Adulthood

Oedolaeth

Adulthood

The period of adulthood is very long, and many changes will occur physically, intellectually, emotionally and socially. Early adulthood is the time when the adolescent becomes physically mature although there may be a slight increase in height and weight early on. Physical abilities are now at their peak, which include muscle strength, reaction time and sensory abilities. It is also the period where many women will meet their partners and become pregnant, starting their own family.

Mae cyfnod oedolaeth yn hir iawn, a bydd llawer o newidiadau yn digwydd yn gorfforol, yn ddeallusol, yn emosiynol ac yn gymdeithasol. Oedolaeth gynnar yw'r adeg lle y bydd pobl ifanc yn dod yn gorfforol aeddfed, er y gall fod cynnydd bach o ran taldra a phwysau yn gynnar yn ystod y cyfnod hwn. Mae eu galluoedd corfforol bellach ar eu gorau, gan gynnwys cryfder y cyhyrau, amseroedd ymateb a galluoedd synhwyraidd. Dyma'r cyfnod hefyd lle y bydd llawer o fenywod yn cwrdd â'u partneriaid ac yn beichiogi, gan ddechrau eu teulu eu hunain.

Pregnancy

Beichiogrwydd

Your Answers

For women who have a regular monthly menstrual cycle, the earliest and most reliable sign of pregnancy is a missed period. Women who are pregnant sometimes have a very light period, losing only a little blood. Women may feel sick and nauseous, and/or vomit. This is commonly known as morning sickness, but it can happen at any time of the day or night. For most women who have morning sickness, the symptoms start around 6 weeks after their last period. It's common to feel tired, or even exhausted, during pregnancy, especially during the first 12 weeks. Hormonal changes taking place in the body at this time can make women feel tired, nauseous, emotional and upset. The breasts may become larger and feel tender, just as they might do before a period. They may also tingle. The veins may be more visible, and the nipples may darken and stand out. As the pregnancy develops there will be obvious weight gain and sometimes leg cramps can occur. Women may feel the need to pee (urinate) more often than usual, including during the night. During early pregnancy, women may find that their senses are heightened and that some foods or drinks they previously enjoyed are now disliked. Women sometimes crave new foods and lose interest in others. Heartburn can also develop and sometimes constipation.

Correct answers

Eich ateb

I fenywod â chylch mislifol misol rheolaidd, yr arwydd cynharaf a mwyaf dibynadwy eu bod yn feichiog yw'r ffaith y byddan nhw'n methu misglwyf. Weithiau, bydd menywod sy'n feichiog yn cael misglwyf ysgafn iawn, gan golli dim ond ychydig o waed. Gall menywod deimlo'n sâl ac yn gyfoglyd, a/neu chwydu. Gelwir hyn yn gyffredinol yn salwch bore, ond gall ddigwydd ar unrhyw adeg o'r dydd neu'r nos. Bydd symptomau'r rhan fwyaf o fenywod sy'n dioddef salwch bore yn dechrau oddeutu 6 wythnos ar ôl eu misglwyf diwethaf. Mae'n gyffredin teimlo'n flinedig, neu hyd yn oed wedi blino'n llwyr yn ystod beichiogrwydd, yn enwedig yn ystod y 12 wythnos cyntaf. Bydd newidiadau hormonaidd yn digwydd yn y corff yn ystod y cyfnod hwn, a gallan nhw wneud i fenywod deimlo'n flinedig, yn gyfoglyd, yn emosiynol ac yn ofidus. Mae'n bosibl y bydd y bronnau yn tyfu ac yn teimlo'n dyner, yn union fel y byddan nhw o bosibl yn ei deimlo cyn misglwyf. Mae'n bosibl y byddan nhw hefyd yn cosi. Mae'n bosibl y bydd y gwythiennau'n fwy amlwg, ac y bydd y tethi yn mynd yn dywyllach ac yn sefyll allan. Wrth i'r beichiogrwydd ddatblygu, bydd y fenyw yn amlwg yn magu pwysau ac weithiau, ceir crampiau yn y coesau. Mae'n bosibl y bydd menywod yn teimlo bod angen iddyn nhw basio dŵr (troethi) fwy nag arfer, gan gynnwys yn ystod y nos. Yn ystod beichiogrwydd cynnar, mae'n bosibl y bydd synhwyrau menywod yn fwy effro ac na fyddan nhw bellach yn hoffi rhai bwydydd neu ddiodydd yr oedden nhw'n eu hoffi cyn hynny. Weithiau, gall menywod grefu am fwydydd newydd a cholli diddordeb mewn bwydydd eraill. Gall llosg cylla (heartburn) ddatblygu hefyd, ac weithiau rhwymedd.

Atebion cywir

Physical effects of pregnancy

Effeithiau corfforol beichiogrwydd

Pregnant woman

Other physical effects during pregnancy include:

  • Constipation – changes in pregnancy hormones.
  • Shortness of breath – near the end of pregnancy caused by pressure on the diaphragm.
  • Tender and larger breasts.
  • Congestion – higher blood volume can lead to runny noses and congestion.
  • Frequent urination caused by an increase in blood volume, putting extra pressure on the kidneys.

Mae effeithiau corfforol eraill yn ystod beichiogrwydd yn cynnwys y canlynol:

  • Rhwymedd – newidiadau o ran hormonau beichiogrwydd.
  • Diffyg anadl – tuag at ddiwedd y beichiogrwydd wedi'i achosi gan bwysau ar y diaffram.
  • Bronnau tyner, mwy o faint.
  • Gorlenwad – gall cyfaint gwaed uwch achosi i'r trwyn redeg ac arwain at orlenwad.
  • Troethi aml wedi'i achosi gan gynnydd yng nghyfaint y gwaed, gan roi pwysau ychwanegol ar yr arennau.

Suggested classroom activity.

Using what you have learnt so far, design a leaflet to new expectant mothers on what to expect during pregnancy. Also explain what they could do to help with their physical and emotional symptoms.

Gweithgaredd awgrymedig ar gyfer yr ystafell ddosbarth.

Gan ddefnyddio'r hyn rydych wedi'i ddysgu hyd yn hyn, dyluniwch daflen ar gyfer mamau beichiog newydd yn esbonio beth y dylid ei ddisgwyl yn ystod beichiogrwydd. Esboniwch hefyd beth y gallen nhw ei wneud er mwyn helpu â'u symptomau corfforol ac emosiynol.

Ageing

Heneiddio

Ageing

The ageing process begins during early adulthood, around 30 years of age. Many changes begin to occur in different parts of the body. For example, the lens of the eye starts to stiffen and thicken, resulting in changes in vision (usually affecting the ability to focus on close objects). Sensitivity to sound decreases; this happens twice as quickly for men as for women. Hair can start to thin and become grey around the age of 35, although this may happen earlier for some individuals and later for others. The skin becomes drier and wrinkles start to appear by the end of early adulthood. The immune system becomes less efficient at fighting off illness, and reproductive capacity starts to decline, which leads to the menopause for women aged around 45 – 55 years.

Mae'r broses heneiddio yn dechrau yn ystod oedolaeth gynnar, oddeutu 30 oed. Mae llawer o newidiadau yn dechrau digwydd mewn gwahanol rannau o'r corff. Er enghraifft, mae lens y llygad yn dechrau caledu a thewychu, gan arwain at newidiadau o ran y golwg (gan effeithio fel arfer ar y gallu i ffocysu ar wrthrychau agos). Mae sensitifrwydd i sain yn lleihau; mae hyn yn digwydd ddwywaith mor gyflym i ddynion ag i fenywod. Gall y gwallt ddechrau teneuo a britho oddeutu 35 oed, er y gall hyn ddigwydd yn gynharach i rai unigolion ac yn ddiweddarach i rai eraill. Mae'r croen yn sychu a bydd crychau'n dechrau ymddangos erbyn diwedd oedolaeth gynnar. Bydd y system imiwnedd yn llai effeithlon wrth atal salwch, a bydd y gallu i atgynhyrchu yn dechrau dirywio, gan arwain at y menopos i fenywod rhwng tua 45 a 55 oed.

Definition of menopause

Diffiniad o'r menopos

Definition of menopause

The definition of the menopause is:

“The ending of female fertility, including the cessation of menstruation and reduction in production of female sex hormones.”

(Talman, et al, 2016)

Before the menopause, females go through the perimenopause. This is often referred to as the ‘perimenopause transition’ where oestrogen levels decrease. This stage can last up to 4 years and ends when a woman has not had a monthly menstruation cycle for 12 months.

Diffinnir y menopos fel:

“The ending of female fertility, including the cessation of menstruation and reduction in production of female sex hormones.”

(Talman, et al, 2016)

Cyn y menopos, bydd menywod yn wynebu'r perimenopos. Cyfeirir yn aml at y cyfnod hwn fel 'trawsnewidiad perimenopos' pan fydd lefelau oestrogen yn lleihau. Gall y cyfnod hwn bara hyd at 4 blynedd a bydd yn dod i ben pan na fydd menyw wedi cael cylch mislifol misol am 12 mis.

The key aspects of the menopause

Agweddau allweddol ar y menopos

Your Answers

The key symptoms of the menopause are the result of hormone changes.

A reduction in oestrogen causes the ovaries to stop producing eggs and there is a shrinkage of the vagina.

A reduction in oestrogen and progesterone gradually stops menstruation.

A reduction in oestrogen affects the health of hair, skin and nails.

Mae symptomau allweddol y menopos yn deillio o newidiadau o ran hormonau.

Mae gostyngiad mewn oestrogen yn achosi i'r ofarïau roi'r gorau i gynhyrchu wyau ac i'r gwain leihau.

Mae gostyngiad mewn oestrogen a phrogesteron yn achosi i'r mislif ddod i ben yn raddol.

Mae gostyngiad mewn oestrogen yn effeithio ar iechyd y gwallt, y croen a'r ewinedd.

Menopause

Menopos

Woman experiencing hot flush

The menopause is a natural part of ageing for women and usually occurs between 45 and 55 years of age, as a woman's oestrogen levels decline.

Most women will experience menopausal symptoms that can begin months or years before their periods stop and can last for years after their periods end, though for many will last about 4 years. Some of these can be quite severe and have a significant impact on an individual’s day to day life.

Common symptoms include:

  • hot flushes
  • night sweats
  • vaginal dryness and discomfort during sex
  • difficulty sleeping
  • low mood or anxiety
  • reduced sex drive (libido)
  • problems with memory and concentration.

Menopause has also been linked to weight gain due to a number of factors:

Hormonal changes

Many women gain weight during the menopause as their levels of oestrogen drop. Hormonal changes can also make it more likely for them to gain weight around their stomach area.

Insulin resistance

Insulin resistance can develop as a result of declining levels of hormones in menopausal women. This means that women are more likely to gain weight. Insulin resistance can also make it difficult to shed extra weight.

Muscle mass loss

As an individual ages, their muscle mass diminishes, and their total body fat increases. This muscle mass loss reduces the number of calories their body burns while resting and during exercise. If a woman’s diet stays the same and they engage in less physical activity, they may experience menopausal weight gain.

Changes in metabolism

The lower levels of oestrogen after menopause may reduce a woman’s metabolic rate. When the body has less oestrogen, it may use blood sugar and starches less effectively. This can increase the storage of fat in the body and make weight loss difficult.

Sleep problems

Poor sleep can also cause menopausal weight gain, as lack of sleep leads to a tendency to eat more snacks and consume more calories.

Mae'r menopos yn rhan naturiol o'r broses heneiddio i fenywod ac mae fel arfer yn digwydd rhwng 45 a 55 oed, wrth i lefelau oestrogen menyw leihau.

Bydd y rhan fwyaf o fenywod yn cael symptomau menopos a all ddechrau fisoedd neu flynyddoedd cyn i'w misglwyfau ddod i ben a gallan nhw bara blynyddoedd ar ôl i'w misglwyfau ddod i ben, er y byddan nhw'n para tua 4 blynedd i lawer ohonyn nhw. Gall rhai o'r symptomau hyn fod yn gymharol ddifrifol a chael effaith sylweddol ar fywyd beunyddiol yr unigolyn.

Mae symptomau cyffredin yn cynnwys y canlynol:

  • pyliau o wres
  • chwysu dros nos
  • sychder yn y gwain ac anesmwythder wrth gael rhyw
  • anawsterau cysgu
  • hwyliau isel neu orbryder
  • llai o awydd cael rhyw (libido)
  • problemau â'r cof ac wrth ganolbwyntio.

Mae'r menopos hefyd yn gysylltiedig â magu pwysau oherwydd nifer o ffactorau:

Newidiadau hormonaidd

Mae llawer o fenywod yn magu pwysau yn ystod y menopos gan fod eu lefelau oestrogen yn lleihau. Gall newidiadau hormonaidd hefyd ei gwneud hi'n fwy tebygol y byddan nhw'n magu pwysau o amgylch eu stumog.

Ymwrthedd i inswlin

Gall ymwrthedd i inswlin ddatblygu o ganlyniad i ostyngiad yn lefelau hormonau menywod yn ystod menopos. Mae hyn yn golygu bod menywod yn fwy tebygol o fagu pwysau. Gall ymwrthedd i inswlin hefyd ei gwneud hi'n anodd colli'r pwysau ychwanegol.

Colli màs y cyhyrau

Wrth i unigolyn heneiddio, bydd màs ei gyhyrau yn lleihau, a bydd cyfanswm braster y corff yn cynyddu. Mae'r lleihad hwn ym màs y cyhyrau yn lleihau nifer y calorïau y bydd ei chorff yn eu llosgi wrth orffwys ac wrth wneud ymarfer corff. Os bydd deiet menyw yn aros yr un peth ac y bydd yn ymarfer corff llai, mae'n bosibl y bydd yn magu pwysau yn ystod y menopos.

Newidiadau mewn metabolaeth

Gall y gostyngiad o ran lefelau oestrogen ar ôl y menopos leihau cyfradd fetabolaidd menywod. Pan fydd llai o oestrogen yn y corff, mae'n bosibl na fydd yn defnyddio siwgr a startsh y gwaed cystal. Gall hyn gynyddu'r braster a gaiff ei storio yn y corff a'i gwneud hi'n anodd colli pwysau.

Problemau cysgu

Gall diffyg cwsg hefyd arwain at fagu pwysau yn ystod y menopos, gan fod hynny'n dueddol o arwain at fwyta mwy o fyrbrydau a mwy o galorïau.

Menopause

Menopos

        Key changes

        Newidiadau allweddol

        Susan is 62 years old. Can you identify typical aspects of her physical development she has passed through during adulthood? Mae Susan yn 62 oed. Allwch chi nodi agweddau nodweddiadol ar ei datblygiad corfforol wrth iddi symud drwy oedolaeth?

        Suggested response

        • Susan may have given birth and as a result pregnancy would have caused physical changes.
        • Susan would have been expected to have gone through the menopause.
        • Susan would have had a decrease in Basal Metabolic Rate (BMR).

        Ymateb awgrymedig

        • Gallai Susan fod wedi rhoi genedigaeth ac o ganlyniad, byddai beichiogrwydd wedi achosi newidiadau corfforol.
        • Byddai disgwyl y byddai Susan wedi bod drwy'r menopos.
        • Byddai Cyfradd Metabolaeth Waelodol (BMR) Susan wedi lleihau.

        Male adulthood

        Oedolaeth ymhlith dynion

        Group of young men

        By 18, a male’s body has reached its full height and their physical abilities are at their peak, including muscle strength, fine motor skills, reaction time, sensory abilities, cardiac functioning and sexual response.

        From around 30 onwards, the body’s functions start to decline but they will be unnoticeable for quite some time. The first signs of ageing may be fine lines and wrinkles and skin taking longer to heal. Hair may also start to turn grey.

        Men’s fertility will decrease from around the age of 40 as their testosterone levels drop, leading to the production of less sperm. Unlike women however, who will find it impossible to conceive post menopause, men can still produce children well into later adulthood.

        Erbyn 18 oed, mae corff dyn wedi cyrraedd ei daldra llawn ac mae ei alluoedd corfforol ar eu gorau, gan gynnwys cryfder y cyhyrau, sgiliau echddygol manwl, amseroedd ymateb, galluoedd synhwyraidd, gweithrediad y galon ac ymateb rhywiol.

        O tua 30 oed ymlaen, mae gweithrediadau'r corff yn dechrau dirywio ond ni fydd y dirywiad hwnnw yn amlwg am beth amser. Mae'n bosibl mai llinellau main a chrychau a'r ffaith bod y croen yn cymryd yn hirach i wella fydd yr arwyddion cyntaf o heneiddio. Mae'n bosibl y bydd y gwallt hefyd yn dechrau britho.

        Bydd ffrwythlondeb dynion yn lleihau o tua 40 oed wrth i'w lefelau testosteron leihau, gan arwain at gynhyrchu llai o sberm. Fodd bynnag, yn wahanol i fenywod, a fydd yn ei chael hi'n amhosibl cenhedlu ar ôl y menopos, gall dynion gynhyrchu plant o hyd ymhell i mewn i'r cyfnod oedolaeth ddiweddarach.

        Key physical development for males

        Answer the following questions.

        Datblygiad corfforol allweddol i ddynion

        Atebwch y cwestiynau canlynol.

        Question 1

        Cwestiwn 1

        Identify key physical changes for males during adulthood.

        Nodwch newidiadau corfforol allweddol i ddynion yn ystod oedolaeth.

        • Physical strength and stamina are at its peak
        • Sexual characteristics are fully developed
        • Hand‐eye coordination is at its peak.
        • Mae cryfder corfforol a stamina ar eu lefelau uchaf
        • Mae'r nodweddion rhywiol wedi datblygu'n llawn
        • Mae'r cydsymud llaw a llygad ar ei orau.

        Question 2

        Cwestiwn 2

        Luke is a professional athlete and will reach his peak during the first part of early adulthood. Explain why this success happens at this time, with a brief reference to his physical stage of development.

        Mae Luke yn athletwr proffesiynol a bydd ar ei orau yn ystod rhan gyntaf y cyfnod oedolaeth gynnar. Esboniwch pam bod y llwyddiant hwn yn digwydd ar yr adeg hon, gan gyfeirio'n gryno at ei gam datblygiad corfforol.

        • Luke has reached maturation and is at the peak of physical strength
        • Luke’s reaction time is the best it will be
        • Luke’s stamina is at its peak.
        • Mae Luke wedi aeddfedu'n llawn ac mae ei gryfder corfforol ar ei orau
        • Mae amser ymateb Luke ar ei orau
        • Mae stamina Luke ar ei lefel uchaf.

        Question 3

        Cwestiwn 3

        Luke has identified he would like to become a father but in later adulthood, explain the potential physical issues with this.

        Mae Luke wedi nodi yr hoffai ddod yn dad ond yn ystod oedolaeth ddiweddarach, esboniwch y problemau corfforol posibl sy'n gysylltiedig â hyn.

        Unlike women, Luke’s reproductive ability starts to decline over a period of time whereas a woman’s reproductive system is quite rapid during the menopause. It may be more difficult for Luke to become a father in later adulthood due to the tubes that carry his sperm being less elastic (sclerosis). The testes continue to produce sperm, but the rate of sperm cell production slows.

        Yn wahanol i fenywod, mae gallu Luke i atgynhyrchu yn dirywio dros gyfnod o amser ond mae system atgynhyrchu menyw yn dirywio'n gymharol gyflym yn ystod y menopos. Gall fod yn fwy anodd i Luke ddod yn dad yn ystod oedolaeth ddiweddarach gan na fydd y tiwbiau sy'n cludo ei sberm mor elastig (sglerosis). Mae'r ceilliau yn parhau i gynhyrchu sberm, ond bydd cyfradd y broses o gynhyrchu celloedd sberm yn arafu.

        Question 4

        Cwestiwn 4

        Why are adults more likely to gain weight during adulthood?

        Pam mae oedolion yn debycach o fagu pwysau yn ystod oedolaeth?

        Because the amount of weight gain per year may be relatively small, it may go unnoticed by individuals and their doctors — but the cumulative weight gain during adulthood may be large.

        Gan fod y pwysau a gaiff eu magu bob blwyddyn o bosibl yn gymharol fach, mae'n bosibl na fydd unigolion a'u meddygon yn sylwi ar hynny – ond gall y pwysau cronnus a gaiff eu magu yn ystod oedolaeth fod yn sylweddol.