‘Doctor’ can mean general practitioner (GP), general surgery or paediatric doctor.
General practitioners (GPs) treat common medical conditions and refer individuals to hospitals and other medical services for urgent and specialist treatment. They focus on the health of the individual as a whole - combining physical, psychological and social aspects of care.
General surgery doctors use a wide range of knowledge and skills to perform surgery, often in emergency situations.
Paediatric doctors are doctors who manage medical conditions affecting infants, children and young people. They might work in intensive care, general paediatrics or in the community.
Gall 'meddyg' olygu meddyg teulu (GP), llawfeddyg cyffredinol neu feddyg paediatrig.
Mae meddygon teulu (GP) yn trin cyflyrau meddygol cyffredin ac yn atgyfeirio unigolion at ysbytai a gwasanaethau meddygol eraill i gael triniaeth frys ac arbenigol. Maen nhw'n canolbwyntio ar iechyd cyffredinol yr unigolyn – gan gyfuno agweddau corfforol, seicolegol a chymdeithasol ar ofal.
Mae meddygon mewn llawfeddygfa gyffredinol yn defnyddio amrywiaeth eang o wybodaeth a sgiliau i gyflawni llawdriniaeth, yn aml mewn sefyllfaoedd argyfwng.
Mae meddygon paediatrig yn feddygon sy'n rheoli cyflyrau meddygol sy'n effeithio ar fabanod, plant a phobl ifanc. Gallan nhw fod yn gweithio yn yr adran gofal dwys, paediatreg gyffredinol neu yn y gymuned.
Nursing roles include adult nurse, children’s nurse, district nurse, learning disability nurse and mental health nurse.
Adult nurses should be fully trained and qualified. Registered nurses in health could work in a hospital, nursing home or out in the community.
Children’s nursing involves everything from nursing a sick new-born to an adolescent road accident victim to working in end of life care.
District nurses play a crucial role in the primary healthcare team. They visit individuals in their own homes or in residential care homes, providing increasingly complex care for individuals and supporting family members.
Learning disability nurses provide specialist healthcare and support to individuals with a learning disability, as well as their families and staff teams, to help them live as independently as possible.
Mental health nurses work in hospitals or the community supporting individuals with a variety of care and support needs.
Mae rolau nyrsio yn cynnwys nyrs oedolion, nyrs plant, nyrs ardal, nyrs anabledd dysgu a nyrs iechyd meddwl.
Dylai nyrsys oedolion fod wedi'u hyfforddi'n llawn ac yn gymwysedig. Gallai nyrsys cofrestredig ym maes iechyd weithio mewn ysbyty, cartref nyrsio neu allan yn y gymuned.
Mae nyrsio plant yn cynnwys popeth o nyrsio babanod newydd anedig sy'n sâl i ddioddefwr damwain ffordd yn ei arddegau i weithio mewn gofal diwedd oes.
Mae nyrsys ardal yn chwarae rhan hollbwysig yn y tîm gofal iechyd sylfaenol. Maen nhw'n ymweld ag unigolion yn eu cartrefi eu hunain neu mewn cartrefi gofal preswyl, gan ddarparu gofal sy'n gynyddol gymhleth i unigolion a chefnogi aelodau'r teulu.
Mae nyrsys anabledd dysgu yn darparu gofal iechyd a chefnogaeth arbenigol i unigolion sydd ag anabledd dysgu, yn ogystal â'u teuluoedd a thimau staff, er mwyn eu helpu i fyw mor annibynnol â phosibl.
Mae nyrsys iechyd meddwl yn gweithio mewn ysbytai neu yn y gymuned yn rhoi cefnogaeth i unigolion sydd ag amrywiaeth o anghenion gofal a chymorth.
Drag and drop the missing words into the text below.
Llusgwch a gollyngwch y geiriau coll yn y testun isod.
Roles carried out by nurses include supporting people with social and physical activities. This may include helping individuals with personal care, such as washing and dressing, monitoring their condition by taking their temperature, pulse, respiration and weight, and administering medication.
Roles carried out by nurses include supporting people with social and physical activities. This may include helping individuals with personal care, such as washing and dressing, monitoring their condition by taking their temperature, pulse, respiration and weight, and administering medication.
You scored … out of . Move some of the terms around to try to improve your score.
Well done. You scored … out of .
You scored … out of . Click reset to try the activity again.
You scored … out of . Move some of the terms around to try to improve your score.
Well done. You scored … out of .
You scored … out of . Click reset to try the activity again.
Mae rolau a gyflawnwyd gan nyrsys yn cynnwys cefnogi pobl gyda gweithgareddau cymdeithasol a chorfforol. Gall hyn gynnwys helpu unigolion gyda gofal personol, megis ymolchi a gwisgo, monitro eu cyflwr drwy fesur eu tymheredd, pwls, resbiradaeth a phwysau, a rhoi meddyginiaeth.
Mae rolau a gyflawnwyd gan nyrsys yn cynnwys cefnogi pobl gyda gweithgareddau cymdeithasol a chorfforol. Gall hyn gynnwys helpu unigolion gyda gofal personol, megis ymolchi a gwisgo, monitro eu cyflwr drwy fesur eu tymheredd, pwls, resbiradaeth a phwysau, a rhoi meddyginiaeth.
Eich sgôr yw … allan o . Symudwch rhai o'r termau o gwmpas i geisio gwella eich sgôr.
Da iawn. Eich sgôr yw … allan o .
Eich sgôr yw … allan o . Cliciwch ‘ailosod’ er mwyn rhoi cynnig arall ar y gweithgaredd.
Eich sgôr yw … allan o . Symudwch rhai o'r termau o gwmpas i geisio gwella eich sgôr
Da iawn. Eich sgôr yw … allan o .
Eich sgôr yw … allan o . Cliciwch ‘ailosod’ er mwyn rhoi cynnig arall ar y gweithgaredd.
A midwife provides care and support to women and their families while pregnant, throughout labour and during the period after a baby’s birth. Midwives are the lead health professional and contact for a woman, providing evidence-based information and helping her make informed choices about the options and services available throughout her pregnancy.
Health visitors are nurses or midwives who are passionate about promoting healthy lifestyles and preventing illness. They work with families to give pre-school age children the best possible start in life.
Neonatal nurses care for newborn babies who are born premature or sick. A newborn baby can suffer from a range of conditions requiring treatment.
Mae bydwraig yn darparu gofal a chymorth i fenywod a'u teuluoedd pan fyddant yn feichiog, drwy esgor ac yn ystod y cyfnod ar ôl genedigaeth babi. Bydwraig yw'r prif weithiwr iechyd proffesiynol a chyswllt i fenyw, gan ddarparu gwybodaeth sy'n seiliedig ar dystiolaeth a'i helpu i wneud dewisiadau gwybodus am yr opsiynau a'r gwasanaethau sydd ar gael drwy gydol ei beichiogrwydd.
Ymwelwyr iechyd yw nyrsys neu fydwragedd sy'n teimlo'n angerddol am hyrwyddo ffyrdd iach o fyw ac atal salwch. Maen nhw'n gweithio gyda theuluoedd i roi'r dechrau gorau posibl mewn bywyd i blant dan oed ysgol.
Mae nyrsys newydd-anedig yn gofalu am fabanod newydd anedig sydd wedi cael eu geni'n gynamserol neu sy'n sâl. Gall baban newydd anedig ddioddef o amrywiaeth o gyflyrau sy'n gofyn am driniaeth.
The dental team consists of the dentist, dental nurse and dental hygienist.
A dentist works with individuals to prevent and treat dental and oral disease, correct dental irregularities, particularly in children, and treat dental and facial injuries.
Dental nurses support the dentist in all aspects of the individual’s dental care.
Dental hygienists show children and adults how to look after their teeth and gums. This can be on an individual basis or in groups.
Dental technicians, or dental technologists as they are often referred to, make the dentures, crowns, bridges and dental braces that improve individuals’ appearance, speech and ability to chew.
Dental therapists are increasingly being added to dental practice teams to handle much of the routine dental work as they can. They do a great deal of the straightforward work that a dentist is able to do without the need for a referral from a dentist. Many dental therapists provide treatment in a range of places in the community, such as schools and care homes.
Mae'r tîm deintyddol yn cynnwys y deintydd, nyrs ddeintyddol a'r hylenydd deintyddol.
Mae deintydd yn gweithio ag unigolion i atal a thrin clefyd deintyddol a geneuol, cywiro afreoleidd-dra deintyddol, yn enwedig mewn plant, a thrin anafiadau i'r dannedd ac i'r wyneb.
Mae nyrsys deintyddol yn cefnogi'r deintydd ym mhob agwedd ar ofal deintyddol yr unigolyn.
Gall hylenyddion deintyddol ddangos i blant ac oedolion sut i ofalu am eu dannedd a'u deintgig. Gellir gwneud hyn yn unigol neu mewn grwpiau.
Mae technegwyr deintyddol, neu dechnolegwyr deintyddol fel y cyfeirir atynt yn aml, yn gwneud y dannedd gosod, corunau, pontydd a fframiau dannedd sy'n gwella ymddangosiad unigolyn, ei leferydd a'i allu i gnoi.
Mae therapyddion deintyddol yn cael eu hychwanegu fwyfwy at dimau practisiau deintyddol i drin gymaint o'r gwaith deintyddol arferol â phosibl. Maen nhw'n gwneud llawer iawn o'r gwaith syml y mae deintyddion yn gallu ei wneud heb fod angen atgyfeiriad gan y deintydd. Mae llawer o therapyddion deintyddol yn darparu triniaeth mewn amrywiaeth o fannau yn y gymuned, megis ysgolion a chartrefi gofal.
How does a dental therapist support a dentist?
Sut mae therapydd deintyddol yn cefnogi deintydd?
Dental therapists are specially trained to work with the dentist to give care to individuals and can help with their treatment plans. Many are qualified as both hygienist and therapist and play an important part in dental health care.
Mae therapyddion deintyddol wedi'u hyfforddi'n arbenigol i weithio â'r deintyddion er mwyn gofalu am unigolion a gallan nhw helpu â'u cynlluniau triniaeth. Mae llawer yn gymwys fel hylenyddion a therapyddion ac maen nhw'n chwarae rhan bwysig mewn gofal iechyd deintyddol.
Dispensing opticians are technicians trained to design, verify and fit eyeglass lenses and frames, contact lenses, and other devices to correct and improve eyesight. Opticians use prescriptions supplied by ophthalmologists or optometrists.
They also advise individuals on how to wear and care for their spectacles or contact lenses.
Previously known as ophthalmic opticians, optometrists are primary health care specialists trained to examine the eyes to detect defects in vision, signs of injury, ocular diseases or abnormality and problems with general health, for example, high blood pressure or diabetes. They make a health assessment, offer clinical advice, prescribe spectacles or contact lenses and refer individuals for further treatment, when necessary.
All opticians and optometrists practicing in the UK must be registered with the General Optical Council, the profession’s regulatory body.
Ophthalmologists are medically trained doctors with specialist skills in the diagnosis, treatment, management and prevention of diseases of the eye and visual system. They can also work as a medical ophthalmologist if they are trained in general medicine as well as ophthalmology.
Mae optegwyr fferyllol yn dechnegwyr sydd wedi'u hyfforddi i ddylunio, gwirio a ffitio lensiau a fframiau gwydrynnau llygaid, lensiau cyffwrdd, a dyfeisiau eraill i gywiro a gwella golwg. Mae optegwyr yn defnyddio presgripsiynau gan offthalmolegwyr neu optometryddion.
Maen nhw hefyd yn cynghori unigolion sut i wisgo a gofalu am eu sbectolau neu lensiau cyffwrdd.
Mae optometryddion (fe'u gelwid o'r blaen yn optegwyr offthalmig) yn arbenigwyr gofal iechyd sylfaenol sydd wedi'u hyfforddi i archwilio'r llygaid er mwyn canfod diffygion mewn golwg, arwyddion o anaf, clefydau ociwlar neu annormaledd a phroblemau â iechyd cyffredinol, er enghraifft, pwysau gwaed uchel neu ddiabetes. Maen nhw'n gwneud asesiad iechyd, cynnig cyngor clinigol, rhagnodi sbectolau neu lensiau cyffwrdd ac yn atgyfeirio unigolion am driniaeth pellach, lle bo'n angenrheidiol.
Rhaid cofrestru pob optegydd ac optometrydd sy'n gweithio yn y DU gyda'r Cyngor Optegol Cyffredinol, corff rheoleiddio'r proffesiwn.
Mae offthalmolegwyr yn feddygon sydd wedi cael hyfforddiant gyda sgiliau arbenigol wrth ddiagnosio, trin, rheoli ac atal clefydau yn y llygaid a'r system weledol. Gallan nhw hefyd weithio fel offthalmolegwyr meddygol os ydyn nhw wedi cael eu hyfforddi mewn meddygaeth cyffredinol yn ogystal ag offthalmoleg.
The Children and Adolescent Mental Health Services (CAMHS) treat emotional and behavioural challenges in children and adolescents. Emotional challenges include depression, anxiety and phobias. Behavioural challenges include extreme aggression at home and school, delinquency and attention deficit hyperactivity disorder (ADHD).
Other serious issues can be anorexia, schizophrenia and obsessive compulsive disorder.
Mae'r Gwasanaethau Iechyd Meddwl Plant a'r Glasoed (CAMHS) yn trin heriau emosiynol ac ymddygiadol mewn plant a'r glasoed. Mae heriau emosiynol yn cynnwys iselder, gorbryder a ffobiâu. Mae heriau ymddygiadol yn cynnwys ymddygiad ymosodol eithafol gartref ac yn yr ysgol, tramgwyddaeth ac anhwylder diffyg canolbwyntio a gorfywiogrwydd (ADHD).
Gall problemau difrifol eraill gynnwys anorecsia, sgitsoffrenia ac anhwylder gorfodaeth obsesiynol.
Allied health professionals are health care professions which are different from nursing, medicine and pharmacy. They work in health care teams to make the health care system function by providing a range of diagnostic, technical, therapeutic and direct patient care and support services that support and enhance the other health professionals they work with.
A dietician helps individuals make informed and practical choices about their food and nutrition. They assess, diagnose and treat dietary and nutritional problems. They also teach and inform the public and health professionals about diet and nutrition. Their aim is to promote good health and prevent disease in individuals and communities.
A physiotherapist works with individuals to help with a range of problems which affect movement using exercise, massage and other techniques.
A podiatrist diagnoses and treats abnormalities and offers professional advice on care of feet and legs to prevent foot problems.
Speech and language therapists provide life-changing treatment, support and care for children and adults who have difficulties with communication, or with eating, drinking and swallowing. They help individuals who, for physical or psychological reasons, have problems speaking and communicating.
Radiographers conduct CT scans, MRI scans and other medical images to assist clinical radiologists and other doctors to diagnose.
Mae gweithwyr proffesiynol perthynol i iechyd yn broffesiynau gofal iechyd sy'n wahanol i nyrsio, meddygaeth a fferylliaeth. Maen nhw'n gweithio mewn timau gofal iechyd i wneud i'r system gofal iechyd weithio drwy ddarparu amrywiaeth o wasanaethau gofal a chymorth diagnostig, technegol, therapiwtig ac uniongyrchol i gleifion sy'n cefnogi a gwella'r gweithwyr iechyd proffesiynol eraill y maen nhw'n gweithio gyda nhw.
Mae deietegydd yn helpu unigolion i wneud dewisiadau gwybodus ac ymarferol am eu bwyd a maeth. Mae'n asesu, yn gwneud diagnosis a thrin problemau deietegol a maethol. Mae hefyd yn addysgu a hysbysu'r cyhoedd a gweithwyr iechyd proffesiynol am ddeiet a maeth. Nod deietegydd yw hyrwyddo iechyd da ac atal clefydau ymhlith unigolion a chymunedau.
Mae ffisiotherapydd yn gweithio ag unigolion i helpu ag amrywiaeth o broblemau sy'n effeithio ar symudiad gan ddefnyddio ymarfer corff, tylino a thechnegau eraill.
Mae podiatregydd yn diagnosio a thrin annormaleddau ac yn cynnig cyngor proffesiynol ar ofalu am draed a choesau i atal problemau traed.
Mae therapydd iaith a lleferydd yn darparu triniaeth, gofal a chymorth sy'n newid bywyd i blant ac oedolion sy'n cael anawsterau cyfathrebu, neu wrth fwyta, yfed a llyncu. Mae'n helpu unigolion sydd, am resymau corfforol neu seicolegol, yn cael problemau wrth siarad a chyfathrebu.
Mae radiograffydd yn cynnal sganiau CT, sganiau MRI a delweddau meddygol eraill er mwyn cynorthwyo radiolegwyr clinigol a meddygon eraill i wneud diagnosis.
Select the correct answer for each of the questions below.
Dewiswch yr ateb cywir ar gyfer bob un o'r cwestiynau isod.
The ambulance service team consists of paramedics, call handlers and emergency care assistants.
Paramedics are usually the senior member of an ambulance crew, consisting of two individuals, with an emergency care assistant or technician to support them. A paramedic will assess the individual’s condition and make potentially life-saving decisions about whether the patient can be treated at the scene or transferred to hospital.
Call handlers deal with emergency calls from the public and medical dispatchers to make sure that the right help gets to the casualty as soon as possible. Call handlers take essential details about the patient's condition and location, logging the information onto a computer system. The information is then passed to an emergency medical dispatcher who makes decisions about how best to handle the situation.
Emergency care assistants work with paramedics as part of emergency ambulance crews attending 999 calls, helping them to provide individuals with potentially life-saving care and, where needed, getting individuals to hospital.
Mae tîm y gwasanaeth ambiwlans yn cynnwys parafeddygon, trinwyr galwadau a chynorthwywyr gofal brys.
Fel arfer, parafeddyg yw'r uwch aelod mewn criw ambiwlans, yn cynnwys dau unigolyn, gyda chynorthwyydd neu dechnegydd gofal brys i'w cefnogi. Bydd parafeddyg yn asesu cyflwr yr unigolyn ac yn gwneud penderfyniadau a allai achub bywydau, gan benderfynu a ddylid trin claf yn y fan a'r lle neu a ddylid ei drosglwyddo i ysbyty.
Mae trinwyr galwadau yn ymdrin â galwadau brys gan y cyhoedd ac anfonwyr meddygol i sicrhau bod y claf yn derbyn y cymorth cywir cyn gynted â phosibl. Mae trinwyr galwadau yn nodi manylion hanfodol am gyflwr a lleoliad y claf, gan gofnodi'r wybodaeth ar system gyfrifiadurol. Yna trosglwyddir y wybodaeth i anfonwr meddygol brys sy'n gwneud penderfyniadau ynglŷn â'r ffordd orau o ymdrin â'r sefyllfa.
Mae cynorthwywyr gofal brys yn gweithio gyda pharafeddygon yn rhan o griwiau ambiwlans brys sy'n ymateb i alwadau 999, gan eu helpu i roi gofal a allai achub bywyd i unigolion, a lle bo angen, cludo unigolion i'r ysbyty.
Watch the video below and answer the following questions.
Gwyliwch y fideo isod ac atebwch y cwestiynau sy’n dilyn.
Health informatics roles include health records and patient admin, project and programme management.
Health records and patient administration staff collate, store and retrieve records used in the diagnosis and treatment of individuals. They are also responsible for promoting and supporting the effective use of data, information, knowledge and technology within their organisation.
Project and programme management in health informatics includes work on projects, such as delivering digital systems, for staff to record, analyse, extract and use data for the benefit of individuals. The benefits include improving the way information is shared across healthcare organisations, or developing a healthcare app.
Mae rolau gwybodeg iechyd yn cynnwys cofnodion iechyd a gweinyddu cleifion, rheoli projectau a rhaglenni.
Mae staff cofnodion iechyd a gweinyddu cleifion yn coladu, storio a chadw cofnodion a ddefnyddiwyd wrth wneud diagnosis a thrin unigolion. Hefyd, maen nhw'n gyfrifol am hyrwyddo a chefnogi defnydd effeithiol o ddata, gwybodaeth a thechnoleg yn eu sefydliad.
Mae rheoli projectau a rhaglenni mewn gwybodeg iechyd yn cynnwys gweithio ar brojectau, megis darparu systemau digidol, er mwyn i staff gofnodi, dadansoddi, echdynnu a defnyddio data er budd unigolion. Mae’r buddion yn cynnwys gwella'r ffordd y mae gwybodaeth yn cael ei rhannu ar draws sefydliadau gofal iechyd, neu ddatblygu rhaglen gofal iechyd.
Roles in healthcare science include blood sciences, hearing aid dispenser, respiratory, physiology and sleep sciences.
Blood sciences staff may collect blood from individuals for examination in pathology laboratories, carry out tests on blood to diagnose illness or ensure that blood from donors is matched so that it can be given to individuals when needed.
Hearing aid dispensers are fully qualified clinicians who assess hearing and provide aftercare for hearing aids. Hearing aids are designed to provide better hearing for users, including helping them to hear everyday sounds, such as the doorbell and telephone, and improve their ability to hear speech.
Respiratory, physiology and sleep sciences involve the diagnosis and treatment of lung disease and sleep disorders. Respiratory, physiology and sleep sciences workers perform a wide range of routine and highly complex diagnostic tests to assess all aspects of lung function and assess sleep disorders by using a variety of non-invasive sleep measuring systems.
Mae rolau mewn gwyddor gofal iechyd yn cynnwys gwyddorau'r gwaed, dosbarthwr teclynnau clywed, gwyddorau resbiradol, ffisioleg a chysgu.
Gall staff gwyddorau'r gwaed gasglu gwaed gan unigolion i'w harchwilio mewn labordai patholeg, cynnal profion ar waed i wneud diagnosis o salwch neu sicrhau bod gwaed gan roddwyr yn cyfateb er mwyn ei roi i unigolion pan fo angen.
Mae dosbarthwyr teclynnau clywed yn glinigwyr cymwysedig sy'n asesu clyw ac yn darparu ôl-gofal ar gyfer teclynnau clywed. Mae teclynnau clywed wedi'u dylunio i ddarparu gwell clyw i ddefnyddwyr, gan gynnwys eu helpu i glywed synau bob dydd, megis cloch y drws a'r ffôn, ac i wella eu gallu i glywed lleferydd.
Mae gwyddorau ffisioleg, resbiradol a chysgu yn cynnwys gwneud diagnosis o afiechyd yr ysgyfaint ac anhwylderau cysgu, a'u trin. Mae gweithwyr gwyddorau ffisioleg, resbiradol a chysgu yn cyflawni amrywiaeth eang o arferion a phrofion diagnostig cymhleth iawn i asesu pob agwedd ar waith yr ysgyfaint ac i asesu anhwylderau cysgu drwy ddefnyddio amrywiaeth o systemau mesur cysgu nad ydynt yn ymwthiol.
Drag and drop the missing words into the text below.
Llusgwch a gollyngwch y geiriau coll yn y testun isod.
Healthcare science staff play a vital role in the prevention, diagnosis and treatment of a huge number of medical conditions. Healthcare scientists use their knowledge of science and their technical skills to help save lives and improve patient care in a supporting role or in direct contact with individuals.
Healthcare science staff play a vital role in the prevention, diagnosis and treatment of a huge number of medical conditions. Healthcare scientists use their knowledge of science and their technical skills to help save lives and improve patient care in a supporting role or in direct contact with individuals.
You scored … out of . Move some of the terms around to try to improve your score.
Well done. You scored … out of .
You scored … out of . Click reset to try the activity again.
You scored … out of . Move some of the terms around to try to improve your score.
Well done. You scored … out of .
You scored … out of . Click reset to try the activity again.
Mae staff gwyddor gofal iechyd yn chwarae rhan hanfodol yn y broses o atal, gwneud diagnosis a thrin nifer enfawr o gyflyrau meddygol. Mae gwyddonwyr gofal iechyd yn defnyddio'u gwybodaeth o wyddoniaeth a'u sgiliau technegol er mwyn helpu i arbed bywydau a gwella gofal cleifion mewn rôl cefnogol neu mewn cyswllt uniongyrchol ag unigolion.
Mae staff gwyddor gofal iechyd yn chwarae rhan hanfodol yn y broses o atal, gwneud diagnosis a thrin nifer enfawr o gyflyrau meddygol. Mae gwyddonwyr gofal iechyd yn defnyddio'u gwybodaeth o wyddoniaeth a'u sgiliau technegol er mwyn helpu i arbed bywydau a gwella gofal cleifion mewn rôl cefnogol neu mewn cyswllt uniongyrchol ag unigolion.
Eich sgôr yw … allan o . Symudwch rhai o'r termau o gwmpas i geisio gwella eich sgôr.
Da iawn. Eich sgôr yw … allan o .
Eich sgôr yw … allan o . Cliciwch ‘ailosod’ er mwyn rhoi cynnig arall ar y gweithgaredd.
Eich sgôr yw … allan o . Symudwch rhai o'r termau o gwmpas i geisio gwella eich sgôr
Da iawn. Eich sgôr yw … allan o .
Eich sgôr yw … allan o . Cliciwch ‘ailosod’ er mwyn rhoi cynnig arall ar y gweithgaredd.