What is Mwy na Geiriau / More than Just Words?

Beth yw Mwy na Geiriau / More than Just Words?

Doctor talking to mother and child

It is no longer correct for organisations to assume that English is the chosen language when providing services. When providing services to children and young people who usually speak Welsh, providers should assume that they would prefer to speak Welsh when accessing services.

Mwy na Geiriau / More than Just Words states that Welsh speakers should not be required to request a service in Welsh, but the service should be provided in the language normally used by the individual. This could be in Welsh, English, or both. This reflects the principle of the ‘Active Offer’ now advocated in health, social services and social care, as outlined in the Welsh Government’s strategic framework for the Welsh Language. An ‘Active Offer’ means a service is provided in Welsh without someone having to ask for it. 

Nid yw'n iawn mwyach i sefydliadau dybio mai Saesneg yw'r dewis iaith wrth ddarparu gwasanaethau. Wrth ddarparu gwasanaethau i blant a phobl ifanc sy'n siarad Cymraeg fel arfer, dylai darparwyr dybio y byddai'n well ganddynt siarad Cymraeg wrth ddefnyddio gwasanaethau.

Mae Mwy na Geiriau yn nodi na ddylai fod angen i siaradwyr Cymraeg ofyn am wasanaeth yn Gymraeg, ond y dylai'r gwasanaeth gael ei ddarparu yn yr iaith a ddefnyddir gan yr unigolyn fel arfer. Gallai hyn fod yn Gymraeg, yn Saesneg neu yn y ddwy iaith. Mae hyn yn adlewyrchu egwyddor y ‘Cynnig Rhagweithiol’ sydd bellach yn cael ei hyrwyddo ym meysydd iechyd, gwasanaethau cymdeithasol a gofal cymdeithasol, fel yr amlinellir yn fframwaith strategol Llywodraeth Cymru ar gyfer y Gymraeg. Mae ‘Cynnig Gweithredol’ yn golygu y caiff gwasanaeth ei ddarparu yn Gymraeg heb fod angen i rywun ofyn am hynny.

What is Mwy na Geiriau / More than Just Words?

Beth yw Mwy na Geiriau / More than Just Words?

Give two reasons why you think it is important that services are provided using the Welsh language.

Rhowch ddau reswm pam ei bod yn bwysig darparu gwasanaethau gan ddefnyddio'r Gymraeg yn eich barn chi.

Suggested response:

  • to promote inclusion and involvement
  • to promote independence
  • to acknowledge language and culture
  • to ensure services are understood by all
  • to meet the needs of the Welsh speakers.

Ymateb awgrymedig:

  • i hyrwyddo cynhwysiant a chyfranogiad
  • i hyrwyddo annibyniaeth
  • i gydnabod iaith a diwylliant
  • i sicrhau bod pawb yn deall gwasanaethau
  • i ddiwallu anghenion y siaradwyr Cymraeg.