Meaningful and enjoyable activities and experiences

Profiadau a gweithgareddau ystyrlon a phleserus

1/2

Mother and children

A child or young person’s well-being includes their sense of hope, confidence and self-esteem, their ability to communicate their wants and needs, socialising and experiencing pleasure or enjoyment. This can involve the activities and experiences a child or young individual chooses to take part in. To promote a child or young person’s well-being, they need to be happy with as many aspects of their life as possible. If the child or young person, their parents or carers think that something would help them to feel better, health and social care workers need to be positive, understanding, empathic and non-judgemental. They should listen to what the child or young individual considers important in their lives and help them to make the changes they want, such as being able to join in particular activities or groups for example.

Mae llesiant plentyn neu berson ifanc yn cynnwys ei ymdeimlad o obaith, hyder a hunan-barch, a'i allu i gyfleu'r hyn sydd ei eisiau a'i angen arno, cymdeithasu a chael a dangos pleser neu fwynhad. Gall hyn gynnwys y gweithgareddau a'r profiadau y bydd unigolyn yn dewis cymryd rhan ynddynt. Er mwyn hybu llesiant unigolyn, bydd angen iddo fod yn hapus â chynifer o agweddau ar ei fywyd â phosibl. Os bydd yr unigolyn o'r farn y byddai rhywbeth yn ei helpu i deimlo'n well, mae angen i weithwyr iechyd a gofal cymdeithasol fod yn gadarnhaol, yn amyneddgar ac yn empathig, a pheidio â barnu. Dylent wrando ar yr hyn sy'n bwysig i'r unigolyn yn ei fywyd, a'i helpu i wneud y newidiadau y mae am eu gwneud, fel gallu ymuno mewn gweithgareddau neu grwpiau penodol, er enghraifft.

Meaningful and enjoyable activities and experiences

Profiadau a gweithgareddau ystyrlon a phleserus

1/2

Why is it important to know what a child or young person’s abilities, preferences, wishes and needs are in order for them to engage in activities?

Pam mae'n bwysig gwybod beth yw hanes, dewisiadau, dymuniadau ac anghenion plentyn neu berson ifanc er mwyn gofalu amdano a'i helpu mewn ffordd sy'n canolbwyntio ar yr unigolyn?

Suggested response

  • to meet needs, wishes and preferences
  • to acknowledge the individual’s history
  • to identify activities which may interest them
  • to encourage communication and interaction.

Ymateb awgrymedig

  • er mwyn diwallu anghenion a bodloni dymuniadau a dewisiadau
  • er mwyn cydnabod hanes yr unigolyn
  • er mwyn nodi gweithgareddau a all fod o ddiddordeb iddo
  • er mwyn annog cyfathrebu a rhyngweithio.