The Well-being of Future Generations (Wales) Act 2015

Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015

colourful people tree

The Well-being of Future Generations (Wales) Act 2015 aims to improve the social, economic, environmental and cultural well-being of Wales now and in the future.

The seven well-being goals:
  • A prosperous Wales
  • A resilient Wales
  • A healthier Wales
  • A more equal Wales
  • A Wales of cohesive communities
  • A Wales of vibrant culture and thriving Welsh Language
  • A globally responsible Wales.
The sustainable development principle

There are five things that public bodies need to think about to show that they have applied the sustainable development principle:

  • The importance of balancing short-term needs with the need to safeguard the ability to also meet long-term needs.
  • How acting to prevent problems occurring or getting worse may help public bodies meet their objectives.
  • Considering how the public body’s well-being objectives may impact upon each of the well-being goals, on their other objectives, or on the objectives of other public bodies.
  • Acting in collaboration with any other person (or different parts of the body) that could help the body to meet its well-being objectives.
  • The importance of involving individuals with an interest in achieving the well-being goals and ensuring that those individuals reflect the diversity of the area which the body serves.
Well-being duty

The Act places a duty on public bodies. A duty means they must do this by law. The well-being duty states that each public body must carry out sustainable development. The action a public body takes in carrying out sustainable development must include:

  • setting and publishing objectives (“well-being objectives”) that are designed to maximise its contribution to achieving each of the well-being goals
  • taking all reasonable steps (in exercising its functions) to meet those objectives.

This means that each public body listed in the Act must work to improve the economic, social, environmental and cultural well-being of Wales. To do this, they must set and publish well-being objectives. These objectives will show how each public body will work to achieve the vision for Wales set out in the well-being goals. Public bodies must then take action to make sure they meet the objectives they set.

Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015 – ei nod yw gwella llesiant cymdeithasol, economaidd, amgylcheddol a diwylliannol Cymru nawr ac yn y dyfodol.

Y saith nod llesiant:
  • Cymru lewyrchus
  • Cymru gydnerth
  • Cymru iachach
  • Cymru sy'n fwy cyfartal
  • Cymru â chymunedau cydlynus
  • Cymru â diwylliant bywiog lle mae'r Gymraeg yn ffynnu
  • Cymru sy’n gyfrifol ar lefel fyd-eang.
Yr egwyddor datblygu cynaliadwy

Mae'n rhaid i gyrff cyhoeddus ystyried pum peth i ddangos eu bod wedi defnyddio'r egwyddor datblygu cynaliadwy:

  • Pwysigrwydd sicrhau cydbwysedd rhwng anghenion tymor byr a'r angen am ddiogelu'r gallu i ddiwallu anghenion tymor hir hefyd.
  • Sut gall gweithredu i atal problemau rhag digwydd neu waethygu helpu cyrff cyhoeddus i gyflawni eu hamcanion.
  • Ystyried sut gall amcanion llesiant y corff cyhoeddus effeithio ar bob un o'r nodau llesiant, ar bob un o'i amcanion eraill, neu ar amcanion cyrff cyhoeddus eraill.
  • Sut gallai cydweithio ag unrhyw berson arall (neu adrannau gwahanol yn y corff) helpu'r corff i fodloni ei amcanion llesiant.
  • Pwysigrwydd cynnwys pobl sydd â diddordeb mewn cyflawni'r nodau llesiant, a sicrhau bod y bobl hynny'n adlewyrchu amrywiaeth yr ardal mae'r corff yn ei gwasanaethu.
Dyletswydd llesiant

Mae'r Ddeddf yn gosod dyletswydd ar gyrff cyhoeddus. Mae dyletswydd yn golygu bod yn rhaid iddynt wneud hyn yn ôl y gyfraith. Mae’r ddyletswydd llesiant yn nodi bod yn rhaid i bob corff cyhoeddus gadw at yr egwyddor datblygu cynaliadwy. Mae'n rhaid i'r weithred y bydd corff cyhoeddus yn ei chyflawni wrth gadw at yr egwyddor datblygu cynaliadwy gynnwys:

  • pennu a chyhoeddi amcanion (“amcanion llesiant”) sydd wedi’u cynllunio i wneud y mwyaf o gyfraniad y corff at gyflawni pob un o’r nodau llesiant
  • cymryd yr holl gamau rhesymol (wrth arfer swyddogaethau) i gyflawni’r amcanion hynny.

Golyga hyn fod yn rhaid i bob corff cyhoeddus a restrir yn y Ddeddf weithio i wella llesiant economaidd, cymdeithasol, amgylcheddol a diwylliannol Cymru. I wneud hyn mae'n rhaid iddynt bennu a chyhoeddi amcanion llesiant. Bydd yr amcanion hyn yn dangos sut y bydd pob corff cyhoeddus yn gweithio i gyflawni'r weledigaeth ar gyfer Cymru a nodwyd yn y nodau llesiant. Yna, mae'n rhaid i gyrff cyhoeddus weithredu i sicrhau eu bod yn bodloni'r amcanion y gwnaethon nhw eu gosod.

What rights have you got?

Compare your ideas in your groups.

Pa hawliau sydd gennych chi?

Cymharwch eich syniadau yn eich grwpiau.

The Well-being of Future Generations (Wales) Act 2015

Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015

Suggested responses:

  • A prosperous Wales
  • A resilient Wales
  • A healthier Wales
  • A more equal Wales
  • A Wales of cohesive communities
  • A Wales of vibrant culture and thriving Welsh Language
  • A globally responsible Wales.

Ymatebion awgrymedig:

  • Cymru lewyrchus
  • Cymru gydnerth
  • Cymru iachach
  • Cymru sy'n fwy cyfartal
  • Cymru â chymunedau cydlynus
  • Cymru â diwylliant bywiog lle mae'r Gymraeg yn ffynnu
  • Cymru sy’n gyfrifol ar lefel fyd-eang.