Storage

Storio

Safely storing food

Storing foods correctly reduces the risk of contamination and resulting food poisoning.

Organisations such as hospitals, schools, and care homes have a wide range of different foods that must be stored correctly.

The three main types of storage are:

Dry Storage – dry foods that have a long shelf life can be kept at room temperature. Cupboards can be used for these foods however they must be kept clean and tidy.

Fridge – some foods must be kept in a fridge below 5°C to prevent bacteria from growing. This includes uncooked meats and foods with a “use by” date, cooked foods and ready to eat foods such as cooked meats and desserts. Uncooked meats must be stored in containers at the bottom of the fridge well away from cooked meats in order to prevent cross contamination.

Freezer - frozen foods must be kept in a freezer at -18°C or colder and the instructions must be followed rigorously for example some foods can be cooked from frozen, some foods must be defrosted before cooking. Foods must never be defrosted and re-frozen.

Mae storio bwydydd cywir yn lleihau'r risg o halogiad a gwenwyn bwyd yn sgil hynny.

Mae gan sefydliadau fel ysbytai, ysgolion a chartrefi gofal amrywiaeth eang o fwydydd gwahanol y mae'n rhaid eu storio'n gywir.

Dyma'r tri phrif fath o storfa:

Storio Sych – gellir cadw bwydydd sych sydd ag oes silff hir ar dymheredd ystafell. Gellir defnyddio cypyrddau ar gyfer y bwydydd hyn, ond rhaid eu cadw'n lân ac yn daclus.

Oergell – rhaid cadw rhai bwydydd mewn oergell sy'n is na 5°C i atal bacteria rhag tyfu. Mae hyn yn cynnwys cigoedd heb eu coginio a bwydydd gyda dyddiad "defnyddio erbyn", bwydydd wedi'u coginio a bwydydd parod i'w bwyta megis cigoedd a phwdinau wedi’u coginio. Rhaid cadw cigoedd amrwd mewn cynwysyddion ar waelod yr oergell, ymhell oddi wrth gig sydd wedi'i goginio er mwyn atal traws-halogi.

Rhewgell - rhaid cadw bwydydd wedi'u rhewi mewn rhewgell ar -18°C neu oerach a rhaid dilyn y cyfarwyddiadau'n drwyadl er enghraifft gellir coginio rhai bwydydd o'u rhewi, rhaid dadmer rhai bwydydd cyn eu coginio. Ni ddylid dadrewi bwydydd a'u hail-rewi byth.

Storage

Put the foods into the correct columns according to the type of storage required.

Storio

Rhowch y bwydydd yn y colofnau cywir yn ôl y math o storfa sydd ei angen.