What does confidentiality mean?

Beth yw ystyr cyfrinachedd?

Patient confidentiality

Health and social care workers have access to lots of information that is confidential. This includes things such as care and support plans and health information.

In addition, we might hear things from individuals and families that are confidential.

This information should not be passed on to other people if they don’t have a need to know.

Confidential information should only be shared within the direct care team if that is expected to result in better or safer care. An individual's work setting will have policies and procedures on sharing of information, and who this information can be shared with. It is important that information is not shared with everyone when it is not meant to be.

Mae gan weithwyr iechyd a gofal cymdeithasol fynediad at lawer o wybodaeth sy'n gyfrinachol. Mae hyn yn cynnwys pethau fel cynlluniau gofal a chymorth a gwybodaeth iechyd.

Yn ychwanegol, gallem ni glywed pethau gan unigolion a theuluoedd sy'n gyfrinachol.

Ni ddylai'r wybodaeth hon gael ei throsglwyddo ymlaen at bobl eraill os nad oes ganddynt angen i wybod.

Dim ond gyda'r tîm gofal uniongyrchol y dylid rhannu gwybodaeth gyfrinachol, os disgwylir y bydd hynny'n arwain at well gofal neu ofal mwy diogel. Bydd gan leoliad gwaith yr unigolyn bolisïau a gweithdrefnau ar waith ar gyfer rhannu gwybodaeth, ac yn nodi gyda phwy y gellir rhannu'r wybodaeth hon. Mae'n bwysig na chaiff gwybodaeth ei rhannu â phawb pan na ddylid gwneud hynny.

What does confidentiality mean?

Beth yw ystyr cyfrinachedd?

Patient details security

To ensure that confidentiality is protected, all personal records should be stored securely in the work setting. It is very important that after reading or recording in the notes, they are then placed back in a safe place. The reasons for this are to ensure no one else who do not have authority to do so can read them.

Breaches of security and confidentiality are extremely serious. They can destroy confidence in organisations in which the public has entrusted its personal details, causing distress for the individuals concerned.

Write examples of how you think you can maintain confidentiality in a health and social care setting.

Er mwyn sicrhau y caiff cyfrinachedd ei ddiogelu, dylid storio unrhyw gofnodion personol yn ddiogel yn y lleoliad gwaith. Mae'n bwysig iawn, ar ôl darllen y nodiadau neu wneud cofnodion yn y nodiadau, y cânt eu dychwelyd i fan diogel. Gwneir hyn er mwyn sicrhau na all unrhyw un arall eu darllen nad oes ganddynt yr awdurdod i wneud hynny.

Mae tor-diogelwch a thor-cyfrinachedd yn ddifrifol iawn. Gallant ddinistrio hyder mewn sefydliadau y mae aelodau o'r cyhoedd wedi ymddiried ynddynt â'u manylion personol, gan achosi gofid i'r unigolion dan sylw.

Ysgrifennwch enghreifftiau o sut y credwch y gallwch gynnal cyfrinachedd mewn lleoliad iechyd a gofal cymdeithasol.