“Moving and handling” and “moving and positioning”

“Symud a chario” a “symud a lleoli”

Helping patient into wheelchair

Individuals may often be unable to move or position themselves comfortably due to ill health, injury or disability. Individuals in a care home for example may need some help with positioning in a chair or bed in order to ensure comfort, or they may require help getting in and out of bed, bath or chair if they are unable to do this themselves. If individuals are unconscious or confined to bed, they will require care workers to alter their position regularly in order to prevent pressure sores which will occur if they are in one position for too long.

Moving and handling of people is a regular task in health and social care, which if not done safely, can cause serious injury to individuals and staff.

Yn aml, efallai na fydd unigolion yn gallu symud neu leoli eu hunain yn gyfforddus oherwydd salwch, anaf neu anabledd. Efallai y bydd unigolion mewn cartref gofal angen rhywfaint o gymorth gyda’u gosod mewn cadair neu wely er mwyn sicrhau cysur er enghraifft, neu efallai y byddant angen cymorth i fynd i mewn ac allan o'r gwely, y baddon neu gadair os na allant wneud hyn eu hunain. Os yw unigolion yn anymwybodol neu yn methu codi o'r gwely, bydd angen i weithwyr gofal newid ystum eu corff yn rheolaidd er mwyn atal briwiau pwysedd a fydd yn digwydd os ydynt mewn un ystum am gyfnod rhy hir.

Mae symud a chario pobl yn dasg rheolaidd ym maes iechyd a gofal cymdeithasol, ac os na chaiff ei gwneud yn ddiogel, gallai achosi anafiadau difrifol i unigolion a staff.

Moving, handling and positioning for people’s comfort

Which would apply to the following, moving and handling or moving and positioning?

Symud, cario a lleoli er cysur pobl

Pa un fyddai’n berthnasol i’r canlynol, symud a chario neu symud a lleoli?

Jane is 60 and has had a recent stroke leaving her paralysed on her left side. She is unable to get herself in or out of bed and has been assessed as requiring two nursing staff and the use of a mechanical hoist to assist her.

Mae Jane yn 60 ac yn ddiweddar mae wedi cael strôc sydd wedi’i gadael wedi’i pharlysu ar ei ochr chwith. Nid yw hi’n gallu mynd i mewn ac allan o’r gwely ar ei phen ei hun ac aseswyd bod angen dau aelod o staff nyrsio a defnyddio teclyn codi mecanyddol er mwyn ei chynorthwyo.

Answer:

Moving and handling

Ateb:

Symud a chario

When Jane is in bed the staff need to ensure she is physically comfortable by re-positioning pillows for example, would this be moving and handling or moving and positioning?

Pan fydd Jane yn y gwely mae angen i'r staff sicrhau ei bod yn gyfforddus yn gorfforol drwy ail-leoli'r clustogau er enghraifft, fyddai hyn yn cael ei gyfrif fel symud a chario neu symud a lleoli?

Answer:

Moving and positioning

Ateb:

Symud a lleoli

Tom is 50 and is in a coma following a recent car accident. He has a special mattress on the bed that will help prevent pressure sores; however the staff must also re-position him every 2 hours.

Mae Tom yn 50 ac mae mewn coma yn dilyn damwain car diweddar. Mae ganddo fatres arbennig ar y gwely a fydd yn helpu i atal briwiau pwysedd; fodd bynnag, mae'n rhaid i'r staff hefyd ei ail-leoli ef bob 2 awr.

Answer:

Moving and positioning

Ateb:

Symud a lleoli

Sue is having physiotherapy for a recent knee operation. The physiotherapist is using a slide sheet as an aid for Sue getting from the chair to the wheel chair until she can walk for herself. Would this be moving and handling or moving and positioning?

Mae Sue yn cael ffisiotherapi ar gyfer llawdriniaeth pen-glin yn ddiweddar. Mae'r ffisiotherapydd yn defnyddio cynfas llithro fel cymorth i Sue fynd o'r gadair i'r gadair olwyn nes y gall hi gerdded drosti hi ei hun. A fyddai hyn yn cyfrif fel symud a chario neu symud a lleoli?

Answer:

Moving and handling

Ateb:

Symud a chario

Key legislation relating to moving and handling and what this means in practice

Deddfwriaeth allweddol sy'n ymwneud â symud a chario a beth mae'n ei olygu yn ymarferol

Elderly woman in a hoist

The legislation relating to moving and handling is the Manual Handling Operations Regulations 1992. The Regulations originally came into force on 1 January 1993 and were made under the Health and Safety at Work Act 1974.

The Regulations apply to manual handling activities involving the transporting or supporting of loads, including lifting, lowering, pushing, pulling, carrying or moving loads.

A load may be either inanimate, for example a box or a trolley, or animate, such as a person.

The risks from manual handling can be found across all kinds of workplaces particularly in health and social care environments.

The use of lifting equipment in a health and social care setting is regulated by the Lifting Operations and Lifting Equipment Regulations 1998. (LOLER).

Mae'r ddeddfwriaeth sy'n ymwneud â symud a chario yn y Rheoliadau Gweithrediadau Codi a Chario 1992. Daeth y Rheoliadau i rym yn wreiddiol ar 1 Ionawr 1993 ac fe’u gwneud o dan Ddeddf Iechyd a Diogelwch yn y Gwaith 1974.

Mae'r Rheoliadau hyn yn berthnasol i weithgareddau codi a chario sy'n cynnwys cludo neu gynnal llwythi, gan gynnwys codi, gollwng, gwthio, tynnu, cario neu symud llwythi.

Gall y llwyth fod naill ai'n ddifywyd, fel blwch neu droli, neu’n fyw, fel person.

Gellir gweld y risgiau o godi a chario ar draws pob math o weithleoedd yn enwedig mewn amgylcheddau iechyd a gofal cymdeithasol.

Mae’r defnydd o offer codi mewn lleoliad iechyd a gofal cymdeithasol yn cael ei reoleiddio gan Reoliadau Gweithrediadau ac Offer Codi (LOLER) 1998.

Key legislation relating to moving and handling and what this means in practice

Highlight the residents and workers’ benefits in a nursing home that complies with Manual Handling regulations

Deddfwriaeth allweddol sy'n ymwneud â symud a chario a beth mae'n ei olygu yn ymarferol

Amlygwch y manteision i breswylwyr a gweithwyr mewn cartref nyrsio sy'n cydymffurfio â’r rheoliadau Codi a Chario

Mary has been admitted to a Nursing Home as she can no longer manage in her own home due to Multiple Sclerosis which has resulted in Mary being a permanent wheelchair user. Mary needs total care and as part of her assessment to the home the nurse has carried out a moving and handling risk assessment. This will help identify where injuries could occur and what can be done to prevent them. The nurse is competent and has been trained to do this.

The risk assessment has identified there could be a risk when assisting Mary to transfer from bed to chair and when carrying out daily activities such as bathing. The nurse is ensuring that there is a balance of the safety of employees with the needs, safety and rights of Mary.

The Nursing home has a manual handling policy that does not place unreasonable restrictions on residents’ rights to autonomy, privacy or dignity. Health and safety issues are identified and built into the complete care package.

The assessment carried out was person-centred and involved Mary and her daughter discussing how her needs will be met. This was to reassure Mary and her daughter about the safety and comfort of the equipment, and the methods used will ensure their safety and the safety of staff.

The nurse has recorded the risk assessment and care plan, including details of Mary’s moving and handling needs, day and night, specifying what Mary is able/unable to do independently, the extent of Mary to support their own weight and any other relevant factors, for example pain and tendency to fall.

She assessed the extent to which Mary can participate in/co-operate with transfers and whether she needs assistance to reposition herself/sit up when in the bed/chair and how this will be achieved.

She has noted the equipment needed which will include a hoist and sling; documenting the sling size and attachments needed. She has assessed that Mary will require two staff to ensure safe transfers.

The nurse will now ensure all staff caring for Mary are aware of her needs and they will be trained accordingly on the use of all equipment needed.

Mae Mary wedi cael ei derbyn i Gartref Nyrsio gan nad yw’n gallu ymdopi mwyach yn ei chartref ei hun oherwydd Sglerosis Ymledol sydd yn golygu bod Mary yn ddefnyddiwr cadair olwyn parhaol. Mae Mary angen gofal llwyr ac fel rhan o’i hasesiad i’r cartref mae’r Nyrs wedi cynnal asesiad symud a chario. Bydd hyn yn helpu i nodi lle y gallai anafiadau ddigwydd a beth y gellir ei wneud i'w hatal. Mae'r nyrs yn gymwys ac wedi'i hyfforddi i wneud hyn.

Mae'r asesiad risg wedi nodi y gallai fod yna risg wrth gynorthwyo Mary i drosglwyddo o wely i gadair ac wrth gyflawni gweithgareddau bob dydd fel ymolchi. Mae'r nyrs yn sicrhau bod cydbwysedd rhwng diogelwch gweithwyr ag anghenion, diogelwch a hawliau Mary.

Mae gan y Cartref Nyrsio bolisi codi a chario nad yw'n gosod cyfyngiadau afresymol ar hawliau preswylwyr i annibyniaeth, preifatrwydd neu urddas.Mae materion iechyd a diogelwch yn cael eu nodi a'u cynnwys yn y pecyn gofal cyflawn.

Mae'r asesiad a gynhelir yn canolbwyntio ar y person ac yn cynnwys Mary a’i merch er mwyn trafod sut y caiff ei hanghenion eu diwallu. Roedd hyn er mwyn tawelu meddwl Mary a'i merch am ddiogelwch a chysur yr offer, a bydd y dulliau a ddefnyddir yn sicrhau eu diogelwch a diogelwch staff.

Mae’r nyrs wedi cofnodi yr asesiad risg a'r cynllun gofal, gan gynnwys manylion am anghenion symud a chario Mary, ddydd a nos, gan nodi beth mae Mary yn gallu / methu ei wneud yn annibynnol, i ba raddau mae Mary’n gallu cynnal ei phwysau ei hun ac unrhyw ffactorau eraill, er enghraifft poen a thuedd i ddisgyn.

Fe wnaeth hi asesu i ba raddau mae Mary yn gallu cymryd rhan/cydweithredu gyda throsglwyddiadau a p’un a yw hi angen cymorth i ail-leoli ei hun/eistedd i fyny pan fydd yn y gwely/y gadair a sut y bydd hyn yn cael ei gyflawni.

Mae hi wedi nodi'r offer sydd ei angen a fydd yn cynnwys teclyn codi a sling; gan nodi maint y sling ar atodiadau sydd eu hangen. Mae hi wedi asesu y bydd Mary angen dau aelod o staff er mwyn sicrhau trosglwyddiadau diogel.

Bydd y nyrs yn awr yn sicrhau bod yr holl staff sy'n gofalu am Mary yn ymwybodol o'i hanghenion a byddant yn cael eu hyfforddi yn unol â hynny ar y defnydd o'r holl offer sydd ei angen.

Mary has been admitted to a Nursing Home as she can no longer manage in her own home due to Multiple Sclerosis which has resulted in Mary being a permanent wheelchair user. Mary needs total care and as part of her assessment to the home the Nurse has carried out a moving and handling risk assessment. This will help identify where injuries could occur and what can be done to prevent them. The nurse is competent and has been trained to do this.

The risk assessment has identified there could be a risk when assisting Mary to transfer from bed to chair and when carrying out daily activities such as bathing The nurse is ensuring that there is a balance of the safety of employees with the needs, safety and rights of Mary.

The Nursing home has a manual handling policy that does not place unreasonable restrictions on residents’ rights to autonomy, privacy or dignity. Health and safety issues are identified and built into the complete care package.

The assessment carried out was person-centred and involved the service user and Mary’s daughter discussing how her needs will be met. This was to reassure Mary and her daughter about the safety and comfort of the equipment, and the methods used will ensure their safety and the safety of staff.

The Nurse has recorded the risk assessment and care plan, including details of Mary’s moving and handling needs, day and night, specifying what Mary is able/unable to do independently, the extent of Mary to support their own weight and any other relevant factors, for example pain and tendency to fall.

She assessed the extent to which Mary can participate in/co-operate with transfers and whether she needs assistance to reposition herself/sit up when in the bed/chair and how this will be achieved.

She has noted the equipment needed which will include a hoist and sling; documenting the sling size and attachments needed. She has assessed that Mary will require two staff to ensure safe transfers.

The nurse will now ensure all staff caring for Mary are aware of her needs and they will be trained accordingly on the use of all equipment needed.

Mae Mary wedi cael ei derbyn i Gartref Nyrsio gan nad yw’n gallu ymdopi mwyach yn ei chartref ei hun oherwydd Sglerosis Ymledol sydd yn golygu bod Mary yn ddefnyddiwr cadair olwyn parhaol. Mae Mary angen gofal llwyr ac fel rhan o’i hasesiad i’r cartref mae’r Nyrs wedi cynnal asesiad symud a chario. Bydd hyn yn helpu inodi lle y gallai anafiadau ddigwydd a beth y gellir ei wneud i'w hatal. Mae'r nyrs yn gymwys ac wedi'i hyfforddi i wneud hyn.

Mae'r asesiad risg wedi nodi y gallai fod yna risg wrth gynorthwyo Mary i drosglwyddo o wely i gadair ac wrth gyflawni gweithgareddau bob dydd fel ymolchi. Mae'r nyrs yn sicrhau bod cydbwysedd rhwng diogelwch gweithwyr ag anghenion, diogelwch a hawliau Mary.

Mae gan y Cartref Nyrsio bolisi codi a chario nad yw'n gosod cyfyngiadau afresymol ar hawliau preswylwyr i annibyniaeth, preifatrwydd neu urddas.Mae materion iechyd a diogelwch yn cael eu nodi a'u cynnwys yn y pecyn gofal cyflawn.

Mae'r asesiad a gynhelir yn canolbwyntio ar y person ac yn cynnwys y defnyddiwr gwasanaeth a merch Mary yn trafod sut y caiff ei hanghenion eu diwallu. Roedd hyn er mwyn tawelu meddwl Mary a'i merch am ddiogelwch a chysur yr offer, a bydd y dulliau a ddefnyddir yn sicrhau eu diogelwch a diogelwch staff.

Mae’r Nyrs wedi cofnodi yr asesiad risg a'r cynllun gofal , gan gynnwys manylion am anghenion symud a chario Mary, ddydd a nos, gan nodi beth mae Mary yn gallu / methu ei wneud yn annibynnol, i ba raddau mae Mary’n gallu cynnal ei phwysau ei hun ac unrhyw ffactorau eraill, er enghraifft poen a thuedd i ddisgyn.

Fe wnaeth hi asesu i ba raddau mae Mary yn gallu cymryd rhan/cydweithredu gyda throsglwyddiadau a p’un a yw hi angen cymorth i ail-leoli ei hun/eistedd i fyny pan fydd yn y gwely/y gadair a sut y bydd hyn yn cael ei gyflawni.

Mae hi wedi nodi'r offer sydd ei angen a fydd yn cynnwys teclyn codi a sling; gan nodi maint y sling ar atodiadau sydd eu hangen. Mae hi wedi asesu y bydd Mary angen dau aelod o staff er mwyn sicrhau trosglwyddiadau diogel.

Bydd y nyrs yn awr yn sicrhau bod yr holl staff sy'n gofalu am Mary yn ymwybodol o'i hanghenion a byddant yn cael eu hyfforddi yn unol â hynny ar y defnydd o'r holl offer sydd ei angen.

Manual Handling Legislation

What does this law mean in practice?

Deddfwriaeth Codi a Chario

Beth mae’r ddeddfwriaeth hwn yn ei olygu yn ymarferol?

Study the statements and then drag to the correct column according to whether they relate to Employers or Employees

Astudiwch y datganiadau ac yna eu llusgo i'r golofn gywir yn ôl p’un a ydynt yn berthnasol i Gyflogwyr neu Weithwyr Cyflogedig



      Principles and techniques relating to safe moving and handling

      Egwyddorion a thechnegau symud a chario diogel

      Correct posture for lifting a heavy box

      The Health and Safety Executive suggests that in order to help prevent manual handling injuries in the workplace, you should avoid such tasks as far as possible. However, where it is not possible, employers must look at the risks of that task and put sensible health and safety measures in place to prevent and avoid injury.

      They suggest that considerations must be given to individual capability, the nature of the load, the environmental conditions, the training given and the work organisation concerned.

      When lifting they suggest we must reduce the amount of twisting, stooping and reaching which can cause back injuries as well as avoiding lifting heavy loads especially from floor level or above shoulder height. Storage areas should be adjusted to minimise the need to carry out such movements and consider how you can minimise carrying distances.

      Assess the weight to be carried and whether the worker can move the load safely or needs any help – maybe the load can be broken down to smaller, lighter components.

      The above is mostly in relation to inanimate objects that may have to be lifted or moved during day to day work.

      Access the following website for further information: http://www.hse.gov.uk/toolbox/manual.htm

      Mae'r Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch yn awgrymu y dylech osgoi tasgau o'r fath cyn belled ag y bo modd er mwyn helpu i atal anafiadau codi a chario yn y gweithle. Fodd bynnag, os nad yw'n bosibl, rhaid i gyflogwyr edrych ar risgiau y dasg honno a rhoi mesurau iechyd a diogelwch synhwyrol ar waith i atal ac osgoi anafiadau.

      Maen nhw’n awgrymu bod yn rhaid ystyried gallu unigol, natur y llwyth, yr amodau amgylcheddol, yr hyfforddiant a roddir a'r sefydliad gwaith dan sylw.

      Wrth godi maen nhw’n awgrymu ein bod ni’n lleihau faint o droi, plygu a chyrraedd sy'n gallu achosi anafiadau cefn rydyn ni’n ei wneud yn ogystal ag osgoi codi llwythi trwm yn enwedig o lefel y llawr neu'n uwch nag uchder ysgwydd. Dylai mannau storio gael eu haddasu i leihau'r angen i wneud symudiadau o'r fath ac ystyried sut y gallwch leihau pellteroedd cario.

      Asesu’r pwysau i’w gario a p’un a all y gweithiwr symud y llwyth yn ddiogel neu os oes angen unrhyw gymorth - efallai y gall y llwyth gael ei dorri i lawr i gydrannau llai, ysgafnach.

      Mae'r uchod yn bennaf mewn perthynas â gwrthrychau difywyd a all fod yn rhaid eu codi neu eu symud yn ystod gwaith dydd i ddydd.

      Ewch i’r wefan ganlynol am ragor o wybodaeth: http://www.hse.gov.uk/toolbox/manual.htm

      Principles and techniques in safe moving and handling

      Drag the statements to the order you feel the following should be in

      Egwyddorion a thechnegau symud a chario diogel

      Llusgwch y datganiadau i'r drefn yr ydych chi’n teimlo y dylai’r canlynol fod

      Principles and techniques in safe moving and handling

      Egwyddorion a thechnegau symud a chario diogel

      QuestionCwestiwn Your AnswerEich Ateb AnswerAteb

      Answer:

      Ateb:

      The potential implications of poor practice in relation to moving and handling

      Goblygiadau posibl arfer gwael wrth symud a chario

      A nurse with back pain

      Manual handling injuries are part of a wider group of musculoskeletal disorders (MSDs). The term ‘musculoskeletal disorders’ covers any injury, damage or disorder of the joints or other tissues in the upper/lower limbs or the back.

      Work-related musculoskeletal disorders (MSDs), including manual handling injuries, are the most common type of occupational ill health in the UK. Damage can be done to muscles, tendons, ligaments, bones, joints, bursa, blood vessels and nerves and can be as a consequence of gradual and cumulative wear and tear through repetitive manual handling.

      Cuts, bruises and fractures are also manual handling hazards for both staff and individuals. Health and social care workers are particularly at risk of manual handling injuries due to the nature of the job.

      Individuals who suffer MSDs suffer in terms of the pain and loss of quality of life however temporary or long term that may be.

      Care is one of the trickiest areas for manual handling legislation because it is not in the business of moving inanimate objects. The work consists of moving and handling people so not only do workers have to consider their own comfort and safety when lifting but the safety, comfort and sensitivity of the clients.

      Mae anafiadau codi a chario yn rhan o grŵp ehangach o glefydau cyhyrysgerbydol (MSD). Mae’r term ‘clefydau cyhyrysgerbydol’ yn cynnwys unrhyw anaf, niwed neu anhwylder i'r cymalau neu feinweoedd eraill yn y breichiau, y coesau neu'r cefn.

      Clefydau cyhyrysgerbydol sy'n gysylltiedig â’r gwaith (MSD), gan gynnwys anafiadau codi a chario, yw'r math mwyaf cyffredin o salwch galwedigaethol yn y DU. Gellir anafu’r cyhyrau, tendonau, gewynnau, esgyrn, cymalau, byrsa, pibellau’r gwaed a nerfau a gall fod o ganlyniad i wisgo graddol a chronnus drwy godi a chario ailadroddus.

      Mae briwiau, cleisiau a thorri esgyrn hefyd yn beryglon codi a chario ar gyfer staff ac unigolion. Mae gweithwyr iechyd a gofal cymdeithasol yn arbennig mewn perygl o anafiadau codi a chario oherwydd natur y swydd.

      Mae unigolion sydd yn dioddef anhwylderau cyhyrysgerbydol yn dioddef o ran poen a cholli ansawdd bywyd boed hynny dros dro neu yn yr hirdymor.

      Gofal yw un o'r meysydd mwyaf dyrys ar gyfer deddfwriaeth codi a chario oherwydd nad yw yn y busnes o symud gwrthrychau difywyd. Mae'r gwaith yn cynnwys symud a chario pobl, felly nid yn unig y mae'n rhaid i weithwyr ystyried eu cyfforddusrwydd a diogelwch eu hunain wrth godi, ond diogelwch, cyfforddusrwydd a sensitifrwydd cleientiaid hefyd.

      Poor practice in moving and handling

      Consider the implications of the following

      Connect the correct procedure with the possible outcome

      Ymarfer gwael wrth symud a chario

      Ystyriwch oblygiadau'r canlynol

      Llusgwch linell i gysylltu'r weithdrefn gywir gyda'r canlyniad posibl

      Procedure

      Gweithdrefn

      Outcome

      Canlyniad

      Correct answers

      Atebion cywir