Food waste can lead to physical and bacterial contamination and can attract pests such as flies and rats if it is not disposed of properly. There should be separate bins for indoor and outdoor use.
Indoor bins should not be close to food as that can increase the risk of contamination from bacteria. The bin should be lined with a disposable plastic bin bag and have a well-fitting lid to reduce the risk of flies and other insects gaining access.
Foot-operated bins are better for hygiene because they reduce the risk of hands picking up germs when they touch the bin lid. As each bin bag becomes full it should be tied and transferred to an external bin. Outdoor bins should be kept tightly closed and bin areas kept clean. All bins should never be left to overflow.
It is important that personal protective clothing (PPE) such as disposable gloves and aprons are worn when disposing of waste food. Equally, it is important that hands are thoroughly washed after handling food waste and bins.
Gall gwastraff bwyd arwain at halogi corfforol a bacteriol a gall ddenu plâu fel pryfed a llygod mawr os na chaiff ei waredu'n briodol. Dylid cael biniau ar wahân i'w defnyddio dan do ac yn yr awyr agored.
Ni ddylai biniau dan do fod yn agos at fwyd gan y gall hynny gynyddu'r risg o halogiad gan facteria. Dylai'r bin fod â bag bin plastig tafladwy a chaead addas i leihau'r perygl o bryfed a gwyfynod eraill yn mynd i mewn.
Mae biniau a weithredir gan y traed yn well ar gyfer hylendid gan eu bod yn lleihau'r risg y bydd germau'n cael eu dal pan fyddant yn cyffwrdd â'r caead bin. Pan fydd bob bag bin yn llawn, dylid ei glymu a'i drosglwyddo i fin allanol. Dylid cadw biniau awyr agored wedi’u cau yn dynn a dylid cadw ardaloedd y biniau yn lân. Ni ddylid gadael i unrhyw fin orlifo byth.
Mae'n bwysig bod dillad amddiffynnol personol (PPE) megis menig a ffedogau tafladwy yn cael eu gwisgo wrth gael gwared ar wastraff bwyd. Yn yr un modd, mae'n bwysig bod dwylo'n cael eu golchi'n drylwyr ar ôl trin gwastraff bwyd a biniau.
Study the 4 images showing disposal of food waste. Comment on either good or poor practice before viewing the suggested answer.
Astudiwch y 4 delwedd sy'n dangos gwaredu gwastraff bwyd. Gwnewch sylwadau am ymarfer da neu wael cyn gweld yr ateb awgrymedig.
The bin is lined with a disposable plastic bin bag and personal protective clothing including disposable gloves are being worn.
Mae bag bin plastig tafladwy yn y bin a dillad amddiffynnol personol gan gynnwys menig tafladwy yn cael eu gwisgo.
Outdoor bins are overflowing and are not kept tightly closed. The bin area is not clean which will attract flies, insects and rats which can spread bacteria causing cross contamination and food poisoning.
Mae'r biniau awyr agored yn orlawn ac nid ydynt wedi cael eu cau’n dynn. Nid yw ardal y bin yn lân a bydd yn denu pryfed, gwyfynod a llygod mawr a all wasgaru bacteria sy'n achosi traws-halogi a gwenwyn bwyd.
Foot-operated bins are better for hygiene because they reduce the risk of hands picking up germs when they touch the bin lid.
Mae biniau a weithredir gan y traed yn well ar gyfer hylendid gan eu bod yn lleihau'r risg y bydd germau'n cael eu dal pan fyddant yn cyffwrdd â'r caead bin.
Food left open and not covered will attract flies which carry bacteria and cause cross contamination. Food can fall onto the work surface and cause contamination of work surfaces leading to food poisoning.
Bydd bwyd sy'n cael ei adael ar agor a heb ei orchuddio yn denu pryfed sy'n cario bacteria ac yn achosi traws-halogi. Gall bwyd ddisgyn ar yr arwyneb gwaith ac achosi halogiad ar arwynebau gwaith sy'n arwain at wenwyn bwyd.