Children and young people will feel more prepared if they have all the necessary information they need and support in place in order for them to embark on new experiences with a positive outlook. Taking time to work with young people on a one to one basis is important. Coaching and mentoring can develop skills such as being able to use initiative and also working within a team, both vital skills within the workplace. Team work is essential in the workplace as many situations they will experience are made up of teams of individuals helping each other achieve a goal. If a young individual works hard to get on with everyone, they will be well on the way to working effectively in a team.
Accompanied visits to college or work settings or volunteering on placement will all support young individuals to develop the essential skills, confidence and knowledge they will need for the future. Other skills include a positive attitude, self-management, a willingness to learn and resilience.
Bydd plant a phobl ifanc yn teimlo'n fwy parod os oes ganddyn nhw yr holl wybodaeth angenrheidiol sydd ei hangen arnyn nhw a'u bod yn cael cymorth er mwyn iddyn nhw ymgymryd â phrofiadau newydd gydag agwedd gadarnhaol. Mae cymryd amser i weithio gyda phlant a phobl ifanc ar sail un i un yn bwysig. Gall hyfforddi a mentora ddatblygu sgiliau fel gallu cymryd y cam gyntaf a hefyd gweithio mewn tîm, sy'n sgiliau hanfodol yn y gweithle. Mae gwaith tîm yn hanfodol yn y gweithle gan fod llawer o sefyllfaoedd byddan nhw'n eu profi yn cynnwys timau o unigolion yn helpu ei gilydd i gyrraedd nod. Os bydd unigolyn ifanc yn gweithio'n galed i gyd-dynnu â phawb, byddan nhw ar y trywydd iawn i weithio'n effeithiol mewn tîm.
Bydd ymweld â cholegau neu leoliadau gwaith gyda rhywun neu wirfoddoli ar leoliad yn cefnogi unigolion ifanc i ddatblygu'r sgiliau hanfodol, yr hyder a'r wybodaeth y bydd eu hangen arnyn nhw ar gyfer y dyfodol. Mae sgiliau eraill yn cynnwys agwedd gadarnhaol, hunanreolaeth, parodrwydd i ddysgu a gwydnwch.