Prior to re-assessment of the wound, check current treatment plan and previous wound documentation outlining its presentation.
Contraindications to treatments and dressings could include allergy (to medicines, dressings and latex), previous adverse reactions to dressings and fragility of the skin.
Ensure that you have the correct equipment to perform the dressing procedure such as PPE (personal protective equipment), dressing pack and appropriate dressings.
Prior to any wound care, all equipment and treatments should be checked for expiry date and its condition, ensuring that there are no breaks in the seal or any risks of cross contamination.
Cyn ail-asesu'r clwyf, gwiriwch y cynllun triniaeth cyfredol a dogfennaeth flaenorol y clwyf gan amlinellu ei ymddangosiad.
Gall gwrtharwyddion i driniaethau a gorchuddion gynnwys alergedd (i feddyginiaethau, gorchuddion a latecs), adweithiau anffafriol blaenorol i orchuddion a breuder y croen.
Sicrhewch bod yr offer cywir gennych er mwyn cynnal y weithdrefn orchuddio megis CDP (cyfarpar diogelu personol) , pecyn gorchudd a gorchuddion addas.
Cyn gofalu am unrhyw friw, dylid gwirio'r holl gyfarpar a thriniaethau ar gyfer y dyddiad dod i ben a'i gyflwr, gan sicrhau nad oes unrhyw seibiannau yn y sêl nac unrhyw berygl o halogi.
A mutual agreement based on information sharing will ensure the individual’s views and cultural beliefs are taken into account when selecting treatment choice. This will ensure the individual feels supported and listened to.
The individual will need to clarify their name, address and date of birth before any procedures. Verbal consent should be obtained, ensuring continued consent throughout the procedure.
Bydd cytundeb rhwng pawb yn seiliedig ar rannu gwybodaeth yn sicrhau bod safbwyntiau'r unigolyn a'i gredoau diwylliannol yn cael eu hystyried wrth ddewis y math o driniaeth. Bydd hyn yn sicrhau bod yr unigolyn yn teimlo ei fod yn cael ei gefnogi a bod pobl yn gwrando arno.
Bydd angen i'r unigolyn gadarnhau ei enw, ei gyfeiriad a'i ddyddiad geni cyn unrhyw weithdrefnau. Dylid cael caniatâd ar lafar, gan sicrhau cydsyniad parhaus drwy gydol y weithdrefn.
Assessment of the workspace and the individuals in that space should be carried out.
Depending on wound site, the patient may need to remove clothing. Maintaining their privacy and dignity is paramount. A lockable door, offering a chaperone and the use of curtains around the bed and window is necessary. It may also be necessary to aid the individual into a comfortable position, ensuring the wound is easily accessible.
Dylid cynnal asesiad o'r gweithle a'r unigolion yn y gofod hwnnw.
Yn dibynnu ar safle'r clwyf, efallai y bydd angen i'r claf dynnu ei ddillad. Mae'n hollbwysig parchu eu preifatrwydd a'u hurddas. Mae drws y gellir ei gloi, cynnig gwarchodwr a'r defnydd o lenni o amgylch y gwely a'r ffenest yn angenrheidiol. Gallai hefyd fod yn angenrheidiol cynorthwyo'r unigolyn i safle cyfforddus, gan sicrhau bod y clwyf yn hawdd i'w gyrraedd.