Loss of independence happens when an individual is no longer able to carry out day-to-day tasks without help and support.
This can happen through a decline in health and physical ability or due to an accident.
It can lead the individual to feel frustrated, useless and isolated. They may find going out to visit friends more difficult, leading to the loss of friendships and feelings of loneliness.
An individual can feel angry at being unable to carry out daily tasks and can take that anger out on the people that help them.
They can also feel confused about needing help and spend a lot of time talking about and longing for their past.
Mae colli annibyniaeth yn digwydd pan na fydd person yn gallu cyflawni tasgau pob dydd mwyach heb gymorth a chefnogaeth.
Gall hyn ddigwydd am fod ei iechyd a’i allu corfforol yn dirywio neu oherwydd damwain.
Gall wneud i’r person deimlo’n rhwystredig, yn dda i ddim ac yn ynysig. Gall fod yn fwy anodd iddo fynd allan i weld ffrindiau, gan arwain at golli ffrindiau a theimlo’n unig.
Gall unigolyn deimlo’n ddig nad yw’n gallu cyflawni tasgau pob dydd a gall droi ar y bobl sy’n ei helpu.
Gall hefyd deimlo’n ddryslyd ynghylch angen help a gall dreulio llawer o amser yn siarad am y gorffennol ac yn dyheu amdano.
Peggy is 70 years of age and she has now retired, giving her more time to spend with her friends. She enjoys going to Bingo twice a week and she has family who visit regularly. She lives alone following the death of her husband two years ago. She found his death difficult at first but, with the support of her local pensioners club, she made friends who supported her through the difficult time. She enjoys having her grandchildren over and has more time now she isn’t rushing to work.
However, she has started to have some problems with arthritis which is giving her pain in her knees and sometimes affects her mobility. She has medication from her GP which does help. Sometimes, due to the pain, she does not go out and this makes her feel down and depressed. She worries that in a few years her mobility will decline and she will not be able to go out so much, which will make her isolated.
She has prepared for her own death by planning her funeral. Her family don’t like speaking about it, but Peggy feels less stressed knowing that her funeral has been paid for and organised.
Identify the positive and negative factors in this scenario resulting in a raised or lowered self-esteem:
Mae Peggy yn 70 oed ac mae bellach wedi ymddeol, gan roi mwy o amser iddi ei dreulio â'i ffrindiau. Mae'n mwynhau mynd i Bingo ddwywaith yr wythnos ac mae ganddi deulu sy'n ymweld yn rheolaidd. Mae'n byw ar ei phen ei hun ers i'w gŵr farw ddwy flynedd yn ôl. Bu'n anodd iddi ymdopi â'i farwolaeth i ddechrau ond, gyda chymorth ei chlwb pensiynwyr lleol, gwnaeth ffrindiau a wnaeth ei chefnogi drwy'r cyfnod anodd. Mae'n mwynhau gweld ei hwyrion ac mae ganddi fwy o amser bellach gan nad yw'n rhuthro i'r gwaith.
Fodd bynnag, mae arthritis wedi dechrau effeithio arni gan achosi poen yn ei phengliniau a chan effeithio ar ei symudedd weithiau. Mae ei meddyg teulu wedi rhoi meddyginiaeth iddi ac mae'r feddyginiaeth yn helpu. Weithiau, oherwydd y boen, nid yw'n mynd allan ac mae hyn yn gwneud iddi deimlo'n drist ac yn isel. Mae'n poeni y bydd ei symudedd yn dirywio yn ystod y blynyddoedd nesaf ac na fydd yn gallu mynd allan cymaint, a fydd yn gwneud iddi deimlo'n ynysig.
Mae wedi paratoi ar gyfer ei marwolaeth ei hun drwy gynllunio ei hangladd. Nid yw ei theulu yn hoffi trafod y peth, ond mae Peggy yn teimlo llai o straen o wybod ei bod wedi talu am ei hangladd ac wedi'i threfnu.
Nodwch y ffactorau cadarnhaol a negyddol yn y senario hon sy'n arwain at hunan-barch uwch neu is:
Peggy has more positive factors in her situation and therefore will have high self-esteem most of the time.
Q. How might that change in the future?
Mae mwy o ffactorau cadarnhaol yn gysylltiedig â sefyllfa Peggy ac felly bydd ganddi lefel uchel o hunan-barch y rhan fwyaf o'r amser.
Q. Sut y gallai hynny newid yn y dyfodol?
As Peggy’s pain gets worse due to the fact her arthritis may get progressively worse, she will have poor mobility. The pain and loss of mobility could result in Peggy not going out to Bingo and the pensioners club. She may find herself becoming isolated and depressed which will lower her self-esteem in the future.
Wrth i boen Peggy waethygu gan y gallai ei harthritis o bosibl waethygu'n raddol, bydd ei symudedd yn wael. Gallai'r boen a'r ffaith na all symud cystal olygu na fydd Peggy yn mynd i Bingo na'r clwb pensiynwyr. Mae'n bosibl y bydd yn teimlo'n ynysig ac yn isel a fydd yn lleihau ei hunan-barch yn y dyfodol.