In practice this means that whatever workers do as part of their job role, they should be able to justify it as a sensible course of action. Whatever they do, they should know why they're doing it and they should have been properly trained and assessed as being competent to do it. In addition, they should be doing it as part of an agreed plan of care for the individual they are supporting.
Even though workers may be working under the supervision of a more senior member of staff who will be accountable for the overall support given by the team, the worker is still accountable for what they do as part of the team.
In their job role, they are legally accountable to individuals for any errors they make, or any procedures they fail to follow, resulting in causing them harm. Individuals are entitled to pursue the case through civil law. In very extreme cases, if an individual dies or suffered serious harm due to an error or omission, the case might be pursued through the criminal courts.
Yn ymarferol, mae hyn yn golygu beth bynnag mae’r gweithwyr yn ei wneud fel rhan o’u gwaith, y dylent allu ei gyfiawnhau fel ffordd synhwyrol o weithredu. Beth bynnag y byddant yn ei wneud, dylent wybod pam eu bod yn ei wneud a dylent fod wedi cael hyfforddiant priodol ac asesiad yn dangos eu bod yn gymwys i'w wneud. Yn ogystal, dylent fod yn ei wneud fel rhan o gynllun gofal y cytunwyd arno ar gyfer yr unigolyn y maent yn ei gefnogi.
Er bod gweithwyr bob amser yn gweithio o dan oruchwyliaeth uwch aelod o staff a fydd yn atebol am y cefnogaeth cyffredinol a roddir gan y tîm, bydd y gweithiwr yn parhau'n atebol am yr hyn y byddant yn ei wneud fel rhan o'r tîm.
Yn eu swydd, maent yn gyfreithiol atebol i unigolion am unrhyw wallau y byddant yn eu gwneud, neu unrhyw weithdrefnau y byddant yn methu â'u dilyn, sy'n arwain at achosi niwed iddynt. Mae gan unigolion yr hawl i barhau â'r achos drwy gyfraith sifil. Mewn achosion eithriadol iawn, os bydd unigolyn yn marw neu'n dioddef niwed difrifol o ganlyniad i wall neu esgeulustod, gellid parhau â'r achos drwy'r llysoedd troseddol.