What is multi-agency working?

Beth yw trefniadau gweithio amlasiantaethol?

Meeting

Multi-agency working means working across organisations to deliver services to individuals with health and social care needs. Working in this way is essential if individuals are to be offered the support they need, when they need it. It is about providing a seamless response to individuals with multiple and complex needs.

Multi-agency working works across the public, private and voluntary sectors. The partners involved will include the individuals requiring support, their carers, family and friends, colleagues and team members, other professionals, and individuals who are important to the individuals being supported, such as advocates and members of faith and support groups.

Ystyr trefniadau gweithio amlasiantaethol yw gweithio ar draws sefydliadau er mwyn darparu gwasanaethau i unigolion ag anghenion iechyd a gofal cymdeithasol. Mae trefniadau gweithio o'r fath yn hanfodol er mwyn gallu cynnig y cymorth sydd ei angen ar unigolion, pan fo'i angen arnynt. Mae'n ymwneud hefyd â darparu ymateb di-dor i unigolion ag anghenion lluosog a chymhleth.

Mae trefniadau gweithio amlasiantaeth i'w gweld ar draws y sector cyhoeddus, y sector preifat a'r sector gwirfoddol. Bydd y partneriaid sy'n rhan o'r trefniadau yn cynnwys yr unigolion y mae angen cymorth arnynt, eu gofalwyr, teulu a ffrindiau, cydweithwyr ac aelodau'r tîm, gweithwyr proffesiynol eraill, ac unigolion sy'n bwysig i'r unigolion sy'n cael cymorth, megis eiriolwyr ac aelodau o grwpiau ffydd a grwpiau cymorth.

Why is multi-agency working important?

Pam bod trefniadau gweithio amlasiantaethol yn bwysig?

Handshake

Multi-agency working is vital, it ensures resources are shared, it also brings together separate organisations so that they can benefit from pooled expertise and power sharing. The key focus of multi-agency working is to enhance the efficiency and quality of service provision.

Multi-agency working takes place when partnerships are formed between a number of individuals, agencies or organisations with a shared interest. There is usually an overarching purpose for partners to work together and a range of specific objectives. Partnerships are often formed to address specific issues and may be short or long term.

Mae trefniadau gweithio amlasiantaeth yn hanfodol, maent yn sicrhau y caiff adnoddau eu rhannu a hefyd yn dod â sefydliadau unigol at ei gilydd er mwyn iddynt allu manteisio ar gronfa o arbenigedd a rhannu pŵer. Ffocws allweddol trefniadau gweithio mewn partneriaeth yw gwella effeithlonrwydd ac ansawdd y gwasanaethau a ddarperir.

Bydd trefniadau gweithio amlasiantaethol ar waith pan gaiff partneriaethau eu meithrin rhwng nifer o unigolion, asiantaethau neu sefydliadau â diddordeb cyffredin. Fel arfer, bydd diben trawsbynciol yn annog y partneriaid i gydweithio a cheir amrywiaeth o amcanion penodol. Caiff partneriaethau yn aml eu meithrin er mwyn ymdrin â materion penodol a gallant fod ar ffurf fyrdymor neu hirdymor.