Aids and equipment that can support the management of continence

Cymhorthion a chyfarpar a all helpu i reoli ymataliaeth

Health and Social Care

A number of aids and types of equipment can support the management of continence and assist individuals in having a normal life.

These include:

  • Incontinence pads (enuresis pads) - Disposable, available in supermarkets and pharmacies, come in different sizes
  • Pull up pants with built in pads
  • Male continence sheath – A specialist device shaped like a condom that drains urine. A larger sheath can be used overnight
  • Absorbent bed pad / waterproof mattress protector - Sheets with waterproof backing can assist a good night’s sleep
  • Chair protectors - Pads with a waterproof backing to protect chairs and sheets. These can be used in addition to pads and pull up pants
  • Catheters – Drain urine directly from the bladder into a drainage bag. Can be placed under clothing or over the bed. A catheter must be prescribed by a doctor or health specialist
  • Commodes/bedpans - Can support individuals with mobility problems to get to the toilet quickly.

Gall nifer o gymhorthion a mathau o gyfarpar helpu i reoli ymataliaeth a chynorthwyo unigolion i fyw bywyd normal.

Mae’r rhain yn cynnwys:

  • Padiau ymataliaeth (padiau eniwresis) – Tafladwy, ar gael mewn archfarchnadoedd a fferyllfeydd, ar gael mewn meintiau gwahanol
  • Pants tynnu i fyny sydd â phadiau'n rhan ohonynt
  • Gwain ymataliaeth i ddynion – Dyfais arbenigol siâp condom sy'n draenio wrin. Gellir defnyddio gwain fwy dros nos
  • Pad gwely amsugnol / gorchudd matres diddos - Cynfasau â chefn diddos a all helpu pobl i gael noson dda o gwsg
  • Gorchuddion cadeiriau – Padiau â chefn diddos er mwyn gorchuddio cadeiriau a chynfasau. Gellir defnyddio'r rhain yn ogystal â phadiau a phants tynnu i fyny
  • Cathetrau – Maent yn draenio wrin yn uniongyrchol o'r bledren i mewn i fag draenio. Gellir eu gosod o dan ddillad neu dros y gwely. Rhaid i gathetr gael ei ragnodi gan feddyg neu arbenigwr iechyd
  • Comodau/pedyll gwely – Gallant helpu unigolion â phroblemau symudedd i gyrraedd y toiled yn gyflym.

Professionals that may help with continence management

Gweithwyr proffesiynol a all helpu i reoli ymataliaeth

Health and Social Care

A range of professionals may help with continence management.

These include:

  • General practitioner - Can review symptoms and underlying causes
  • Continence nurse / advisor - Can identify causes of difficulties, how they are affecting quality of life, create treatment plans, empower individuals to manage their care
  • Community nurse / practice nurse - Can help the individual access continence aids and products as well as give advice e.g. about hygiene
  • Occupational therapist - Can give advice on adaptations and equipment
  • Continence physiotherapist - Suggests exercises that can support bowel and bladder control
  • Community health centre - Advice and guidance
  • Bladder or bowel specialist - Look at disease, physical conditions and surgical options
  • Pharmacist – Can give advice and continence supplies.

Gall amrywiaeth o weithwyr proffesiynol helpu i reoli ymataliaeth.

Mae’r rhain yn cynnwys:

  • Meddyg teulu – Gall fwrw golwg dros y symptomau a'r achosion sylfaenol
  • Nyrs / ymgynghorydd ymataliaeth – Gall nodi achosion anawsterau a'u heffaith ar ansawdd bywyd, llunio cynlluniau triniaeth a grymuso unigolion i reoli eu gofal
  • Nyrs gymunedol / nyrs practis – Gall helpu'r unigolyn i gael gafael ar gymhorthion a chynhyrchion ymataliaeth yn ogystal â rhoi cyngor, e.e. ynglŷn â hylendid
  • Therapydd galwedigaethol – Gall roi cyngor ar addasiadau a chyfarpar
  • Ffisiotherapydd ymataliaeth – Mae'n awgrymu ymarferion a all helpu i reoli'r coluddyn a'r bledren
  • Canolfan iechyd cymuned – Cyngor ac arweiniad
  • Arbenigwr y bledren neu'r coluddyn – Mae'n edrych ar glefydau, cyflyrau corfforol ac opsiynau llawfeddygol
  • Fferyllydd – Gall roi cyngor a nwyddau ymataliaeth.

Ways to support individuals with their personal care and / or continence management

Ffyrdd o helpu unigolion gyda'u gofal personol a / neu reoli ymataliaeth

Health and Social Care

Personal care routines would include personal hygiene, bathing, cleaning teeth, menstruation and continence management.

During personal care routines it is important to protect both the individual and the worker supporting them.

This can be done in a number of ways:

  • wearing personal protective clothing
  • using safe, appropriate equipment and materials
  • ensuring safe disposal of waste and soiled materials
  • ensuring changing areas are visible
  • ensuring workers / carers are visible and not alone with individuals receiving personal care
  • recording and reporting any concerns, marks or bruises
  • ensuring there are no mobile telephones/electronic devices in changing or toileting areas.

Byddai arferion gofal personol yn cynnwys hylendid personol, ymolchi, brwsio dannedd, misglwyf a rheoli ymataliaeth.

Yn ystod arferion gofal personol, mae'n bwysig diogelu'r unigolyn â'r gweithiwr sy'n ei gefnogi.

Gellir gwneud hyn mewn nifer o ffyrdd:

  • gwisgo dillad diogelu personol
  • defnyddio cyfarpar a deunyddiau diogel a phriodol
  • sicrhau bod gwastraff a deunyddiau wedi'u baeddu'n cael eu gwaredu'n ddiogel
  • sicrhau bod ardaloedd newid yn weladwy
  • sicrhau bod gweithwyr / gofalwyr yn weladwy ac nad ydynt ar eu pen eu hunain gydag unigolion sy'n derbyn gofal personol
  • cofnodi a rhoi gwybod am unrhyw bryderon, marciau neu gleisiau
  • sicrhau nad oes ffonau symudol/dyfeisiau electronig mewn ardaloedd newid neu doiledau.

Ways to support individuals with their personal care and / or continence management

Ffyrdd o helpu unigolion gyda'u gofal personol a / neu reoli ymataliaeth

Describe the support and aids available for the following individuals.

Disgrifiwch y cymorth a'r cymhorthion sydd ar gael ar gyfer yr unigolion canlynol.

QuestionCwestiwn Your answerEich ateb Suggested responseYmateb awgrymedig

Suggested response:

Ymateb awgrymedig: