What is active participation?

Beth yw cyfranogiad gweithredol?

Working together

Active participation recognises the child or young person’s right to participate in the activities and functions of everyday life as independently as possible. In doing this, the child or young person is an active partner in their own care and support, rather than receiving the care and support others think they need and want. Key benefits to the child or young person as an active partner in their own care or support include physical, psychological and social aspects, and improved well-being.

Mae cyfranogiad gweithredol yn cydnabod hawl plant a phobl ifanc i gymryd rhan mewn gweithgareddau a thasgau bywyd bob dydd mor annibynnol â phosibl. Drwy wneud hyn, mae'r unigolyn yn bartner gweithredol yn ei ofal a'i gymorth ei hun, yn hytrach na'i fod yn cael y gofal a'r cymorth y mae pobl eraill yn credu y mae eu heisiau a'u hangen arno. Ymhlith y manteision allweddol i'r plentyn neu berson ifanc fel partner gweithredol yn ei ofal neu ei gymorth ei hun mae manteision corfforol a seicolegol, agweddau cymdeithasol a llesiant gwell.

How can we provide a rights-based approach?

Sut y gallwn sicrhau dull gweithredu seiliedig ar hawliau?

Children thumbs up

Often workers will be supporting children and young people when they are in a vulnerable position. The quality of care that can be provided will be improved if workers have knowledge of the whole person, not just the current circumstances; for example, knowledge can help to develop a better understanding as to why children/young people behave in the way they do.

Child-centred planning involves seeing the child or young person being supported as the central concern. Workers need to find ways to care for and support the children and young people that are specific to their needs.

A rights-based approach involving child-centered planning is a way of helping children and young people to think about what they want now and in the future. It is about supporting children and young people to plan their lives, work towards their goals and get the right support. It is a collection of tools and approaches based upon a set of shared values that can be used to plan with a child or young person, not for them. Planning should build the child or young person’s circle of support and involve all the individuals who are important in that child or young person’s life.

Yn aml, bydd gweithwyr yn cefnogi plant a phobl ifanc pan fyddant mewn sefyllfa fregus. Bydd safon y gofal y gellir ei ddarparu yn well os bydd gan weithwyr wybodaeth am yr unigolyn cyfan, nid dim ond yr amgylchiadau presennol; er enghraifft, gall gwybodaeth helpu i ddeall yn well pam mae plant/pobl ifanc yn ymddwyn fel y maent.

Mae gwaith cynllunio sy'n blentyn-ganolog yn golygu ystyried mai'r plentyn neu berson ifanc a gefnogir sydd bwysicaf. Mae angen i weithwyr ddod o hyd i ffyrdd o roi gofal a chymorth i blant/pobl ifanc sy'n benodol i'w anghenion.

Mae dull gweithredu seiliedig ar hawliau, sy'n cynnwys gwaith cynllunio plentyn-ganolog, yn ffordd o helpu i feddwl am yr hyn y maent am ei gael nawr ac yn y dyfodol. Y nod yw helpu unigolion i gynllunio eu bywydau, gweithio tuag at gyflawni eu nodau a chael y cymorth cywir. Yr hyn sydd dan sylw yw casgliad o adnoddau a dulliau gweithredu sy'n seiliedig ar gyfres o werthoedd a rennir y gellir eu defnyddio i gynllunio gydag unigolyn, nid ar ei ran. Dylai'r gwaith cynllunio ddatblygu cylch cymorth yr unigolyn a chynnwys yr holl unigolion sy'n bwysig yn ei fywyd.

How can we provide a rights-based approach?

Sut y gallwn sicrhau dull gweithredu seiliedig ar hawliau?

Research images of care and support plans for children and young people on the internet and compare them.

What are the differences, and which do you think offers more choices for children and young people?

Which do you think supports a rights-based approach most effectively?

Ymchwiliwch i ddelweddau o gynlluniau gofal a chefnogaeth ar gyfer plant a phobl ifanc ar y rhyngrwyd a'u cymharu.

Beth yw'r gwahaniaethau, a pha rai sy'n cynnig mwy o ddewisiadau i unigolion yn eich barn chi?

Pa rai sy'n cefnogi dull gweithredu seiliedig ar hawliau yn fwyaf effeithiol yn eich barn chi?

Suggested response

Look for:

  • clear guidance
  • clear language
  • involvement with the individual
  • headings which meet the needs of individuals
  • space for review and amendment.

Ymateb awgrymedig

Chwiliwch am y canlynol:

  • canllawiau clir
  • iaith glir
  • cynnwys yr unigolyn
  • penawdau sy'n diwallu anghenion unigolion
  • lle i adolygu a diwygio.