Adhering to a duty of care may involve conflicts and dilemmas in some situations. Issues related to the duty of confidentiality about individuals is just one example. A dilemma may arise which would normally require complete confidentiality, but which if not disclosed may put others at risk. This would then be a breach of the duty of care to others accessing the service. A decision to observe one duty could result in a breach of the other, and it is not always the case that one duty automatically has priority over the other. An individual may wish to ignore dietary advice, potentially causing harm to themselves, or continue to smoke against medical advice. These situations require discussion, and advice and direction should be sought either from their senior or manager.
Gall cydymffurfio â dyletswydd gofal arwain at wrthdaro a chyfyng-gyngor mewn rhai sefyllfaoedd. Mae materion sy'n ymwneud â'r ddyletswydd cyfrinachedd i unigolion yn un enghraifft o hyn. Gall cyfyng-gyngor godi a fyddai fel arfer yn gofyn am gyfrinachedd llwyr, ond a allai achosi risg i eraill os na chaiff ei ddatgelu. Byddai hyn wedyn yn mynd yn groes i'r ddyletswydd gofal i bobl eraill sy'n defnyddio'r gwasanaeth. Gallai penderfynu cydymffurfio ag un ddyletswydd arwain at dorri'r llall, ac nid oes gan un ddyletswydd flaenoriaeth awtomatig dros y llall bob amser. Mae'n bosibl y bydd unigolyn am anwybyddu cyngor deietegol, gan arwain o bosibl at wneud niwed iddo'i hun, neu y bydd yn dewis parhau i ysmygu yn groes i gyngor meddygol. Mae angen trafod y sefyllfaoedd hyn, a dylid gofyn am gyngor a chyfarwyddyd naill ai gan uwch weithiwr neu reolwr.
Drag the statements to the correct columns.
Llusgwch y datganiadau i’r colofnau cywir.