Main life stages

Prif gamau bywyd

Mother and children

Growth and development will vary depending on the life stage an individual is at.

The life stages are:

  • Infancy 0 - 2 years
  • Childhood 3 -12 years
  • Adolescence 13 -19 years
  • Adulthood 20 - 64 years
  • Later adulthood 65+ years.

Bydd twf a datblygiad yn amrywio gan ddibynnu ar gam bywyd unigolyn.

Mae'r camau bywyd fel a ganlyn:

  • Babandod 0-2 oed
  • Plentyndod 3-12 oed
  • Llencyndod 13-19 oed
  • Oedolaeth 20-64 oed
  • Oedolaeth ddiweddarach 65+ oed.

Life stages

Click on the answer you think is correct. If you pick an incorrect answer that option will turn red and a penalty point will be added. Each penalty point adds 20 seconds to your time. You must click the correct answer to move on to the next question.

Camau bywyd

Cliciwch ar yr ateb yr ydych yn meddwl sy’n gywir. Os ydych yn dewis ateb anghywir mi fydd yr opsiwn yna’n troi’n goch ac mi dderbyniwch chi bwynt gosb. Mae pob pwynt gosb yn ychwanegu 20 eiliad i’ch amser. Mae’n rhaid i chi glicio ar yr atebion cywir i allu symud ymlaen i’r cwestiwn nesaf.

Identify the life stages of each family member in the given case study.

The Price family consists of Jackie, who is 36 years old, her dad Tom, who is 70 years of age, her daughter Suzy, aged 19, and son Peter, aged 7. Suzy and Peter have different fathers who are no longer in touch with the family. Suzy has two children of her own, Abbie, aged 2, and George, aged 9 months. They have the same father, John, and he is 22 years old.

Which life stage is each family member in?

Nodwch gamau bywyd pob aelod o'r teulu yn yr astudiaeth achos a roddir.

Mae teulu Price yn cynnwys Jackie, sy'n 36 oed, ei thad Tom, sy'n 70 oed, ei merch Suzy, sy’n 19 oed, ac ei mab Peter, sy’n 7 oed. Mae gan Suzy a Peter dadau gwahanol nad ydyn nhw mewn cysylltiad â'r teulu mwyach. Mae gan Suzy ddau blentyn ei hun, sef Abbie, sy'n 2 oed, a George, sy'n 9 mis oed. Mae'r un tad ganddyn nhw, sef John, sy'n 22 oed.

Beth yw cam bywyd pob aelod o'r teulu?

Penalty total: Cyfanswm cosbau:

Your time: Eich amser: 00:00:00

The current record is: Yr amser gorau: 00:00:00

Well done! Da iawn!

You've set a new record! Record newydd!

Your time: Eich amser: 00:00:00

Total time penalty: Cyfanswm amser cosb: 00:00:00

The correct answers were: Yr atebion cywir:

Growth and development

Twf a datblygiad

Measuring height

Physical growth is an increase in size, both height and weight. It is the normal growth of the body during infancy, childhood and adolescence. Physical growth usually ends 5-6 years after puberty; however, this can vary. Any increase in weight after this period is not part of the normal growth process and should be avoided in order to stay healthy.

Physical development is the development of skills and capabilities, for example, when an infant develops the ability to crawl and walk. There is usually a set sequence of this development which is known as developmental milestones.

Ystyr twf corfforol yw cynnydd mewn maint, o ran taldra ac o ran pwysau. Dyma dwf arferol y corff yn ystod babandod, plentyndod a llencyndod. Fel arfer, mae twf corfforol yn dirwyn i ben 5-6 mlynedd ar ôl y glasoed; fodd bynnag, gall hyn amrywio. Nid yw unrhyw gynnydd mewn pwysau ar ôl y cyfnod hwn yn rhan o'r broses twf arferol a dylid ei osgoi er mwyn aros yn iach.

Ystyr datblygiad corfforol yw datblygiad sgiliau a galluoedd, er enghraifft, pan fydd baban yn datblygu'r gallu i gropian a cherdded. Fel arfer, ceir dilyniant penodol ar gyfer y datblygiad hwn y cyfeirir ato fel cerrig milltir datblygiadol.

Growth

Twf

Baby weight

The definition of growth is an increase in size, height or mass.

Percentile charts are the tool used to measure human growth. They are used to measure and monitor a child’s growth compared to the average measurements. Percentile charts look at height, weight, BMI and head circumference. Other physical changes related to growth include teeth, hair growth and puberty.

There are two periods of rapid growth and development, i.e. immediately after birth and during adolescence. After the age of one a baby’s growth slows. No child grows at a perfectly steady rate and has periods referred to as ‘growth spurts’. There is a significant period of growth at puberty which lasts between 2 and 5 years and is usually between the age of 8 and 13 in girls and 10 and 15 in boys.

Growth is supported by sleep, nutrition and exercise.

Y diffiniad o dwf yw cynnydd mewn maint, taldra neu fàs.

Siartiau canraddol yw'r adnodd a ddefnyddir i fesur twf dynol. Fe'u defnyddir i fesur a monitro twf plentyn o gymharu â'r mesuriadau cyfartalog. Mae siartiau canraddol yn ystyried taldra, pwysau, BMI a chylched y pen. Mae newidiadau corfforol eraill sy'n gysylltiedig â thwf yn cynnwys dannedd, twf y gwallt a'r glasoed.

Mae dau gyfnod o dwf a datblygiad cyflym, h.y. yn syth ar ôl genedigaeth ac yn ystod llencyndod. Ar ôl cyrraedd blwydd oed, mae twf baban yn arafu. Nid oes unrhyw blentyn yn tyfu ar gyfradd cwbl gyson a cheir cyfnodau y cyfeirir atynt fel 'hyrddiadau o dyfu'n sydyn'. Ceir cyfnod sylweddol o dwf yn ystod y glasoed sy'n para rhwng 2 flynedd a 5 mlynedd ac sy'n digwydd fel arfer rhwng 8 oed ac 13 oed mewn merched a rhwng 10 oed a 15 oed mewn bechgyn.

Caiff twf ei gefnogi gan gwsg, maeth ac ymarfer corff.

Growth

Click on the answer you think is correct.

Twf

Cliciwch ar yr ateb cywir yn eich barn chi.

Child measurement programme Wales

Rhaglen Mesur Plant Cymru

Every child matters

The Child Measurement programme Wales is a programme that records and analyses how children in Wales are growing.

Information from the programme is used to support those in health services and public services to understand patterns of growth and to plan services.

For further information, click on the link below.

Child Measurement Programme Wales

Rhaglen sy'n cofnodi ac yn dadansoddi twf plant yng Nghymru yw Rhaglen Mesur Plant Cymru.

Defnyddir gwybodaeth o'r rhaglen i helpu'r rheini sy'n gysylltiedig â gwasanaethau iechyd a gwasanaethau cyhoeddus i ddeall patrymau twf ac i gynllunio gwasanaethau.

I gael rhagor o wybodaeth, cliciwch ar y linc isod.

Rhaglen Mesur Plant Cymru

Development

Datblygiad

Happy family portrait

Development relates to the emergence and increase in sophistication of skills, abilities and emotions.

All areas of development are of equal importance and have an impact on one another with the development being holistic.

P - Physical development. This includes height and weight, hair growth and development of teeth, gross and fine motor skills.

I - Intellectual development. This includes language development (verbal and non-verbal), reading and writing skills, and cognitive development.

E - Emotional development. This includes bonding and feelings of security including during periods of transition.

S - Social development. This includes forming friendships and development of self-image. During play, children will explore and pretend.

During adolescence P.I.E.S will include puberty and during adulthood it will include the menopause.

Mae datblygiad yn ymwneud â meithrin sgiliau, galluoedd ac emosiynau sy’n mynd yn fwy ac yn fwy soffistigedig.

Mae pob agwedd ar ddatblygu mor bwysig â’i gilydd a phob un yn cael effaith ar ei gilydd, gan fod y broses o ddatblygu yn un gyfannol.

P - Datblygiad corfforol ('P' am 'physical' yn Saesneg). Mae hyn yn cynnwys taldra a phwysau, twf gwallt a datblygiad y dannedd, a sgiliau echddygol bras a manwl.

I - Datblygiad deallusol ('I' am 'intellectual' yn Saesneg). Mae hyn yn cynnwys datblygiad iaith (geiriol a di-eiriau), sgiliau darllen ac ysgrifennu a datblygiad gwybyddol.

E - Datblygiad emosiynol ('E' am 'emotional' yn Saesneg). Mae hyn yn cynnwys bondio a theimlo’n ddiogel, gan gynnwys yn ystod cyfnodau o drawsnewid.

S - Datblygiad cymdeithasol ('S' am 'social' yn Saesneg). Mae hyn yn cynnwys gwneud ffrindiau a datblygu hunanddelwedd. Wrth chwarae, bydd plant yn archwilio ac yn dychmygu.

Yn ystod llencyndod, bydd P.I.E.S. yn cynnwys y glasoed, ac yn ystod oedolaeth, bydd yn cynnwys y menopos.

Development

Sort the following physical and intellectual behaviours into the correct columns.

Datblygiad

Rhowch y mathau canlynol o ymddygiad corfforol a deallusol yn y colofnau cywir.



      Development

      Sort the emotional and social behaviours into the correct columns.

      Datblygiad

      Rhowch y mathau canlynol o ymddygiad emosiynol a chymdeithasol yn y colofnau cywir.



          Development

          Datblygiad

          1. Put these physical aspects of development in their expected order 1. Rhowch yr agweddau corfforol hyn ar ddatblygiad yn eu trefn ddisgwyliedig

          2. Put these intellectual aspects of development in their expected order 2. Rhowch yr agweddau deallusol hyn ar ddatblygiad yn eu trefn ddisgwyliedig

          Development

          Datblygiad

          3. Put these emotional skills in the order of expected development 3. Rhowch y sgiliau emosiynol hyn yn y drefn y disgwylir iddyn nhw ddatblygu

          4. Put these social aspects of development in their expected order 4. Rhowch yr agweddau cymdeithasol hyn ar ddatblygiad yn eu trefn ddisgwyliedig