What is reflection?

Beth yw myfyrio?

Self awareness

Reflective practice involves:

  • considering what we do
  • considering why we do it like that
  • considering whether it is successful
  • considering whether it could be done better
  • planning for any changes to what we do.

Reflection is important because we become more self-aware. Being self-aware allows us to have a better awareness of others and an increased sensitivity to their needs and of how we care for them. We are also able to identify weaker work practices, monitor standards and consider alternative approaches and activities in the pursuit of best practice.

Mae ymarfer myfyriol yn cynnwys y canlynol:

  • ystyried beth rydym yn ei wneud
  • ystyried pam ein bod yn ei wneud felly
  • ystyried p'un a yw'n llwyddiannus
  • ystyried p'un a ellid ei wneud yn well
  • cynllunio ar gyfer unrhyw newidiadau i'r hyn a wnawn.

Mae myfyrio yn bwysig gan ein bod yn dod yn fwy hunanymwybodol. Mae bod yn hunanymwybodol yn arwain at well ymwybyddiaeth o eraill ac at fod yn fwy sensitif tuag at eu hanghenion a'r ffordd rydym yn gofalu amdanynt. Gallwn hefyd nodi arferion gwaith gwannach, monitro safonau ac ystyried dulliau gweithredu a gweithgareddau amgen er mwyn anelu at ymarfer gorau.

How can we use reflection to improve practice?

Sut y gallwn ddefnyddio'r broses fyfyrio i wella ymarfer?

Self improvement

Reflection is a process that involves reflecting on an individual's knowledge, understanding, attitudes, behaviour, work practice and achievements, and planning for their personal and career development. It aims to help them understand what and how they are learning, and to review, plan and take responsibility for their own development.

Reflection ensures we avoid any errors we might have made before and enables us to improve our practice and learn from areas of work we were perhaps not so good at. Changes to practice can also be included, for example amendments to moving and assisting ways of working.

Mae myfyrio yn broses sy'n cynnwys myfyrio ar wybodaeth, dealltwriaeth, agweddau, ymddygiad, arfer gwaith a chyflawniadau unigolyn, a chynllunio ar gyfer ei ddatblygiad personol ac o ran ei yrfa. Mae'n anelu at helpu'r unigolyn i ddeall beth a sut y mae'n dysgu, ac i adolygu, cynllunio a chymryd cyfrifoldeb am ei ddatblygiad ei hun.

Mae myfyrio yn sicrhau ein bod yn osgoi unrhyw wallau y gallem fod wedi'u gwneud yn flaenorol ac yn ein galluogi i wella ein hymarfer a dysgu o'r meysydd gwaith lle nad ydym o bosibl yn gweithredu cystal. Gellir cynnwys newidiadau i ymarfer hefyd, er enghraifft, diwygiadau o ran symud a hwyluso ffyrdd o weithio.

How can we use reflection to improve practice?

Sut y gallwn ddefnyddio’r broses fyfyrio i wella ymarfer?

What are the benefits from carrying out reflective practice as a worker in a health and social care setting?

How might you do this?

Beth yw'r buddion i weithiwr o gynnal ymarfer myfyriol mewn lleoliad iechyd a gofal cymdeithasol?

Sut allech chi wneud hyn?