This includes:
Understanding is a psychological need of individuals to understand others and the world around them. It refers to the need for individuals to understand themselves and to be able to make informed decisions about their lives. It also refers to the need to communicate with others and be listened to empathically and understood.
Education allows individuals to gain knowledge and may be provided by institutions such as schools and universities. Understanding helps make sense of facts. Curiosity encourages individuals to find understanding and meaning. Children are particularly curious.
Understanding helps to support self-esteem and independence.
Mae hyn yn cynnwys:
Mae dealltwriaeth yn angen seicolegol sydd ar unigolion i ddeall eraill a'r byd o'u cwmpas nhw. Mae'n cyfeirio at yr angen i unigolion ddeall eu hunain a gallu gwneud penderfyniadau gwybodus am eu bywydau. Hefyd mae'n cyfeirio at yr angen i gyfathrebu ag eraill a chael rhywun i wrando'n llawn empathi ac i ddeall.
Mae addysg yn galluogi unigolion i gael gwybodaeth ac mae'n bosibl mai sefydliadau fel ysgolion a phrifysgolion fydd yn ei rhoi. Mae dealltwriaeth yn helpu i wneud synnwyr o ffeithiau. Mae chwilfrydedd yn annog unigolion i ganfod dealltwriaeth ac ystyr. Mae plant yn arbennig o chwilfrydig.
Mae dealltwriaeth yn helpu i gefnogi hunan-barch ac annibyniaeth.
What are the potential negative impacts or outcomes for individuals when the fundamental need for understanding (education, curiosity, intuition) is not met?
Beth yw'r effeithiau neu ganlyniadau negyddol posibl i unigolion pan nad yw'r angen sylfaenol am ddealltwriaeth (addysg, chwilfrydedd, greddf) yn cael ei fodloni?