Introduction

Cyflwyniad

Child in adventure park

Resilience is the ability to deal with adversity, stress, trauma, tragedy and threats. Children are not born with resilience, it is learned over time and through experiences. Adults can support children to develop resilience and it is important that they do so to support children and to support the health and well-being of children as they deal with situations that arise in life. Some children find it easy to build resilience while others need more support.

Resilient children will:

  • be more likely to take risks
  • be curious
  • explore
  • know their limits and will push themselves to exceed these
  • have a positive attitude and optimism
  • be able to solve problems
  • be able to build on failure.

A child who is not resilient may:

  • have difficulty coping with challenges and change
  • find it hard to express their feelings
  • not engage in activities
  • not explore or take risks
  • give up easily.

Gwydnwch yw'r gallu i ddelio â thrallod, straen, trawma, trasiedi a bygythiadau. Ni chaiff plant eu geni â gwydnwch, byddant yn ei feithrin dros amser a thrwy brofiadau. Gall oedolion helpu plant i feithrin gwydnwch ac mae'n bwysig eu bod yn gwneud hynny er mwyn cefnogi plant a chefnogi iechyd a llesiant plant wrth iddynt ddelio â sefyllfaoedd sy'n codi mewn bywyd. Mae rhai plant yn gallu meithrin gwydnwch yn hawdd tra bydd angen mwy o gymorth ar blant eraill.

Bydd plant gwydn:

  • yn fwy tebygol o gymryd risgiau
  • yn chwilfrydig
  • yn archwilio
  • yn ymwybodol o'u cyfyngiadau ac yn fodlon gwthio eu hunain i fynd y tu hwnt iddynt
  • ag agwedd gadarnhaol ac optimistiaeth
  • yn gallu datrys problemau
  • yn gallu adeiladau ar fethiannau.

Gall plentyn nad yw'n wydn:

  • ei chael hi'n anodd ymdopi â heriau a newid
  • ei chael hi'n anodd mynegi ei deimladau
  • peidio â chymryd rhan mewn gweithgareddau
  • peidio ag archwilio na chymryd risgiau
  • rhoi'r ffidil yn y to yn hawdd.

Use the thought shower to note as many signs of resilience in a child as you can think of.

Defnyddiwch y gawod syniadau i nodi cynifer o fathau gwahanol o wydnwch ag y gallwch.

What are the signs of
resilience in a child?
Beth yw arwyddion
gwydnwch mewn plentyn?

Responses to include :

  • can deal with adversity
  • good problem-solving skills
  • confidence
  • good self-esteem
  • takes risks
  • curious
  • enjoys exploring
  • copes with challenges
  • manages change
  • knows their limits
  • positive attitude
  • optimistic
  • builds on failure
  • express feelings

Gall yr ymateb gynnwys:

  • mae'n gallu delio â thrallod
  • sgiliau datrys problemau da
  • hyder
  • hunan-barch da
  • mae'n cymryd risgiau
  • chwilfrydig
  • mwynhau archwilio
  • ymdopi â heriau
  • rheoli newid
  • ymwybodol o'i gyfyngiadau
  • agwedd gadarnhaol
  • optimistaidd
  • adeiladu ar fethiannau
  • mynegi teimladau