1/6
Rhaid i weithwyr iechyd a gofal cymdeithasol hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth ym mhob agwedd ar eu rôl, gan herio unrhyw ymarfer nad yw'n atgyfnerthu’r dull hwn yn eu barn nhw.
Wrth hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth, rhaid i weithwyr iechyd a gofal cymdeithasol sicrhau dull gweithredu cynhwysol, gan addasu eu dull gweithredu i ddiwallu anghenion plant a phobl ifanc a thrin pob un â thegwch ac urddas.
1/6
Mae cydraddoldeb yn golygu trin plant a phobl ifanc yn deg, waeth beth yw'r gwahaniaethau rhyngddynt, drwy sicrhau eu bod yn cael yr un cyfleoedd mewn bywyd â phawb arall, sy'n golygu eu bod yn cael cyfle cyfartal.
Mae cyfleoedd mewn bywyd yn cynnwys:
1/6
Mae amrywiaeth yn golygu gwahaniaethau. Mae detholiad amrywiol o siopau, bwytai, banciau a thafarndai ar bob stryd fawr neu ym mhob canolfan siopa. Mae gan dimau pêl-droed, hyd yn oed, amrywiaeth o rolau, gan gynnwys cefnwr, gôl-geidwad, blaenwr canol ac asgellwr. Rydym yn byw mewn cymdeithas amrywiol, lle mae unigolion yn amrywio mewn llawer o ffyrdd. Gall yr amrywiaethau hyn fod ar sail oedran, rhyw, cyfeiriadedd rhywiol, nodweddion corfforol fel taldra, pwysau a lliw croen, gallu, profiadau personol a rhinweddau personol, fel credoau, gwerthoedd a dewisiadau.
Mae lleoliadau iechyd a gofal cymdeithasol yn adlewyrchu amrywiaeth y boblogaeth. Bydd gan bob plentyn a pherson ifanc ei brofiadau ei hun a gall ddod o amrywiaeth o wahanol wledydd. Er enghraifft, bydd hoff fwyd neu gerddoriaeth yn amrywio o un unigolyn i'r llall.
1/6
Meddyliwch am eich teulu, eich ffrindiau a'ch cydweithwyr. Ym mha ffyrdd y maent yn dangos amrywiaeth?
1/6
Mae cynhwysiant yn golygu derbyn pawb, ni waeth beth yw'r gwahaniaethau rhyngddynt. Mae hefyd yn golygu deall gwahaniaethau a bod yn oddefgar ohonynt, a rhoi cymorth a chefnogaeth lle bo hynny'n briodol.
Rhaid i unrhyw sefydliad, gan gynnwys awdurdodau lleol, darparwyr gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol, sefydliadau addysg, gwasanaeth yr heddlu, sefydliadau gwirfoddol a gweithleoedd sy'n cefnogi ac yn hyrwyddo cynhwysiant, ddangos ei fod yn gwerthfawrogi popeth ynglŷn â'r unigolion sydd ynghlwm wrtho. Mae cynhwysiant yn rhoi ymdeimlad o lesiant i unigolion, yn ogystal â hyder yn ei hunaniaeth a'i alluoedd ei hun.
1/6
Mae gwahaniaethu yn golygu trin plant a phobl ifanc yn wahanol neu mewn ffordd negyddol heb fod rheswm da dros wneud hynny. Noda'r gyfraith y dylai pawb gael eu trin mor ffafriol â'i gilydd ac na ddylid gwahaniaethu yn erbyn unigolyn oherwydd nodwedd bersonol fel crefydd, rhywedd, oedran neu hil.
Mae dau fath o wahaniaethu – uniongyrchol ac anuniongyrchol. Bydd gwahaniaethu uniongyrchol yn digwydd pan fydd rhywun yn cael ei drin yn annheg yn fwriadol, er enghraifft aflonyddu ar sail lliw croen neu grefydd. Bydd gwahaniaethu anuniongyrchol yn digwydd pan fydd rheolau neu ganllawiau sydd wedi'u bwriadu i fod yn berthnasol i bawb yn effeithio ar un grŵp o unigolion yn fwy na grwpiau eraill yn anfwriadol.
Gall gwahaniaethu gynnwys: