The need for teams and teamworking is a key part of delivering effective, safe health and social care services. Teams can bring together the skills, experiences and disciplines required to support individuals accessing health and social care services.
Mae'r angen am dimau a gwaith tîm yn rhan allweddol o'r broses o ddarparu gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol effeithiol a diogel. Gall timau ddod â'r sgiliau, y profiadau a'r disgyblaethau sydd eu hangen er mwyn helpu unigolion i gael gafael ar wasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol ynghyd.
Within health or social care multidisciplinary or multi-agency teams often work together. A multidisciplinary team consists of a group of health or social care workers and professionals who provide a specific service to individuals accessing services. They work together to provide the services that fully meet the needs of individuals using the service.
The purpose and function of different teams are varied. However, teamwork is always about having the same purpose and striving to accomplish a set of common goals and objectives to achieve that purpose. This could be, for example to develop a new aspect of service delivery to meet the needs of individuals.
O fewn iechyd a gofal mae timau iechyd neu ofal cymdeithasol amlddisgyblaethol neu amlasiantaeth yn aml yn gweithio gyda'i gilydd. Mae tîm amlddisgyblaethol yn cynnwys grŵp o weithwyr iechyd neu ofal cymdeithasol a swyddogion proffesiynol sy'n darparu gwasanaeth penodol i unigolion sy'n cyrchu gwasanaethau. Maen nhw'n gweithio gyda'i gilydd i ddarparu'r gwasanaethau sy'n ateb anghenion unigolion yn llawn sy'n defnyddio'r gwasanaeth.
Mae pwrpas a swyddogaeth timau gwahanol yn amrywiol. Fodd bynnag, mae gwaith tîm bob tro ynglŷn â chael yr un pwrpas ac ymdrechu i gyflawni set o nodau ac amcanion cyffredin i gyflawni'r pwrpas hwnnw. Gallai hyn fod, er enghraifft i ddatblygu agwedd newydd o ddarparu gwasanaeth i ateb anghenion unigolion.
Watch the video about team working.
Gwyliwch y fideo am waith tîm.
Other structures include a lateral approach where working relationships exist between different departments on the same managerial or working level. Functional structures are where the relationship exists between specialist positions and other areas. The specialist will often have the authority to see that a line manager puts in place any of their instructions. In larger organisations such as the National Health Service (NHS) structures can be large and complex and are often divided into smaller teams or structures for each individual department within the organisation.
Make an organisational chart for your team and fill in the lines of responsibility and reporting.
Mae strwythurau eraill yn cynnwys dull gweithredu ochrog lle ceir cydberthnasau gwaith rhwng gwahanol adrannau ar yr un lefel reoli neu lefel waith. Ystyr strwythurau gweithredol yw lle ceir cydberthynas rhwng swyddi arbenigol a meysydd eraill. Yn aml, bydd yr arbenigwr yn meddu ar yr awdurdod i sicrhau bod rheolwr llinell yn gweithredu'n unol ag unrhyw gyfarwyddiadau a roddir ganddo. Mewn sefydliadau mwy, fel y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (GIG), gall strwythurau fod yn fawr ac yn gymhleth ac fe'u rhennir yn aml yn dimau neu'n strwythurau llai er gyfer pob adran unigol sy'n rhan o'r sefydliad.
Gwnewch siart sefydliadol ar gyfer eich tîm a nodwch y llinellau atebolrwydd ac adrodd.