Common goals have been mentioned as a feature of teams. This is crucial to ensure the success of a team. If there isn’t a common goal with agreed actions and targets to meet that goal then people will all be working to their own agenda and the team will not succeed.
Positive and effective communication can help to keep team members motivated and working at their best. Communication is the biggest influence on an organisation. Good listening is integral to good communication. Empathy is necessary for teamwork to be effective, it is important to be open to the opinion of others and to understand their position on any issue raised. Having patience is important, because if we rush what we say, others may find it difficult to understand what is being communicated. It is also important to try to view problems and difficulties as challenges, and look at ways of overcoming them, rather than letting them become a major, on-going burden.
Mae nodau cyffredin wedi cael eu crybwyll fel nodwedd o dimau. Mae hyn yn allweddol i sicrhau llwyddiant tîm. Os nad oes nod cyffredin gyda gweithredoedd a thargedau wedi eu cytuno i ateb y nod hwnnw yna bydd pobl i gyd yn gweithio i'w hagenda eu hunain ac ni fydd y tîm yn llwyddo.
Gall cyfathrebu cadarnhaol ac effeithiol helpu i gymell aelodau'r tîm a sicrhau eu bod yn gweithio hyd eithaf eu gallu. Cyfathrebu yw'r dylanwad mwyaf ar sefydliad. Mae gwrando'n dda yn hanfodol er mwyn cyfathrebu'n dda. Mae angen empathi er mwyn i waith tîm fod yn effeithiol, mae'n bwysig bod yn barod i dderbyn barn eraill ac i ddeall eu safbwynt ar unrhyw fater a godir. Mae amynedd yn bwysig, oherwydd os byddwn yn rhuthro'r hyn a ddywedwn, gall eraill ei chael hi'n anodd i ddeall yr hyn a gaiff ei gyfathrebu. Mae hefyd yn bwysig ceisio ystyried problemau ac anawsterau fel heriau, ac i ystyried ffyrdd o'u goresgyn, yn hytrach na gadael iddynt ddod yn faich fawr a pharhaus.