Discriminatory practice, or practice not supportive of equality, diversity and inclusion, can take place in a variety of situations.
For example:
Gall ymarfer gwahaniaethol, neu ymarfer nad yw'n cefnogi ansawdd, amrywiaeth a chynhwysiant, ddigwydd mewn amrywiaeth o sefyllfaoedd.
Er enghraifft:
Imagine that you are different in one of the ways that make individuals liable to experience unfair and unjust treatment. Consider, for example, that English is not your first language, or that you are from another country.
Describe how being discriminated against might affect you.
Dychmygwch eich bod yn wahanol yn un o'r ffyrdd sy'n gwneud unigolion yn agored i gael eu trin yn annheg ac yn anghyfiawn. Dychmygwch, er enghraifft, nad Saesneg yw eich iaith gyntaf, neu eich bod o wlad arall.
Disgrifiwch sut y gallai gwahaniaethu effeithio arnoch chi.
You might feel angry, threatened, anxious, your self-esteem and confidence may be lowered.
Gallech deimlo'n ddig, dan fygythiad neu'n bryderus, ac efallai y bydd eich hunan-barch a'ch hyder yn lleihau.
Health and social care workers must try to demonstrate and model good practice at all times. In addition to leading by example, they should be prepared to support the equality and rights of children/young people they work with by speaking up on their behalf. Many children or young people don’t have the ability to make their own voices heard, for example they may be frightened or lack the confidence to speak up for themselves; they may be ill, confused, not able to communicate effectively; and many children/young people are just simply not aware of their rights.
Health and social care workers should be prepared to talk to their manager, or senior, about the behaviour of others if it fails to promote equality and rights or is discriminatory. They may need to speak to an advocate who could speak up on the child/young person’s behalf. Health and social care workers should be open to feedback about their own work practices, acting on this feedback if necessary.
Rhaid i weithwyr iechyd a gofal cymdeithasol geisio dangos a modelu arfer da bob amser. Yn ogystal ag arwain drwy esiampl, dylent fod yn barod i gefnogi cydraddoldeb a hawliau plant/pobl ifanc y maent yn gweithio gyda nhw drwy siarad ar eu rhan. Nid yw llawer o blant a phobl ifanc yn gallu sicrhau bod eu lleisiau eu hunain yn cael eu clywed, er enghraifft, efallai fod ofn arnynt neu ddiffyg hyder i leisio eu barn; efallai eu bod yn sâl, wedi drysu, neu'n methu â chyfathrebu'n effeithiol; ac, yn syml, nid yw llawer o blant/bobl ifanc yn ymwybodol o'u hawliau.
Dylai gweithwyr iechyd a gofal cymdeithasol fod yn barod i siarad â'u rheolwyr, neu aelodau uwch o staff, ynglŷn ag ymddygiad pobl eraill os yw'n methu â hyrwyddo cydraddoldeb a hawliau neu os yw'n gwahaniaethu. Efallai y bydd angen iddynt siarad ag eiriolwr a allai siarad ar ran y plentyn/person ifanc. Dylai gweithwyr iechyd a gofal cymdeithasol fod yn agored i gael adborth ar eu harferion gwaith eu hunain, ac ymateb iddo os bydd angen.
Think about any training courses you’ve attended and the books and manuals you have read that were aimed at improving your work practice.
How did your practice or thinking change as a result?
Meddyliwch am gyrsiau hyfforddi rydych chi wedi bod arnynt a'r llyfrau a'r llawlyfrau rydych wedi'u darllen a oedd wedi'u bwriadu ar gyfer gwella eich arferion gwaith.
Sut y gwnaeth eich ymarfer neu'ch ffordd o feddwl newid o ganlyniad iddynt?
Practice included new ways of working, involved considering more aspects of service delivery to meet needs and safer ways of working.
Roedd yr ymarfer yn cynnwys ffyrdd newydd o weithio, gan gynnwys ystyried mwy o agweddau ar ddarparu gwasanaethau er mwyn diwallu anghenion a ffyrdd mwy diogel o weithio.