The general public depends on professional working relationships for support and care both for themselves and their loved ones. Health and social care workers are therefore perceived to be in a working relationship with the public. Unfortunately, events continue to undermine public trust in health and social care services. There is a responsibility to behave, both at work and outside, in such a way as to develop and maintain public trust and confidence in the profession.
This includes the wider use of technology such as mobile phones text messaging, e-mails, digital cameras, videos, web-cams, websites and blogs. Health and social care workers should not share any personal information with individuals. They should not request, or respond to, any personal information from the individual, other than that which might be appropriate as part of their professional role. Health and social care workers should ensure that all communications are transparent and open to scrutiny
Mae'r cyhoedd yn dibynnu ar gydberthnasau gwaith proffesiynol er mwyn cael cymorth a gofal iddyn nhw eu hunain a'u hanwyliaid. Felly, ystyrir bod gweithwyr iechyd a gofal cymdeithasol mewn cydberthynas waith â'r cyhoedd. Yn anffodus, mae digwyddiadau yn parhau i danseilio ymddiriedaeth y cyhoedd mewn gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol. Mae cyfrifoldeb, yn y gwaith a'r tu allan i'r gwaith, i ymddwyn mewn ffordd sy'n meithrin ac yn cynnal hyder ac ymddiriedaeth y cyhoedd yn y proffesiwn.
Mae hyn yn cynnwys defnydd ehangach o dechnoleg megis negeseuon testun ar ffonau symudol, negeseuon e-bost, camerâu digidol, fideos, gwe-gamerâu, gwefannau a blogiau. Ni ddylai gweithwyr iechyd a gofal cymdeithasol rannu unrhyw wybodaeth bersonol ag unigolion. Ni ddylent ofyn am unrhyw wybodaeth bersonol gan yr unigolyn, nac ymateb i wybodaeth o'r fath, ac eithrio gwybodaeth a allai fod yn briodol fel rhan o'u rôl broffesiynol. Dylai gweithwyr iechyd a gofal cymdeithasol sicrhau bod unrhyw ohebiaeth yn dryloyw ac yn destun craffu.
Have a look on the internet, local and national media and ask family, friends and colleagues for information about events that have shook public trust and confidence in different sectors and professions.
1. What impact do you think a decline in trust and confidence in the health and social care sector has in the short and long term on everyone concerned?
Edrychwch ar y rhyngrwyd, y cyfryngau lleol a chenedlaethol a gofynnwch i deulu, ffrindiau a chydweithwyr am wybodaeth am ddigwyddiadau sydd wedi cael effaith andwyol ar hyder ac ymddiriedaeth y cyhoedd mewn gwahanol sectorau a phroffesiynau.
1. Pa effaith a gaiff gostyngiad o ran ymddiriedaeth a hyder yn y sector iechyd a gofal cymdeithasol ar bawb sy'n gysylltiedig â'r sector hwnnw yn y byrdymor a'r hirdymor?