Gross motor skills and fine motor skills

Sgiliau echddygol bras a sgiliau echddygol manwl

Gross motor skills are large movements that involve using large muscles of the body which are required for mobility, for example, rolling over. Fine motor skills are smaller movements that require precise direction and use smaller muscles, for example, picking up a pencil.

Gross motor skills and fine motor skills are key milestones in infancy/childhood.

Gross motor skills

This is the development and control of the whole body and the larger muscles. Children need this control to be able to balance, walk and climb.

Newborn babies have very little control over their bodies, the actions they make are involuntary reflexes. As they get older, they develop more control over these actions. One child may learn to control how to walk at a different rate to another. They may learn to walk at 9 months of age, 12 months or 18 months.

Children learn to control their muscles from their head, then their shoulders, then their arms and then their legs. They also need coordination, determination and confidence to achieve the physical development milestones.

Mae sgiliau echddygol bras yn symudiadau mawr sy'n defnyddio cyhyrau mawr y corff sydd eu hangen ar gyfer symudedd, er enghraifft, rholio drosodd. Mae sgiliau echddygol manwl yn symudiadau llai lle mae angen cyfeiriad manwl, ac sy'n defnyddio cyhyrau llai, er enghraifft, codi pensil.

Mae sgiliau echddygol bras a sgiliau echddygol manwl yn gerrig milltir allweddol yn ystod babandod/plentyndod.

Sgiliau echddygol bras

Dyma ddatblygiad a rheolaeth y corff cyfan a’r cyhyrau mawr. Mae angen i blant gael y rheolaeth hon er mwyn gallu cadw cydbwysedd, cerdded a dringo.

Ychydig iawn o reolaeth sydd gan fabanod newydd-anedig dros eu cyrff, atgyrchau anwirfoddol yw'r symudiadau y byddan nhw'n eu gwneud. Wrth iddyn nhw fynd yn hŷn, byddan nhw’n datblygu mwy o reolaeth dros y symudiadau hyn. Mae'n bosibl y bydd plentyn yn dysgu rheoli sut i gerdded ar wahanol gyflymder i blentyn arall. Gall ddysgu cerdded yn 9 mis oed, yn 12 mis oed neu'n 18 mis oed.

Mae plant yn dysgu rheoli cyhyrau eu pen, wedyn cyhyrau eu hysgwyddau, wedyn cyhyrau eu breichiau ac wedyn eu coesau. Hefyd mae angen sgiliau cydsymud arnyn nhw, a phenderfyniad a hyder i gyrraedd y cerrig milltir ar gyfer datblygiad corfforol.

Gross motor skills sequence Trefn sgiliau echddygol bras

Learning to support head

Rolling over

Sitting

Crawling

Standing

Walking

Running

Hopping

Climbing

Dysgu cynnal y pen

Rholio drosodd

Eistedd

Cropian

Sefyll

Cerdded

Rhedeg

Hercian

Dringo

Fine motor skills

Sgiliau echddygol manwl

Girl painting and writing

This is the development and control of smaller muscles of the hands, fingers and feet, so that a child can do more delicate tasks, e.g. drawing, fastening buttons and threading beads.

Children use a variety of grips until they master the mature pincer grip at about 4 years of age.

Children learn to co-ordinate inwards to outwards. They learn to control their arms, then their hands and then their fingers.

Fine motor skills sequence

3 months – fingers and hand play

6 months – whole hand palmar grasp

9 months – primitive pincer grasp

12 months – primitive tripod grasp

15 months – palmar grasp

18 months – refined pincer grasp and tripod grasp

2 years – preferred hand

2 ½ years – improved tripod grasp

4 years – mature pincer grasp

Ystyr hyn yw datblygiad a rheolaeth cyhyrau llai'r dwylo, y bysedd a’r traed, fel bod plentyn yn gallu gwneud tasgau mwy manwl e.e. tynnu llun, cau botymau a rhoi edau drwy gleiniau.

Bydd plant yn defnyddio sawl ffordd o afael nes iddyn nhw feistroli’r gafael pinsiwrn aeddfed pan fyddan nhw tua 4 oed.

Mae plant yn dysgu cydsymud o'r tu mewn i'r tu allan. Maen nhw'n dysgu rheoli eu breichiau, wedyn eu dwylo ac wedyn eu bysedd.

Trefn sgiliau echddygol manwl

3 mis – chwarae â’r bysedd a’r dwylo

6 mis – gafael cledrol llaw gyfan

9 mis – gafael pinsiwrn gyntefig

12 mis – gafael trybedd gyntefig

15 mis – gafael cledrol

18 mis – gafael pinsiwrn a gafael trybedd wedi'u mireinio

2 oed – dewis llaw

2½ oed – gafael trybedd well

4 oed – gafael pinsiwrn aeddfed

Gross motor skills

Sgiliau echddygol bras

First steps of a baby

Gross motor skills are those that require whole body movement and involve the large muscle groups, such as standing, walking, running, and sitting upright. It also includes hand-eye coordination skills, such as ball skills.

Age and developmental milestones

Infancy

0-6 months
  • rolls over front to back and back to front
  • sits with support and then independently.
6-12 months
  • crawls forwards on belly
  • assumes a seated position unaided
  • creeps on hands and knees
  • transitions into different positions: sitting, all fours, lying on tummy
  • pulls self to stand
  • walks while holding onto furniture
  • takes 2-3 steps without support
  • rolls a ball in imitation of an adult.
18 months
  • sits, crawls, walks
  • still has wide gait but walking/running is less clumsy
  • pushes against a ball (does not actually kick it).
2 years
  • walks smoothly and turns corners
  • begins running
  • is able to pull or carry a toy while walking
  • climbs onto/down from furniture without assistance
  • walks up and down steps with support
  • picks up toys from the floor without falling over.

Sgiliau echddygol bras yw'r rheini lle mae angen symud y corff cyfan gan ddefnyddio'r grwpiau cyhyrau mawr, fel sefyll, cerdded, rhedeg ac eistedd ar i fyny. Maen nhw hefyd yn cynnwys sgiliau cydsymud llaw a llygad, fel sgiliau pêl.

Oedran a cherrig milltir datblygiadol

Babandod

0-6 mis
  • rholio drosodd o'r bol i'r cefn ac o'r cefn i'r bol
  • eistedd â chymorth ac wedyn yn annibynnol.
6-12 mis
  • cropian am ymlaen ar y bol
  • dod i eistedd heb gymorth
  • cripian ar y dwylo a'r pengliniau
  • newid o un osgo i'r llall: eistedd, ar bob pedwar, gorwedd ar y bol
  • tynnu ei hun i sefyll
  • cerdded wrth afael mewn dodrefn
  • cymryd 2-3 cham heb gymorth
  • rholio pêl gan efelychu oedolyn.
18 mis
  • eistedd, cropian, cerdded
  • cerdded â'r traed ar led o hyd ond cerdded/rhedeg mewn ffordd lai trwsgl
  • yn gwthio yn erbyn pêl (ond nid yw'n ei gicio).
2 oed
  • yn cerdded yn esmwyth ac yn troi corneli
  • yn dechrau rhedeg
  • yn gallu tynnu neu gario tegan wrth gerdded
  • yn dringo ar ddodrefn/oddi ar ddodrefn heb gymorth
  • yn cerdded i fyny ac i lawr grisiau â chymorth
  • yn codi teganau oddi ar y llawr heb gwympo.

Gross motor skills

Sgiliau echddygol bras

First steps of a baby

Age and developmental milestones

Childhood

3 years
  • imitates standing on one foot
  • imitates simple bilateral movements of limbs, e.g. arms up together
  • climbs jungle gym and ladders
  • pedals a tricycle
  • walks up/down stairs alternating feet
  • jumps in place with two feet together
  • able to walk on tip toes
  • catches using body.
4 years
  • stands on one foot for up to 5 seconds
  • kicks a ball forward
  • throws a ball overarm
  • catches a ball that has been bounced
  • runs around obstacles
  • able to walk on a line
  • able to hop on one foot
  • jumps over an object and lands with both feet together.
5 years
  • able to walk up stairs while holding an object
  • walks backward toe-heel
  • jumps forward 10 times without falling
  • skips forward after demonstration
  • hangs from a bar for at least 5 seconds
  • steps forward with leg on same side as throwing arm when throwing a ball
  • catches a small ball using hands only.
6 years
  • runs lightly on toes
  • able to walk on a balance beam
  • able to skip using a skipping rope
  • can cover 2 metres when hopping
  • demonstrates mature throwing and catching patterns
  • mature (refined) jumping skills.

Oedran a cherrig milltir datblygiadol

Plentyndod

3 oed
  • yn efelychu rhywun yn sefyll ar un droed
  • yn efelychu rhywun yn gwneud symudiadau syml gan ddefnyddio'r breichiau neu'r coesau ar y ddwy ochr, e.e. codi'r ddwy fraich ar yr un pryd
  • yn dringo cyfarpar chwarae ('jungle gym' yn Saesneg) ac ysgolion
  • yn pedlo ar feic tair olwyn
  • yn cerdded i fyny/i lawr grisiau gan ddefnyddio'r ddwy droed am yn ail
  • yn neidio yn yr unfan â'r ddwy droed gyda'i gilydd
  • yn gallu cerdded ar flaen ei draed
  • yn dal gan ddefnyddio'r corff.
4 oed
  • yn sefyll ar un droed am hyd at 5 eiliad
  • yn cicio pêl am ymlaen
  • yn taflu pêl dros ysgwydd
  • yn dal pêl a fownsiwyd
  • yn rhedeg o amgylch rhwystrau
  • yn gallu cerdded ar hyd llinell
  • yn gallu hercian ar un droed
  • yn neidio dros wrthrych ac yn glanio ar ddwy droed.
5 oed
  • yn gallu cerdded i fyny'r grisiau a dal gwrthrych ar yr un pryd
  • yn cerdded am yn ôl gan ddefnyddio dull bysedd y troed-sawdl
  • yn neidio ymlaen 10 gwaith heb gwympo
  • yn sgipio am ymlaen ar ôl i rywun ddangos sut i wneud hynny
  • yn hongian o far am 5 eiliad o leiaf
  • yn camu ymlaen â'r goes ar yr un ochr â'r fraich sy'n taflu wrth daflu pêl
  • yn dal pêl fach gan ddefnyddio ei ddwylo yn unig.
6 oed
  • yn rhedeg yn ysgafn ar flaen ei draed
  • yn gallu cerdded ar drawst cydbwyso
  • yn gallu sgipio gan ddefnyddio rhaff sgipio
  • yn gallu hercian am bellter o 2 fetr
  • yn dangos patrymau taflu a dal aeddfed
  • sgiliau neidio aeddfed (wedi'u mireinio).

https://bit.ly/3edlCDT

Gross motor skills and the stages of development

Drag the milestones to the correct ages.

Sgiliau echddygol bras a'r camau datblygiad

Llusgwch y cerrig milltir i’r oedrannau cywir.

Ages

Oedrannau

Milestones

Cerrig milltir

Correct answers

Atebion cywir

        Fine motor skills

        Sgiliau echddygol manwl

        Little girl power

        Age and developmental milestones

        Infancy

        0-6 months
        • reflexive grasp (at birth)
        • global ineffective reach for objects (3 months)
        • voluntary grasp (3 months)
        • 2 handed palmar grasp (3 months)
        • 1 handed palmar grasp (5 months)
        • controlled reach (6 months).
        6-12 months
        • reaches, grasps, puts object in mouth
        • controlled release of objects
        • static pincer grasp (thumb and one finger)
        • picks things up with pincer grasp (thumb and one finger)
        • transfers objects from one hand to another
        • drops and picks up toys.
        1-2 years
        • builds tower of three small blocks
        • puts four rings on stick
        • places five pegs in pegboard
        • turns two or three pages of a book at a time
        • scribbles
        • turns knobs
        • paints with whole arm movement, shifts hands, makes strokes
        • self-feeds with minimal assistance
        • able to use signing to communicate
        • brings spoon to mouth
        • holds and drinks from cup independently.
        2-3 years
        • strings four large beads
        • turns single pages of a book
        • snips with scissors
        • holds crayon with thumb and fingers (not fist)
        • uses one hand consistently in most activities
        • imitates circular, vertical, and horizontal strokes
        • paints with some wrist action, makes dots, lines, circular strokes
        • rolls, pounds, squeezes and pulls playdough
        • eats without assistance.

        Oedran a cherrig milltir datblygiadol

        Babandod

        0-6 mis
        • gafael atblygol (adeg geni)
        • yn ymestyn yn aneffeithiol at wrthrychau (3 mis)
        • gafael gwirfoddol (3 mis)
        • gafael cledrol gan ddefnyddio dwy law (3 mis)
        • gafael cledrol gan ddefnyddio un llaw (5 mis)
        • yn ymestyn mewn ffordd reoledig (6 mis).
        6-12 mis
        • yn ymestyn at wrthrych, yn gafael ynddo ac yn ei roi yn ei geg
        • rhyddhau gwrthrychau mewn ffordd reoledig
        • gafael pinsiwrn sefydlog (bawd ac un bys)
        • yn codi pethau â gafael pinsiwrn (bawd ac un bys)
        • yn symud gwrthrychau o un llaw i'r llall
        • yn gollwng teganau ac yn eu codi.
        1-2 oed
        • yn adeiladu tŵr gan ddefnyddio tri bloc bach
        • yn rhoi pedwar modrwy ar ffon
        • yn rhoi pum peg mewn bwrdd pegiau
        • yn troi dwy neu dair tudalen o lyfr ar yr un pryd
        • yn sgriblo
        • yn troi byliau
        • yn paentio gan ddefnyddio'r fraich gyfan, yn newid dwylo, yn gwneud strociau
        • yn hunanfwydo heb fawr o gymorth
        • yn gallu defnyddio arwyddion i gyfathrebu
        • yn dod â llwy at ei geg
        • yn dal cwpan ac yn yfed ar ei ben ei hun.
        2-3 oed
        • yn rhoi edafedd drwy bedwar glain mawr
        • yn troi tudalennau unigol mewn llyfr
        • yn snipio â siswrn
        • yn dal creon â'i fawd a'i fysedd (nid yn ei ddwrn)
        • yn defnyddio un llaw yn gyson wrth ymgymryd â'r rhan fwyaf o weithgareddau
        • yn efelychu strociau cylchol, fertigol a llorweddol
        • yn paentio gan ddefnyddio'r arddwrn i ryw raddau, yn gwneud dotiau, llinellau a strociau cylchol
        • yn rholio, yn dyrnu, yn gwasgu ac yn tynnu toes chwarae
        • yn bwyta heb gymorth.

        Fine motor skills

        Sgiliau echddygol manwl

        Age and developmental milestones

        Childhood

        3-4 years
        • builds tower of nine small blocks
        • copies circle
        • imitates cross
        • manipulates clay material (rolls ball, makes snakes, cookies)
        • uses non-dominant hand to assist and stabilise the use of objects
        • snips paper using scissors.
        4-5 years
        • cuts online continuously
        • copies cross
        • copies square
        • writes name
        • writes numbers 1-5
        • copies letters
        • handedness is well established
        • dresses and undresses independently.
        5-6 years
        • cuts out simple shapes
        • copies triangle
        • colours within lines
        • uses a 3 fingered grasp of pencil and uses fingers to generate movement
        • pastes and glues appropriately
        • can draw basic pictures.
        6-7 years
        • forms most letters and numbers correctly
        • writes consistently on the lines
        • demonstrates controlled pencil movement
        • good endurance for writing
        • can build Lego, K’Nex and other blocks independently
        • ties shoelaces independently.
        7-8 years
        • maintains legibility of handwriting for entirety of a story.

        Oedran a cherrig milltir datblygiadol

        Plentyndod

        3-4 oed
        • yn adeiladu tŵr gan ddefnyddio naw bloc bach
        • yn copïo cylch
        • yn efelychu croes
        • yn trin clai (rholio pêl, gwneud nadredd, bisgedi)
        • yn defnyddio'r llaw arall, yn hytrach na'r llaw gryfaf, i helpu ac i sefydlogi wrth ddefnyddio gwrthrychau
        • yn snipio papur gan ddefnyddio siswrn.
        4-5 oed
        • yn torri ar hyd llinell yn barhaus
        • yn copïo croes
        • yn copïo sgwâr
        • yn ysgrifennu ei enw
        • yn ysgrifennu rhifau 1-5
        • yn copïo llythrennau
        • mae tueddiad llaw wedi ymsefydlu'n gadarn
        • yn gwisgo ac yn dadwisgo ar ei ben ei hun.
        5-6 oed
        • yn torri siapiau syml
        • yn copïo triongl
        • yn lliwio o fewn llinellau
        • yn defnyddio gafael 3 bys wrth ddefnyddio pensil ac yn defnyddio ei fysedd i greu symudiad
        • yn pastio ac yn gludo'n briodol
        • yn gallu tynnu lluniau sylfaenol.
        6-7 oed
        • yn ffurfio'r rhan fwyaf o lythrennau a rhifau'n gywir
        • yn ysgrifennu ar y llinellau'n gyson
        • yn dangos symudiadau rheoledig â phensil
        • dygnwch da wrth ysgrifennu
        • yn gallu adeiladu Lego, K’Nex a blociau eraill ar ei ben ei hun
        • yn clymu ei gareiau ar ei ben ei hun.
        7-8 oed
        • yn sicrhau bod ei lawysgrifen yn ddealladwy ar gyfer stori gyfan.

        https://bit.ly/2AGnjvl

        Fine motor skills and the stages of development

        Drag the milestones to the correct ages.

        Sgiliau echddygol manwl a'r camau datblygiad

        Llusgwch y cerrig milltir i’r oedrannau cywir.

        Ages

        Oedrannau

        Milestones

        Cerrig milltir

        Correct answers

        Atebion cywir

              Aled’s development milestones

              Cerrig milltir datblygiadol Aled

              Gross motor skills allow infants/children to control the large muscles in their torso, arms, hands and feet.

              Question

              Aled is 9 months old. Can you identify two gross motor skills he may have acquired and a further two gross motor skills he may acquire in the next 9 months?

              Mae sgiliau echddygol bras yn galluogi babanod/plant i reoli'r cyhyrau mawr yn eu torso, eu breichiau, eu dwylo a'u traed.

              Cwestiwn

              Mae Aled yn 9 mis oed. Allwch chi nodi dwy sgil echddygol bras y gall fod wedi'u caffael a dwy sgil echddygol bras arall y bydd o bosibl yn eu caffael yn ystod y 9 mis nesaf?

              Suggested answers:

              • Infants like Aled develop their gross motor skills from the head down.
              • At around 6 months, infants gradually control muscles in their neck and back so they can roll, sit and crawl.
              • At around 11-13 months, infants have developed their muscles in their legs so they can stand, cruise and walk.
              • At around 2 years old, infants like Aled could climb onto low furniture and propel a sit-on-toy.

              Atebion awgrymedig:

              • Mae babanod fel Aled yn datblygu eu sgiliau echddygol bras o'r pen i lawr.
              • Oddeutu 6 mis oed, mae babanod yn rheoli cyhyrau eu gwddf a'u cefn yn raddol er mwyn gallu rholio, eistedd a chropian.
              • Oddeutu 11-13 mis oed, mae babanod wedi datblygu cyhyrau eu coesau er mwyn gallu sefyll, cerdded drwy afael mewn gwrthrychau (criwsio) a cherdded.
              • Oddeutu 2 oed, gallai babanod fel Aled ddringo ar ddodrefn isel a gyrru tegan eistedd ymlaen.

              Gross and fine motor skills

              Sgiliau echddygol bras a manwl

              Question 1

              Cwestiwn 1

              What is the average age that an infant would crawl?

              Ar gyfartaledd, pa oedran y byddai baban yn cropian?

              At around 6 months.

              Oddeutu 6 mis.

              Question 2

              Cwestiwn 2

              What is the average age that an infant would stand and walk?

              Ar gyfartaledd, pa oedran y byddai baban yn sefyll ac yn cerdded?

              At around 11-13 months infants start to cruise, walk and stand.

              Oddeutu 11-13 mis, mae babanod yn dechrau criwsio, cerdded a sefyll.

              Question 3

              Cwestiwn 3

              Aled is 9 months old. Can you identify two fine motor skills he may have acquired and two gross motor skills he may acquire in the next 9 months.

              Mae Aled yn 9 mis oed. Allwch chi nodi dwy sgil echddygol manwl y gall fod wedi'u caffael a dwy sgil echddygol bras arall y bydd o bosibl yn eu caffael yn ystod y 9 mis nesaf.

              By 3 months Aled may be able to hold a rattle for a short time.

              By 6 months Aled may be able to grasp a toy.

              By 12 months Aled may be able to pick up small objects using a pincer grasp.

              By 18 months Aled can build with small blocks, use a spoon and make marks with crayons using a palmer grasp.

              Erbyn 3 mis, mae'n bosibl y bydd Aled yn gallu dal ratl am gyfnod byr.

              Erbyn 6 mis, mae'n bosibl y bydd Aled yn gallu gafael mewn tegan.

              Erbyn 12 mis, mae'n bosibl y bydd Aled yn gallu codi gwrthrychau bach gan ddefnyddio gafael pinsiwrn.

              Erbyn 18 mis, gall Aled adeiladu gan ddefnyddio blociau bach, defnyddio llwy a gwneud marciau â chreonau gan ddefnyddio gafael cledrol.

              Question 4

              Cwestiwn 4

              Can you identify activities that may encourage hand-eye coordination for children?

              Allwch chi nodi gweithgareddau a all annog cydsymud llaw a llygad i blant?

              Writing, sewing or completing jigsaw puzzles. This would help with control of eye movement at the same time as finger and hand movement.

              Ysgrifennu, gwnïo neu gwblhau posau jig-so. Byddai hyn yn helpu i reoli symudiad y llygaid ar yr un pryd â symudiadau'r bysedd a'r dwylo.

              Key gross motor skills and fine motor skills in infancy

              Drag the gross motor skill to the correct age.

              Sgiliau echddygol bras a sgiliau echddygol manwl allweddol yn ystod babandod

              Llusgwch y sgil echddygol bras i’r oedran cywir.

              Age

              Oedran

              Gross motor skill

              Sgil echddygol bras

              Correct answers

              Atebion cywir

                    Key gross motor skills and fine motor skills in infancy

                    Drag the gross motor skill to the correct age.

                    Sgiliau echddygol bras a sgiliau echddygol manwl allweddol yn ystod babandod

                    Llusgwch y sgil echddygol manwl i’r oedran cywir.

                    Age

                    Oedran

                    Fine motor skill

                    Sgiliau echddygol manwl

                    Correct answers

                    Atebion cywir

                          Fine motor skills in childhood

                          When, on average, do you think children acquire these fine motor skills?

                          Sgiliau echddygol manwl yn ystod plentyndod

                          Ar gyfartaledd, pryd mae plant yn caffael y sgiliau echddygol manwl hyn, yn eich barn chi?

                          Activity Gweithgaredd When do you think it happens? Pryd mae'n digwydd, yn eich barn chi?
                          Turn pages of a book Troi tudalennau llyfr
                          3-4 years 3-4 oed
                          Buttons & unbuttons clothing Cau ac agor botymau ar ddillad
                          3–4 years 3-4 oed
                          Writes own name Ysgrifennu ei enw ei hun
                          5-6 years 5-6 oed
                          Joins up writing Cyflwyno ysgrifennu sownd
                          6-7 years 6-7 oed