Creative development and the arts can have a significant impact on the health and well-being of individuals. They promote confidence and self-esteem, and support emotional development and well-being. Creative activities can be used to express and communicate ideas, thoughts and feelings openly and without judgement. Being able to create something (e.g. a picture from their personal feelings and experiences supports and nurtures emotional health). In any creative activity, what is important is freedom of expression to help express feelings. Creative activities can help carers understand the feelings and emotions of individuals. Mental growth is supported by problem solving and trying out ideas and different ways of thinking.
To support and encourage this, individuals should be given choices during creative activities, time to express themselves, and the opportunity to experience and explore different materials.
Arts in Health: There has been an increasing understanding of the positive impact of the arts in health. Working together with medicine and physical care arts can help individuals with physical or mental health problems and promote well-being. Involvement in the arts gives an outlet for individuals who are ill, and care homes, General Practitioners’ surgeries, hospitals and community hospitals are increasingly supporting individuals to access and take part in activities in the arts as a way of supporting their well-being.
Activities and experiences can be in both indoor and outdoor environments.
Gall datblygiad creadigol a'r celfyddydau gael effaith sylweddol ar iechyd a llesiant unigolion. Maent yn hybu hyder a hunan-barch ac yn cefnogi datblygiad emosiynol a llesiant corfforol. Gellir defnyddio gweithgareddau creadigol i fynegi a chyfleu syniadau, meddyliau a theimladau yn agored a heb farnu. Mae gallu creu rhywbeth, (e.e. llun o deimladau a phrofiadau personol unigolyn, yn cefnogi ac yn meithrin iechyd emosiynol). Mewn unrhyw weithgaredd creadigol, yr hyn sy'n bwysig yw rhyddid mynegiant er mwyn helpu i fynegi teimladau. Gall gweithgareddau creadigol helpu gofalwyr i ddeall teimladau ac emosiynau unigolion. Caiff twf meddyliol ei gefnogi gan ddatrys problemau, rhoi cynnig ar syniadau a ffyrdd gwahanol o feddwl.
Er mwyn cefnogi ac annog hyn, dylid rhoi dewisiadau i unigolion yn ystod gweithgareddau creadigol, ac amser i fynegi eu hunain a phrofi ac archwilio gwahanol ddeunyddiau.
Y celfyddydau ym maes iechyd: Ceir dealltwriaeth gynyddol o effaith gadarnhaol y celfyddydau ym maes iechyd. Ar y cyd â meddyginiaeth a gofal corfforol, gall y celfyddydau helpu unigolion â phroblemau iechyd corfforol neu iechyd meddwl a hybu llesiant. Mae ymwneud â'r celfyddydau yn ffordd i unigolion sy'n sâl fynegi eu hunain ac, yn gynyddol, mae cartrefi gofal, meddygfeydd meddygon teulu, ysbytai ac ysbytai cymunedol yn helpu unigolion i gymryd rhan mewn gweithgareddau yn y celfyddydau fel ffordd o gefnogi eu llesiant.
Gall gweithgareddau a phrofiadau fod mewn amgylcheddau dan do neu yn yr awyr agored.
Beryl is an 80 year old widow living alone. Beryl’s only daughter lives 30 miles away. Beryl’s daughter is trying to motivate her mum to join a group for some company. Beryl has always enjoyed creative arts and has asked her daughter to find a group where she may be able to express herself creatively. Beryl has limited mobility but would be able to travel by taxi.
Try to find 2 classes that Beryl would be able to attend within a 10 mile radius of your local area.
Mae Beryl yn wraig weddw 80 oed sy'n byw ar ei phen ei hun. Mae unig ferch Beryl yn byw 30 milltir i ffwrdd. Mae merch Beryl yn ceisio perswadio ei mam i ymuno â grŵp i gael rhywfaint o gwmni. Mae Beryl wedi mwynhau'r celfyddydau creadigol erioed ac mae wedi gofyn i'w merch ddod o hyd i grŵp lle y gall fynegi ei hun yn greadigol. Mae symudedd Beryl yn gyfyngedig ond byddai'n gallu teithio mewn tacsi.
Ceisiwch ddod o hyd i ddau ddosbarth y byddai Beryl yn gallu eu mynychu o fewn 10 milltir i'ch ardal leol.