There are many different job roles and settings in health care and social care. Often staff work in roles and settings that cover both health and social care, and the values and qualities needed are very similar. Workers in health and social care support individuals and their families through difficult times and ensure that vulnerable individuals, including children and adults, are safeguarded from harm. Their role is to help to improve an individual’s personal well-being outcomes.
Mae llawer o wahanol rolau a lleoliadau gwaith ym maes iechyd a gofal cymdeithasol. Yn aml, bydd ein staff yn gweithio mewn rolau a lleoliadau sy'n ymdrin â gofal yn ogystal ag iechyd cymdeithasol, ac mae'r gwerthoedd a'r rhinweddau y mae eu hangen yn debyg iawn. Mae gweithwyr iechyd a gofal cymdeithasol yn cefnogi unigolion a'u teuluoedd drwy gyfnodau anodd ac maen nhw'n sicrhau bod unigolion sy'n agored i niwed, gan gynnwys plant ac oedolion, yn cael eu diogelu rhag niwed. Eu rôl yw helpu i wella canlyniadau llesiant personol yr unigolyn.
There are two general types of hospital in Wales – National Health Service (NHS) hospitals, which are free, and independent hospitals run by private companies or charities which usually charge for services. NHS hospitals are run by National Health Service trusts.
Most general hospitals in Wales will offer accident and emergency (A&E), maternity services, surgery, elderly care and outpatient services. There are also a number of specialist hospitals in Wales - e.g. eye hospitals, orthopaedic hospitals, etc.
Hospital treatment is free for residents in Wales. The services and treatments free in NHS hospitals include:
Mae dau fath cyffredinol o ysbytai yng Nghymru – ysbytai Gwasanaeth Iechyd Gyhoeddus (GIG), sy'n rhad ac am ddim, ac ysbytai annibynnol sy'n cael eu rhedeg gan gwmnïau neu elusennau preifat sydd fel arfer yn codi tâl am wasanaethau. Ymddiriedolaethau'r Gwasanaeth Iechyd Gyhoeddus sy'n rhedeg ysbytai GIG.
Bydd y rhan fwyaf o ysbytai cyffredinol yng Nghymru yn cynnig gwasanaethau damweiniau ac achosion brys (A&E), mamolaeth, llawdriniaeth, gofal i'r henoed a gwasanaethau i gleifion allanol. Hefyd mae nifer o ysbytai arbenigol yng Nghymru – e.e. ysbytai llygaid, ysbytai orthopaedig ac ati.
Mae triniaeth mewn ysbytai yn rhad ac am ddim i drigolion Cymru. Mae'r gwasanaethau a'r triniaethau sy'n rhad ac am ddim mewn ysbytai GIG yn cynnwys:
Care and support at home is a service for individuals who want to live in their own homes, with support when they need it.
Care and support at home can also be offered to individuals with complex health, care and support needs. Individuals are supported according to their choices, wishes and preferences. They are helped with eating and nutritional care, pain management, personal hygiene and given practical assistance where needed. If support workers help individuals with their care and support needs, they are able to remain living in their own homes.
Support workers, personal care assistants and outreach workers work with individuals in their own homes, in different ways. They could be helping individuals who are living with mental health concerns, learning difficulties, physical disabilities, recovering addicts, young offenders or those struggling with relationships, for example.
Support workers, personal care assistants and outreach workers assist healthcare professionals in the delivery of individualised care. They work with an individual practitioner or a team, taking on some of the more routine tasks, such as carrying out support tasks in the individual’s home, monitoring care needs and updating an individual’s records.
Mae gofal a chymorth yn y cartref yn wasanaeth i unigolion sydd am fyw yn eu cartrefi eu hunain, gyda chymorth pan fydd ei angen arnynt.
Gellir hefyd cynnig gofal a chymorth yn y cartref i unigolion sydd ag anghenion iechyd, gofal a chymorth cymhleth. Rhoddir cefnogaeth i unigolion yn unol â'u dewisiadau, dyheadau a'u dymuniadau. Maen nhw'n cael cymorth ynghylch bwyta a gofal maeth, rheoli poen, hylendid personol a rhoddir cymorth ymarferol yn ôl yr angen. Os yw gweithwyr cymorth yn helpu unigolion gyda'u hanghenion gofal a chymorth, maen nhw'n gallu aros i fyw yn eu cartrefi eu hunain.
Mae gweithwyr cymorth, cynorthwywyr gofal personol a gweithwyr allgymorth yn gweithio ag unigolion yn eu cartrefi eu hunain, mewn ffyrdd gwahanol. Gallan nhw fod yn helpu unigolion sy'n byw gyda phryderon iechyd meddyliol, anawsterau dysgu, anableddau corfforol, adictiaid sy'n gwella, troseddwyr ifanc neu'r rhai sy'n cael trafferth gyda pherthnasoedd, er enghraifft.
Mae gweithwyr cymorth, cynorthwywyr gofal personol a gweithwyr allgymorth yn cynorthwyo gweithwyr proffesiynol gofal iechyd wrth ddarparu gofal unigol. Maen nhw'n gweithio ag ymarferydd unigol neu dîm, gan ymgymryd â rhai o'r tasgau mwyaf arferol, megis cyflawni tasgau cefnogi yng nghartref yr unigolyn, monitro anghenion gofal a diweddaru cofnodion unigolyn.
Complete the glossary worksheet of all the roles & responsibilities of workers in the health and social care sector.
Cwblhewch y daflen waith o'r eirfa sy'n ymwneud â holl rolau a chyfrifoldebau gweithwyr yn y sector iechyd a gofal cymdeithasol.
Create a thought shower of all the different settings in health care.
Ewch ati i greu cawod syniadau gyda'r holl leoliadau gwahanol mewn gofal iechyd.
Create a thought shower of all the different settings in social care.
Ewch ati i greu cawod syniadau gyda'r holl leoliadau gwahanol mewn gofal cymdeithasol.
Morag has just moved from Australia to Wales. Morag has registered with Social Care Wales (SCW) and is now a registered social worker in Wales.
What are the potential settings she may work in?
Mae Morag newydd symud o Awstralia i Gymru. Mae Morag wedi cofrestru â Gofal Cymdeithasol Cymru (GCC) ac mae bellach yn weithiwr cymdeithasol cofrestredig yng Nghymru.
Pa leoliadau posibl y gallai weithio ynddynt?
Remember that health and social care workers may work in a range of settings and that they are not always based in one setting!
For example, a key responsibility of a social worker is that they have a duty of care to individuals so, as a result, they work within a range of settings – such as hospitals, clinics, an individual’s home, police stations, courts - to ensure that vulnerable individuals are cared for appropriately.
Cofiwch y gall gweithwyr iechyd a gofal cymdeithasol fod yn gweithio mewn amrywiaeth o leoliadau ac nad ydynt bob amser mewn un lleoliad!
Er enghraifft, un o gyfrifoldebau allweddol gweithiwr cymdeithasol yw dyletswydd o ofal am unigolion felly, o ganlyniad, bydd yn gweithio mewn lleoliadau amrywiol – megis ysbytai, clinigau, cartref unigolyn, gorsafoedd heddlu, llysoedd – i sicrhau bod unigolion sy'n agored i niwed yn cael gofal priodol.