Food safety legislation and responsibility, as well as the hazards

Deddfwriaeth a chyfrifoldeb diogelwch bwyd, ynghyd â’r peryglon

Chef serving fish
It is estimated that each year in the UK around a million people suffer a food borne illness. Of these, it is estimated that around 20,000 people receive hospital treatment and there are around 500 deaths.
Annual Report of the Chief Scientist, Food Standards Agency.

Food Standards Act 1999:

The Food Standards Agency (FSA) was established by the Food Standards Act 1999. The FSA is an independent department within the Welsh Government which operates across Wales, England and Northern Ireland to protect public health. The Agency's main aim is to protect the public in relation to food. This act provides the power to take action at any time in relation to food production and supply where that action is in the interest of users.

Food Safety Act 1990:

The main responsibilities of this act are to:

  • ensure that businesses do not include anything in food, that they do not take anything out of food, or treat food in any way that could have an adverse effect on public health
  • ensure that the food served or sold by businesses is of the nature, consistency or quality that users expect
  • ensure that food is labelled, advertised and presented in a way that is not false or misleading.

(https://bit.ly/2WS18fy)

The Food Hygiene Regulations 1995 act states that if any early years provision prepares food (including snacks such as cheese and crackers), it must comply with these regulations, which include:

  • washing hands before food preparation
  • ensuring that surfaces and equipment are clean and hygienic
  • ensuring that food is safely stored, at the correct temperature
  • disposing of waste appropriately.

As well as this, the act states that a good knowledge is required with regard to using chopping boards safely, that a separate sink is required for food preparation and hand washing, and also that there should be at least one qualified person present, who has a Basic Food Hygiene certificate.

Employers and workers have a responsibility to ensure that they have good food hygiene standards. This is essential in order to prevent food poisoning, and to ensure that the food served is safe to eat.

In order to ensure good hygiene, it is essential to consider:

  1. Cleaning
  2. Cooking
  3. Cooling
  4. Cross-contamination.

Food safety is controlled by complying with hygiene and food standards. Employers and workers need to ensure that procedures are in place for food safety, and use the appropriate legislation as well as the workplace's relevant policies.

According to the law, it is essential to note the requirements with regard to food labelling and packaging in order to protect people, and to ensure that they have the correct information based on diet or allergies. In order to avoid harm, correct information should be provided about food contents, and food allergens must be handled and controlled appropriately.

The procedures in place for controlling food safety that are based on the principles of Hazard Analysis and Critical Control Points (HACCP) create a system that helps to identify food hazards.

HACCP includes:

  • what could go wrong when preparing food
  • what risks are associated with food protection
  • critical points in order to minimise or eliminate risks
  • deciding which actions are required if something goes wrong
  • ensuring that procedures are effective and are followed
  • keeping records that show that the workplace's procedures are effective.

When handling food, personal hygiene is essential. Before preparing food, the following should be done:

  • hands should be washed (following the 6 steps)
  • clean clothes should be worn
  • an apron should be worn
  • any jewellery should be removed
  • long hair should be tied back, and a net worn.

When preparing food:

  • no smoking
  • no eating or drinking
  • no touching the face, sneezing or coughing over food
  • colourful waterproof plasters should be used to cover any wounds
  • cloths, sponges and tea towels should be washed and replaced regularly.

When to wash hands:

  • before touching any food
  • after being to the toilet
  • following a break
  • after touching raw meats, poultry, fish, eggs or unwashed vegetables
  • after touching a wound
  • after touching or emptying a bin
  • after cleaning
  • after touching a phone or light switch or after handling cash.

Food Safety hazards:

There are four types of hazards to be considered when preparing food:

Microbiological: referring to harmful bacteria, yeast, mould and viruses.

Chemical: when chemicals enter foods, e.g. food contact materials, cleaning products, pest control chemicals.

Physical: when objects enter foods e.g. glass, packaging, jewellery, and so forth.

Allergens: referring to the risk associated with cross-contamination.

When preparing food:

  • hands must be washed
  • do not cross-contaminate, keep foods such as meat, poultry and fish away from other foods. Ensure that all equipment is washed in warm water
  • wash all surfaces, equipment and chopping boards using sanitisers and disinfectants.

When serving food:

  • hot foods must be kept at a temperature of 60°C or above, and cold foods at 4°C or lower
  • two hour rule: food that has been prepared should not be left out of the refrigerator for more than two hours (including preparation time).

When storing food, the following must be observed:

  • ensure that the refrigerator is between 1-5°C
  • ensure that foods are appropriately covered
  • ensure that foods are not refrozen
  • do not use foods that have passed their 'use by' date
  • store raw meats and fish in the bottom of the refrigerator
  • ensure that meats have fully defrosted before cooking
  • ensure that formula milk is prepared accordingly, and that breast milk is stored in the refrigerator (4°C) for up to 5 days, or in the freezer for six months.

Further Reading:

http://bit.ly/2Mv0VbQ

https://www.gov.uk/food-safety-your-responsibilities

http://bit.ly/32YLz4V

http://bit.ly/2Znqq2e

Amcangyfrifir bod tua miliwn o bobl yn y DU yn cael salwch a gludir gan fwyd bob blwyddyn. O blith y rheini amcangyfrifir bod 20,000 yn cael triniaeth mewn ysbyty a bod 500 o farwolaethau.
Adroddiad Blynyddol y Prif Wyddonydd, Asiantaeth Safonau Bwyd.

Deddf Safonau Bwyd 1999:

Sefydlwyd Asiantaeth Safonau Bwyd (ASB) yn sgil y Ddeddf Safonau Bwyd 1999. Mae’r ASB yn adran annibynnol o fewn Llywodraeth Cymru sydd yn gweithredu ar draws Cymru, Lloegr a Gogledd Iwerddon er mwyn diogelu iechyd y cyhoedd. Prif nod yr Asiantaeth yw gwarchod y cyhoedd mewn perthynas â bwyd. Mae’r ddeddf yn rhoi’r pŵer i weithredu er budd y defnyddiwr ar unrhyw adeg yn y broses o gynhyrchu a chyflenwi bwyd.

Deddf Diogelwch Bwyd 1990:

Prif gyfrifoldebau’r ddeddf hon yw:

  • sicrhau nad yw busnesau yn cynnwys unrhyw beth mewn bwyd, nad ydynt yn cael gwared ar unrhyw beth o fwyd, nac yn trin bwyd mewn unrhyw ffordd a all fod yn niweidiol i iechyd y cyhoedd
  • sicrhau fod y bwyd y mae busnesau yn ei weini neu ei werthu o’r natur, y sylwedd neu’r ansawdd y byddai defnyddwyr yn ei ddisgwyl
  • sicrhau fod y bwyd wedi ei labelu, ei hysbysebu a’i gyflwyno mewn ffordd nad yw’n ffug neu’r gamarweiniol.

(https://bit.ly/2N9Pner)

Mae’r ddeddf Rheoliadau Hylendid Bwyd 1995 yn nodi os oes unrhyw ddarpariaeth blynyddoedd cynnar sy’n paratoi bwyd (gan gynnwys snac megis caws a chracer), mae angen cydymffurfio â’r rheoliadau hyn, sy’n cynnwys:

  • golchi dwylo cyn paratoi bwyd
  • sicrhau bod arwynebau ac offer yn lân a hylan
  • sicrhau bod bwyd yn cael ei storio yn ddiogel, ar y tymheredd cywir
  • cael gwared â gwastraff yn y modd priodol.

Yn ogystal â hyn, mae’r ddeddf yn nodi bod angen gwybodaeth dda ar sut i ddefnyddio bwrdd torri yn ddiogel, bod angen sinc ar wahân ar gyfer paratoi bwyd a golchi dwylo, a hefyd bod angen o leiaf un person yn bresennol sydd wedi cymhwyso, a gyda thystysgrif Hylendid Bwyd Sylfaenol.

Mae gan gyflogwyr a gweithwyr gyfrifoldeb i sicrhau fod ganddynt hylendid bwyd da. Mae hyn yn hanfodol ar gyfer atal gwenwyn bwyd, ac i wneud y bwyd maent yn ei weini yn ddiogel i’w fwyta.

Ar gyfer hylendid da, mae’n hanfodol cymryd i ystyriaeth:

  1. Glanhau
  2. Coginio
  3. Oeri
  4. Traws-halogi.

Mae diogelwch bwyd yn cael ei reoli drwy gydymffurfio â hylendid, a safonau bwyd. Mae angen i gyflogwyr a gweithwyr sicrhau bod gweithdrefnau yn eu lle ar gyfer diogelwch bwyd ar waith, a dilyn y deddfau priodol yn ogystal â pholisïau perthnasol y gweithle.

Yn ôl y gyfraith, mae’n hanfodol nodi beth sy’n ofynnol ar labeli a phecynnau bwyd er mwyn diogelu pobl, a sicrhau eu bod yn cael yr wybodaeth gywir yn seiliedig ar ddiet neu alergeddau. Er mwyn arbed niwed, mae angen darparu gwybodaeth gywir am gynnwys y bwyd, yn ogystal â thrin a rheoli alergenau bwyd yn briodol.

Mae’r gweithdrefnau rheoli diogelwch bwyd ar waith sydd wedi eu seilio ar egwyddorion Dadansoddi Peryglon a Phwyntiau Rheoli Critigol (Hazard Analysis and Critical Control Points neu HACCP), yn system sydd yn help i adnabod peryglon bwyd.

Mae HACCP yn cynnwys:

  • beth allai fynd o’i le wrth baratoi bwyd
  • pa risgiau sydd i ddiogelu bwyd
  • pwyntiau critigol er mwyn lleihau neu gael gwared â risgiau
  • penderfynu pa gamau sydd angen eu cymryd os oes rhywbeth yn mynd o’i le
  • sicrhau bod gweithdrefnau yn gweithio ac yn cael eu dilyn
  • cadw cofnodion sydd yn dangos bod gweithdrefnau y gweithle yn gweithio.

Wrth ymdrin â bwyd, mae hylendid personol yn hanfodol.

Cyn paratoi bwyd, mae angen gwneud y canlynol:

  • golchi dwylo (dilyn y 6 cam)
  • gwisgo dillad glân
  • gwisgo ffedog
  • tynnu unrhyw emwaith
  • clymu gwallt hir yn ôl, a gwisgo net.

Wrth baratoi bwyd:

  • ni ddylid ysmygu
  • ni ddylid yfed na bwyta
  • ni ddylid cyffwrdd yr wyneb, tisian na thagu dros fwyd
  • defnyddio plaster lliwgar sydd yn wrth-ddŵr dros unrhyw friwiau
  • golchi ac adnewyddu cadachau, sbyngau a thyweli sychu llestri’n rheolaidd.

Pryd i olchi dwylo:

  • cyn cyffwrdd mewn unrhyw fwyd
  • ar ôl bod yn y toiled
  • ar ôl egwyl
  • ar ôl cyffwrdd cig amrwd (raw), dofednod (poultry), pysgod, wyau neu lysiau heb eu golchi
  • ar ôl cyffwrdd mewn briw
  • ar ôl cyffwrdd neu wagio bin
  • ar ôl glanhau
  • ar ôl cyffwrdd ffôn, swits golau, neu ddelio gydag arian.

Peryglon Diogelwch Bwyd:

Mae pedwar math o beryglon sydd angen cymryd i ystyried wrth baratoi bwyd:

Microbiolegol: yn cyfeirio at facteria niweidiol, burum, llwydni a firws.

Cemegol: pan fydd cemegau yn mynd i mewn i fwyd, e.e. deunyddiau cyswllt bwyd, cynhyrchion glanhau, cemegau rheoli pla.

Ffisegol: pan fydd pethau yn mynd i mewn i fwyd e.e. gwydr, pecynnu, gemwaith, ac yn y blaen.

Alergenau: yn cyfeirio at y risg sy’n gysylltiedig â thraws-halogi.

Wrth baratoi bwyd:

  • rhaid golchi dwylo
  • peidio traws-halogi, cadw bwydydd megis cig, dofednod a physgod i ffwrdd o fwydydd eraill
  • sicrhau bod yr holl offer yn cael ei olchi mewn dŵr cynnes
  • golchi pob arwyneb, offer, byrddau torri yn defnyddio glanweithwyr (sanitisers) a diheintyddion.

Wrth weini bwyd:

  • rhaid cadw bwydydd poeth 60°C neu uwch, a bwydydd oer 4°C neu is
  • rheol dwy awr: rhaid peidio gadael bwyd sydd wedi ei baratoi allan o’r oergell am fwy na dwy awr (yn cynnwys amser paratoi).

Wrth storio bwyd, mae’n rhaid:

  • sicrhau bod yr oergell rhwng 1-5°C
  • sicrhau bod bwydydd yn cael eu gorchuddio yn briodol
  • sicrhau nad yw bwydydd yn cael eu hail-rewi
  • peidio â defnyddio bwydydd sydd allan o ddyddiad
  • storio cig a physgod amrwd yng ngwaelod yr oergell
  • sicrhau bod cigoedd wedi dadmer yn llwyr cyn eu coginio
  • sicrhau bod llaeth fformiwla yn cael ei baratoi yn ôl yr angen, a bod llaeth y fron yn cael ei storio mewn oergell (4°C) hyd at 5 diwrnod, neu yn y rhewgell am chwe mis.

Darllen Pellach:

http://bit.ly/2YuUFTz

https://www.gov.uk/food-safety-your-responsibilities

http://bit.ly/32YLz4V

http://bit.ly/2YzWqPx

Food safety legislation and responsibility, as well as the hazards

Deddfwriaeth a chyfrifoldeb diogelwch bwyd ynghyd â’r peryglon

QuestionCwestiwn Your ResponseEich Ymateb Suggested ResponseYmateb Awgrymedig

Suggested Response:

Ymateb Awgrymedig:

Surface hygiene and the use of personal protective equipment

Glendid arwynebau a phryd y dylid defnyddio cyfarpar diogelu personol

Good practice

Kitchens that undertake food preparation must be clean. Effective cleaning eliminates bacteria, and helps to prevent harmful bacteria from spreading to food.

In order to kill bacteria, surfaces, equipment and utensils must be washed in warm water with detergent and disinfectant. There are many different cleaning and disinfecting products available so the manufacturer's directions should be read carefully in order to use the product correctly. In order to kill bacteria properly, the product will normally need to be left on the surface for a short period to work.

Employers have a duty to meet the 'Personal Protective Equipment at Work Regulations 1992' with regard to the provision and use of personal protective equipment.

Personal Protective Equipment (PPE) is used to protect users from the health risks associated with the workplace. As kitchens are hot, busy and dangerous areas to work, where the oven, open fires and sharp knives add to the risk of harm, it is essential to wear personal protection equipment.

The type of protective equipment that should be worn when working in a kitchen include the following:

  • aprons to protect from hot liquids, foods and utensils
  • oven gloves to protect the hands when handling hot oven dishes
  • thick rubber gloves to protect the skin from burns and cleaning products or gloves that protect the skin from cuts when using sharp knives or scissors
  • suitable footwear to avoid slipping or falling if the floor is wet
  • safety goggles to protect the eyes from cleaning fluids.

Further Reading:

https://www.nisbets.co.uk/protectiveclothing

http://www.hse.gov.uk/coshh/basics/ppe.htm

Mae’n rhaid i geginau sy’n paratoi bwyd fod yn lân. Mae glanhau effeithiol yn cael gwared ar facteria, ac yn help i atal bacteria niweidiol rhag lledaenu i fwyd.

Er mwyn lladd bacteria, mae angen golchi arwynebau, offer a chyfarpar gyda dŵr cynnes, sebon a diheintydd. Mae sawl cynnyrch glanhau a diheintio ar gael, felly mae angen sicrhau eich bod yn darllen cyfarwyddiadau’r cynhyrchwyr yn ofalus er mwyn defnyddio’r cynnyrch cywir. Ar gyfer lladd bacteria yn iawn bydd fel arfer angen gadael y cynnyrch ar yr arwyneb am ychydig i weithio.

Mae gan gyflogwyr ddyletswydd i fodloni’r ‘Rheoliadau Cyfarpar Diogelu Personol yn y Gwaith 1992’ o ran darparu a defnyddio cyfarpar diogelu personol.

Mae cyfarpar diogelu personol (Personal Protective Equipment - PPE) yn cael ei ddefnyddio i ddiogelu’r defnyddiwr rhag risgiau i iechyd yn y gweithle. Gan fod ceginau yn ardaloedd poeth, prysur a pheryglus i weithio ynddynt, lle mae popty, tannau agored a chyllyll miniog yn ychwanegu at risg o niwed mae gwisgo cyfarpar diogelu personol yn hanfodol.

Dyma’r math o gyfarpar diogelu y dylid ei wisgo wrth weithio mewn cegin:

  • ffedog i ddiogelu rhag hylifau poeth, bwydydd a chyfarpar
  • menig ffwrn/popty sydd yn diogelu’r dwylo wrth ymdrin â llestri coginio poeth
  • menig rwber trwchus ar gyfer diogelu’r croen rhag llosgiadau a chynnyrch glanhau neu fenig sydd yn gwrthsefyll toriadau’r croen wrth ddefnyddio cyllyll miniog neu siswrn
  • esgidiau addas rhag llithro neu syrthio os yw’r lloriau’n wlyb
  • goglau diogelwch i arbed y llygaid rhag hylifau glanhau.

Darllen Pellach:

https://www.nisbets.co.uk/protectiveclothing

http://www.hse.gov.uk/coshh/basics/ppe.htm

Surface hygiene and the use of personal protective equipment

Drag the words to the correct spaces.

Glendid arwynebau a phryd y dylid defnyddio cyfarpar diogelu personol

Llusgwch y geiriau i’r bylchau cywir.

Your Answers

  1. Kitchens must be clean when preparing food.
  2. Effective cleaning eliminates bacteria, and helps to prevent harmful bacteria from spreading to food.
  3. In order to kill bacteria, surfaces, equipment and utensils must be washed in warm water with detergent and disinfectant. There are many different cleaning and disinfecting products available so the manufacturer's directions for a short period in order to prevent the spread of bacteria.

Correct answers

  1. Kitchens must be clean when preparing food.
  2. Effective cleaning eliminates bacteria, and helps to prevent harmful bacteria from spreading to food.
  3. In order to kill bacteria, surfaces, equipment and utensils must be washed in warm water with detergent and disinfectant. There are many different cleaning and disinfecting products available so the manufacturer's directions should be read carefully in order to use the product correctly.
  4. In order to kill bacteria properly, the product will need to be left on the surface for a short period in order to prevent the spread of bacteria.

Eich atebion

  1. Mae’n rhaid i geginau fod yn lân wrth baratoi bwyd.
  2. Mae glanhau effeithiol yn cael gwared ar facteria , ac yn help i atal bacteria niweidiol rhag lledaenu i fwyd.
  3. Er mwyn lladd bacteria, mae angen golchi arwynebau, offer a chyfarpar gyda dŵr cynnes , sebon a diheintydd. Mae sawl cynnyrch glanhau a diheintio ar gael felly mae angen sicrhau eich bod yn darllen cyfarwyddiadau’r cynhyrchwyr yn ofalus er mwyn defnyddio’r cynnyrch cywir.
  4. Ar gyfer lladd bacteria yn iawn, mae angen gadael y cynnyrch ar yr arwyneb am gyfnod er mwyn atal lledaenu bacteria.

Atebion cywir

  1. Mae’n rhaid i geginau fod yn lân wrth baratoi bwyd .
  2. Mae glanhau effeithiol yn cael gwared ar facteria , ac yn help i atal bacteria niweidiol rhag lledaenu i fwyd.
  3. Er mwyn lladd bacteria, mae angen golchi arwynebau, offer a chyfarpar gyda dŵr cynnes , sebon a diheintydd. Mae sawl cynnyrch glanhau a diheintio ar gael felly mae angen sicrhau eich bod yn darllen cyfarwyddiadau’r cynhyrchwyr yn ofalus er mwyn defnyddio’r cynnyrch cywir.
  4. Ar gyfer lladd bacteria yn iawn, mae angen gadael y cynnyrch ar yr arwyneb am gyfnod er mwyn atal lledaenu bacteria.

Storing, preparation and use of food and drink and disposing of it safely

Storio, paratoi a defnyddio bwyd a diod a’i waredu’n ddiogel

Safely Storing Food

Food poisoning is often caused by bacteria from food that has been incorrectly stored, prepared or cooked.

Food that has been contaminated with bacteria associated with food poisoning may look, smell and taste normal. If the food is not stored correctly, the bacteria within can multiply to hazardous levels.

Good hygiene is essential when storing food.

Fruit and vegetables:

Fruit and vegetables need to be used as soon as possible after their purchase, and any showing signs of deterioration should be thrown. Vegetables need to be stored in the dark to prevent them from deteriorating.

Storage in a refrigerator:

If possible, raw foods such as meat and poultry should be stored in a separate refrigerator to dairy products and cooked meats.

Guidance for storing food in the refrigerator:

  • store prepared food on the top shelf
  • keep prepared food far enough away from raw foods in order to avoid cross-contamination
  • keep raw foods in the bottom of the refrigerator
  • it is important to keep the refrigerator clean
  • the temperature of the refrigerator should be between 1°C and 4°C, never above 8°C
  • allow enough space for the air to circulate
  • do not put hot foods in the refrigerator.

Guidance for storing food in the freezer:

  • frozen food should be allowed to defrost in a refrigerator, and should be used as soon as it has defrosted
  • ensure that frozen food has fully defrosted before cooking
  • do not refreeze food that has been defrosted
  • all items placed in the freezer should be individually wrapped, labelled and dated
  • do not overfill the freezer.

Preparing and using food safely:

  • ensure that anyone who handles food has been trained to understand the principles of time and temperature control, personal hygiene and the risks associated with food preparation
  • take special care with raw foods and foods that may be hazardous and contain allergens
  • prepared food should be returned to the refrigerator if not being cooked or served immediately
  • ensure that cleaning and disinfecting procedures are implemented regularly (chopping boards, cooking utensils, surfaces and other equipment should be cleaned and sterilised before use)
  • dirty dishes should be kept away from clean dishes, or foods which are being prepared
  • utensils should be used to pick up food rather than hands
  • a specific sink should be used to wash or defrost food – never the same sink as is used to wash dishes or wash hands.

Safe disposal of food waste:

Kitchen waste, and food waste, should be disposed of promptly, hygienically and appropriately, and adequate facilities must be provided for this purpose in order to avoid attracting rodents, insects and birds. When disposing of food, the following should be done:

  • ensure that bins are available for that specific purpose, and are labelled clearly
  • ensure that there is a specific area in the kitchen designated for bins
  • use bin liners in bins
  • empty the bins regularly
  • clean food bins and storage bins with disinfectant on a daily basis
  • wash your hands before and after handling food waste and disposing of waste.

Further Reading:

http://bit.ly/2YpfjcR

http://bit.ly/2Znqq2e

Mae gwenwyn bwyd yn aml yn cael ei achosi gan facteria o fwyd sydd wedi ei storio, ei baratoi neu ei goginio yn anghywir.

Gall bwyd sydd wedi'i halogi â bacteria gwenwyn bwyd edrych, arogli a blasu'n normal. Os na chaiff bwyd ei storio'n gywir, gall y bacteria ynddo luosi i lefelau peryglus.

Mae hylendid da yn hanfodol pan yn storio bwyd.

Ffrwythau a llysiau:

Mae angen defnyddio ffrwythau a llysiau cyn gynted â phosib ar ôl eu prynu, a thaflu y rhai sydd yn dangos arwyddion o ddirywio. Mae angen storio llysiau yn y tywyllwch i’w hatal rhag dirywio.

Storio mewn oergell:

Os yn bosib, mae angen storio bwydydd amrwd megis cig a dofednod mewn oergell ar wahân i gynnyrch llaeth a chig sydd wedi ei goginio.

Canllawiau ar gyfer storio bwyd yn yr oergell:

  • storio bwydydd parod ar y silff uchaf
  • cadw bwydydd parod ddigon pell o fwydydd amrwd er mwyn osgoi traws-halogiad
  • cadw bwydydd amrwd yng ngwaelod yr oergell
  • mae’n bwysig cadw’r oergell yn lân
  • dylai tymheredd yr oergell fod rhwng 1°C a 4°C, byth dros 8°C
  • cadw digon o le er mwyn i’r aer gylchredeg
  • peidio rhoi bwyd poeth yn yr oergell.

Canllawiau ar gyfer storio bwyd yn y rhewgell:

  • gadael bwyd sydd wedi rhewi ddadrewi mewn oergell, a’i ddefnyddio cyn gynted ag y bydd wedi dadrewi
  • sicrhau fod bwyd sydd wedi ei rewi, wedi dadrewi yn llwyr cyn ei goginio
  • peidio ail-rewi bwyd sydd wedi dadrewi
  • dylid lapio pob eitem o fwyd yn y rhewgell yn unigol, ei labelu, a’i ddyddio
  • peidio gorlenwi rhewgell.

Paratoi a defnyddio bwyd yn ddiogel:

  • sicrhau bod unrhyw un sydd yn ymdrin â bwyd wedi ei hyfforddi er mwyn deall yr egwyddorion o amser a rheoli tymheredd, hylendid personol, a’r risgiau sydd yn ymwneud â pharatoi bwyd
  • cymryd gofal arbennig o fwydydd amrwd a bwydydd sydd o bosib yn beryglus ac yn cynnwys alergenau
  • mae angen dychwelyd bwyd wedi ei baratoi i’r oergell os nad ydy o yn cael ei goginio neu ei weini yn syth
  • sicrhau bod glanhau a diheintio yn digwydd yn rheolaidd (dylai byrddau torri, offer coginio, arwynebau a chyfarpar eraill gael eu glanhau a’u diheintio cyn eu defnyddio)
  • cadw llestri budron i ffwrdd o lestri glân, neu o fwyd sydd yn cael ei baratoi
  • defnyddio offer i godi bwyd yn hytrach na dwylo
  • golchi neu ddadrewi bwyd mewn sinc penodol – byth yn yr un sinc ar gyfer golchi llestri neu olchi dwylo.

Gwaredu gwastraff bwyd yn ddiogel:

Mae angen gwaredu gwastraff cegin, a gwastraff bwyd yn brydlon, yn hylan ac yn briodol, ac mae’n rhaid cael cyfleusterau digonol ar gyfer hyn i osgoi denu plâu megis cnofilod (rodents), pryfed ac adar. Wrth waredu â bwyd, dylid:

  • sicrhau bod biniau pwrpasol ar gael, ac wedi eu labelu yn glir
  • sicrhau ardal benodol yn y gegin ar gyfer biniau
  • defnyddio leinin bin tu mewn i finiau
  • gwagio biniau yn rheolaidd
  • glanhau biniau bwyd a biniau storio gyda diheintydd, yn ddyddiol
  • golchi dwylo cyn ac ar ôl ymdrin â bwyd gwastraff a gwaredu gwastraff.

Darllen Pellach:

http://bit.ly/2KnndcS

http://bit.ly/2YzWqPx

Storing, preparing and using food and drink and disposing of it safely

Complete the activity below.

Storio, paratoi a defnyddio bwyd a diod a’i waredu’n ddiogel

Cwblhewch y gweithgaredd isod.