Codes of Conduct and Professional Practice

Codau Ymddygiad ac Ymarfer Proffesiynol

Human rights

Codes of conduct and professional practice set standards and give guidance for all health and social care professionals. This includes guidance on safeguarding such as safe recruitment practices and ways of working such as supporting children, young people and adults to be safe. In Wales, the Code of Practice for Social Care Employers (Employers' Code) sets the standards for employers.

Practice guidance gives registered workers guidance related to their role. Other codes include the NHS Wales Code of Conduct for Healthcare Support Workers in Wales, the Code of Practice for NHS Wales Employers and practice guidance, such as the Practice Guidance for Residential Child Care for Workers Registered with Social Care Wales.

Mae codau ymddygiad ac ymarfer proffesiynol yn gosod safonau ac yn rhoi cyfarwyddyd i'r holl weithwyr proffesiynol meysydd iechyd a gofal cymdeithasol. Mae hyn yn cynnwys cyfarwyddyd ar ddiogelu megis arferion recriwtio diogel a dulliau gweithio megis cefnogi plant, pobl ifanc ac oedolion i fod yn ddiogel. Yng Nghymru, mae'r Cod Ymarfer ar gyfer Cyflogwyr Gofal Cymdeithasol (Cod y Cyflogwyr) yn gosod y safonau ar gyfer cyflogwyr.

Mae cyfarwyddyd ymarfer yn rhoi arweiniad i weithwyr cofrestredig sy'n perthyn i'w rôl. Mae codau eraill yn cynnwys Cod Ymddygiad GIG Cymru ar gyfer Gweithwyr Cymorth Gofal Iechyd yng Nghymru, y Cod Ymarfer ar gyfer Cyflogwyr GIG Cymru a chyfarwyddyd ymarfer, megis y Cyfarwyddyd Ymarfer ar gyfer Gofal Preswyl i Blant i Weithwyr sydd wedi'u Cofrestru â Gofal Cymdeithasol Cymru.

Codes of Conduct and Professional Practice

Codau Ymddygiad ac Ymarfer Proffesiynol

Visit the link below and make a note of 4 requirements for workers explained in the Code that relate to safeguarding.

Code of Professional Practice for Social Care

https://socialcare.wales/resources/code-of-professional-practice-for-social-care

Ewch i’r linc isod a gwnewch nodyn o 4 o’r gofynion i weithwyr sydd yn cael ei esbonio yn y Cod sydd yn ymwneud a diogelu.

Cod Ymarfer Proffesiynol Gofal Cymdeithasol

https://gofalcymdeithasol.cymru/adnoddau/c%C3%B4d-ymarfer-proffesiynol-gofal-cymdeithasol

Codes of Conduct and Professional Practice

Codau Ymddygiad ac Ymarfer Proffesiynol

Childcare service

The Code of Professional Practice for Social Care consists of a list of statements describing the standards of professional conduct and practice necessary for employees in the social care profession in Wales. This includes working in ways that promote safeguarding such as acting with integrity and upholding public trust and confidence in the social care profession. The Code plays a key part in raising awareness of these standards. The Code is intended to be a guide for workers, individuals accessing services and managers of services.

In relation to individuals accessing care and support or a member of the public, the Code will make them aware of how a social care worker should behave towards them. It also notes the role of employers in supporting social care workers to do their jobs well.

Employers of social care workers are expected to promote the use of the Code and use it when making any decisions about the conduct and practice of staff.

Mae'r Cod Ymarfer Proffesiynol ar gyfer Gofal Cymdeithasol yn cynnwys rhestr o ddatganiadau sy'n disgrifio'r safonau ymddygiad ac arfer proffesiynol sy'n angenrheidiol ar gyfer gweithwyr yn y proffesiwn gofal cymdeithasol yng Nghymru. Mae hyn yn cynnwys gweithio mewn ffyrdd sy'n hyrwyddo diogelu megis gweithredu ag onestrwydd a chynnal ymddiriedaeth a hyder y cyhoedd yn y proffesiwn gofal cymdeithasol. Mae'r Cod yn chwarae rhan allweddol o ran codi ymwybyddiaeth o'r safonau hyn. Bwriad y Cod yw bod yn ganllaw i weithwyr, unigolion sy'n cyrchu gwasanaethau a rheolwyr gwasanaethau.

Mewn cysylltiad ag unigolion sy'n cyrchu gofal a chymorth neu aelod o'r cyhoedd, bydd y Cod yn eu gwneud yn ymwybodol o sut y dylai gweithiwr gofal cymdeithasol ymddwyn tuag atynt. Mae hefyd yn nodi rôl cyflogwyr o ran cefnogi gweithwyr gofal cymdeithasol i wneud eu swyddi'n dda.

Disgwylir i gyflogwyr gweithwyr gofal cymdeithasol hyrwyddo'r defnydd o'r Cod a'i ddefnyddio wrth wneud unrhyw benderfyniadau ynghylch ymddygiad ac arferion staff.

Codes of Conduct and Professional Practice

Cod Ymddygiad ac Ymarfer Proffesiynol

Child with social worker 2

The Code of Professional Practice for Social Care is made up of seven sections.

As a social care worker, you must:

  1. Respect the views and wishes and promote the rights and interests of individuals and carers.
  2. Strive to establish and maintain the trust and confidence of individuals and carers.
  3. Promote the well-being, voice and control of individuals and carers while supporting them to stay safe.
  4. Respect the rights of individuals while seeking to ensure that their behaviour does not harm themselves or other people.
  5. Act with integrity and uphold public trust and confidence in the social care profession.
  6. Be accountable for the quality of your work and take responsibility for maintaining and developing knowledge and skills.
  7. In addition to sections 1 – 6, if you are responsible for managing or leading staff, you must embed the Code in their work.

http://bit.ly/2nPzM9v

Mae Cod Ymarfer Proffesiynol Gofal Cymdeithasol yn cynnwys saith adran.

Fel gweithiwr gofal cymdeithasol, rhaid i chi:

  1. Parchu safbwyntiau a dymuniadau, a hyrwyddo hawliau a buddiannau unigolion a gofalwyr.
  2. Ymdrechu i sefydlu a chynnal ymddiriedaeth a hyder unigolion a gofalwyr.
  3. Hyrwyddo llesiant, llais a rheolaeth unigolion a gofalwyr gan eu cefnogi i'w cadw eu hunain yn ddiogel.
  4. Parchu hawliau unigolion gan geisio sicrhau nad yw eu hymddygiad yn niweidio'u hunain na phobl eraill ar yr un pryd.
  5. Gweithredu'n ddidwyll a chynnal ymddiriedaeth a hyder y cyhoedd yn y proffesiwn gofal cymdeithasol.
  6. Bod yn atebol am ansawdd eich gwaith a chymryd cyfrifoldeb dros gynnal a datblygu gwybodaeth a sgiliau.
  7. Yn ogystal ag adrannau 1 - 6, os ydych yn gyfrifol am reoli neu arwain staff, mae’n rhaid i chi sicrhau bod y Cod yn rhan annatod o’u gwaith.

http://bit.ly/2MJqaFI

The NHS Wales Code of Conduct for Healthcare Support Workers in Wales

Cod Ymddygiad GIG Cymru ar gyfer Gweithwyr Cymorth Gofal Iechyd yng Nghymru

Medical staff

The NHS Wales Code of Conduct for Healthcare Support Workers in Wales describes what is expected from Healthcare Support Workers employed by NHS Wales in relation to the standards of conduct, behaviour and attitude expected when they are at work. The Code applies to all Healthcare Support Workers employed in clinical and non-clinical environments within the NHS and will be used to reference job descriptions.

The Code provides confidence and reassurance through a framework for public protection, incorporating the provision of guidance and support to Healthcare Support Workers about their practice. This ensures they understand what standards of conduct employers, colleagues, service users and the public expect them to follow.

The Code sets out standards so Healthcare Support Workers can be sure of the standards they are expected to meet. Healthcare Support Workers should use the Code to make sure they are working to the expected standard and if not, then change the way they are working.

Healthcare Support Workers can use the Code to review their practice and identify possible areas for personal development. The Code supports Healthcare Support Workers in fulfilling the requirements of their role, behaving in the correct way and following a duty of care and good practice at all times. This is essential to protect service users, the public and others from harm and abuse.

Mae Cod Ymddygiad GIG Cymru ar gyfer Gweithwyr Cymorth Gofal Iechyd yng Nghymru yn disgrifio'r hyn a ddisgwylir gan Weithwyr Cymorth Gofal Iechyd a gyflogir gan GIG Cymru o ran safonau ymddygiad ac agweddau disgwyliedig yn y gwaith. Mae'r Cod yn gymwys i bob Gweithiwr Cymorth Gofal Iechyd a gyflogir mewn amgylcheddau clinigol ac anghlinigol yn y GIG, ac fe'i defnyddir mewn cyfeiriadau disgrifiadau swydd.

Mae'r Cod yn darparu hyder a sicrwydd drwy fframwaith ar gyfer amddiffyn cyhoeddus, gan ymgorffori darpariaeth canllawiau a chymorth i Weithwyr Cymorth Gofal Iechyd am eu hymarfer. Mae hyn yn sicrhau eu bod yn deall pa safonau ymddygiad mae cyflogwyr, cydweithwyr, defnyddwyr gwasanaeth a'r cyhoedd yn disgwyl iddynt eu dilyn.

Mae'r Cod yn nodi safonau, fel y gall Gweithwyr Cymorth Gofal Iechyd fod yn siŵr pa safonau mae disgwyl iddynt eu cyrraedd. Dylai Gweithwyr Cymorth Gofal Iechyd ddefnyddio'r Cod i sicrhau eu bod yn cyrraedd y safon disgwyliedig ac, os nad ydynt, yna newid eu ffordd o weithio.

Gall Gweithwyr Cymorth Gofal Iechyd ddefnyddio'r Cod i adolygu eu hymarfer a nodi meysydd datblygu personol posibl. Mae'r Cod yn helpu Gweithwyr Cymorth Gofal Iechyd i fodloni gofynion eu rôl, ymddwyn yn briodol a dilyn dyletswydd gofal ac arfer da drwy'r amser. Mae hyn yn hanfodol er mwyn amddiffyn defnyddwyr gwasanaeth, y cyhoedd ac eraill rhag niwed a cham-drin.

The Code of Practice for NHS Wales Employers

Y Cod Ymarfer i Gyflogwyr GIG Cymru

The Code of Practice for NHS Wales Employers is supported by a Code of Conduct for Healthcare Support Workers, which describes the standards workers must follow and comply with. Employers should understand and implement the Code of Conduct and ensure staff are supported to achieve the standards.

Both Codes support the basic principles of safety and public protection and must underpin the day-to-day working practices of NHS Wales in all aspects of service delivery. Employers will need to implement systems and processes to support Healthcare Support Workers to achieve the standards in the Code of Conduct. Employers also need to use the workplace as an opportunity to develop Healthcare Support Workers by providing more fulfilling working conditions that help staff carry out their roles safely and effectively, whilst preparing them to progress to new and more challenging roles in the future.

Mae'r Cod Ymarfer i Gyflogwyr GIG Cymru yn cael ei gefnogi gan God Ymddygiad i Weithwyr Cymorth Gofal Iechyd, sy'n disgrifio'r safonau mae'n rhaid i weithwyr eu dilyn a chydymffurfio â nhw. Dylai cyflogwyr ddeall a gweithredu'r Cod Ymddygiad a sicrhau bod staff yn cael eu cefnogi i gyrraedd y safonau.

Mae'r ddau God yn cefnogi egwyddorion sylfaenol diogelwch ac amddiffyn y cyhoedd, a rhaid iddynt ategu arferion gwaith dyddiol GIG Cymru ym mhob agwedd ar ddarparu gwasanaethau. Bydd angen i gyflogwyr weithredu systemau a phrosesau i gefnogi Gweithwyr Cymorth Gofal Iechyd i gyrraedd y safonau yn y Cod Ymddygiad. Hefyd mae angen i weithwyr cyflogedig ddefnyddio'r gweithle fel cyfle i ddatblygu Gweithwyr Cymorth Gofal Iechyd drwy ddarparu amodau gwaith mwy boddhaus sy'n helpu staff i gyflawni eu rolau yn ddiogel ac yn effeithiol, tra'n eu paratoi i symud ymlaen i rolau newydd, mwy heriol yn y dyfodol.

Practice relevant to working with children and young people

Ymarfer sy’n berthnasol i weithio gyda phlant a phobl ifanc

Social care workers with group of children

The Practice Guidance for Residential Child Care for Workers Registered with Social Care Wales describes what is expected of workers to support a high-quality service in relation to residential child care.

The guidance can also be used by employers to assess whether they have arrangements in place to ensure a professional and safe service is delivered at all times. The guidance covers child-centred care and support, good residential child care practice, safeguarding individuals, health and safety, personal development and contributing to the development of others and to the service. The guidance builds on the ‘Code of Professional Practice for Social Care’, and failure to follow the guidance could put a worker’s registration at risk.

Mae'r Canllawiau Ymarfer ar gyfer Gweithwyr Gofal Preswyl Plant sydd wedi Cofrestru gyda Gofal Cymdeithasol Cymru yn disgrifio'r hyn a ddisgwylir gan weithwyr er mwyn darparu gwasanaeth o ansawdd uchel mewn perthynas â gofal preswyl i blant.

Gall y canllawiau hefyd gael eu defnyddio gan gyflogwyr i asesu p'un a oes trefniadau ar waith ganddynt i sicrhau bod gwasanaeth proffesiynol a diogel yn cael ei ddarparu drwy'r amser. Mae'r canllawiau yn cwmpasu gofal a chymorth sy'n canolbwyntio ar y plentyn, arfer da gofal preswyl i blant, diogelu unigolion, iechyd a diogelwch, datblygiad personol a chyfrannu at ddatblygiad pobl eraill ac at y gwasanaeth. Mae'r canllawiau yn adeiladu ar 'Cod Ymarfer Proffesiynol Iechyd a Gofal Cymdeithasol', a gallai methu â dilyn y canllawiau beryglu cofrestriad gweithwyr.

Child Protection and Safeguarding

Amddiffyn a Diogelu Plant

Watch the video.

Gwyliwch y fideo.

  1. What is your role in safeguarding?
  2. What action must you take if you suspect a child or young individual is at risk?
  1. Beth yw eich rôl wrth ddiogelu?
  2. Pa gamau ddylech chi eu cymryd os ydych chi'n amau bod plentyn neu unigolyn ifanc mewn perygl?

How legislative frameworks support the rights of individuals

Sut mae fframweithiau deddfwriaethol yn cefnogi hawliau unigolion

Female careworker

The Social Services and Well-being (Wales) Act has five fundamental principles which are:

  • Voice and control
  • Prevention and early intervention
  • Well-being
  • Co-production
  • Multi-agency.

These principles support safeguarding because they are about making sure that children, young people and adults have a genuine voice in terms of how their care and support is provided and reaching their outcomes to achieve their well-being. This includes a right to be free from harm, abuse or neglect.

Find out more about the principles of the Social Services and Well–being (Wales) Act 2014 by clicking on the link below.

Social Care Wales Information and Learning Hub: https://socialcare.wales/hub/sswbact

Mae gan Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) bump egwyddor sylfaenol sef:

  • Llais a rheolaeth
  • Atal ac ymyrryd yn gynnar
  • Llesiant
  • Cydgynhyrchu
  • Aml-asiantaeth.

Mae'r egwyddorion hyn yn cefnogi diogelu oherwydd eu bod yn ymwneud â sicrhau bod gan blant, pobl ifanc ac oedolion lais dilys o ran sut y darperir eu gofal a'u cymorth a chyrraedd eu canlyniadau i gyflawni eu lles. Mae hyn yn cynnwys hawl i fod yn rhydd rhag niwed, camdriniaeth neu esgeulustod.

Gallwch ddysgu rhagor am egwyddorion Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 trwy glicio ar y ddolen isod.

Hyb Gwybodaeth a Dysgu Gofal Cymdeithasol Cymru: https://gofalcymdeithasol.cymru/hyb/deddf-sswb

How legislative frameworks support the rights of individuals

Sut mae fframweithiau deddfwriaethol yn cefnogi hawliau unigolion

The principles or values of the Act are important as they underpin how services are provided and how carers work with and support individuals on a daily basis.

Which of the following are principles or values of the Social Services and Well–being (Wales) Act 2014?

Mae egwyddorion neu werthoedd y Ddeddf yn bwysig gan eu bod yn sail i sut mae gwasanaethau'n cael eu darparu a sut mae gofalwyr yn gweithio gyda, ac yn cefnogi unigolion o ddydd i ddydd.

Pa rai o'r canlynol sy'n egwyddorion a gwerthoedd yn Neddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014?



      Principles of the Social Services and Well–being (Wales) Act 2014

      Egwyddorion Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014

      Children playing basketball

      The Social Services and Well-being (Wales) Act 2014 is built on the following core principles: voice and control, prevention and early intervention, well-being, co-production and multi-agency. These principles support the safeguarding of children, young people and adults by making sure that individual rights are protected. Let’s look at these in more detail.

      1. Voice and control – in order to meet this principle, care and support services will need to have an even greater focus on making the most of people’s independence. This could involve, for example, helping people remain in their own home or to become a bigger part of their communities with the support of their family and friends.
      2. Prevention and early intervention focus on the importance of advice and assistance being provided to people to prevent things reaching a crisis point for them. Providing help and advice earlier rather than later can help reduce or delay the need for longer term care and support.
      3. Well-being involves carers making sure people who need care and support, and carers who need support, feel confident, independent and well in all aspects of daily living.
      4. Co-production involves working with individuals and their families, friends and carers so their care and support meets individual needs and is the best it can be. Involving people more helps to change how they work with services, so they will be helping to improve and develop service delivery.
      5. Multi-agency focusses on joint working between local authorities and other important partners, such as health, the third sector and housing. This is to improve people’s well-being and the quality of service they receive, while reducing cross over and duplication. This ensures the right support and services are available in local communities to meet people’s needs.

      This means your role is about being very involved with individuals, their families and carers in relation to identifying and meeting their support needs. You will be involved in providing support, advice and guidance, or in passing on queries that children, young people or adults, their families and carers may have in relation to care needs and the support available.

      Partnership working will increase to make better use of resources, funds and staffing. There is an increased focus on what really matters to the individual.

      How can you involve a child’s, young person’s or adult’s own support networks and enable them to access community and voluntary resources?

      How does this contribute towards safeguarding?

      Mae Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 wedi'i hadeiladu ar yr egwyddorion craidd dilynol: llais a rheolaeth, atal ac ymyrraeth gynnar, lles a chydgynhyrchu ac aml-asiantaeth Mae'r egwyddorion hyn yn cefnogi diogelu plant, pobl ifanc ac oedolion trwy sicrhau bod hawliau unigolion yn cael eu gwarchod. Gadewch i ni edrych ar y rhain yn fanylach.

      1. Llais a rheolaeth – er mwyn diwallu'r egwyddor yma, bydd angen i wasanaethau gofal a chymorth hyd yn oed yn fwy ar wneud y mwyaf o annibyniaeth pobl. Gallai hyn gynnwys, er enghraifft, helpu pobl i aros yn eu cartref eu hunain neu i ddod yn rhan fwy o'u cymunedau â chefnogaeth eu teulu a'u ffrindiau.
      2. Atal ac ymyrraeth gynnar - mae'r rhain yn canolbwyntio ar bwysigrwydd darparu cyngor a chymorth i bobl er mwyn atal pethau rhag cyrraedd trothwy argyfwng iddynt. Gall darparu help a chyngor yn gynharach yn hytrach nag yn hwyrach helpu i leihau neu ohirio'r angen am ofal a chymorth yn y tymor hwy.
      3. Llesiant - mae hyn yn cynnwys gofalwyr yn sicrhau bod pobl sydd angen gofal a chymorth, a gofalwyr sydd angen cymorth, yn teimlo'n hyderus, yn annibynnol ac yn iach ym mhob agwedd ar fywyd beunyddiol.
      4. Cydgynhyrchu - mae hyn yn golygu gweithio ag unigolion a'u teuluoedd, ffrindiau a gofalwyr fel bod eu gofal a'u cymorth yn diwallu anghenion unigol a'u bod y gorau y gallant fod. Mae cynnwys pobl yn fwy yn helpu i newid sut maent yn gweithio â gwasanaethau, fel y byddant yn helpu i wella a datblygu'r modd y cyflenwir gwasanaethau.
      5. Amlasiantaethol – mae’n canolbwyntio ar weithio ar y cyd rhwng awdurdodau lleol a phartneriaid pwysig eraill, megis iechyd, y trydydd sector a thai. Mae hyn er mwyn gwella lles pobl ac ansawdd y gwasanaeth y maent yn ei dderbyn, gan leihau croesi a dyblygu hefyd. Mae hyn yn sicrhau bod y cymorth a'r gwasanaethau cywir ar gael mewn cymunedau lleol i ddiwallu anghenion pobl.

      Mae hyn yn golygu bod eich rôl yn ymwneud â chysylltu'n helaeth ag unigolion, eu teuluoedd a'u gofalwyr mewn perthynas â nodi a diwallu eu hanghenion cymorth. Byddwch yn ymwneud â darparu cymorth, cyngor a chyfarwyddyd, neu drosglwyddo ymholiadau a allai fod gan blant, pobl ifanc neu oedolion, eu teuluoedd a'u gofalwyr mewn cysylltiad ag anghenion gofal a'r cymorth sydd ar gael.

      Bydd gweithio mewn partneriaeth yn cynyddu i wneud gwell defnydd o adnoddau, cyllid a staffio. Mae mwy o ffocws ar yr hyn sy'n wirioneddol bwysig i'r unigolyn.

      Sut allwch chi gynnwys rhwydweithiau cymorth plentyn, person ifanc neu oedolyn ei hun a'u galluogi i gyrchu adnoddau cymunedol a gwirfoddol?

      Sut mae hyn yn cyfrannu at ddiogelu?

      Suggested response

      It reduces social isolation and loneliness and their associated risks, including risk of emotional/psychological abuse. There are less people to observe and safeguard the individual’s well-being.

      Ymateb awgrymedig

      Mae'n lleihau ynysu cymdeithasol ac unigrwydd a'u risgiau cysylltiedig, gan gynnwys risg o gam-drin emosiynol/seicolegol. Mae llai o bobl i arsylwi a diogelu lles yr unigolyn.

      Principles of the Social Services and Well-being (Wales) Act 2014

      Egwyddorion Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014

      It is important that timely advice and assistance is provided to people to prevent their situation from getting worse, and from abuse or neglect taking place. Stepping in early to help people is crucial as it can reduce or delay the need for longer term care and support.

      Dean is 42 years old and has a learning disability. He lives in supported housing but has started to appear very unkempt, wearing the same clothes day after day.

      1. What reasons might be behind Dean looking very unkempt recently? Think about who might have some perspective on this, e.g. Dean’s support worker, family and others significant to Dean such as Dean’s friends.
      2. Potentially, what might Dean’s appearance indicate?

      Mae'n bwysig bod cyngor a chymorth amserol yn cael eu darparu i bobl i atal eu sefyllfa rhag gwaethygu, ac atal camdriniaeth neu esgeulustod rhag digwydd. Mae ymyrryd yn gynnar i helpu pobl yn hanfodol oherwydd y gall leihau neu ohirio'r angen am ofal a chymorth tymor hwy.

      Mae Dean yn 42 oed ac mae ganddo anabledd dysgu. Mae'n byw mewn tai â chymorth ond mae wedi dechrau ymddangos yn flêr iawn, gan wisgo'r un dillad dydd ar ôl dydd.

      1. Pa resymau allai fod yn peri i Dean edrych yn flêr iawn yn ddiweddar? Ystyriwch pwy allai fod â rhywfaint o bersbectif ar hyn, e.e. Gweithiwr cymorth Dean, ei deulu ac eraill sy'n arwyddocaol i Dean megis ffrindiau Dean.
      2. Beth allai golwg Dean ei nodi efallai?

      Suggested response

      1. Are there any reasons for Dean looking very unkempt recently?

      For instance:

      • Has he been unwell, or is he unwell, e.g. depressed?
      • Is his washing machine working?
      • Are these Dean’s favourite clothes that he has developed an attachment to?
      • Are Dean’s clothes the only issue of concern or are there other issues to be addressed?
      • Is there already a personal plan in place to address this issue?
      1. Abuse or neglect

      Ymateb awgrymedig

      1. A oes unrhyw resymau pam bod Dean yn edrych yn anniben iawn yn ddiweddar?

      Er enghraifft:

      • A yw wedi bod yn sâl, neu a yw'n sâl, e.e. yn isel
      • A yw ei beiriant golchi yn gweithio?
      • Ai hoff ddillad Dean yw'r rhain y mae wedi datblygu ymlyniad wrthynt?
      • Ai dillad Dean yw'r unig fater sy'n peri pryder neu a oes materion eraill i fynd i'r afael â hwy?
      • A oes cynllun personol ar waith eisoes i fynd i'r afael â'r mater hwn?
      1. Camdriniaeth neu esgeulustod

      Supporting practice

      Cefnogi ymarfer

      Support

      Children, young people and adults have a right to be at the centre of decision making when deciding what kind of care and support they need. In relation to making decisions about their care and support they should be viewed as an equal partner. Individuals can use an independent professional advocate to help them participate fully in the assessment, planning, review and safeguarding processes. They also have a right to an independent professional advocate if they have difficulties in expressing their views, needs, wishes and preferences.

      As a worker, this impacts on your role in terms of care and support and must now be personalised to the individual through collaboration with them, which may involve support for them from an advocate.

      An advocate offers independent support to individuals who might not be heard to ensure they are taken seriously and that their rights are respected. Advocates also help people to access and understand appropriate information and services.

      Mae gan blant, pobl ifanc ac oedolion hawl i fod yng nghanol y broses o wneud penderfyniadau wrth benderfynu pa fath o ofal a chymorth sydd arnynt eu hangen. Mewn cysylltiad â gwneud penderfyniadau ynghylch eu gofal a'u cymorth, dylid eu hystyried yn bartner cyfartal. Gall unigolion ddefnyddio eiriolwr proffesiynol annibynnol i'w helpu i gymryd rhan lawn yn y prosesau asesu, cynllunio, adolygu a diogelu. Mae ganddynt hawl hefyd i gael eiriolwr proffesiynol annibynnol os ydynt yn profi anawsterau wrth fynegi eu barn, anghenion, dymuniadau a dewisiadau.

      Fel gweithiwr, mae hyn yn effeithio ar eich rôl o ran gofal a chymorth ac yn awr mae'n rhaid ei phersonoli i'r unigolyn trwy gydweithredu â hwy, a allai gynnwys cymorth iddynt gan eiriolwr.

      Mae eiriolwr yn cynnig cymorth annibynnol i unigolion na fyddent efallai'n cael eu clywed er mwyn sicrhau eu bod yn cael eu cymryd o ddifrif a bod eu hawliau'n cael eu parchu. Mae eiriolwyr hefyd yn helpu pobl i gyrchu a deall gwybodaeth a gwasanaethau priodol.