What are policies and procedures?

Beth yw polisïau a gweithdrefnau?

Success

Most workplace procedures are extremely rigid and prescriptive but because individual needs and capabilities and the environments in which needs are met are so diverse, some procedures have to be more flexible. For example, fire evacuation procedures will differ according to where individuals live, a purpose-built residential care home will be equipped with fire doors and fire-fighting equipment, but a family home in which an individual's grandmother wants to live out her remaining days will not be the same. A purpose-built residential care home will be equipped with hoists and stair lifts, whereas an individual's grandmother’s house may not have room for moving and handling equipment. In such situations, ways of working have to be devised and agreed by everyone involved.

Workplace policies, procedures and agreed ways of working are usually stored centrally, where they are accessible to everyone who might need to know their content. They must be updated regularly in response to, for example changes in legislation or technological advances.

Mae'r rhan fwyaf o weithdrefnau mewn gweithleoedd yn gaeth iawn ac yn rhagnodol, ond gan fod anghenion a galluoedd unigolion a'r amgylcheddau lle y caiff yr anghenion eu diwallu mor amrywiol, mae'n rhaid i rai gweithdrefnau fod yn fwy hyblyg. Er enghraifft, bydd gweithdrefnau ar gyfer gwagio'r adeilad os bydd tân yn amrywio yn ôl ble y mae unigolion yn byw. Bydd gan gartref gofal preswyl pwrpasol ddrysau tân a chyfarpar diffodd tân, ond ni fydd gan gartref teuluol lle y mae mam-gu unigolyn wedi dewis treulio ei diwrnodau olaf gyfleusterau o'r fath. Bydd cyfarpar codi a lifftiau grisiau ar gael mewn cartref gofal preswyl pwrpasol, ond mae'n bosibl na fydd lle ar gyfer cyfarpar codi a chario yn nhŷ mam-gu unigolyn. Mewn sefyllfaoedd o'r fath, rhaid llunio ffyrdd o weithio a rhaid i bawb sy'n rhan o'r broses gytuno arnynt.

Fel arfer, bydd gweithleoedd yn storio polisïau, gweithdrefnau a ffyrdd o weithio y cytunwyd arnynt mewn man canolog, lle y byddant yn hygyrch i bawb y gallai fod angen iddynt weld eu cynnwys. Rhaid eu diweddaru'n rheolaidd, er enghraifft, mewn ymateb i newidiadau mewn deddfwriaeth neu ddatblygiadau technolegol.

What are policies and procedures?

Drag the words into the correct spaces to match the term to the correct definition.

Beth yw polisïau a gweithdrefnau?

Llusgwch y geiriau i'r gofod priodol er mwyn paru'r term â'r diffiniad cywir.

Terms

Termau

Definitions

Diffiniadau

Correct answers

Atebion cywir

        What do policies and procedures mean to me?

        Beth mae polisïau a gweithdrefnau yn ei olygu i mi?

        Learning

        All workplaces have policies, procedures and agreed ways of working in place to ensure that work practice meets the requirements of legislation. Because health and social care settings vary in the type of work they do, their procedures and agreed ways of working will also vary. However, in general, health and social care settings have policies, procedures and agreed ways of working that cover:

        • safeguarding and protection
        • equal opportunities
        • confidentiality
        • record keeping
        • medicines administration
        • first aid
        • concerns and complaints
        • missing individuals
        • emergency evacuation.

        It is a legal requirement that an individual should follow policies, procedures and agreed ways of working to the letter. They promote and maintain safe work practice and failure to follow them puts the health, safety and well-being of everyone concerned at risk. It could also mean the loss of an individual employer’s reputation as a well-regarded service provider and the end of their career in health and social care.

        Mae gan bob gweithle bolisïau, gweithdrefnau a ffyrdd o weithio y cytunwyd arnynt ar waith er mwyn sicrhau bod arferion gwaith yn bodloni gofynion deddfwriaeth. Gan fod lleoliadau iechyd a gofal cymdeithasol yn amrywio o ran y math o waith a wneir, bydd eu gweithdrefnau a'u ffyrdd o weithio y cytunwyd arnynt hefyd yn amrywio. Fodd bynnag, yn gyffredinol, bydd gan leoliadau iechyd a gofal cymdeithasol bolisïau, gweithdrefnau a ffyrdd o weithio y cytunwyd arnynt sy'n ymdrin â'r canlynol:

        • diogelu ac amddiffyn
        • cyfle cyfartal
        • cyfrinachedd
        • cadw cofnodion
        • rhoi meddyginiaeth
        • cymorth cyntaf
        • pryderon a chwynion
        • unigolion sydd ar goll
        • gwagio'r adeilad mewn argyfwng.

        Mae'n ofyniad cyfreithiol i unigolyn ddilyn polisïau, gweithdrefnau a ffyrdd o weithio y cytunwyd arnynt yn fanwl. Maent yn hyrwyddo ac yn sicrhau ymarfer gwaith diogel ac mae methu â'u dilyn yn rhoi iechyd, diogelwch a lles pawb dan sylw yn y fantol. Gallai hefyd gael effaith andwyol ar enw da cyflogwr unigol fel darparwr gwasanaeth uchel ei barch a diwedd ei yrfa ym maes iechyd a gofal cymdeithasol.

        What do policies and procedures mean to me?

        Beth mae polisïau a gweithdrefnau yn ei olygu i mi?

        Multiple choice question Cwestiwn aml-ddewis

        Policies, procedures and agreed ways of working must be followed. What is this considered as? Rhaid dilyn polisïau, gweithdrefnau a ffyrdd o weithio y cytunwyd arnynt. A gaiff hyn ei ystyried fel...