It is important to encourage individuals to share information, this will then not lead to the health and social care workers breaking the confidentiality agreement.
Assurances about absolute confidentiality should not be promised.
It is important to clearly explain to the individual and their carer why this information must be shared, who will be told, when, and how. If the information relates to the carer, they must not be involved in this discussion.
The result of sharing this information could be huge. For example, if an individual is at risk from further harm or abuse, this could be carried out at any time. The individuals, and their carers need to be aware who is being informed and when. They may need to be removed to a place of safety.
It is important to follow the workplace policies and procedures at all times, and to seek help and guidance if there is uncertainty about any aspect of passing on confidential information.
Mae'n bwysig annog unigolion i rannu gwybodaeth, gan olygu na fydd y gweithwyr iechyd a gofal cymdeithasol yn mynd yn groes i'r cytundeb cyfrinachedd.
Ni ddylid addo cyfrinachedd llwyr.
Mae'n bwysig esbonio'n glir i'r unigolyn a'i ofalwr pam bod yn rhaid rhannu'r wybodaeth hon, pwy gaiff wybod, pryd a sut. Os bydd y wybodaeth yn ymwneud â'r gofalwr, ni ddylid ei gynnwys yn y drafodaeth hon.
Gallai canlyniadau rhannu'r wybodaeth hon fod yn sylweddol. Er enghraifft, os bydd perygl y bydd unigolyn yn dioddef niwed neu gam-drin pellach, gallai hyn ddigwydd ar unrhyw adeg. Mae angen i'r unigolion, a'u gofalwyr, fod yn ymwybodol o bwy sy'n cael gwybod a phryd. Gall fod angen eu symud i le diogel.
Mae'n bwysig dilyn polisïau a gweithdrefnau'r gweithle bob amser, a gofyn am help ac arweiniad os oes unrhyw ansicrwydd am unrhyw agwedd ar y broses o drosglwyddo gwybodaeth gyfrinachol.