What are the key factors that make it more likely that infections will occur?

Ffactorau allweddol sy'n ei gwneud yn fwy tebygol y bydd heintiau'n digwydd?

Sick man

Organisms that can cause illness are all around us: in air, water, soil, and food as well as in the bodies of animals and other people.

Infection occurs when some of them get past a series of natural defences.

Those defences include:

  • Skin: The skin physically blocks germs but may let them in if it is cut or scraped.
  • Coughing deeply: This expels germs from the lungs and breathing passages but may be less effective for weak, sick, or injured people.
  • Bacteria: "Resident flora" is harmless bacteria which is normally present in some parts of the body. They compete with harmful germs and crowd them out. They can be weakened or killed by medications, allowing harmful germs to thrive and cause illness.
  • Inflammatory response: This is produced by the body's immune system. Certain kinds of white blood cells including macrophages and neutrophils surround and destroy or otherwise attack any kind of germs, often causing fever, redness, and swelling.

The immune system's responses may fail if the germs are too numerous, or if they are too virulent. "Virulent" describes germs that are particularly good at countering the body's defences.

For instance, some microbes can prevent antibodies from forming against them.

Another important factor is the functioning of the immune system. If it is damaged or weakened, for instance, by age, or illness then infection is more likely.

Babies tend to get more infections because their immune systems have not yet learned to recognize and attack some microbes.

Mae organebau sy'n gallu achosi salwch o'n cwmpas ym mhob man: mewn aer, dŵr, pridd, a bwyd yn ogystal ag yng nghyrff anifeiliaid a phobl eraill.

Mae haint yn digwydd pan fydd rhai ohonynt yn mynd heibio i gyfres o amddiffynfeydd naturiol.

Mae’r amddiffynfeydd hynny yn cynnwys:

  • Y croen: Mae'r croen yn rhwystro germau'n gorfforol ond gallai eu gadael i mewn os yw’n cael ei dorri neu ei grafu.
  • Pesychu'n ddwfn: Mae hyn yn bwrw germau allan o'r ysgyfaint a'r llwybrau anadlu ond gallai fod yn llai effeithiol i bobl wan, sâl neu bobl sydd wedi’u hanafu.
  • Bacteria: Mae "fflora preswyl" yn facteria diniwed sydd fel arfer yn bresennol mewn rhai rhannau o'r corff. Maen nhw'n cystadlu gyda germau niweidiol ac yn eu gwthio allan. Gallant gael eu gwanhau neu eu lladd gan feddyginiaethau, gan ganiatáu i germau niweidiol ffynnu ac achosi salwch.
  • Ymateb ymfflamychol: Mae hyn yn cael ei gynhyrchu gan system imiwnedd y corff. Mae mathau penodol o gelloedd gwyn y gwaed gan gynnwys macroffagau a niwtroffilau yn amgylchynu ac yn dinistrio neu'n ymosod mewn ffordd arall ar unrhyw fath o germau, gan achosi twymyn, cochni a chwyddo.

Gall ymatebion y system imiwnedd fethu os yw'r germau'n rhy niferus, neu os ydynt yn rhy ffyrnig. Mae "ffyrnig" yn disgrifio germau sy'n arbennig o dda am wrthsefyll amddiffynfeydd y corff.

Er enghraifft, gall rhai microbau atal gwrthgyrff rhag ffurfio yn eu herbyn.

Ffactor pwysig arall yw'r modd mae'r system imiwnedd yn gweithio. Os yw wedi'i ddifrodi neu ei wanhau, er enghraifft, gan oedran, neu salwch, mae haint yn fwy tebygol.

Mae babanod yn tueddu i gael mwy o heintiau am nad yw eu systemau imiwnedd wedi dysgu adnabod ac ymosod ar rai microbau eto.

How do our natural defences work?

Drag the natural defences in the table below to the correct description of how they operate.

Sut mae ein hamddiffynfeydd naturiol yn gweithio?

Llusgwch yr amddiffynfeydd naturiol yn y tabl isod at y disgrifiad cywir o sut maen nhw'n gweithredu.

Natural defences

Amddiffynfeydd naturiol

How they operate

Sut maen nhw’n gweithredu

Correct answers

Atebion cywir