Supervision is an effective way of providing support, improving standards, of reducing risks and of addressing poor performance and stress. This should cover:
An appraisal is a formal process which usually takes place annually to review a worker’s performance and improvement over a specific period of time. Supervision and appraisal are mechanisms that allow a worker and their manager to discuss openly and frankly, any issues relating to the worker’s performance. It is not part of the disciplinary process; rather, it gives the worker and their manager an opportunity to identify the things that they are good at, and where they might benefit from further training and support. In a larger organisation, they may also be guided by a mentor.
Mentorship is an informal arrangement and is usually provided by an experienced and trusted person who is not part of the formal supervisory process. Mentorship is often provided by a senior worker, who will offer continuous advice and support. A worker’s manager or mentor will be identified in their personal development plan.
Mae goruchwylio yn ddull effeithiol o ddarparu cymorth, gwella safonau, lleihau risgiau a mynd i'r afael â pherfformiad gwael a straen. Dylai hyn ymdrin â:
Mae arfarniad yn broses ffurfiol sydd fel arfer yn digwydd yn flynyddol i adolygu perfformiad a gwelliant gweithiwr dros gyfnod penodol o amser. Mae goruchwylio ac arfarnu yn fecanweithiau sy'n caniatáu i weithiwr a'i reolwr drafod yn agored ac yn ddidwyll, unrhyw faterion sy'n ymwneud â pherfformiad y gweithiwr. Nid yw'n rhan o'r broses ddisgyblu; yn hytrach, mae'n rhoi cyfle i'r gweithiwr a'i reolwr nodi'r pethau y maent yn eu gwneud yn dda, a lle y gallent elwa o hyfforddiant a chymorth pellach. Mewn sefydliad mwy, gallent gael eu tywys gan fentor hefyd.
Mae mentoriaeth yn drefniant anffurfiol ac fel rheol fe'i darperir gan unigolyn profiadol y gellir ymddiried ynddo nad yw'n rhan o'r broses oruchwylio ffurfiol. Yn aml darperir mentoriaeth gan uwch weithiwr, a fydd yn cynnig cyngor a chymorth barhaus. Bydd rheolwr neu fentor gweithiwr yn cael ei nodi yn ei gynllun datblygu personol.