Common illnesses and infections

Salwch a heintiau cyffredin

Common Bacterial Infections Symptoms

Meningitis (bacterial)

Meningitis (bacterial)

An infection of the membranes (meninges) surrounding the brain and spinal cord. It can be caused by a bacterial, fungal or viral infection. Acute bacterial is the most common form with over 80% being this form. The infection can cause the tissues around the brain to swell. This in turn interferes with blood flow.

Symptoms include:

  • high temperature
  • headaches
  • irritability
  • dislike of lights
  • drowsiness
  • high pitched cry in babies
  • neck stiffness and a purple type blotchy rash.

Pneumonia

Pneumonia

Swelling and inflammation of the tissue in one or both lungs caused by bacteria. At the end of the breathing tubes in the lungs are clusters of tiny air sacs, these become inflamed and fill up with fluid.

Symptoms include:

  • a cough – this may be dry, or produce thick yellow, green, brown or blood-stained mucus (phlegm)
  • difficulty breathing and chest pain
  • rapid heartbeat
  • fever
  • feeling generally unwell
  • sweating and shivering
  • loss of appetite.

Salmonella

Salmonella

A food borne illness caused by bacterial infection. Most infections spread to people through contaminated food (usually meat, poultry, eggs, or milk).

Symptoms include:

  • stomach cramps
  • bloody stools
  • diarrhoea
  • fever
  • headache
  • muscle pains
  • nausea and vomiting.
Common Viral Infections Symptoms

Measles

Measles

A viral illness that results in cold-like symptoms, such as a runny nose, sneezing and a cough. This can develop into a more serious illness for some. Eyes may be red and sensitive to light. There will be a high temperature (fever), which may reach around 40°C (104°F); small greyish-white spots on the inside of the cheeks, and a general red rash over the body appears after 2-4 days.

Flu

Flu

A common viral illness that can be serious in young children and elderly people.

Symptoms include:

  • a sudden fever
  • a temperature of 38°C or above
  • aching body
  • feeling tired or exhausted
  • dry cough
  • sore throat
  • headache
  • difficulty sleeping
  • loss of appetite
  • diarrhoea or abdominal pain
  • nausea and being sick.

Chickenpox/Shingles

Chickenpox

This virus can cause ill health in babies and children or in adults and elderly people with a different name being given to the two types of illness. Symptoms in children are based around a rash behind the ears, on the face, over the scalp, on the chest, stomach, arms and legs. There is also a temperature and a general feeling of being unwell. In adults/older people the first sign is pain that might feel like tingling on one side of the face, chest, back, or waist which can be intense. Symptoms of flu and a temperature may also be present along with a rash.

Common Fungal Infections Symptoms

Athletes foot

Athletes foot

A skin infection of the feet caused by a fungus. Signs and symptoms include itching, scaling, cracking and redness. The skin may blister and infect any part of the foot but often between the toes.

Ringworm

Ringworm

A common fungal infection that can cause a red or silvery ring-like rash on the skin. It commonly affects arms and legs, but it can appear almost anywhere on the body.

Thrush

Thrush

Oral thrush occurs on the inside of the mouth and on the tongue. This condition is also known as oral candidiasis, or simply thrush. It is caused by the Candida albicans (C. albicans) fungus. Vaginal thrush occurs in the vaginal area in females. Males can also have thrush on the penis. Symptoms can include itching and soreness, pain during vaginal sexual intercourse and pain when urinating.

Common Parasitic Infections Symptoms

Malaria

Malaria

This is a life-threatening disease. It's typically transmitted through the bite of an infected mosquito carrying the Plasmodium parasite. When this mosquito bites the parasite is released into the bloodstream.

Symptoms include:

  • a high temperature of 38°C or above
  • feeling hot and shivery
  • headaches
  • vomiting
  • muscle pains
  • diarrhoea and generally feeling unwell.
Heintiau Bacteriol Cyffredin Symptomau

Llid yr ymennydd (bacteria)

Llid yr ymennydd (bacteria)

Haint ar y pilenni (meninges) sy'n amgylchynu'r ymennydd a madruddyn y cefn. Gellir ei achosi gan haint bacteriol, ffwngaidd neu firol. Bacteria aciwt yw'r ffurf fwyaf cyffredin gyda dros 80% ar y ffurf hon. Gall yr haint achosi i'r meinweoedd o amgylch yr ymennydd chwyddo. Mae hyn yn ei dro yn ymyrryd â llif y gwaed.

Mae'r symptomau'n cynnwys:

  • tymheredd uchel
  • cur pen
  • anniddigrwydd
  • casáu goleuadau
  • syrthni
  • cri uchel mewn babanod
  • anhyblygedd yn y gwddf a brech blotiog porffor.

Niwmonia

Niwmonia

Chwydd a llid y feinwe yn un neu'r ddau ysgyfaint a achosir gan facteria. Ar ben y tiwbiau anadlu yn yr ysgyfaint mae clystyrau o sachau aer bach, mae'r rhain yn mynd yn llidiog ac yn llenwi â hylif.

Mae'r symptomau'n cynnwys:

  • peswch – gallai hyn fod yn sych, neu gynhyrchu mwcws melyn, gwyrdd, brown neu fwcws â staen gwaed (fflem)
  • anhawster anadlu a phoen yn y frest
  • curiad calon cyflym
  • twymyn
  • teimlo'n sâl yn gyffredinol
  • chwysu a crynu
  • colli archwaeth.

Salmonela

Salmonela

Salwch sy’n cael ei gludo mewn bwyd a achosir gan haint bacteriol. Mae'r rhan fwyaf o heintiau'n ymledu i bobl drwy fwyd halogedig (fel arfer cig, dofednod, wyau, neu laeth).

Mae'r symptomau'n cynnwys:

  • crampiau stumog
  • carthion gwaedlyd
  • dolur rhydd
  • twymyn
  • cur pen
  • poenau yn y cyhyrau
  • cyfog a chwydu.
Heintiau Firol Cyffredin Symptomau

Y frech goch

Y frech goch

Salwch firol sy’n achosi symptomau tebyg i annwyd, fel trwyn yn rhedeg, tisian a pheswch. Gall hyn ddatblygu i fod yn salwch mwy difrifol i rai. Gallai’r llygaid fod yn goch ac yn sensitif i oleuni. Bydd gwres uchel (twymyn), a all gyrraedd tua 40°C (104°F); smotiau bach llwyd-gwyn ar y tu mewn i'r bochau, a brech goch gyffredinol dros y corff yn ymddangos ar ôl 2-4 diwrnod.

Ffliw

Flu

Salwch firol cyffredin a allai fod yn ddifrifol mewn plant ifanc a phobl oedrannus.

Mae'r symptomau'n cynnwys:

  • twymyn sydyn
  • tymheredd o 38°C neu uwch
  • corff poenus
  • teimlo'n flinedig neu wedi ymlâdd
  • peswch sych
  • dolur gwddf
  • cur pen
  • anhawster cysgu
  • colli archwaeth am fwyd
  • dolur rhydd neu boen bol
  • cyfog a bod yn sâl.

Brech yr Ieir/Yr Eryr

Brech yr Ieir

Mae'r firws hwn yn gallu achosi afiechyd mewn babanod a phlant neu mewn oedolion a phobl oedrannus gydag enw gwahanol yn cael ei roi i'r ddau fath o salwch. Mae symptomau plant yn seiliedig ar frech y tu ôl i'r clustiau, ar yr wyneb, dros groen y pen, ar y frest, y stumog, y breichiau a'r coesau. Hefyd mae tymheredd a theimlad cyffredinol o fod yn anhwylus. Mewn oedolion/pobl hŷn, yr arwydd cyntaf yw poen a allai deimlo fel pinnau bach ar un ochr i’r wyneb, y frest, y cefn, neu’r wain a allai fod yn llethol. Gall symptomau ffliw a thymheredd hefyd fod yn bresennol ynghyd â brech.

Heintiau Ffwngaidd Cyffredin Symptomau

Tarwden y Traed

Tarwden y Traed

Haint ar groen y traed a achosir gan ffwng. Mae arwyddion a symptomau'n cynnwys cosi, cen, cracio a chochni. Gallai pothelli godi ar y croen a heintio unrhyw ran o'r droed ond yn aml rhwng bysedd y traed.

Tarwden

Tarwden

Haint ffwngaidd cyffredin sy'n gallu achosi brech goch neu arian sy'n debyg i gylchoedd ar y croen. Yn aml, mae'n effeithio ar freichiau a choesau, ond gall ymddangos bron unrhyw le ar y corff.

Y llindag

Y llindag

Mae’r llindag genol yn digwydd y tu mewn i’r geg ac ar y tafod. Mae'r cyflwr hwn hefyd yn cael ei adnabod hefyd fel candidasis genol, neu y llindag. Fe'i achosir gan ffwng Candida albicans (C. albicans). Mae'r llindag ar y wain yn digwydd yn ardal y wain mewn merched. Gall dynion hefyd gael y llindag ar y pidyn. Mae'r symptomau'n cynnwys: cosi a phoen, poen yn ystod cyfathrach rywiol y wain a phoen wrth basio dŵr.

Heintiau Parasitig Cyffredin Symptomau

Malaria

Malaria

Mae hwn yn glefyd sy'n peryglu bywyd. Mae'n cael ei drosglwyddo fel arfer drwy frathiad mosgito heintiedig sy'n cario'r paraseit Plasmodium. Pan fydd y mosgito hwn yn brathu caiff y paraseit ei ryddhau i lif y gwaed.

Mae'r symptomau'n cynnwys:

  • tymheredd uchel o 38°C neu'n uwch
  • teimlo'n boeth ac yn crynu
  • cur pen
  • chwydu
  • poenau yn y cyhyrau
  • dolur rhydd ac yn teimlo'n anhwylus ar y cyfan.

Common illnesses and infections caused by bacteria, viruses, fungi and parasites and the potential impact

Drag each infection into the correct column according to its cause

Salwch a heintiau cyffredin a achosir gan facteria, firysau, ffyngau a pharasitiaid ac effaith bosibl y rhain

Llusgwch bob haint i'r golofn gywir yn ôl ei achos