Promoting inclusion is about identifying the practical steps health and social care workers can take in daily activities to ensure individuals are able to make decisions about their own lives.
Health and social care workers must promote equality and diversity in all aspects of their job role, challenging any practice they think does not reinforce this approach.
Through promoting equality and diversity, health and social care workers must ensure an inclusive approach, adapting their approach to meet the needs of individuals and treating each with fairness and dignity.
Mae hyrwyddo cynhwysiant yn golygu nodi'r camau ymarferol y gall gweithwyr iechyd a gofal cymdeithasol eu cymryd mewn gweithgareddau beunyddiol er mwyn sicrhau y gall unigolion wneud penderfyniadau ynglŷn â'u bywydau eu hunain.
Rhaid i weithwyr iechyd a gofal cymdeithasol hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth ym mhob agwedd ar eu rôl, gan herio unrhyw ymarfer nad yw'n atgyfnerthu’r dull hwn yn eu barn nhw.
Wrth hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth, rhaid i weithwyr iechyd a gofal cymdeithasol sicrhau dull gweithredu cynhwysol, gan addasu eu dull gweithredu i ddiwallu anghenion unigolion a thrin pob un â thegwch ac urddas.
Having our individual differences acknowledged and understood helps us to develop a sense of belonging and supports inclusion. Disadvantaging individuals because they are different in some way may make them feel excluded.
Inclusion is about accepting everyone, regardless of their differences. It is also about being understanding and tolerant of differences and providing help and support where appropriate.
Any organisation or institution, including local authorities, health and social care service providers, educational establishments, the police service, voluntary organisations and workplaces, that supports and promotes inclusion must demonstrate that it values everything about the individuals involved within it. Inclusion brings about a sense of well-being and of confidence in one’s own identity and abilities.
Os bydd ein gwahaniaethau unigol yn cael eu cydnabod a'u deall, bydd hyn yn ein helpu ni i feithrin ymdeimlad o berthyn ac yn hyrwyddo cynhwysiant. Gall rhoi unigolion dan anfantais am eu bod yn wahanol mewn rhyw ffordd wneud iddynt deimlo fel eu bod wedi’u hall-gau.
Mae cynhwysiant yn golygu derbyn pawb, ni waeth beth yw'r gwahaniaethau rhyngddynt. Mae hefyd yn golygu deall gwahaniaethau a bod yn oddefgar ohonynt, a rhoi cymorth a chefnogaeth lle bo hynny'n briodol.
Rhaid i unrhyw sefydliad, gan gynnwys awdurdodau lleol, darparwyr gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol, sefydliadau addysg, gwasanaeth yr heddlu, sefydliadau gwirfoddol a gweithleoedd, sy'n cefnogi ac yn hyrwyddo cynhwysiant, ddangos ei fod yn gwerthfawrogi popeth ynglŷn â'r unigolion sydd ynghlwm wrtho. Mae cynhwysiant yn rhoi ymdeimlad o lesiant i unigolion, yn ogystal â hyder yn ei hunaniaeth a'i alluoedd ei hun.
Person-centred approaches involve the attitudes and approaches taken to ensure that individuals are not excluded or isolated from any service, treatment or activity. It means supporting diversity by accepting an individual's differences and promoting equality by ensuring equal opportunities for all.
Inclusive practice is best practice. Health and social care workers can demonstrate inclusive practice by working in ways that recognise, respect, value and make the most of all aspects of diversity. Having a good understanding and awareness of, and responding sensitively to, an individual’s diverse needs supports them in developing a sense of belonging, well-being and confidence in their identity and abilities.
Mae dulliau gweithredu person-ganolog yn cynnwys yr agweddau a'r dulliau a ddilynir i sicrhau na chaiff unigolion eu hallgáu na'u neilltuo o unrhyw wasanaeth, triniaeth neu weithgaredd. Mae'n golygu cefnogi amrywiaeth drwy dderbyn gwahaniaethau unigolion a hyrwyddo cydraddoldeb drwy sicrhau cyfle cyfartal i bawb.
Ymarfer cynhwysol yw'r ymarfer gorau. Gall gweithwyr iechyd a gofal cymdeithasol ddangos ymarfer cynhwysol drwy weithio mewn ffyrdd sy'n cydnabod, yn parchu, yn gwerthfawrogi ac yn gwneud y gorau o bob agwedd ar amrywiaeth. Mae meddu ar ddealltwriaeth ac ymwybyddiaeth dda o anghenion amrywiol unigolyn, ac ymateb yn sensitif iddynt, yn eu helpu i feithrin ymdeimlad o berthyn, llesiant a hyder yn eu hunaniaeth a'u galluoedd.
A prejudice is an attitude or way of thinking based on an unfounded, unreasonable pre-judgement of an individual, particular group of individuals or situation, rather than on a factual assessment. This approach does not promote inclusion.
Inclusive practice involves understanding the disastrous impact that discrimination, inequality and social exclusion can have on an individual’s physical and mental health. Having such an understanding ensures appropriate, personalised care and support, thereby enabling an individual to develop self-respect and maintain a valued role in society.
As individuals who fail to support diversity or promote equality are often not aware of their attitudes and the impact of their behaviour, inclusive practice involves reflecting on and challenging one’s own prejudices, behaviours and work practices. It also involves challenging the prejudices, behaviours and work practices of colleagues and other service providers, with a view to adapting ways of thinking and working and to changing services to build on good practice and to better support diversity and promote equality.
Ystyr rhagfarn yw agwedd neu ffordd o feddwl sy'n seiliedig ar farn ddi-sail ac afresymol a ffurfiwyd ymlaen llaw mewn perthynas ag unigolyn, grŵp penodol o unigolion neu sefyllfa, yn hytrach nag ar asesiad ffeithiol. Nid yw hyn yn hyrwyddo cynhwysiant.
Mae ymarfer cynhwysol yn golygu deall yr effaith drychinebus y gall gwahaniaethu, anghydraddoldeb ac all-gau cymdeithasol ei chael ar iechyd corfforol ac iechyd meddwl unigolyn. Mae meddu ar ddealltwriaeth o'r fath yn sicrhau gofal a chymorth priodol sydd wedi'u teilwra i'r unigolyn, a thrwy hynny alluogi unigolyn i feithrin hunan-barch a chynnal rôl werthfawr mewn cymdeithas.
Yn aml, nid yw unigolion sy'n methu â chefnogi amrywiaeth neu hyrwyddo cydraddoldeb yn ymwybodol o'u hagweddau ac effaith eu hymddygiad, felly mae ymarfer cynhwysol yn golygu myfyrio ar ein rhagfarnau, ein hymddygiad a'n harferion gwaith ein hunain, a'u herio. Mae hefyd yn golygu herio rhagfarnau, ymddygiad ac arferion gwaith cydweithwyr a darparwyr gwasanaethau eraill, gyda'r nod o addasu ffyrdd o feddwl a gweithio a newid gwasanaethau er mwyn adeiladu ar arfer da a chefnogi amrywiaeth a hyrwyddo cydraddoldeb yn well.