Stage of development

Cyfnod datblygiad

Children with balloons

Children will learn to communicate by watching and listening to their parents and carers, mimicking their words and actions. The more we communicate with children, the more likely they will develop these skills. To communicate effectively it is important to take account of culture and context, for example where English is an additional language.

Many socioeconomic factors can play a part in a child or young person’s development, including parental and environmental influences.

Poor communication skills can result in other areas of development being affected, including not being able to socialise, making developing and maintaining friendships challenging, struggling with oracy and written tasks, resulting in confidence and self-esteem issues. Becoming frustrated due to being unable to express oneself can also be emotionally upsetting.

Consider the needs of children you work with or know. How has their communication development been affected by different factors?

Bydd plant yn dysgu sut i gyfathrebu drwy wylio a gwrando ar eu rhieni a'u gofalwyr, gan ddynwared eu geiriau a'u gweithredoedd. Y mwyaf byddwn ni'n cyfathrebu â phlant, y mwyaf tebygol y byddan nhw o ddatblygu'r sgiliau hyn. Er mwyn cyfathrebu'n effeithiol mae'n bwysig ystyried diwylliant a chyd-destun, er enghraifft lle mae Saesneg yn iaith ychwanegol.

Gall llawer o ffactorau economaidd-gymdeithasol chwarae rhan yn natblygiad plentyn neu berson ifanc, gan gynnwys dylanwad rhieni a dylanwad amgylcheddol.

Gall sgiliau cyfathrebu gwael effeithio ar feysydd datblygu eraill, gan gynnwys methu cymdeithasu, sy'n gwneud datblygu a chynnal perthnasoedd yn heriol. Gall hefyd arwain at drafferthion gyda llafaredd a thasgau ysgrifenedig, sy'n achosi problemau hyder a hunan-barch. Gall mynd yn rhwystredig gan nad ydych chi'n gallu mynegi eich hun achosi gofid emosiynol hefyd.

Ystyriwch anghenion y plant rydych chi'n gweithio gyda nhw neu'n eu hadnabod. Sut mae ffactorau gwahanol wedi effeithio ar eu datblygiad cyfathrebu?