1/6
Mae'r Rhestr Sgiliau Tyfu (SoGS) yn adnodd gwerthfawr iawn i weithwyr proffesiynol y mae angen iddyn nhw bennu lefelau datblygiadol plant. Gellir defnyddio'r asesiad unigol ar unrhyw adeg gyda phlant o adeg eu geni hyd at 5 oed, gan alluogi gweithwyr proffesiynol i'w hasesu pan fo'n briodol ac yn gyfleus.
Mae'r rhestr sgiliau tyfu yn pennu lefelau datblygiadol plant ifanc drwy gymharu yn erbyn naw maes allweddol:
Gair Saesneg ALLWEDDOL i'w gofio os ydych am adolygu meysydd allweddol y Rhestr Sgiliau Tyfu yw MISHAPS.
Manipulative - Llawdrin
Interactive social - Cymdeithasol rhyngweithiol
Speech and language - Lleferydd ac iaith
Hearing and language - Y clyw ac iaith
Active posture - Ymddaliad gweithgar
Passive posture - Ymddaliad goddefol
Self-care social - Cymdeithasol hunanofal
Gan fod y tasgau asesu’n defnyddio teganau lliwgar a diddorol, fel blociau adeiladu, dol, pegiau a siapiau, mae’r tasgau asesu’n teimlo fel amser chwarae i’r plentyn. Mae hynny’n galluogi gweithwyr proffesiynol i arsylwi ac asesu ymatebion wrth i’r plentyn ‘chwarae’. Mae system sgorio syml yn tynnu sylw at feysydd datblygiadol lle gallai plentyn o bosibl fod yn dangos arwyddion o oedi, gan nodi lle gallai fod angen atyfeirio'r achos.
1/6
Mae'r Rhestr Sgiliau Tyfu yn darparu cynrychioliad clir ar ffurf graff o lefel ddatblygiadol plant – sail ddelfrydol ar gyfer trafodaethau â gweithwyr proffesiynol eraill a rhieni yng Nghymru.
Mae'r Rhestr Sgiliau Tyfu yn gyflym ac yn hawdd i'w defnyddio. Mae'n cynnwys cyfarwyddiadau gweinyddol clir ar gyfer pob eitem a chanllawiau ar gyfer sgorio a dehongli canlyniadau, a gall y defnyddiwr roi adborth o fewn 30 munud.
Mae defnyddio'r Rhestr Sgiliau Tyfu fel mesur sgrinio cyffredinol yn sicrhau y caiff pob plentyn ei asesu mewn ffordd gyson.
Gellir canfod sgôr wybyddol ar wahân o eitemau perthnasol er mwyn helpu i ddehongli'r canlyniadau.
1/6
Gall babanod weld o adeg eu geni, ond mae eu golwg yn gymylog. Gallan nhw weld golau, symudiadau a siapiau. Bydd babanod ifanc yn troi eu llygaid tuag at ffynhonnell y golau ac yn amrantu mewn ymateb i oleuadau llachar.
Erbyn 1 mis oed, gall baban weld rhwng 20cm a 30cm yn glir. Bydd yn ffocysu'n glir ar wyneb y person sy'n ei ddal.
Erbyn 2 fis oed, gall wahaniaethu rhwng lliwiau ac mae'n bosibl y caiff ei ddenu gan liwiau sylfaenol llachar.
Erbyn 4 mis oed, mae canfyddiad dyfnder baban yn fwy datblygedig, a bydd hyn yn ei helpu i estyn am deganau.
Erbyn 8 mis oed, mae golwg baban fwy neu lai yr un fath â golwg oedolyn. Gall weld pethau sy'n agos yn gliriach, a gall weld pethau neu bobl ar draws yr ystafell.
Erbyn 9 mis oed, mae golwg baban yn ddigon clir i weld rhywbeth mor fach â briwsionyn.
Erbyn 12 mis oed, gall nodi'r gwahaniaeth rhwng agos a phell a gall nodi pobl y mae'n ei adnabod o bellter.
1/6
Mae'r clyw yn datblygu pan fydd y baban yn y groth ac mae'n gweithredu'n llawn adeg ei eni.
Dylai babanod â chlyw normal rhwng adeg eu geni a 3 mis oed ddychryn wrth glywed synau uchel, cael eu lleddfu gan lais eu rhiant a dechrau cŵan, ymhlith pethau eraill.
Rhwng 3 a 6 mis oed, dylen nhw fod yn parablu, yn dangos diddordeb mewn teganau sy'n gwneud synau ac yn chwerthin.
Erbyn iddyn nhw gyrraedd blwydd oed, dylen nhw fod yn troi eu pen tuag at synau, yn gwrando pan fydd rhywun yn siarad â nhw ac yn efelychu synau.
Erbyn i blentyn ddechrau'r ysgol yn 4 oed, dylai fod yn siarad mewn brawddegau o bedwar gair neu fwy a dylai allu ateb cwestiynau syml.
1/6
Mae datblygiad y dannedd yn dechrau pan fydd y baban yn y groth. Adeg ei eni, bydd gan faban set lawn o 20 o ddannedd sylfaenol. Cyfeirir at ddannedd sylfaenol hefyd fel dannedd baban neu ddannedd llaeth.
Fel arfer, y ddau ddant blaen yn yr ên isaf sy'n ymddangos gyntaf, a hynny rhwng 6 a 10 mis oed.
Bydd y ddau ddant blaen yn yr ên uchaf yn ymddangos rhwng 8 mis ac 13 mis oed.
Mae'r blaenddannedd, sef y dannedd y naill ochr i'r dannedd blaen, yn ymddangos yn yr ên uchaf a'r ên isaf rhwng 8 ac 16 mis oed. Mae'r set isaf yn dueddol o ymddangos cyn y set uchaf.
Mae'r set gyntaf o gilddannedd uchaf ac isaf yn ymddangos rhwng 13 mis ac 19 mis oed.
Mae'r dannedd llygad yn ymddangos yn yr ên uchaf a'r ên isaf rhwng 16 a 23 mis oed.
Fel arfer, bydd gan blant set lawn o 20 o ddannedd sylfaenol erbyn iddynt gyrraedd 3 oed.
Mae'r oedran y bydd dannedd oedolyn neu ddannedd parhaol yn ymddangos yn wahanol o un plentyn i'r llall. Yn gyffredinol, mae'r llinell amser ar gyfer pob math o ddant parhaol fel a ganlyn: