What is personal care?

Beth yw gofal personol?

Elderly man with nurse

Personal care is a broad term for care related to personal hygiene. The dictionary defines personal care as

‘help given to elderly or infirm people with essential everyday activities such as washing, dressing and meals.’

It refers to assistance with daily tasks such as:

  • showering
  • bathing
  • dressing and undressing
  • toileting (including use of a commode)
  • applying creams and lotions
  • oral hygiene and toothbrushing
  • makeup and hair care
  • shaving
  • footcare
  • changing incontinence pads
  • moving in bed to avoid pressure sores
  • changing or maintaining a stoma or catheter bag
  • maintain nutrition or feeding.

Where personal care is provided it is tailored to the needs of individuals and needs to be recorded in a care plan which will also support and encourage the independence of the individual and give psychological and emotional support.

Term cyffredinol am ofal sy'n gysylltiedig â hylendid personol yw gofal personol. Yn ôl diffiniad un geiriadur, ystyr y term yw

‘help given to elderly or infirm people with essential everyday activities such as washing, dressing and meals.’

Mae'n cyfeirio at gymorth â thasgau beunyddiol fel:

  • cael cawod
  • cael bath
  • gwisgo a dadwisgo
  • mynd i'r toiled (gan gynnwys defnyddio comôd)
  • rhoi hufenau ac elïau
  • hylendid y geg a brwsio dannedd
  • colur a gofal y gwallt
  • eillio
  • gofal y traed
  • newid padiau anymataliaeth
  • symud yn y gwely er mwyn osgoi briwiau pwyso
  • newid neu gynnal a chadw bag stoma neu gathetr
  • cynnal maeth neu fwydo.

Lle rhoddir gofal personol, caiff ei deilwra'n unol ag anghenion unigolion ac mae angen ei gofnodi mewn cynllun gofal a fydd hefyd yn helpu ac yn annog yr unigolyn i fod yn annibynnol ac yn rhoi cymorth seicolegol ac emosiynol.

Ways to establish an individual’s preferences in relation to how they are supported with their personal care

Ffyrdd o bennu'r hyn sydd orau gan unigolyn o ran helpu gyda gofal personol

Man signing papers

When providing personal care, it is important to respect the dignity, choices, wishes and preferences of individuals. Individuals should be empowered and remain in control of what is happening to them. Choice and control are key aspects of promoting dignity.

This can be done in a number of ways:

  • speak to the individual before personal care about their preferences
  • speak to the individual after personal care about how their needs have been met and any changes they would like
  • speak to the individual about their changing care needs
  • speak to family, other carers involved
  • look at previous documentation in relation to the individual’s preferences and habits
  • use alternative means of communication e.g. pictures
  • find out about religious or cultural requirements
  • read care plans/ risk assessments
  • discuss specialist equipment used with an occupational therapist
  • work with advocacy services.

Wrth roi gofal personol, mae'n bwysig parchu urddas unigolion, eu dewisiadau, eu dymuniadau a'r hyn sydd orau ganddynt. Dylai unigolion gael eu grymuso a pharhau i fod â rheolaeth dros yr hyn sy'n digwydd iddynt. Mae dewis a rheolaeth yn agweddau allweddol ar hybu urddas.

Gellir gwneud hyn mewn nifer o ffyrdd:

  • siarad â'r unigolyn am yr hyn sydd orau ganddo cyn rhoi gofal personol
  • siarad â'r unigolyn ar ôl rhoi gofal personol am y ffordd y cafodd ei anghenion eu diwallu ac unrhyw newidiadau yr hoffai eu gwneud
  • siarad â'r unigolyn am newidiadau yn ei anghenion gofal
  • siarad â'r teulu a gofalwyr eraill sy'n rhan o'r broses
  • edrych ar ddogfennaeth flaenorol mewn perthynas â dewisiadau ac arferion yr unigolyn
  • defnyddio dulliau cyfathrebu amgen, e.e. lluniau
  • dysgu am ofynion crefyddol neu ddiwylliannol
  • darllen cynlluniau gofal/asesiadau risg
  • trafod offer arbenigol a ddefnyddir â therapydd galwedigaethol
  • gweithio gyda gwasanaethau eirioli.

Protecting the privacy and dignity of an individual when they are being supported with their personal care

Diogelu preifatrwydd ac urddas unigolyn pan ddarperir cymorth gyda gofal personol

Healthcare worker tying shoelaces of disabled man

It is important that the privacy and dignity of individuals are respected at all times during personal care.

This can be supported in a number of ways:

  • ensure a confidentiality policy is in place and implemented
  • restrict access to personal information including financial records
  • provide training for staff
  • respect privacy and ask for permission before entering a private space
  • support dignity e.g. during a strip wash cover the bottom half of the body while the top half is being washed
  • provide the individual with choice and options
  • communicate with the individual during personal care routines as an equal
  • show respect for an individual’s personal belongings
  • use ‘do not disturb’ signs
  • ask for an individual’s permission to carry out personal care routines
  • ensure single sex toilet and bathroom facilities are available
  • provide en-suite toilets and bathrooms
  • dress an individual appropriately to maintain dignity and let them choose their clothing
  • use enuresis pads where there is incontinence
  • ensure food looks and tastes nice.

Mae'n bwysig parchu preifatrwydd ac urddas unigolion bob amser yn ystod gofal personol.

Gellir gwneud hyn mewn nifer o ffyrdd:

  • sicrhau bod polisi cyfrinachedd ar waith ac yn cael ei ddilyn
  • cyfyngu mynediad at wybodaeth bersonol, gan gynnwys cofnodion ariannol
  • rhoi hyfforddiant i'r staff
  • parchu preifatrwydd a gofyn am ganiatâd cyn mynd i mewn i le preifat
  • cefnogi urddas, e.e. wrth olchi corff unigolyn, gorchuddio hanner isaf y corff tra bo'r hanner uchaf yn cael ei olchi
  • rhoi dewis ac opsiynau i'r unigolyn
  • cyfathrebu â'r unigolyn yn ystod arferion gofal personol fel rhywun cyfartal
  • dangos parch at eiddo personol unigolyn
  • defnyddio arwyddion ‘peidiwch â tharfu’
  • gofyn am ganiatâd unigolyn cyn cyflawni arferion gofal personol
  • sicrhau bod cyfleusterau toiled ac ymolchi un rhyw ar gael
  • darparu toiledau ac ystafelloedd ymolchi en-suite
  • gwisgo unigolyn yn briodol er mwyn cynnal urddas a chaniatáu iddo ddewis ei ddillad
  • defnyddio padiau eniwresis os oes anymataliaeth
  • sicrhau bod bwyd yn edrych ac yn blasu'n dda.

Look at the images and then describe how you would ensure that the individual was afforded choice and dignity in terms of their personal care

Edrychwch ar y lluniau ac yna disgrifiwch sut y byddech yn sicrhau bod yr unigolyn yn cael dewis ac urddas o ran gofal personol

QuestionCwestiwn Your answerEich ateb Suggested responseYmateb awgrymedig

Suggested response:

Ymateb awgrymedig: