Social development

Datblygiad cymdeithasol

Play

Social development includes:

  • social skills/socialisation
  • stages of social play.

Mae datblygiad cymdeithasol yn cynnwys:

  • sgiliau cymdeithasol/cymdeithasoli
  • camau chwarae cymdeithasol.

Piaget’s theory on stages of cognitive development

Damcaniaeth Piaget ar gamau datblygiad gwybyddol

Research Piaget’s theory on stages of cognitive development and find out why Piaget believed that infants/children think differently from adults.

Ymchwiliwch ddamcaniaeth Piaget ar gamau datblygiad gwybyddol a nodwch pam roedd Piaget o'r farn bod babanod/plant yn meddwl yn wahanol i oedolion.

Suggested answers

Cognitive development means how infants/ children think, explore and figure things out.

Piaget identified four key stages of cognitive development:

  • Stage 1 – Sensorimotor.
  • Stage 2 – Preoperational.
  • Stage 3 – Concrete operations.
  • Stage 4 – Formal operations.

Atebion awgrymedig

Ystyr datblygiad gwybyddol yw'r ffordd mae babanod/plant yn meddwl, yn archwilio ac yn datrys pethau.

Nododd Piaget bedwar cam datblygiad gwybyddol allweddol:

  • Cam 1 – Synhwyraidd-weithredol.
  • Cam 2 – Cynweithredol.
  • Cam 3 – Gweithrediadau diriaethol.
  • Cam 4 – Gweithrediadau ffurfiol.

The role of play in social and intellectual development

Rôl chwarae mewn datblygiad cymdeithasol a deallusol

Children playing

Piaget identified that infants and children pass through distinct developmental stages in sequence. He believed infants/children should be allowed to learn through play to discover things for themselves. This can be done through spontaneous play.

Free play is unstructured, voluntary, child-initiated activity that allows children to develop their imaginations while exploring and experiencing the world around them.

Nododd Piaget fod babanod a phlant yn symud drwy gamau datblygiadol penodol mewn dilyniant. Roedd o'r farn y dylid caniatáu i fabanod/plant ddysgu drwy chwarae er mwyn darganfod pethau drostyn nhw eu hunain. Gellir gwneud hyn drwy chwarae digymell.

Mae chwarae rhydd yn weithgaredd gwirfoddol, digynllun a gychwynnir gan y plentyn sy'n caniatáu i blant ddatblygu eu dychymyg wrth archwilio a phrofi'r byd o'u cwmpas.

Suggested classroom activity:

Find out about Piaget’s conservation test and role play this in class.

You will need a small glass and a tall glass and will need to fill this up with water.

State what Piaget found out about concrete operations.

Gweithgaredd awgrymedig ar gyfer yr ystafell ddosbarth:

Dysgwch am brawf cadwraeth Piaget a gwnewch ymarfer chwarae rôl ar hyn yn y dosbarth.

Bydd angen gwydr bach a gwydr tal arnoch a bydd angen i chi eu llenwi â dŵr.

Nodwch beth wnaeth Piaget ei ddarganfod am weithrediadau diriaethol.

Social development

Datblygiad cymdeithasol

Carol and her daughter Hannah, aged 18 months, have just moved to a new house in a new area.

Carol is keen for them both to make new friends in the area.

Q. Name one activity or opportunity that each of these places may give Carol and Hannah to socialise and make new friends:

  • Local health centre
  • Library
  • Leisure centre
  • Local park
  • Community centre.

Mae Carol a’i merch Hannah, sy’n 18 mis oed, newydd symud i dŷ newydd mewn ardal newydd.

Mae Carol yn awyddus i'r ddwy ohonyn nhw wneud ffrindiau newydd yn yr ardal.

Q. Enwch un gweithgaredd neu gyfle y gallai pob un o'r mannau hyn ei gynnig i Carol a Hannah gymdeithasu a gwneud ffrindiau newydd:

  • Y ganolfan iechyd leol
  • Y llyfrgell
  • Y ganolfan hamdden
  • Y parc lleol
  • Y ganolfan gymunedol.

Suggested responses:

  • Local health centre - Many health centres run Flying Start programmes. They often organise group sessions, such as weaning parties, baby massage and baby clinics.
  • Library - Carol could find out whether her local library runs a bookstart scheme. These schemes are for children and babies under 5. They also organise ‘Rhyme time’; sessions where Carol and her daughter could meet other mums and babies.
  • Leisure centre - Leisure centres have a wealth of facilities, from soft play areas to swimming pools. They will also have a range of activities that run throughout the week catering for preschoolers.
  • Local park - Local parks are a great opportunity to meet other young parents. Some also offer activities such as mother and baby park runs, which would be a good way for Carol to keep fit as well as meet new people. They may also hold events such as teddy bear picnics. Carol could contact her local council to see what is available at the parks in her area.
  • Community centre - Many groups for preschoolers are run from community centres. Carol may find groups ranging from baby music groups to young mums’ coffee mornings. She could find out what is offered at the community centres in her area and choose groups to suit her needs.

Ymatebion awgrymedig:

  • Y ganolfan iechyd leol - Mae llawer o ganolfannau iechyd yn cynnal rhaglenni Dechrau’n Deg. Maen nhw'n aml yn trefnu sesiynau grŵp, fel partïon diddyfnu, tylino babanod a chlinigau babanod.
  • Y llyfrgell - Gallai Carol holi a yw ei llyfrgell leol yn cynnig cynllun Dechrau Da. Mae’r cynlluniau hyn ar gyfer plant a babanod o dan 5 oed. Maen nhw hefyd yn trefnu 'Amser rhigwm'; sesiynau lle y gallai Carol a'i merch gwrdd â mamau a babanod eraill.
  • Y ganolfan hamdden - Mae gan ganolfannau hamdden amrywiaeth o gyfleusterau sy’n amrywio o ardaloedd chwarae meddal i byllau nofio. Bydd ganddyn nhw hefyd gyfres o weithgareddau yn ystod yr wythnos ar gyfer plant cyn oed ysgol.
  • Y parc lleol - Mae parciau lleol yn cynnig cyfle ardderchog i gwrdd â rhieni ifanc eraill. Mae rhai hefyd yn cynnig cyfleoedd i famau a’u babanod redeg yn y parc. Byddai hynny’n gyfle gwych i Carol gadw’n heini yn ogystal â chyfarfod â phobl newydd. Efallai byddan nhw’n cynnal digwyddiadau fel picnic tedis. Gallai Carol gysylltu â’i chyngor lleol i weld beth sydd ar gael yn y parciau yn ei hardal.
  • Y ganolfan gymunedol - Mae llawer o grwpiau ar gyfer plant cyn oed ysgol yn cael eu cynnal mewn canolfannau cymunedol. Gallai Carol ddod o hyd i grwpiau yn amrywio o grwpiau cerddoriaeth i fabanod i foreau coffi i famau ifanc. Gallai hi ddarganfod beth sydd ar gael yn yr holl ganolfannau cymunedol yn ei hardal a dewis y grwpiau sydd fwyaf addas ar gyfer ei hanghenion.

Social skills

Sgiliau cymdeithasol

Parallel play

Babies and children develop at different rates but there are certain common milestones in their social development.

Babies

By 12 months, babies will know how to play favourites with people. They will show that they want your attention through handing you a book or toy, or by making specific noises to have you look at them.

Toddlers

Temper tantrums are common as a toddler tries to become independent. They will pretend play, copying what the adults around them do. They will also be interested in other children but will tend to play alongside them rather than with them.

Nursery age children

Children will be happier to be separated from a parent and play with other children at this age. They will be spontaneously kind and caring to other children at this age.

Primary age children

Children at this age are affectionate and curious, but they can also be selfish and argumentative. They can start to withdraw slightly from the family as they develop their own identity. They are aware of their gender and may prefer to play with children of the same sex.

Mae babanod a phlant yn datblygu ar gyfraddau gwahanol ond mae rhai cerrig milltir cyffredin yn eu datblygiad cymdeithasol.

Babanod

Erbyn 12 mis, bydd babanod yn gwybod sut i chwarae ffefrynnau gyda phobl. Byddan nhw'n dangos eu bod am gael eich sylw, drwy roi llyfr neu degan i chi, neu drwy wneud synau penodol er mwyn i chi edrych arnyn nhw.

Plant bach

Mae colli tymer yn beth cyffredin wrth i blentyn geisio dod yn annibynnol. Bydd yn chwarae dychmygu, gan ddynwared yr oedolion o’i gwmpas. Bydd ganddo ddiddordeb mewn plant eraill hefyd, ond bydd yn tueddu i chwarae wrth eu hymyl yn hytrach na gyda nhw.

Plant oed meithrin

Erbyn yr oedran hwn, bydd plant yn fwy hapus i gael eu gwahanu oddi wrth riant a chwarae gyda phlant eraill. Byddan nhw’n garedig ac yn ofalgar, a hynny’n ddigymell, gyda phlant eraill yr oedran hwn.

Plant oed cynradd

Bydd plant yr oedran hwn yn annwyl ac yn chwilfrydig, ond gallan nhw hefyd fod yn hunanol ac yn hoff o ddadlau. Gallan nhw ddechrau encilio ychydig o’r teulu wrth iddyn nhw ddatblygu eu hunaniaeth eu hunain. Maen nhw’n ymwybodol o’u rhywedd ac mae’n bosibl y bydd yn well ganddyn nhw chwarae gyda phlant o’r un rhyw.

Can you research the different types of play at each stage and discuss the importance to growth and development?

Solitary play – newborn to 1 year old.

Parallel play - 18 months to 2 years old.

Co-operative play - 4 to 6 years old.

Allwch chi ymchwilio i'r gwahanol fathau o chwarae yn ystod pob cam a thrafod y pwysigrwydd o ran twf a datblygiad?

Chwarae unigol – o adeg geni hyd at flwydd oed.

Chwarae cyfochrog - rhwng 18 mis a 2 oed.

Chwarae cydweithredol - rhwng 4 a 6 oed.

Stages of social play

Cyfnodau chwarae cymdeithasol

Social development

There are 6 stages of social play:

Unoccupied Play (birth - 3 months)

At this stage, babies occupy themselves by making lots of movements with their arms and legs. This play doesn’t involve them engaging with anyone else.

Solitary Play (birth - 2 years)

This is when a baby or toddler plays alone. When involved in solitary play, they do not seem to notice other infants playing nearby.

Onlooker Play (2 years)

At this stage, toddlers will sit and watch others play and may ask questions, but will make no effort to join in with the play.

Parallel Play (2+ years)

This is when a toddler will play alongside another child but will not involve them in their play. Even though the children don’t interact with each other, they are paying attention to what the other is doing.

Associate Play (3 - 4 years)

Children at this age will start to play together but they won’t have a common goal and there will be no rules established. They have just become more aware of each other rather than the toys with which they are playing. This is an important step in learning how to cooperate and share.

Co-operative Play (4+ years)

At this stage the child will have interest in others around them as well as the shared activity. Play will start to be formalised, with one child taking the lead. This is when children learn the social skills of cooperation, flexibility, taking turns and problem solving.

These are the stages of play, but play can take many forms. It can be noisy, chaotic and social while it can also be quiet, focused and solitary. Because it is so varied many have attempted to categorise play behaviour into different types. Models range from just two types – free flow and structured. In playwork, in the UK, they usually refer to 16 play types.

The various play types try to describe the full range of children’s play behaviours and how they might contribute to children’s physical, mental and emotional development.

Further reading

https://bit.ly/3dsg4El

Mae 6 chyfnod o chwarae cymdeithasol:

Chwarae Segur (geni – 3 mis)

Yn ystod y cyfnod hwn, bydd babanod yn eu difyrru eu hunain drwy symud eu breichiau a’u dwylo gryn dipyn. Nid yw’r chwarae hwn yn cynnwys ymgysylltu ag unrhyw un arall.

Chwarae Unigol (geni – 2 oed)

Dyma’r cyfnod pan fydd baban neu blentyn bach yn chwarae ar ei ben ei hun. Wrth chwarae’n unigol, mae’n ymddangos na fydd yn sylwi ar blant bach eraill sy’n chwarae gerllaw.

Chwarae drwy Wylio (2 oed)

Yn ystod y cyfnod hwn, bydd plant bach yn eistedd ac yn gwylio eraill yn chwarae ac o bosibl yn gofyn cwestiynau, ond ni fyddan nhw'n gwneud unrhyw ymdrech i ymuno yn y chwarae.

Chwarae Cyfochrog (2+ oed)

Pan fydd plentyn bach yn chwarae wrth ymyl plentyn arall ond ni fydd yn ei gynnwys yn ei chwarae. Er nad yw’r plant yn rhyngweithio â’i gilydd, maen nhw’n talu sylw i’r hyn mae’r llall yn ei wneud.

Chwarae Cysylltiadol (3-4 oed)

Bydd plant yr oedran hwn yn dechrau chwarae gyda’i gilydd ond fydd ganddyn nhw ddim nod cyffredin ac ni fydd rheolau wedi’u sefydlu. Yn syml, maen nhw wedi dod yn fwy ymwybodol o’i gilydd nag o’r teganau maen nhw’n chwarae â nhw. Mae hyn yn gam pwysig wrth ddysgu sut i gydweithredu a rhannu.

Chwarae Cydweithredol (4+ oed)

Yn ystod y cyfnod hwn, bydd gan y plentyn ddiddordeb mewn eraill o'i gwmpas yn ogystal â'r gweithgaredd maen nhw'n ei rannu. Bydd chwarae yn dechrau cael ei ffurfioli, gydag un plentyn yn cymryd yr awenau. Dyma pryd mae plant yn dysgu sgiliau cymdeithasol cydweithredu, hyblygrwydd, cymryd tro a datrys problemau.

Dyma'r cyfnodau chwarae, ond gall chwarae fod ar sawl ffurf. Gall fod yn swnllyd, yn ddi-drefn ac yn gymdeithasol, ond gall hefyd fod yn dawel, yn benodol ac yn unigol. Gan ei fod yn amrywio cymaint, mae sawl un wedi ceisio rhannu ymddygiad chwarae yn wahanol fathau. Mae'r modelau yn amrywio o ddim ond dau fath – llif rhydd a strwythuredig. Yn y sector gwaith chwarae yn y DU, maen nhw fel arfer yn cyfeirio at 16 o fathau o chwarae.

Mae'r amrywiol fathau o chwarae yn ceisio disgrifio'r amrywiaeth lawn o ymddygiad chwarae ymhlith plant a sut y gallen nhw gyfrannu at ddatblygiad corfforol, meddyliol ac emosiynol plant.

Darllen pellach

https://bit.ly/2BEVdAq

Moral development

Datblygiad moesol

Learning

Children need to learn how to distinguish between right and wrong and how to make good choices. In order for this to happen they need to be surrounded by good role models.

Babies cannot understand the difference between right and wrong, they are governed by their feelings and needs.

Toddlers will follow the rules to avoid punishment, but they don’t yet understand right and wrong. They don’t understand why biting is wrong, but they know that they will be punished for doing it.

By the age of 5, a child will understand that actions have consequences and they are aware of the rules of the family. It is during this stage of a child’s development that discipline needs to be consistent and children understand why they are being punished. It is also important that good role models surround the child.

Primary school children will now have a strong sense of right and wrong, but they will still break the rules from time to time. It is important that they feel that they are being treated fairly.

Mae angen i blant ddysgu sut i wahaniaethu rhwng da a drwg a sut i wneud dewisiadau da. Er mwyn i hyn ddigwydd, mae angen iddyn nhw weld esiampl dda yn cael ei gosod o’u cwmpas.

Nid yw babanod yn gallu deall y gwahaniaeth rhwng da a drwg, cânt eu rheoli gan eu teimladau a'u hanghenion.

Bydd plant bach yn dilyn y rheolau er mwyn osgoi cael eu cosbi, ond dydyn nhw ddim yn deall da a drwg eto. Dydyn nhw ddim yn deall pam mae cnoi yn anghywir, ond maen nhw’n gwybod y byddan nhw’n cael eu cosbi am wneud hynny.

Erbyn i blentyn gyrraedd 5 oed, bydd yn deall bod gan weithredoedd ganlyniadau, a bydd yn ymwybodol o reolau’r teulu. Ar y cam hwn yn natblygiad plentyn, mae angen i ddisgyblaeth fod yn gyson ac mae plant yn deall pam maen nhw’n cael eu cosbi. Mae hefyd yn bwysig bod plant yn gweld esiampl dda yn cael ei gosod o’u cwmpas.

Erbyn hyn, bydd gan blant cynradd ymdeimlad cryf o’r hyn sy’n dda ac yn ddrwg, ond byddan nhw’n dal i dorri’r rheolau o bryd i’w gilydd. Mae’n bwysig eu bod yn teimlo eu bod yn cael eu trin yn deg.

Spatial awareness

Ymwybyddiaeth ofodol

https://bit.ly/2BBc47l

Reviewing the document using the link above, use the thought shower to note ways in which children learn spatial awareness.

https://bit.ly/2Olm7AM

Drwy adolygu'r ddogfen gan ddefnyddio'r linc uchod, defnyddiwch y gawod syniadau i nodi sut mae plant yn dysgu ymwybyddiaeth ofodol.

How children learn spatial awareness Sut mae plant yn dysgu ymwybyddiaeth ofodol