Social development

Datblygiad cymdeithasol

Diverse group of people

Adolescents

Children are becoming more independent and can become moody and want more privacy. Peer groups are important to children at this age and they can start experimenting with fashion in order to find where they fit in. They will show interests in dating at this age.

Young adults

Some young adults can struggle in social situations, possibly due to learning disabilities or through lack of self-confidence. Some can struggle to understand what a healthy relationship is and might make poor choices. Others can find it difficult to know how to act appropriately in different situations. These young adults will need support to help them develop the skills they lack.

Older adults

Older individuals have had a great amount of experience of dealing with different social situations and can be better at reading other individuals’ emotions and dealing with conflict. However, older people who have seen their social circle shrink due to illness and death may start to feel anxious in certain social situations. They can also feel a greater sense of isolation.

Y glasoed

Daw plant yn fwy annibynnol, gall eu hwyliau amrywio ac mae'n bosibl y byddan nhw am gael mwy o breifatrwydd. Mae grwpiau cyfoedion yn bwysig i blant yr oedran hwn a gallan nhw ddechrau arbrofi gyda ffasiwn i weld ble maen nhw’n ffitio i mewn. Byddan nhw’n dangos diddordeb mewn canlyn (dating) yr oedran hwn.

Oedolion ifanc

Gall rhai oedolion ifanc ei chael hi’n anodd ymdopi mewn sefyllfaoedd cymdeithasol, o bosibl oherwydd anableddau dysgu neu ddiffyg hunanhyder. Gall rhai ei chael hi’n anodd deall beth yw perthynas iach a gallen nhw wneud dewisiadau gwael. Gall eraill ei chael hi’n anodd gwybod sut i ymddwyn yn briodol mewn sefyllfaoedd gwahanol. Bydd angen i’r oedolion ifanc hyn gael cymorth i’w helpu nhw i feithrin y sgiliau sydd ar goll.

Oedolion hŷn

Mae unigolion hŷn wedi cael llawer iawn o brofiad o ddelio â sefyllfaoedd cymdeithasol gwahanol a gallan nhw fod yn well am ddarllen emosiynau pobl eraill a delio â gwrthdaro. Fodd bynnag, gall pobl hŷn sydd wedi gweld eu cylch cymdeithasol yn crebachu oherwydd salwch a marwolaeth ddechrau teimlo’n orbryderus mewn rhai sefyllfaoedd cymdeithasol. Gallan nhw hefyd deimlo'n fwy ynysig.

Adolescents and peer pressure

Pobl ifanc yn ystod llencyndod a phwysau gan gyfoedion



      Key social changes in adulthood

      Newidiadau cymdeithasol allweddol mewn oedolaeth

      Can you identify the key social changes during adulthood? Allwch chi nodi'r newidiadau cymdeithasol allweddol yn ystod oedolaeth?

      Suggested answer:

      • Independence – early to middle adulthood includes increased freedom and life changes. Dependent children may leave home.
      • New relationships – friendships, work colleagues etc.
      • Work-life balance – juggling between working and socialising.

      Ateb awgrymedig:

      • Annibyniaeth - mae oedolaeth gynnar i ganol oed yn cynnwys mwy o ryddid a newidiadau bywyd. Mae'n bosibl y bydd plant dibynnol yn gadael cartref.
      • Perthnasoedd newydd – cyfeillgarwch, cydweithwyr ac ati.
      • Cydbwysedd bywyd-gwaith – jyglo rhwng gwaith a chymdeithasu.

      Social roles and interactions

      Rolau a rhyngweithiadau cymdeithasol

      Elderly friends drinking tea

      As an individual grows older, they realise that they can't behave exactly as they wish, but that they have to conform to certain standards and behaviours that are accepted by the society in which they live.

      Depending on the group an individual is with, they can change their personality in order to fit in. For a younger individual, the most important social group will be their family, but as they grow older, they will be part of a number of social groups, such as friends, work colleagues and sports teams.

      Social roles define where an individual believes himself or herself to be in a social structure. For instance, a young man may take on a leader role in his friendship group but adopts a different role with his work colleagues.

      In the past, individuals tended to interact face to face, but with the rise of social media, more and more young individuals are interacting online. Individuals tend to share the best version of themselves and their lives on social media platforms, and this can lead to others feeling worthless and dissatisfied.

      As individuals grow older, retire, and see their children move on with their own lives, they can feel their role in society change. This can lead to confusion, doubt about the future and anger. On the other hand, it may open up a whole new world of social interaction as they have more time to do what they love and spend time with people who enjoy the same things.

      Wrth i unigolyn fynd yn hŷn, bydd yn sylweddoli na all ymddwyn yn union fel yr hoffai, ond bod yn rhaid iddo gydymffurfio â safonau penodol a mathau penodol o ymddygiad a dderbynnir gan y gymdeithas y mae'n byw ynddi.

      Gan ddibynnu ar ba grŵp y mae unigolyn yn ei gwmni, gall newid ei bersonoliaeth er mwyn ffitio i mewn. Yn achos rhywun iau, y grŵp cymdeithasol pwysicaf fydd ei deulu, ond wrth iddo dyfu’n hŷn, bydd yn rhan o nifer o grwpiau cymdeithasol fel ffrindiau, cydweithwyr a thimau chwaraeon.

      Mae rolau cymdeithasol yn diffinio safle unigolyn o fewn strwythur cymdeithasol, ym marn yr unigolyn hwnnw. Er enghraifft, gall dyn ifanc gymryd rôl fel arweinydd yn ei grŵp o ffrindiau, ond bydd yn mabwysiadu rôl wahanol gyda’i gydweithwyr.

      Yn y gorffennol, roedd unigolion yn tueddu i ryngweithio wyneb yn wyneb, ond gyda thwf y cyfryngau cymdeithasol, mae mwy a mwy o bobl ifanc yn rhyngweithio ar lein. Mae unigolion yn tueddu i rannu’r agweddau gorau arnyn nhw eu hunain a’u bywyd ar lwyfannau’r cyfryngau cymdeithasol. Gall hyn arwain at deimlo’n ddi-werth ac yn anfodlon.

      Wrth i bobl dyfu’n hŷn, ymddeol, a gweld eu plant yn symud ymlaen â’u bywyd, gallan nhw weld eu rôl mewn cymdeithas yn newid. Gall hyn arwain at ddryswch, ansicrwydd am y dyfodol a dicter. Ar y llaw arall, gall gyflwyno byd newydd sbon o ryngweithio cymdeithasol am fod ganddyn nhw fwy o amser i wneud y pethau maen nhw'n hoffi a threulio amser gyda phobl sy’n mwynhau gwneud yr un pethau.

      Social roles and interactions

      Rolau a rhyngweithiadau cymdeithasol

      Watch the film and then describe how this type of social interaction can have a negative effect on an individual's health and well-being.

      Gwyliwch y ffilm ac yna disgrifiwch sut gall y math hwn o ryngweithio cymdeithasol gael effaith negyddol ar iechyd a llesiant yr unigolyn.

      Suggested answer:

      Social interaction via sites such as Snapchat, Instagram and Facebook can have a negative impact on users due to the unrealistic posts. Many individuals only portray images or posts of a ‘perfect’ life and this can make viewers feel dissatisfied with their own lives. It can lead to feelings of insecurity and low self-esteem. Individuals can also become fixated on the number of ‘likes’ they get, feeling that they are only valued if they get a high number of likes.

      Ateb awgrymedig:

      Gall rhyngweithio cymdeithasol ar safleoedd fel Snapchat, Instagram a Facebook gael effaith negyddol ar ddefnyddwyr o ganlyniad i'r deunydd afrealistig a gyflwynir. Mae llawer o unigolion yn dangos lluniau o fywyd ’perffaith’ yn unig a gall hyn wneud i eraill deimlo’n anfodlon â’u bywyd eu hunain. Gall hyn arwain at deimladau o ansicrwydd a hunan-barch isel. Bydd rhai unigolion yn canolbwyntio gormod ar y niferoedd o unigolion sy’n ‘hoffi’ yr hyn a gyflwynwyd ganddyn nhw, gan deimlo mai dyma’r unig ffordd o wybod eu bod nhw’n cael eu gwerthfawrogi.

      Blockbuster style quiz

      Try to identify some social opportunities within this quiz.

      Cwis ar ffurf ‘Blockbusters’

      Ceisiwch nodi rhai cyfleoedd cymdeithasol yn y cwis hwn.

      Reset quiz Ailgychwyn cwis