1/8
Mae datblygiad cymdeithasol yn cynnwys:
1/8
Ymchwiliwch ddamcaniaeth Piaget ar gamau datblygiad gwybyddol a nodwch pam roedd Piaget o'r farn bod babanod/plant yn meddwl yn wahanol i oedolion.
Ystyr datblygiad gwybyddol yw'r ffordd mae babanod/plant yn meddwl, yn archwilio ac yn datrys pethau.
Nododd Piaget bedwar cam datblygiad gwybyddol allweddol:
1/8
Nododd Piaget fod babanod a phlant yn symud drwy gamau datblygiadol penodol mewn dilyniant. Roedd o'r farn y dylid caniatáu i fabanod/plant ddysgu drwy chwarae er mwyn darganfod pethau drostyn nhw eu hunain. Gellir gwneud hyn drwy chwarae digymell.
Mae chwarae rhydd yn weithgaredd gwirfoddol, digynllun a gychwynnir gan y plentyn sy'n caniatáu i blant ddatblygu eu dychymyg wrth archwilio a phrofi'r byd o'u cwmpas.
Dysgwch am brawf cadwraeth Piaget a gwnewch ymarfer chwarae rôl ar hyn yn y dosbarth.
Bydd angen gwydr bach a gwydr tal arnoch a bydd angen i chi eu llenwi â dŵr.
Nodwch beth wnaeth Piaget ei ddarganfod am weithrediadau diriaethol.
1/8
Mae Carol a’i merch Hannah, sy’n 18 mis oed, newydd symud i dŷ newydd mewn ardal newydd.
Mae Carol yn awyddus i'r ddwy ohonyn nhw wneud ffrindiau newydd yn yr ardal.
Q. Enwch un gweithgaredd neu gyfle y gallai pob un o'r mannau hyn ei gynnig i Carol a Hannah gymdeithasu a gwneud ffrindiau newydd:
1/8
Mae babanod a phlant yn datblygu ar gyfraddau gwahanol ond mae rhai cerrig milltir cyffredin yn eu datblygiad cymdeithasol.
Erbyn 12 mis, bydd babanod yn gwybod sut i chwarae ffefrynnau gyda phobl. Byddan nhw'n dangos eu bod am gael eich sylw, drwy roi llyfr neu degan i chi, neu drwy wneud synau penodol er mwyn i chi edrych arnyn nhw.
Mae colli tymer yn beth cyffredin wrth i blentyn geisio dod yn annibynnol. Bydd yn chwarae dychmygu, gan ddynwared yr oedolion o’i gwmpas. Bydd ganddo ddiddordeb mewn plant eraill hefyd, ond bydd yn tueddu i chwarae wrth eu hymyl yn hytrach na gyda nhw.
Erbyn yr oedran hwn, bydd plant yn fwy hapus i gael eu gwahanu oddi wrth riant a chwarae gyda phlant eraill. Byddan nhw’n garedig ac yn ofalgar, a hynny’n ddigymell, gyda phlant eraill yr oedran hwn.
Bydd plant yr oedran hwn yn annwyl ac yn chwilfrydig, ond gallan nhw hefyd fod yn hunanol ac yn hoff o ddadlau. Gallan nhw ddechrau encilio ychydig o’r teulu wrth iddyn nhw ddatblygu eu hunaniaeth eu hunain. Maen nhw’n ymwybodol o’u rhywedd ac mae’n bosibl y bydd yn well ganddyn nhw chwarae gyda phlant o’r un rhyw.
Allwch chi ymchwilio i'r gwahanol fathau o chwarae yn ystod pob cam a thrafod y pwysigrwydd o ran twf a datblygiad?
Chwarae unigol – o adeg geni hyd at flwydd oed.
Chwarae cyfochrog - rhwng 18 mis a 2 oed.
Chwarae cydweithredol - rhwng 4 a 6 oed.
1/8
Mae 6 chyfnod o chwarae cymdeithasol:
Yn ystod y cyfnod hwn, bydd babanod yn eu difyrru eu hunain drwy symud eu breichiau a’u dwylo gryn dipyn. Nid yw’r chwarae hwn yn cynnwys ymgysylltu ag unrhyw un arall.
Dyma’r cyfnod pan fydd baban neu blentyn bach yn chwarae ar ei ben ei hun. Wrth chwarae’n unigol, mae’n ymddangos na fydd yn sylwi ar blant bach eraill sy’n chwarae gerllaw.
Yn ystod y cyfnod hwn, bydd plant bach yn eistedd ac yn gwylio eraill yn chwarae ac o bosibl yn gofyn cwestiynau, ond ni fyddan nhw'n gwneud unrhyw ymdrech i ymuno yn y chwarae.
Pan fydd plentyn bach yn chwarae wrth ymyl plentyn arall ond ni fydd yn ei gynnwys yn ei chwarae. Er nad yw’r plant yn rhyngweithio â’i gilydd, maen nhw’n talu sylw i’r hyn mae’r llall yn ei wneud.
Bydd plant yr oedran hwn yn dechrau chwarae gyda’i gilydd ond fydd ganddyn nhw ddim nod cyffredin ac ni fydd rheolau wedi’u sefydlu. Yn syml, maen nhw wedi dod yn fwy ymwybodol o’i gilydd nag o’r teganau maen nhw’n chwarae â nhw. Mae hyn yn gam pwysig wrth ddysgu sut i gydweithredu a rhannu.
Yn ystod y cyfnod hwn, bydd gan y plentyn ddiddordeb mewn eraill o'i gwmpas yn ogystal â'r gweithgaredd maen nhw'n ei rannu. Bydd chwarae yn dechrau cael ei ffurfioli, gydag un plentyn yn cymryd yr awenau. Dyma pryd mae plant yn dysgu sgiliau cymdeithasol cydweithredu, hyblygrwydd, cymryd tro a datrys problemau.
Dyma'r cyfnodau chwarae, ond gall chwarae fod ar sawl ffurf. Gall fod yn swnllyd, yn ddi-drefn ac yn gymdeithasol, ond gall hefyd fod yn dawel, yn benodol ac yn unigol. Gan ei fod yn amrywio cymaint, mae sawl un wedi ceisio rhannu ymddygiad chwarae yn wahanol fathau. Mae'r modelau yn amrywio o ddim ond dau fath – llif rhydd a strwythuredig. Yn y sector gwaith chwarae yn y DU, maen nhw fel arfer yn cyfeirio at 16 o fathau o chwarae.
Mae'r amrywiol fathau o chwarae yn ceisio disgrifio'r amrywiaeth lawn o ymddygiad chwarae ymhlith plant a sut y gallen nhw gyfrannu at ddatblygiad corfforol, meddyliol ac emosiynol plant.
1/8
Mae angen i blant ddysgu sut i wahaniaethu rhwng da a drwg a sut i wneud dewisiadau da. Er mwyn i hyn ddigwydd, mae angen iddyn nhw weld esiampl dda yn cael ei gosod o’u cwmpas.
Nid yw babanod yn gallu deall y gwahaniaeth rhwng da a drwg, cânt eu rheoli gan eu teimladau a'u hanghenion.
Bydd plant bach yn dilyn y rheolau er mwyn osgoi cael eu cosbi, ond dydyn nhw ddim yn deall da a drwg eto. Dydyn nhw ddim yn deall pam mae cnoi yn anghywir, ond maen nhw’n gwybod y byddan nhw’n cael eu cosbi am wneud hynny.
Erbyn i blentyn gyrraedd 5 oed, bydd yn deall bod gan weithredoedd ganlyniadau, a bydd yn ymwybodol o reolau’r teulu. Ar y cam hwn yn natblygiad plentyn, mae angen i ddisgyblaeth fod yn gyson ac mae plant yn deall pam maen nhw’n cael eu cosbi. Mae hefyd yn bwysig bod plant yn gweld esiampl dda yn cael ei gosod o’u cwmpas.
Erbyn hyn, bydd gan blant cynradd ymdeimlad cryf o’r hyn sy’n dda ac yn ddrwg, ond byddan nhw’n dal i dorri’r rheolau o bryd i’w gilydd. Mae’n bwysig eu bod yn teimlo eu bod yn cael eu trin yn deg.
1/8
Drwy adolygu'r ddogfen gan ddefnyddio'r linc uchod, defnyddiwch y gawod syniadau i nodi sut mae plant yn dysgu ymwybyddiaeth ofodol.