn edrych ar wefan GGD pan fyddant yn ystyried dewisiadau gofal plant yn eu hardal. Gallai hefyd fod yn werth ystyried yr amryw wefannau cenedlaethol ar gyfer chwilio am ofal plant, y mae llawer ohonynt yn codi ffi tanysgrifio.
Mae eich gwefan eich hun yn ffordd wych o ddangos beth y mae eich lleoliad yn ei gynnig mewn mwy o fanylder. Nid oes angen i chi fod ag ofn creu eich gwefan eich hun. Ceir llawer o wefannau gwe-letya sy'n eich galluogi i greu gwefan drawiadol heb unrhyw wybodaeth arbenigol. Yn syml, gallwch fewnbynnu testun a ffotograffau i dudalennau sydd wedi'u fformatio'n barod a byddwch yn barod i fynd o fewn ychydig oriau.
It is extremely important to agree, use and review a contract with families/carers in line with the service you will be providing.
A deposit is a one-off payment that is paid by a family/carer to confirm their intention to take up a childcare place. Each type of childcare setting will have their own process for deposits which will be confirmed in the contract.
Settling in is recommended to be considered in a contract in case issues arise in the first few weeks. This is especially important if the child is unusually unhappy during this period, as it could be that it is agreed that the contract may be ended during the settling-in period without the usual notice required.
It is important to work with families/carers to ensure confirmation in relation to holiday entitlement and payment for these is included in any contract. The way in which this is approached will vary depending on the provider and the families/carers needs and is usually negotiated.
Payment for sickness needs to be carefully confirmed within any contract in relation to both the provider and the child. This protects everyone from the risk of the spread of infection.
Many homebased childcare providers ensure they have a back-up provider that the child is familiar and comfortable with, in case of holidays, sickness or emergencies. This can be covered in any contract.
Mae'n bwysig iawn eich bod yn cytuno ar gontract gyda theuluoedd/gofalwyr yn unol â'r gwasanaeth y byddwch yn ei ddarparu, yn ei ddefnyddio ac yn ei adolygu.
Taliad untro a delir gan deulu/gofalwr yw blaendal, sy'n cadarnhau ei fwriad i ddefnyddio eich gwasanaeth gofal plant. Bydd gan leoliadau gofal plant o bob math eu prosesau eu hunain ar gyfer blaendaliadau, a fydd wedi'u cadarnhau yn y contract.
Argymhellir bod contract yn ystyried cyfnod ymgynefino, rhag ofn y bydd materion yn codi yn ystod yr ychydig wythnosau cyntaf. Mae hyn yn arbennig o bwysig os bydd y plentyn yn eithriadol o anhapus yn ystod y cyfnod hwn, am ei bod yn bosibl y cytunir bod modd dod â'r contract i ben yn ystod y cyfnod ymgynefino heb fod angen rhoi'r cyfnod rhybudd arferol.
Mae'n bwysig gweithio gyda theuluoedd/gofalwyr i sicrhau bod yr hawl i gymryd gwyliau wedi'i chadarnhau a bod y trefniadau talu cysylltiedig wedi'u cynnwys mewn unrhyw gontract. Bydd y dull o fynd i'r afael â hyn yn amrywio gan ddibynnu ar y darparwr ac anghenion y teuluoedd/gofalwyr, a bydd hyn yn rhywbeth i'w drafod fel arfer.
Bydd angen i unrhyw gontract gadarnhau'n ofalus y trefniadau ar gyfer talu am gyfnodau salwch, a hynny o ran salwch y darparwr a'r plentyn. Mae hyn yn diogelu pawb rhag y risg o ledaenu heintiau.
Mae llawer o ddarparwyr gofal plant yn y cartref yn sicrhau bod ganddynt ddarparwr wrth gefn y mae'r plentyn yn gyfarwydd ac yn gyfforddus ag ef, ar gyfer gwyliau, salwch neu argyfyngau. Gellir cynnwys hyn mewn unrhyw gontract.
It is important to recognise and respect families/carers responsibility for their children.
Information regarding care and learning must always be shared between families/carers and providers.
Sharing knowledge and understanding about individual children, supports providers to meet individual needs, and helps families/carers to value and respect the role of the provider.
This can include personal/family information through:
Mae'n bwysig cydnabod a pharchu cyfrifoldeb teuluoedd/gofalwyr dros eu plant.
Rhaid i wybodaeth am ofal a dysgu gael ei rhannu rhwng y teuluoedd/gofalwyr a'r darparwyr bob amser.
Mae rhannu gwybodaeth a dealltwriaeth am blant unigol yn cefnogi darparwyr i ddiwallu anghenion unigol, ac yn helpu teuluoedd/gofalwyr i werthfawrogi a pharchu rôl y darparwr.
Gall hyn gynnwys gwybodaeth bersonol/teuluol drwy: